Tudalen:Ystyron Enwau ym Mhlwyfi Towyn, Llangelynin, Llanegryn etc.pdf/193

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

neu lechweddau isaf cefnen, lle y porfeir defaid, merlod mynydd, a gwartheg ieuainc yn yr haf.

Melin Parsel.—Melin yn y Parsel. Gweler dan y gair Parsel ym mhlwyf Tywyn.

Y Rofft, oedd unwaith balas yn cael ei adnabod wrth yr enw Plas yn y Rofft. Y mae achau y teulu yn Peniarth MSS. 268. Ystyr y gair yw cadlas, claws, neu faes bychan, neu faesan wrth dŷ.




CAERNARFON :

ARGRAPHWYD GAN GWMNI Y CYHOEDDWYR CYMREIG (CYF.)