Wrth Gyfaill

Oddi ar Wicidestun
Amser Wrth Gyfaill

gan Robin Llwyd ab Owain

Anrheg Nadolig Cyntaf Gwern
Cyhoeddwyd gyntaf yn Barn, Hydref 1990. Ffynhonnell: [1] gwefan Rebel ar y We / Rhedeg ar Wydr.

Trosglwyddodd y bardd ei gerddi ar drwydded agored yn Ebrill 2020.



Heno, rwy'n rhan ohonot:
fy llwyddiant sy'n llwyddiant i ti,
dy chwerthin a'm goglais innau
a'th dristwch yw 'nhristwch i.

Un gwas pob meistr a gaed,
un gwaed yw'r cwbwl i gyd,
un waedd, ac felly'r weddi,
un boen yw holl boenau'r byd.

Un fam pob mam a merch,
un wefr yw pob gwefr yn wir,
un einioes drwy'r holl oesoedd
a lle roedd tiroedd - un tir.

Heno rwy'n rhan ohonot
a'r byd, sy'n un cyffro byw:
un miragl o firaglau,
uffern pob uffern yw...