Y Chwedl (Mynyddog)

Oddi ar Wicidestun
Neidio i: llywio, chwilio
Ar nos Nadolig oer a llaith,
Ers deugain o flynyddau maith,
Bu farw Harri Huws;—’roedd ef
Yn cael ei garu gan bawb trwy’r dref.
Bu ef i mi yn gyfaill pur.
A chalon gywir fel y dur,
A diwrnod tywyll, prudd ei wedd,
Oedd y dydd rhoed Harri yn ei fedd.


Gadawodd eneth ysgafn droed
O’i ol,—yn un ar bymtheg oed;
’Roedd iechyd ar ei gruddiau cu,
A chwarddai serch o’i llygad du.
Bum i yn dysgu’r eneth hon
I ddweyd A B yn blentyn llon,
Ac wrth ei dysgu, credais i
Y dysgai’r ferch fy ngharu fi;
Ond ffoledd oedd i’r eneth dirion
I feddwl caru hen ŵr gwirion.
Daeth morwr llon i siarad â hi,
A dygodd fy Elen oddi arnaf fi,
Ond dd’wedais i air erioed wrth hon
O’r hyn a deimlais dan fy mron;
Na gair yn erbyn y morwr chwaith,
Oblegid hwy fuont am flynyddau maith
Yn chwareu â’u gilydd fel y mae plant
Ar ochr y bryn neu lan y nant;
Ond waeth tewi na siarad, ryw noson ddu
Aeth y morwr ymaith âg Elen gu!


Nis gallaf ddirnad byth er hyn
Pa fodd yr aeth bore’i bywyd gwyn
O dan fath gwmwl, na pha fodd
Y daeth amheuaeth ag y todd
Gymeriad oedd mor bur;
’Doedd neb yn meddwl yn y wlad
Y buasai impyn tyner, mâd,
Yn dwyn fath ffrwythau sur.
Agorai’r wawr ei hamrant clau,
Ac ymaith a fi ar ol y ddau,
A digwydd wnaethum fynd ’run ffordd,
Tra curai’m calon megis gordd,
Dan bwys briwedig fron;
Mi cefais hwy. Nis gallaf ddweyd
Pa un ai gofid oedd yn gwneud
I’m dagrau redeg dros fy ngrudd,
Ai ynte ryw lawenydd prudd;
Ond rhedeg wnaethant fel y lli’
Pan ddaeth y newydd gynta ’i mi
Fod Mari’n wraig i John.


II.


Pan gwrddodd Mari gyda fì,
Ei dagrau redent fel y lli;
Hi deimlai’n ddedwydd ar un llaw,
Ac o’r tu arall, ofn a braw
A lanwai’i bron. Hi ddwedai’r oll
Oedd yn ei theimlad yn ddigoll;
Agorai’i bron, can’s roeddwn i
Yn gyfaill mebyd iddi hi.
Datodai glo ei chalon fawr,
A dwedai’i thywydd imi’n awr,
A’r fath onestrwydd yn ei phryd
Nes teimlwn i’m teimladau i gyd
Yn toddi’n llwyr; a gwenau hon
A wnaent i minnau wenu’n llon,
A gweld ei dagrau’n treiglo’n lli
A sugnent ddagrau ’nghalon i.


Ond pan yn tynnu tua phen
Ei chwedl brudd, fy ngeneth wen
A ddwedai, gyda’i llygad du
Yn saethu teimlad ar bob tu,—
“O fel yr ofnwn ŵg fy mam,
Yr hon a’m gwyliodd ar bob cam:
A balchder gyda thanllyd serch
A’i gwnaeth yn ffol uwch ben ei merch.
“Priodi a wnaethum heb wybod i mam—
’Roedd hynny, ’rwy’n addef, yn bechod a cham;
Ond beth oedd i’w wneud, a pheth ddaethai i’m rhan,
Pan oedd cariad mor gryf, a minnau mor wan?
Ni allwn gyfaddef i mam er y byd,
Ond wedi priodi, ni aethom ynghyd
I ofyn maddeuant ei mynwes dinam,
Ond serch wedi’i gloi erbyn hyn oedd gan mam.


