Wil Ellis, Porthmadog-Cymru Cyf 29 1905
← | Wil Ellis, Porthmadog-Cymru Cyf 29 1905 gan Thomas Jones (Cynhaiarn) |
→ |
Wil Ellis Porthmadog
YR oedd Wil Ellis yn gymeriad pur adnabyddus ym Mhorthmadog a'r amgylchoedd ryw ddeg. ar hugain neu ddeugain mlynedd yn ol, a hoffid ef oblegid ei ddiffygion a'i wendidau, y rhai nad oedd efe ei hun, fel llawer o honom, yn ymwybodol o honynt. "Mab llwyn a pherth" oedd Wil, ac o lech i lwyn y bu ar hyd ei fywyd. Lletyai yn llofft ystabl y Garreg Wen, hen gartref y telynor Dafydd y Garreg Wen, a bu ei gydymaith Dr. Catt yn cyd-letya âg ef am dymor. Gallesid tybio wrth edrych ar Wil yn cerdded ol a gwrthol hyd dref a phorthladd Porthmadog ei fod yn berson o gryn bwysigrwydd ac awdurdod, oni buasai am ei wisg, yr hon a orweddai yn lled aflonydd ac anghelfydd am dano. Yr oedd wedi meddwl, ac yn parhau i freuddwydio, ei fod wedi ei anfon i'r byd i lywodraethu a gwneyd trefn ar bobl a phethau ym Mhorthmadog—cerddai yn gyflym o'r naill fan i'r llall gan ysgwyd ei freichiau fel pe buasent yn adenydd iddo, rhoddai orchymyn i wneyd rhywbeth yn y fan hyn, ac awdurdodai ryw gyfnewidiad yn y fan acw, a cherddai ymaith yn gyflym gan siarad wrtho ei hun. Byddai yn cerdded ar hyd muriau y porthladd, gan roddi gorchymynion i'r morwyr i symud y llongau a'r badau i'w lleoedd priodol, a derbynnid ei genadwri mewn diniweidrwydd a hyfrydwch gan y morwyr, ac yr oedd y diweddar W. Morris, meistr y porthladd, yn ei ddirgel gefnogi yn aml er mwyn difyrrwch, oblegid yr oedd Wil wedi ymwthio i ffafr y gŵr da, a bu ar ei ennill trwy hynny. Byddai yn myned i Feddgelert yn adeg y coaches yn yr haf, ac ymddanghosai mewn cryn awdurdod o gwmpas y Goat Hotel, gan gyfeirio i ba e i symud y meirch a'r cerbydau; a mynych, wrth sylwi ar ei ddiniweidrwydd, y byddai yr ymwelwyr yn gollwng darnau o arian i'w law.
Gwnai yn gyffelyb ym Mhorthmadog am lawer blwyddyn, pan y deuai y goach fawr yno o Gaernarfon a Phwllheli. Bu hefyd yn ffyddlawn trwy ymweled lawer gwaith yn y dydd a gorsaf y ffordd haiarn, a byddai mewn ffwdan gwyllt pan y deuai y tren i mewn, a thybiai Wil druan mai efe oedd y bod pwysicaf yn y lle.
Nid rhyw bagan anystyriol oedd Wil, ond byddai yn myned i gryn hwyl yn adeg Diwygiad '59, a mynych y clywid ef yn canu a gorfoleddu y nos wrth fyned adref i'r Garreg Wen. Byddai yn arferol a myned y Sabboth i wrando ar y diweddar Barch. W. Ambrose yn pregethu, ond nis gwn a fyddai y gŵr da yn gwneyd sylw neillduol o hono, ond gwn y byddai Cynhaiarn a Ioan Madog yn hoff iawn o Wil Ellis, a buont garedig wrtho, ac ni bu'n werth gan neb ond y ddau fardd awenyddol hyn dalu unrhyw barch cyhoeddus i'w goffadwriaeth. Cyfansoddodd un farwnad a'r llall englyn beddargraff iddo, a dylid ychwanegu i'r bardd haelgalon Cynhaiarn roddi carreg ar ei fedd, ar yr hon y mae englyn ei gyfaill wedi ei gerfio.
