Y Breuddwyd

Oddi ar Wicidestun

gan Dafydd ap Gwilym

Fal yr oeddwn, gwyddwn gel,
yn dargwsg mewn lle dirgel.
Gwelais are glais dichlais dydd
breuddwyd yn ael boreddydd.
Gwelwn fy mod yn rhodiaw
a'm llu bytheiais i'm llaw,
ac i fforest yn gestwng,
teg blas, nid ty taeog blwng.
Gollyngwn i yn ddioed,
debygwn, y cwn i'r coed.
Clywwn oraiu, lleisiau llid,
canu'n aml, cwn yn ymlid.
Ewig wen uwch y llennyrch
a welwn, carwn y cyrch,
a rhawt fytheiaid ar hynt
yn ei hol, iawn eu helynt;
cyrchu'r allt dros ddiwalltrum,
a thros ddwy esgair a thrum,
a thrachefn dros y cefnydd
ar hynt un helynt a hydd,
a dyfod wedy dofi,
a minnau'n ddig, i'm nawdd i;
dwyffroen noeth, deffro wneuthum,
wr glwth, yn y bwth y bum.
Cefais hynafwraig gyfiawn,
pan oedd ddydd, yn ddedwydd iawn.
addef a wneuthum iddi,
goel nos, fal y gwelwn i:
"Rho Duw, wraig gall, pei gallud
rhyw derfyn ar hyn o hud,
ni chyfflybwn, gwn ganclwyf,
neb a thi. Anogaith wyf."
"Da o beth, diobeithiwr,
yw dy freyddwyd, od wyd wr.
Y cwn heb gel a welud
i'th law, pei gwypud iaith lud,
da hwylwyr diau helynt,
dy lateion eon ynt.
A'r ewig wen, unbennes
a garud di, hoen geirw tes,
diau yw hyn, y daw hi
i'th nawdd, a Duw i'th noddi."