“Hi allodd gau y drws a’i gloi
Ar ol ei merch, a medrodd droi
Clust fyddar at fy ymbil taer,
A dweyd yng ngolen’r lleuad glaer,—
‘Gan iti fynnu’th ffordd bob cam,
A chroesi ’wyllys gref dy fam,
Dôs gydag ef, yr hoeden ffôl,
A phaid a dychwel byth yn ol.’”


Fe wylai Mari’n hidl fan hon,
Agorodd holl argaeau’i bron,
A d’wedai,—“’Nawr, fy nghyfaill pur,
Cyn darfod adrodd chwedl fy nghur,
A wnewch chwi addaw’r funud hon
I gloi y chwedl yn eich bron
O wydd pob dyn trwy’r byd;
Er imi dynnu arnaf gam,
Ac er im’ ddigio mynwes mam,
Fy mam oedd hi o hyd.


“Aeth heibio flwyddyn gron, fy ffrynd,
A holl dafodau’r lle yn mynd
Yn gyflym gyda’m hanes prudd,
A mam rhy falch o ddydd i ddydd
I geisio clirio’i geneth wen,
A cheisiai gadw i fyny’i phen
Drwy fynd i’r eglwys yn ei du,
Fel pe buasai’i geneth gu
Yn gorwedd yn ei thawel fedd,
Lle gorffwys pawb mewn hûn a hedd.”
Un noson oer, mewn gaeaf du,
Eisteddwn ar fy aelwyd gu,
Gan wylio’r marwor mawn a choed
Yn syrthio’n lludw wrth fy nhroed,
Yn ddrych o ddynion llon eu gwedd
Yn goleu i ddiffodd yn y bedd.
Fy meddwl grwydrai’n rhydd a ffol.
Pan yn ddisymwth o’m tu ol
’Roedd sŵn cerddediad!—pan y trois,
Mi glywn fy enw mewn acen gyffrous,
A phwy oedd yno ger fy mron
Ond Mari a’i baban ar ei bron!


Ei llygaid gloewon, gleision, mawr,
A safent yn ei phen yn awr;—
Edrychai i’r tywyllwch prudd
Fel pe buasai’n gweld ynghudd
Ysbrydion ei mwynderau gynt
Yn gwibio o’i chylch ar gyflym hynt!
Dechreuai ddweyd ei chŵyn a’i chais
Mewn math o anaearol lais,
A theimlwn fel pe buasai ddelw o faen
Yn sefyll,—yn edrych,—a siarad o’m blaen.
“Mi eis at ddrws fy mam yr ail waith,
Ac eilwaith trodd fi ffwrdd;
Yr unrhyw galed, oeraidd iaith,
Oedd yno yn fy nghwrdd.
“Mi ddaliais hyn fel arwr glew,
Can’s ’roedd fy nghalon fel y rhew,
Ond pan y gwgodd f’anwyl fam
Wrth wel’d fy maban baeh dinam,
Aeth cleddyf trwy fy mron yn syth—
Mae’r archoll hwnnw yno byth.


“Ac am fy ngŵr—fy anwyl John,
’Roedd ef ar wyllt bellderau’r donn;
Un dydd wrth fynd am dro o’r dref,
Ni gawsom ffrae, a ffwrdd ag ef.
Nis gallswn weithio yn fy myw,
Na phlygu’m glin o flaen fy Nuw;
’Doedd dim ond troi yr adeg hon
A’m baban tyner ar fy mron
At mam;—ond honno, er fy nghur,
Oedd fel y garreg yn y mur.
Fy Nuw a ŵyr fel snddais i
O dan ei geiriau cerrig hi;
A’r oll o’m serch yr adeg hon
Oedd yn fy maban ar fy mron.”


Fe beidiai Mari lefaru yn awr,
A minnau yn edrych yn syn ar y llawr;
Ac fel mewn eiliad—’roedd fy ffrynd
A’i baban serchus wedi mynd!


Deallais wedyn iddi droi
Ei gwyneb tua Llundain bell,
Pan nad oedd mam na neb i roi
I’w mab a hithau gynnes gell.
O! pwy all ddweyd na meddwl chwaith
Ei theimlad ar y brif-ffordd faith,
Heb ddillad cynnes am ei chefn,
A’i chalon FU’n llawn serch drachefn,
Gan chwerw drallod, honno wnaed
Mor oer a’r brif-ffordd dan ei thraed.
’Roedd pob anadliad roddai hon
Yn sugno ochenaid ddofn o’r bron,
A phob cam roddai ’n tynnu gwaed
O’i thyner flin ddolurus draed.
O gam i gam, o awr i awr
Cyrhaeddyd wnaeth i’r ddinas fawr;
Ac ar y palmant caled, oer,
Llewygu wnaeth yng ngolau’r lloer.


