Tystebau (Mynyddog)
Gwedd
- Fu ’rioed y fath oes yn yr oesau,
- A’r oes ’rydym ynddi yn byw,
- Fe’i gelwir yn oes y peiriannau,
- Ac oes rhoddi’r mellt dan y sgriw;
- Mae’n oes i roi tanllyd gerbydau
- I chwiban dan fynydd a bryn,
- ’Rwy’n meddwl mai oes y tystebau
- Y dylid ei galw er hyn.
- Os bydd dyn yn myned o’i ardal,
- Rhaid rhoi iddo dysteb lled fawr,
- Neu’n aros,—rhaid gwneud un llawn cystal
- I rwymo ei draed wrth y llawr;
- Rhoir tysteb am waith ac am ddiogi,
- Rhoir tysteb i’r du ac i’r gwyn,
- Ceir tysteb am gysgu’n y gwely,
- Os pery tystebau fel hyn.
- Gwneud tysteb o nôd genedlaethol
- A wneir i bob crwtyn yn awr,
- Argreffir colofnau i’w ganmol,
- A’i godi’n anferthol o fawr;
- Mae’r gair cenedlaethol yn barod,—
- A helpo y genedl, a’r gair,
- Er mwyn cael cyfodi corachod
- A llenwi eu llogell âg aur.
- Mae mul yn hen felin Llanodol,
- ’Rwy’n cynnyg cael tysteb i hwn,
- A honno’n un wir genedlaethol,
- Am gario ar ei gefn lawer pwn;
- Paham na chai dysteb ragorol
- I’w rwystro am byth gadw nâd?
- Mae’r mul yn hen ful cenedlaethol,
- A haedda ei weld gan y wlad.
- Mae’n cario yr ŷd mor ddigyffro
- Dros fynydd, a dyffryn, a dôl,
- Ac wedyn caiff eisin i’w ginio
- I aros i’r blawd fynd yn ol;
- Rhag c’wilydd i genedl y Cymry
- Am fod eu syniadau mor gul,
- Fe ddylid gwneud ymdrech o ddifri
- I gychwyn y dysteb i’r mul.
- Mae’i glustiau’n mynd lawr dros ei lygaid,
- O! clywch ef yn codi ei gri,
- Mae’n g’wilydd fod tad y ffyddloniaid
- Heb dysteb pryd hyn ddyliwn i;
- Oferedd im’ fyddai ei ganmol,
- Mae gweithio i’w wlad bron a’i ladd,
- Rhowch dysteb i’r mul cenedlaethol,—
- Nid ef fydd y cyntaf a’i ca’dd.
Ebrill 29, 1876.