Wyneb siriol fy Anwylyd

Oddi ar Wicidestun
Dyro afael ar y bywyd Rwy'n teimlo f'enaid 'n awr yn caru

gan Morgan Rhys

597[1] Brawd mewn Cyfyngder
88. 87. D.

1 WYNEB siriol fy Anwylyd
Yw fy mywyd yn y byd,
Ffárwel bellach, bob eilunod,
Iesu 'Mhriod aeth â'm bryd ;
Brawd mewn myrdd o gyfyngderau,
Ffrind mewn môr o ofid yw ;
Ni chais f'enaid archolledig
Neb yn feddyg ond fy Nuw.

2 Dyddiau blin fy mhererindod
Sydd ar ddarfod, yn ddi-lai ;
Ffárwel yfed dyfroedd Mara,
I ddinas arall 'r wy'n nesáu;
Teimlo f'enaid 'r wy'n ymadael
Â'r creaduriaid ar y llawr ;
Fy hiraeth beunydd sy am fynd adre'
I'r dedwydd dragwyddoldeb mawr.

Morgan Rhys

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 597, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930