Yr oedd hi’n nos, ac nid oedd neb
A sychai chwŷs ei dwyrudd wleb
Heblaw y gwynt, ac ni wnai ef
Ond chwiban heibio hyd y dref.
Ond pan oreurai’r wawr y ne’
Daeth rhyw Samaritan i’r lle,
A chodai hi fel delw wen,
A rhoddai bwys ei thyner ben
Ar fron tosturi,—a’r baban bach
A gysgai hûn ddiniwaid iach,
Ar hyd y nos flinderus faith
Ar fron mor oer a’r garreg laith.
Aeth ef a’r ddau yn ol i’w dŷ,
A’i wraig drugarog, serchus, gu,
A’u hymgeleddai gyda serch
A chydymdeimlad calon merch,
Gwreichionen olaf bywyd brau
Gyneuai’n ol dan law y ddau.


Deffroai Mari gyda hyn
I gael ei hun mewn gwely gwyn,
A gwên trugaredd uwch ei phen
Yn edrych ar ei dwyrudd wen.


Nid oedd gan ŵr a gwraig y tŷ
(Lle dodwyd Mari),—blentyn cu,
A gall mai dyna’r rheswm pam
Y carai’r rheiny gael y fam,
Er mwyn cael gwylio’i baban bach
Yn tyfu’n llencyn gwridog, iach.
Dechreuai’r bychan chwareu’n rhydd,
A rhosyn iechyd ar ei rudd,
A gweithiai’r fam â chalon rwydd
Wrth weld ei gobaith yn ei gwydd
Yn tyfu’n hogyn gwyneb crwn,
A’i serch ymglymai o gylch hwn.


Awn heibio i flynyddau maith,—
Fe dyfai’r llanc,—gwnai’r fam y gwaith,
Ac ni fu’r blwyddau meithion hyn
Heb ambell smotyn hafaidd, gwyn.
Edrycha’i llanc yn hoew a chryf,
A’i natur fywiog, hoenus, hŷf,
A godai awydd yn ei fron
I fynd yn forwr nwyfus, llon;
Dychmygai nad oedd unrhyw ddôr
Yn agor iddo ond y môr.
Fe deimlai’i fam, a theimlai’n flin,
Ond ni ddaeth gair dros drothwy’i min,
A’r bore ddaeth i’r llanc dinam
I rwygo’i hun oddiwrth ei fam.


III.


Y storm a aeth heibio, a’r dwylaw wnaent gwrdd
I gyfarch eu gilydd yn llon ar y bwrdd;
“Mae’r cyfan yn fyw,” ebe’r Capten yn llon,
A diolch a gweddi yn llanw ei fron:
“Na!—arhoswch; pa le y mae William ddinam,
Y llencyn oedd newydd roi ffarwel i’w fam?”
Ond dwedai rhyw un âg ochenaid ddofn, ddofn,
“Nid ydwyf yn sicr, ond y mae arnaf ofn
Fod drwg wedi digwydd, pan ruai y gwynt,
Gan luchio a thaflu y llong ar ei hynt,”
’Roedd William yn mrigyn yr hwylbren, hir, praff,
Yn ceisio ategu yr hwyl gyda rhaff;
Fe ruthrai y gwynt, ac mewn eiliad neu ddwy
’Roedd y llanc wedi myned na welwyd ef mwy.


Y tu ol i’r llestr, draw, draw ar y donn,
Yn ymladd am fywyd, ’roedd llanc a fu’n llon,
A’i obaith a’i nerth ar ddiffygio yn llwyr,
A’r t’w’llwch yn dechreu cau amrant yr hwyr;
Ar hyn, dacw gwch yn nesau ato ef,
A’i hwyliau fel edyn rhyw angel o’r nef;
A phan yr oedd William yn suddo i lawr,
Wele forwr yn estyn ei ddeheu law fawr
I safn y dyfnderau, glafoerllyd, di rol,
Gan godi y bachgen i fywyd yn ol.


