Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen)/Rhagymadrodd

Oddi ar Wicidestun
Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen) Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen)
Rhagymadrodd
gan Owen Morgan Edwards

Rhagymadrodd
Cynhwysiad

Rhagymadrodd.

Ganwyd Thomas Edwards (Twm o’r Nant) ym Mhen Porchell, Llan Nefydd, yn 1739. Pan nad oedd ef ond hogyn, symudodd ei rieni i’r Nant Ganol, Henllan. Nid oedd dim yn neillduol, hyd y gwyddis, yn ei rieni; gweithient yn galed, ac nid o’u bodd y rhoddai eu bachgen athrylithgar ei amser gorffwys i lyfrau. Ennill ei damaid oedd neges ei fywyd. Canlyn ceffylau, gyrru gwagen, a llwytho coed, oedd ei brif orchestion. O amgylch Dinbych y treuliodd ran fwyaf ei oes, er iddo grwydro i ddyffrynoedd Hafren a Thowi yn ei dro; yn Nyffryn Clwyd hefyd y treuliodd ei henaint. Yr oedd yn wr cadarn o gorff, parod ei ddyfais, ond ni lwyddodd yn y byd. Bu farw Ebrill 3, 1810, gan mlynedd i eleni; a chladdwyd ef ym mynwent yr Eglwys Wen, ger Dinbych.

Yn anhymig y ganwyd ef, a dyna’r pam na chafodd ei athrylith, er cryfed ei hadenydd ac er cliried ei llygaid, ei lle priodol ym meddwl Cymru. Pe ganesid ef yn gynt, cawsai feddwl Cymru iddo ei hun; a hwyrach y buasai cenedl yn deffro i weled ei hun yn nrych y ddrama. Pe ganesid ef yn ddiweddarach, buasai’r Diwygiad wedi puro ei genedl ac wedi sancteiddio ei enaid yntau, a gallasai ddangos ei hun i genedl newydd yn yr un drych. Ond daeth Twm o’r Nant yn oes y Diwygiad, pan oedd cedyrn pulpud Cymru yn galw ar y genedl i edrych o honi, nid iddi, ei hun. Er hynny, y mae interliwdiau Twm o’r Nant yn naturiolach a pherffeithiach darlun o fywyd y ddeunawfed ganrif na dim arall a feddwn.

Yr oedd cydymdeimlad Twm â’r werin, rhed holl nerth ei serch mawr at y tenant gorthrymedig a’r gweithiwr. Yr oedd ysbryd y Chwyldroad Ffrengig ynddo yntau, ond gyda gwelediad clir, a ffydd.

Yr oedd yn ddiwygiwr ei hun, mae ei holl waith, gydag un eithriad, mor rymus dros foesoldeb a phregethau’r Diwygiad. Ni welodd holl ddrwg chwant y cnawd.

Fel dramayddwr y mae’n fwy nag yw’r Wyddfa yn Eryri, saif yn llenyddiaeth Cymru heb neb yn agos ato. Y mae pob cymeriad ddarluniodd yn fyw, nid yw’n gwneyd i glai difywyd siarad, ac nid yw byth yn ail gerdded yr un llwybr. Ond yr esboniad ar ei ddylanwad yw ei allu rhyfedd i siarad fel ysbryd goreu ei oes,—yn synhwyrol, ac ar yr un pryd yn llawn dychymyg; yn hynaws, ac eto heb arbed y drwg. Ni fu sant na phechadur yn hanes Cymru eto heb deimlo fod Twm o’r Nant wedi dweyd y gwir.

Owen M. Edwards.