Wele gadarn sylfaen Seion

Oddi ar Wicidestun

Mae Wele gadarn sylfaen Seion yn emyn gan Benjamin Francis (1734 – 14 Rhagfyr 1799)

Wele gadarn sylfaen Seion,
Ar y graig dragwyddol gref !
Pan falurio’r bryniau mawrion,
Saif preswylfa Brenin nef:
Wele ddisglair furiau’r ddinas!
Wele'i ’strydoedd hardd eu gwedd!
Wele, mewn adeilad addas
Orsedd fainc Tywysog hedd!


Ar yr amryw wych ddinasoedd
Mawr ragora Seion gu ;
Duw ei hun a adeiladodd
Yno’i deg frenhinol dŷ:
Gogoneddus bethau rhyfedd
A ddatguddir am y gaer;
Hardd Gaersalem yw gorfoledd
Ac anrhydedd yr holl ddae’r.


Hoffa’r Arglwydd ei phyrth gloywon,
Lle daw’r llwythau llon ynghyd ;
Lle ymgynnull ei chantorion
A’i cherddorion o un bryd :
O mor hyfryd yw’r cyfarfod !
O’r fath orfoleddus lu!
Pêr ddatseinia'r ddinas hynod
Wrth foliannu’r Brenin cu.