Am oriau bu’n hollol ddideimlad fan hon,
Ond rhith weledigaeth oedd fel ger ei fron;
Fe welai ei fam yn sylldremio o’r lan,
A chlywai’i hochenaid yn esgyn yn wan;
A gwelai ofidiau gordrymion a phrudd
Yn tynnu eu herydr ar hyd ei dwy rudd;
A gwelai ei gartref yn ymyl y nant,
A’r pentref, a’r felin, a’r ysgol, a’r plant,
Ac yntau ei hunan yn chwareu’n ddinam—
A deigryn yn treiglo o lygad ei fam.


Gofynnai’n ei freuddwyd,—“Mam, pam yr ydych chwi
Yn wylo eich dagrau cariadus yn lli?”
A hithau yn ateb fel hyn yn y fan,—
“’Rwy’n cofio fy machgen yn faban bach gwan,
Ac wedyn yn tyfu mewn nerth ac mewn oed
I neidio a chwareu o amgylch fy nhroed.”
Ar hyn daeth rhyw niwl dros ei feddwl yn chwim,
A’i fam a ddiflannodd fel cysgod yn ddim;
A gwelai len arall yn lledu o’i flaen,
A breuddwyd mewn breuddwyd yn agor o’i flaen.
Ymhellach yn ol, fe welai ei fam
Yn suo a hwian ei baban dinam,
Ar hyn, dyna rywun yn cnocio yn hy,
A morwr cryf, barfog, yn dyfod i’r tŷ,
A safai cyn dechreu llefaru;
Nid hir y bu yno cyn gweled ei wraig,
A deigryn a safai ar rudd oedd fel craig,
Ymgrymai i roddi ei gusan i hon,
A’r cwbl a ddwedodd a’i ben ar ei bron,—
“Fy Mari, O fy Mari!”


Ond William ddeffroai yn raddol ar hyn,
A bywyd ail wridai ei wyneb gwyn, gwyn,
A gwybu yn fuan mai morwr cryf, llon,
A’i cipiodd mor wyrthiol o afael y donn;
’Roedd hwnnw ac ereill yn dianc o Ffrainc,
Pan oedd yr hen Boni yn llywydd y fainc.
A phan y daeth William i fywyd yn ol,
’Roedd y wawr yn ymgodi a’r haul yn ei chôl,
Gan chwalu y t’w’llwch a’r caddug ar daen,
A bryniau hen Gymru ’n ymgodi o’i flaen.
Edrychai’n fyfyriol ymlaen tua’r tir,
A’i freuddwyd yn gwibio trwy’i feddwl mor glir,
A syllai bob ’nail ar y morwr hardd, cryf,
Yr hwn a achubodd ei fywyd mor hŷf;
A chofiai ei freuddwyd, ei gartref, a’r dyn
Yn curo y drws, ac yn agor ei hun,
Ac nis gall anghofio y dyn yn ei fyw,
Wrth weled y morwr yn gweithio y llyw.


“Paham yr edrychwch i’m gwyneb o hyd?”
Gofynnai y morwr, tra gwrol ei bryd;
“Myfyrio yr oeddwn ar freuddwyd tra ffôl,”
Medd William, gan syllu i’r glannau yn ol,
“Lle gwelais fy hunan yn blentyn di-nam,
Yn chwareu o amgylch i liniau ei fam;—
Lle clywais i rywun yn curo yn hŷ’,
A morwr o rywle yn dyfod i’r tŷ,
A synnu yr oeddwn, mor debyg i chwi
Oedd hwnnw a welais yn dod i’n tŷ ni.”
“Dywedwch i mi,” ebe’r morwr yn awr,
Gan syllu drwy bellder goleuni y wawr,
“A oes gan eich mam lygad glas yn ei phen
Sy’n ganmil disgleiriach na glesni y nen?
Oes ganddi hi ruddiau, dywedwch yn rhwydd,
A wrident yr eira pe bae yn eu gwydd?
Oes ganddi hi wallt fel y nos ar ei phen
Yn disgyn fel cwmwl ar hyd ei grudd wen?
Ond gall, o ran hynny, fod main gennych chwi
Yn ateb i’r darlun a dynnir gen i,
A mi heb ei gweled mewn llan nac mewn llys,
Ond,—welsoch chwi fodrwy ryw dro ar ei bŷs,
A math o lun calon mewn perlau yn hon,
A gwallt yn ei chanol yn ddolen fach gron?”


