Wele wrth y drws yn curo

Oddi ar Wicidestun
Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws, ac yn curo: os clyw neb fy llais i, ac agoryd y drws, mi a ddeuaf i mewn ato ef, ac a swperaf gydag ef, ac yntau gyda minnau. (Datguddiad 3:20)

Mae Wele wrth y drws yn curo yn emyn gan John Henry Hughes (Ieuan o Leyn) (1814 - 1893)

Wele wrth y drws yn curo,
Iesu, tegwch nef a llawr;
clyw ei lais ac agor iddo,
paid ag oedi funud awr;
agor iddo,
mae ei ruddiau fel y wawr.


Parod yw i wneud ei gartref
yn y galon euog, ddu
a’i phrydferthu â grasusau,
gwerthfawr ddoniau’r nefoedd fry;
agor iddo,
anghymharol Iesu cu.


O mor felys fydd cael gwledda
ar yr iachawdwriaeth rad,
wedi gadael byd o drallod,
draw yn nhawel dŷ ein Tad;
agor iddo,
cynnig mae y nef yn rhad.