Neidio i'r cynnwys

Un waith am byth oedd ddigon

Oddi ar Wicidestun
Pwy welaf fel f'Anwylyd Un waith am byth oedd ddigon

gan Anhysbys

Mae'r Iesu'n fwy na'i roddion
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

173[1] Un Aberth.
76. 76. D.

1 UN waith am byth oedd ddigon
I wisgo'r goron ddrain;
Un waith am byth oedd ddigon
I ddiodde'r bicell fain:
Un aberth mawr yn sylwedd
Yr holl gysgodau i gyd;
Un Iesu croeshoeliedig
Yn feddyg trwy'r holl fyd.

Anhysbys


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 173, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930