“Mae gan fy mam lygaid fel glesni y nen,
A gwallt sydd fel hanner y nos ar ei phen,
Mae harddwch yn byw ar ei gwefus a’i gên,
Ac ysbryd serchawgrwydd yn dawnsio’n ei gwên;
Ac hefyd, wrth feddwl, mae adgof gen i
Am fodrwy ’run fath a’r un hon ddwedsoch chwi,
A math o lun calon mewn perlau yn hon,
A gwallt yn ei chanol yn ddolen fach gron!”
“Ai breuddwyd yw hyn?” ebe’r morwr yn rhydd,
A’i deimlad a’i galon yn neidio i’w rudd,
“Ai’m mab a achubais o afael y donn?
Ai delw fy Mari yw’r llygad byw, llon,
A welaf o’m blaen? ’Rwyf yn diolch i’r Nef,
Mae Mari yn fyw, a fy machgen yw ef!”


IV.


“Roedd annedd fy Mari a minnau a’r ddôr
A’i gwyneb i waered at lan y môr,
Ac ni fu dedwyddach dau yn y byd
Na Mari a minnau tra buom yn nghyd.
Ryw noson anhapus—mi cofiaf hi byth—
Daeth ysbryd anghydfod dros drothwy ein nyth,
A Mari a minnau a gawsom air croes,—
Y cyntaf a gawsom erioed yn ein hoes.
“Eis allan yn sydyn, a chauais y ddôr,
A chrwydro y bum ar hyd erchwyn y môr,
Yn gwylio y tonnau yn chwareu’n y fan
Ym mynwes eu gilydd hyd ymyl y lan;
Dan chwerthin a neidio o amgylch fy nhroed,
Yn orlawn o fywyd fel plant deuddeg oed.
Meddyliais mor ffôl y bum i gyda’r fûn
A garwn yn fwy na fy enaid fy hun;
Ac eistedd a wnaethum mewn myfyr tra syn,
A chenais gân fechan yn debyg i hyn,—


“‘Mari anwyl, wnei di faddeu
Fy ymadrodd creulon, ffôl,
Gaf fi yfed gwin dy wenau
Pan y deuaf yna’n ol?
Pam y rhaid i gariad cywir
Fod yn llanw ac yn drai?
Arnaf fi, fy Mari anwyl,
Arnaf fi yr oedd y bai.
“‘Mynnaf brynnu gown o sidan
Goreu fedd yr hollfyd crwn,
I’w roi i Mari â’m llaw fy hunan,
I wneud fyny’r cweryl hwn;
Gwn y medr Mari faddeu
Holl ffaeleddau cariad gwir,
A thrawsffurfio gyda’i gwenau
Gwmwl du yn awyr glir.’


“Pan oeddwn yn dychwel a’r gown i fy mûn,
Gan deimlo yn ddig wrth fy ffoledd fy hun,
A theimlo y mynnwn i wneuthur fy rhan
I garu y cweryl o’r tŷ yn y fan;
Ar hynny! mi deimlwn ryw law nerthol, fawr,
O’m hol yn fy nhynnu yn llegach i’r llawr,
A phedwar o forwyr a’m rhwyment mewn brâd,
Ac ymaith y’m cipiwyd i lawr at y bâd!
Un cilgwth!—un floedd a drywanai fy mron,
A dyna ni’n nofio ar wyneb y donn.
“Llong ryfel angorai draw, draw ar y donn,
A rhwyfai y morwyr yn union at hon,
A mi, fel mewn breuddwyd, a gefais fy hun
(Yn lle bod yn gofyn maddeuant fy mûn)
Yn nghanol y milwyr, a’r morwyr llawn brad
Yn hwylio i ryfel yn syth o fy ngwlad.”


V


Ryw fore, rhoi’r postman ddau guriad i ddôr
Y bwthyn bach hwnnw yn ymyl y môr,
A Mari a glybu, ond teimlai ryw fraw
Yn mynd at ei chalon, a chrynnai ei llaw,
A methai gan ofnau a myned ymlaen,
’Roedd blwyddau er pan gadd hi lythyr o’r blaen.