Yr oedd Wil Ellis, fel mae'n gôf gan lawer, yn arfer ysgwyd ei ben, neu yn hytrach, yr oedd ei ben ef yn ysgwyd heb. fod ganddo ef ddim help o hynny; ac yr oedd hyn yn rhoddi rhyw sêl ychwanegol ar ei ymadroddion, ac nid oedd ei dafod yn fyrr o ffraethineb. Yr oedd unwaith yn dal pen ceffyl rhyw foneddwr adnabyddus wrth y Commercial Hotel, a phan aeth y boneddwr ar gefn y march dywedodd, "Thank you, Wil Ellis;" ac meddai Wil," O'r gore, syr, i ble'r ai i wario fo?" "I'r Commercial," oedd yr ateb; a phan alwodd y boneddwr yn yr hotel drachefn yr oedd yno fil yn ei erbyn am hanner coron.
Yr oedd Wil Ellis a Dr. Catt yn gyfoedion, ac wedi cydfyw â'u gilydd am yspaid o amser, weithiau mewn heddwch ac weithiau mewn rhyfel; ond yr oedd Wil yn ddigon o feistr ar y Doctor, a byddai'n rhaid iddo symud i unrhyw gyfeiriad y gorchymynai Wil iddo.
Rhyw grwt o ddyn oedd y Doctor, a rhyw anhwyldeb dirdynol wedi symud ei gêg gryn lawer yn fwy i un ochr i'w wyneb na'r llall. Yr oedd wedi cael addysg feddygol dda, ond wedi cymeryd cyfeiriad pur chwithig ar ol hynny; byddai llawer yn galw gydag ef ym Mhorthmadog am gynghorion meddygol, ac yn rhoddi ychydig geiniogau yn ei law. Rhoddwyd arian iddo gan ei frawd i fyned i Awstralia, ond nid aeth y Doctor ddim pellach na Chaernarfon, a dychwelodd yn ol heb ddim. Nis gwn yn gywir amser marwolaeth y naill na'r llall; ond claddwyd y Dr. ym mynwent eglwysig y Penrhyn, a chladdwyd yr hynod Wil Ellis ym mynwent Ynyscynhaiarn, gyda'i hen gydnabod Ellis Owen, Ioan Madoc, ac Alltud Eifion. Heddwch i'w lwch.[1]
Caernarfon. M. T. MORRIS.
Yn y gerdd, os iawn y gwaith,
Wil Elis ddaw'n ol eilwaith."—A. E.
BETH yw'r tristwch? Mae Wil Elis,
Yr hen fachgen llonna rioed,
Wedi marw o'r bronchitis,
Pan yn bump a thrigain oed;
Yntau drengodd megis eraill,
Ond nid testyn syndod yw,
Pawb adwaenent yr hen gyfaill
Synnent sut yr oedd yn byw.
Cyn i'r Towyn droi'n Borthmadog,
Cychod bach yn llongau mawr,
'Roedd Wil Elis yma'n enwog,
Fel mae'r Port ei hun yn awr,
Pam daeth plismyn yma i swagro?
Pam daeth soldiers efo'u dril?
Nid oedd angen neb i'n gwylio
Pan oedd gennym gwmni Wil.
Yn y Port bu'n Gapten siriol,
Bu yn hir yn "Faer y dre,'
Rhoi gorchymyn awdurdodol
Byddai'n station y railwê;
Mawredd mewn dychmygol swyddi,
Oedd ei ymffrost hyd ei dranc,
Rhag cael gwraig yn ben i'w boeni,
Byw a marw fu'n hen lanc.
