William (Mynyddog)

Oddi ar Wicidestun

Her lover died, and she wept a song over his grave.

Ddoi di yn ol ataf, William, William,
Gyda’r sirioldeb oedd gynt gennyt ti?
Mi fyddwn am byth iti’n berffaith ffyddlon,
William, William,—anwyl i mi.


Byth ni ro’wn air i dy ddigio, William,
Gwenwn fel angel o’r nef arnat ti;
Fel yr oe’t ti pan yn gwenu yn hawddgar,
William, William,—anwyl i mi.


Cofio yr wyf am y dyddiau hynny,
Cyn dy gymeryd i’r nefoedd frŷ;
A wyddost ti ’nawr fel ’rwyf fi’n dy garu?
William, William,—anwyl i mi.


Nid oeddwn yn deilwng o honot, William,
Oer oedd fy nghalon yn ymyl d’un di;
Ond wedi dy golli, mae’r byd fel cysgod,
William, William,—anwyl i mi.


Estyn dy law i mi, William, William,—
Dyfera faddeuant fel gwlith oddi fry,
Mae nghalon yn gorwedd ym medd fy William;
William, William,—anwyl i mi.