Y Casglwr/Rhifyn 1/Mawrth 1977/TWM O'R NANT A STAD EI LYFRAU

Oddi ar Wicidestun
HEBRAEG O GAER - BEIBL O'R BALA Y Casglwr : Rhifyn 1, Mawrth 1977
HEBRAEG O GAER - BEIBL O'R BALA
gan Huw Ceiriog

HEBRAEG O GAER - BEIBL O'R BALA
BRI Y PAPURAU BRO
Copïwyd o'r archif ar wefan Y Casglwr: http://www.casglwr.org/yrarchif/1twmornant.php

PE TAE Twm o'r Nant yn fyw heddiw mae'n siŵr y buasai'n aelod o Gymdeithas Bob Owen, a mwy na thebyg ar y Pwyllgor! Fel llawer ohonom cai Twm drafferth i gadw ei lyfrau yn un darn, ac mae ganddo gywydd sy'n son am gyflwr ei lyfrau, sef "Cywydd i ofyn plough book binder i Mr Edward Evans o Ruthun", a gyfansoddwyd yn 1760, sydd yn Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru Ychwanegol 347 ,B, t.62.

Mae'n gywydd maith o 188 o linellau, ac mae ei dri chwarter yn moli Edward Evans a'i deulu, ond mae ynddo ddisgrifiad o lyfrau Twm. Digon tebyg fod Twm wedi byseddu llawer ar ei lyfrau, oherwydd dywed:

"Hen lyfrau, hoen wael afrwydd,
Sy gen i yn rhes gwynion rhwydd,
A'r rheini sydd, ŵr hynaws,
Oera eu tro, eiriau traws,
Wedi dryllio yn drallwyr,
Di enwog wedd, dyn a'i gŵyr.
A minnau sy', mwynha serch,
Am eu trwsio mewn traserch.

Gan mai saer maen oedd Twm, tybed sut rwymwr oedd o? Beth bynnag, bwriada wneud y gwaith ei hunan :

"Ond eisiau sydd i'r dwyswaith
Gael eto ger at y gwaith;
Er gwn�o�i tinau'n gnotanian,
Er uno eu modd yn 'run man.
Anhirion gyrion garw
0 foddau hyll fydde nhw.
Eisiau arf, groywarf gre',
Awch naturiol a'u torre."

Ac felly mae Twm yn gofyn i Edward Evans am erfyn i dorri tudalennau'i lyfrau. Tybed pwy oedd Edward Evans? Fe all fod ganddo gysylltiad â rhwymo, ond y peth tebycaf yw mai uchelwr lleol oedd o.

***

Y MAE'R "plough" yn dal i fod yn erfyn a ddefnyddir gan rwymwyr, er bod llai o'i angen wedi dyfodiad y guillotine. Math o gyllell arbennig ydyw:

"Plow miniog a pla ei mynnwn,
Cu urdda hawl, cordde hwn,
Unol awch yn ei le,
Dda luniaidd ar ddolenne.
Un tirion waith torre'n well,
Iawnwych hollol, na chyllell."

Mae Twm yn addo mwy o fawl i Edward os daw'r "plough" i law, ond ni chawn wybod os llwyddodd Twm i achub ei lyfrau rhag difancoll.

"I chwi bydd oherwydd hyn
Fawl anrhaethawl yn Rhuthun.
Mawl drwy'r gwledydd a gludaf,
Mewn sain gu, os hyn a gaf."