Y Blotyn Du

Oddi ar Wicidestun

gan Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans)

Nid oes gennym hawl ar y sêr,
Na'r lleuad hiraethus chwaith,
Na'r cwmwl o aur a ymylch
Yng nghanol y glesni maith.


Nid oes gennym hawl ar ddim byd
Ond ar yr hen ddaear wyw;
A honno sy'n anrhefn i gyd
Ynghanol gogoniant Duw.