Y Cerdyn Nadolig

Oddi ar Wicidestun
Yn Ysbyty Gwynedd Y Cerdyn Nadolig

gan Robin Llwyd ab Owain

Y Patrwm Mawr
Cyhoeddwyd gyntaf yn Y Bedol, Rhagfyr 1992. Ffynhonnell: barddoniaeth.com; gwefan Rebel ar y We / Rhedeg ar Wydr.

Trosglwyddodd y bardd ei gerddi ar drwydded agored yn Ebrill 2020.



Eira'n drwm -
yn got o gotwm ar gytir
a'r maestir yn wyn fel Mair.

Eira pur yr amserau wedi fferu
a'r pin yn frenhinol dragwyddol,
yn ganhwyllau gwer.

Seren egwan yn cynau Seren
a'i gwen yn ein consurio
a'n lledrithio'n llwyr.
Dacw dri'n penlinio yn ei goleuni
o flaen y glanaf a'r gwynaf ei gwedd:
Mair wen lan. A dyma'r mab:
y baban difrycheulyd a anwyd ohoni:
Duw a dyn wedi uno'n gyfanwaith!

Am ragrith! am rwts!
Fe'm lledrithiwyd yn llwyr!
Nid yw'r llun yn llawn, yn gyflawn;
mae rhan ar goll!

Y tu hwnt i ymylon teg y llun mi welaf Mair
ymysg y bustych, yn griddfan ac yn tuchan
drwy'i chyhyrau tynn
a bwa'i chorff yn staen porffor.

Ym mudreddi'r stabal mae'r geni'n rhwygo'i gwedd
fel y rhwygodd ei gwisg
cyn iddi wlychu ei gwely gwair;
chwysu a bustachu yn y baw a'i stomp -
bustachu heb steil.

Mae eiliad cyhyd a miliwn
pan fo'r byd yn llafn o boen.

Hithau yn gwthio'i hun drwy ei gwythiennau
nes i'w sgrech noeth esgor ar waedd,
nes i'w phoen esgor ar gorff hyll o hardd,
hardd o hyll.

Ac wrth y carthion
y tu hwnt i ymylon y llun mi welaf
Fair y fam,
fel pob mam
ym mryntni'r geni yn synhwyro gwyrth.

Ac yn ei dwylo -
wedi'i beintio'n binc -
yr ymgnawdoliad
yn ysgarlad ac yn borffor
yn ei wisg o waed.
Ac yn berffaith!

Dau lun gan ddau arlunydd
a dwy ran o'r cyfanwaith
yn agweddau ar yr un digwyddiad.

A'r naill heb y llall
yn unochrog,
yn unllygeidiog,
yn gysgodion lliwiau,
yn wirionedd gau
ac yn gelwyddau gwir.