Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar Suliau myfyrdod a gweledigaeth? I ateb y cwestiwn hwn rhaid bwrw golwg frysiog ar system Syr Henry ei hun; obegid honno yw un o'r rhai perffeithiaf a ddaeth allan eto. Os gall system ein diogelu ni rhag cyfeiliorni, hon a all. Yr awdur ei hun a fuasai yn dygymod lleiaf o bawb à chael ei goelio heb ei feirniadu. Ni fuasai ef o bawb ddim balchach o gael ei ganmol heb ei chwilio. Ac y mae ef yn ymgymryd â chymaint gorchwyl, dim llai na chodi system a wnelo le i bob gwirionedd a phob darganfyddiad. Ni ddywedasai ef ddim fod ganddo system oedd eisoes yn cynnwys pob peth, ond fe ddwedasai yn ddïau fod ganddo un a lle i bob peth ynddi. Y mae'r peth a ddywed ef am y gred ym mherffeithrwydd Duw yn wir hefyd am y system sy ganddo ef at esbonio'r perffeithrwydd hwnnw: "Fe fyddai i'r da fethu unwaith o ddifrif, ym mywyd un dyn, yn golled i ni am yr argyhoeddiad o berffeithrwydd Duw." (t. 337). Yr un peth sy i'w ddywedyd, y mae arnaf ofn, am system yr awdur ei hun: ei pherffeithrwydd yw ei pherygl hi. O thyr hi i lawr yn rhywle hi dyr i lawr i gyd. mae hi fel y dywedodd Tyrrell am Eglwys Rufain: "Cyfundrefnau llacach, rhwyddach eu hadeiladwaith, gellir torri darn i ffwrdd oddiarnynt heb wneud llawer o niwed; ond am Rufain hi a waedai i farwolaeth pe torrid ei bys bach." Felly yma, y mae'r system mor gyflawn ei gwëad, fel y byddai tynnu edefyn i ffwrdd yn ddigon i'w difetha hi. Fe fydd o bwys gan hynny ymorol a ddeil y system ei chwilio. Beth ydyw hi?

Yn fyr ac anghyflawn iawn dyma hi. Y mae rhyw bethau na all dyn ymwrthod yn hir â hwy. Bydd rhai yn eu rhoi hwy yn bedwar—y buddiol, y prydferth, y gwir, a'r da. Rhai a fyn eu gosod yn dri—y prydferth, y gwir a'r da. Yn ol Henry Jones y maent o leiaf yn ddau—y da a'r gwir. Nid oes bosibl mynd tu cefn i'r rhai hyn. Syched am y ddau hyn sydd yn cyfrif am bob cynnydd a gaffo dyn yn ber-