Tudalen:Ysten Sioned.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD.

——————:o:——————

YR oedd gynt, meddant hwy, hen wraig o'r enw Sioned yn arfer myned oddi amgylch y wlad i gardota; a'r llestr oedd ganddi i dderbyn cardodau yr haelionus ydoedd ystên, cynnog, nep biser. Pa elusen bynnag a roddid iddi, ai gwlyb ai sych, ai gwerthfawr ai gwael, teflid y cwbl yn ddiwahaniaeth ac yn bendramwnwgl i'r ystên fawr a gludai wrth ei hystlys: o ba herwydd daeth Ystên Sioned i fod yn gyfystyr â chymmysgfa neu gybolfa o bethau anghydryw; a gelwir y cyffelyb dryblith mewn rhai parthau dan enw Piser Alis.

Crybwyllir cymmaint a hynna er mwyn dangos ystyr ac urddas a phriodoldeb enw ein llyfr, yn gystal ag ansawdd ei gynnwysiad.

Nid ydoedd Sioned yn gwrthod dima, nac yn beio ar ddim a roddid yn ei hystên; ond derbyniai'r cwbl gyda gwen foddhaol, gan fod yn ddiolchgar am dano. Cofnodir hyn o ffaith er mwyn cynnorthwyo tipyn ar yr "hynaws ddarllenydd" i ymlwybro at ei ddyledswydd yn ei berthynas â'r Ystenaid a gynnygir yn awr i'w ystyriaeth.

Dydd Gwyl Gewydd, 1882.