'Roedd Rhagluniaeth yn ei gofio,
Gan ei fwydo yn ddifeth,
Catodd lety'n nodded iddo
Er na thalodd rent na threth;
Mewn hen adail oedd yn ymyl
Cafodd gysgu yn y gwair;
Nid oedd yno fuwch na cheffyl,
Mwy na'r Port ar ddiwrnod ffair.
Weithiau'n rhynu yn yr eira,
Weithia'n chwys mewn hafaidd des,
Byddai'n myned ar negesau,
A'i ddisgwyliad am y pres;
Pan yn gofyn tâl am weithio
Byth ni byddai ef yn swil,
"Thank you mawr," medd rhywun wrtho,
"Ple gwnai wario?" ebe Wil.
Nid ai ef fel rhai'n llechwraidd,
I'r tafarndy gyda grot,
Gan ddwyn allan yn ddirgelaidd
Beint o gwrw dan ei got;
Ni bu'n flysig nac yn feddw,
Os cael ambell wydriad wnaeth
Pwy wahardda beint o gwrw
I un fu'n byw ar datws llaeth?
Byddai Wil yn canu weithiau,
Pan yn mynd ar nosawl hynt,
Llais fel hwnnw glybu Balaam
Gan ei hen gydymaith gynt;
Wrth ei glywed ef yn lleisio
Gwenai, winciai ser y nen,
Yntau' mlaen wnai lawen deithio
Hyd at Feudy'r Garreg Wen.
Mewn Eisteddfod gyda'r Beirddion,
Byddai'n gwisgo ruban glas,
Adeg Lecsiwn byddai'n gyson
Yn areithio gyda blas;
Bu yn dadleu nerth ei esgyrn
Dros iawnderau'r bach a mawr,
Collodd Lib'rals un o'u cedyrn
Pan gadd Wil ei dorri lawr.
Byddai'n myned i'r addoliad,
Weithiau i'r Capel weithiau i'r Llan,
Agorai geg a chauai lygaid,
Ac fe chwyrnai dros y fan;
Cafodd lawer blasus bwniad
Yn ei wyneb draws ei gefn,
Pan ddeffroai rhoi ochenaid—
Yna chwyrnai'n uwch drachefn.
Os arwyddai ffurf ei wyneb
Fod yn Wil ychydig wall,
Ei gyfrwysdra oedd ddihareb,
A'i ffraethineb oedd ddi-ball;
'Roedd yn onest ac yn ffyddlon,
Tystion i'w gywirdeb gawn;
Bu yn rhodio llwybrau union
Gyda choesau ceimion iawn.
Aeth yn hen, a gorfod iddo
Bellach deithio tua'r Borth
Neu i'r Llannerch i ymlwybro
I gael menyn ar ei dorth;
Blino ddarfu ar ei gystudd,
Ffarwel 'roes i'r Port a'r dre,
Lleda'i freichiau fel adenydd,
Ac o'n golwg ffwrdd ag e.
Poor Wil! adgofion erys
Am ei ddull a'i hynod wedd,
Lliaws deithiant tua'r Ynys,
I gael golwg ar ei fedd;
Un Wil Elis gadd ei eni,
Hwnnw weithian aeth o'n plith,
Gwag yw hebddo-am ei golli
Teimla'r ardal drwyddi'n chwith.
Cysga, Wil-ond paid a chwyrnu,
Llecha'n dawel, yr hen frawd,
Gorwedd heddyw 'rwyt mewn gwely
Lle mae'r bonedd fel y tlawd;
Pan y cawn dy weled eto,
Dyfod wnei ar newydd wedd,
Yna bydd dy gorff afrosgo
Wedi ei buro yn y bedd.
—SION GARREGWEN
(sef Thomas Jones (Cynhaiarn))
Nodiadau
[golygu]- ↑ Tynnwyd y darlun o hono adeg yr Eisteddfod ym Mhorthmadog.
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.