Wel Grist yn dyfod ar y cwmwl draw
← O! Salem, fy annwyl gartrefle | ' gan Benjamin Frances |

703[1] Ail Ddyfodiad Crist.
10. 10. 10. 10. 11. 11.
WEL Grist yn dyfod ar y cwmwl draw,
A phob awdurdod yn ei nerthol law;
Ceriwbiaid fyrdd, yn eu cerbydau tân,
Yn gyrru'n glau o gylch eu Harglwydd glân;
Y ddaear gryn, y beddau ymagorant;
Cân utgorn Duw, a'r meirw a gyfodant.
Benjamin Frances
Ffynhonnell[golygu]
- ↑ Emyn rhif 703 yn Llyfr Emynau Y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930