Unwaith eto'n Nghymru Annwyl

Oddi ar Wicidestun

Unwaith eto'n Nghymru Annwyl

Unwaith eto nghymru annwyl - Trac gan Creigiau Singers. O'r albwm 2004 Unwaith Eto / Once Again Cwmni Sain

Unwaith eto'n Nghymru annwyl
Rwyf am dro ar dir fy ngwlad.
Llawen gwrdd â hen gyfeillion
Sydd yn rhoddi mawr fwynhad.

Rhai ymffrostiant mewn prydferthwch
Gwledydd pell mewn swynol gân,
Ond i mi 'does dan yr heulwen
Gwlad mor bur a Gwalia lân.

Magwyd fi ar ei bron,
Ces fy siglo yn ei chrud.
O'r holl gwledydd y ddaear
Dyma'r orau yn y byd!

Gwlad y bryniau ydyw Gwalia;
Gwlad y delyn, gwlad y bardd;
Gwlad y canu, gwlad y moli;
Gwalia sydd yn swynol hardd.

O, rwy'n hoffi i rodio'r llwybrau
Fum yn chwarae yn ddi-nam.
Atgyfodant rhyw atgofion
Ynwyf am fy annwyl fam.

Magwyd fi ar ei bron,
Ces fy siglo yn ei chrud.
O'r holl gwledydd y ddaear
Dyma'r orau yn y byd!


David Wiilliam Lewis (Eos Dyfed/Dyfed Lewis 1845—1920)