Hi gafodd y llythyr ar drothwy y ddôr,
A gwelai ei fod wedi dod dros y môr;
Llawysgrif pwy ydoedd? O ba wlad y daeth?
Ai William sy’n glaf, neu a oes newydd gwaeth?
Agorodd y sêl, a darllennodd—ond och!
’Roedd gwaed y cynhyrfiad yn rhewi ar ei boch;
Y capten a’i gyrrodd i ddweyd fel y bu—
Fod storm wedi codi, fod corwynt a’i ru
Bron wedi achosi llongddrylliad tra erch,
Ac hefyd fod William, canolbwynt ei serch,
Yng nghanol y ddrycin, a’r storm, wedi cwrdd
A damwain, a syrthio i’r môr dros y bwrdd.


Fe dorrodd y newydd ar deimlad y fam
Fel taranfollt erchyll, a’i chalon rodd lam;
Mor hynod ddisymwth bu’r ergyd i hon,
Nes clodd y fath newydd ei dagrau’n ei bron;
Ni wyddai p’le i droi, na pha beth i’w wneud,
Ond teimlai lais distaw’n ei mynwes yn dweyd,—
“Feallai fod gobaith, feallai i’th Dduw
Ofalu am William, a’i fod ef yn fyw.”
Hi syrthiodd ar ei gliniau
A chodai fyny ei llef,
Trwy’r storm o orthrymderau,
At un sydd yn y nef;
Ond ofnai fod ei gweddi
Yn gofyn gan yr Iôr
Am achub un oedd wedi
Ei gladdu yn y môr.


Daeth eilwaith adlais distaw
O fewn i’w mynwes wyw,
I ddweyd er hyn y gallai
Fod William eto’n fyw;
A’r adlais hwnnw roddodd
Ail nerth i’w gweddi gref,
Nes gyrrodd mewn ochenaid
Ei chalon tua’r nef.


VI.


Ust! ust! dyna gnoc! pwy sy’n curo mor hy?
O diolch—a William yn dyfod i’r tŷ!
Pwy draetha’u teimladau pan syrthiodd y ddau
Ar yddfau eu gilydd i gyd lawenhau?


Dechreuai William ddweyd yn awr
Ei hanes prudd, pan syrthiodd lawr,
Ac fel ’r achubwyd ef mor hŷf
Gan law ddieithr morwr cryf;


“O na chawn ei weled,” atebai y fam,
“Y morwr achubodd fy mhlentyn rhag cam,
Cai ddiolch fy nghalon am achub o’r lli.
Yr hwn sy’n anwylach na mywyd i mi.”
“Myfi yw y gŵr,” ebe llais yn y ddôr,
“Achubodd y bachgen rhag marw’n y môr,”—
“Fy Nuw!”—ebe Mari, pan welodd y dyn,
A syrthiodd i freichiau ei phriod ei hun.
Dechreuwyd a holi ac adrodd mor hŷ,
A’r tri yn cydwylo wrth ddweyd sut y fu,
Y tad yn rhoi darlun o droion y daith,
A’r fam yn rhoi darlun o’i phryder tra maith.
’Mhen awr, fe ddaeth cenad i’r bwthyn dinam
At Mari yn dweyd fel bu farw ei mam;
Y clefyd ddadglodd gloion rhydlyd ei serch,
A phwnc ei myfyrdod oedd Mari ei merch,
“Rwy’n maddeu i Mari fy merch,” ebe hi,
A deigr edifeirwch yn treiglo yn lli;
A neidiodd o’i gwely, ac allan yr aeth,
A chodi ei dwylaw i’r nefoedd a wnaeth,
Ar drothwy y drws lle cilgwthiodd ei merch,
Am roi ei deheulaw lle rhoddodd ei serch;
Gweddiodd yn daer am faddeuant yr Iôr,
Ac yno bu farw ar drothwy y ddôr.


Bu’r morwr a Mari am flwyddau hir, hir,
Yn byw mewn dedwyddwch dan awyr serch clir,
A William a dyfodd yn addurn i’w wlad,
Yn eilun ei fam, ac yn bopeth ei dad.
Y sexton ar hynny eisteddodd i lawr,
A’r tân oedd yn llosgi yn isel yn awr;
Aeth pawb tuag adref ’rol cael y fath wledd,
Aeth yntau i’r fynwent i dorri y bedd.