Y Cychwyn (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Y Cychwyn (testun cyfansawdd)

gan T Rowland Hughes

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Y Cychwyn

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Thomas Rowland Hughes
ar Wicipedia





Y CYCHWYN

T. ROWLAND HUGHES




Y
CYCHWYN





Alt=Logo Gwasg Aberystwyth
Alt=Logo Gwasg Aberystwyth

MCMXLVII


Argraffiad Cyntaf-Tachwedd, 1947



ARGRAFFWYD GAN

J. D. LEWIS A'I FEIBION, CYF., GWASG GOMER, LLANDYSUL





I'M HEN WEINIDOG,

Y PARCH. A. J. GEORGE, B.A., B.D.

FEL ARWYDD BYCHAN O BARCH MAWR

FEL nofel hir iawn y gwelwn i stori'r Parch. Owen Ellis, ond yn y dyddiau hyn o anawsterau a chostau argraffu a phrinder papur, tybiwn mai doeth oedd ei llunio'n rhannau, gan geisio rhoi unoliaeth a chyfanrwydd i bob rhan ar wahân. Ei ddyddiau cynnar yw thema'r nofel hon.

Y mae arnaf ddiolch i amryw am eu cymorth, ac yn arbennig i Ap Nathan am lawer ymgom ddiddorol, i'r chwarelwr diwylliedig O. R. Williams, Dinorwig, am ei gyngor parod, ac i'r Parch. D. Llewelyn Jones am ddiarddel yn gadarn bob pechadur o wall a welai'n sleifio i mewn i'r MS a'r proflenni.

T.R.H.

𝒫𝓇𝑜𝓁𝑜𝑔

TYNNODD yr hen weinidog y llythyr o'i boced a'i ddarllen eto . . .

"Ac yn awr, gan eich bod wedi ymddeol i Lan Feurig ac yn byw yn eich hen gartref, y mae'n debyg fod eich meddwl yn llithro'n ôl yn aml dros y blynyddoedd i ddyddiau'ch ieuenctid. Beth am grynhoi'ch atgofion mewn cyfres o ysgrifau? Y mae'n sicr y caent groeso mawr gan ein darllenwyr ac y . . . "

Agorodd drws y stydi a daeth ei wraig i mewn a thu ôl iddi Meurig, ei ŵyr saith oed.

"Mi awn ni 'rŵan, Owen. Rhyw negas at eich brawd ?"

"Nac oes, am wn i, wir, Mary, dim ond dweud y galwa' inna' i edrach amdano fo pnawn 'fory, yntê?"

""Ydi'n well imi roi cnapyn neu ddau ar y tân cyn mynd ?"

"Na, mi wna' i pan fydd angen."

"Cofiwch chi, 'rwan. Mae'r gwynt meiriol 'ma'n sleifio i bobman, hyd yn oed at y tân . . . Wel, mi rown ni lonydd i chi i feddwl am yr ysgrifa' 'na. Mae Mr. Jones, y Golygydd, yn dweud calon y gwir, wchi."

"Fod fy meddylia' i'n crwydro'n ôl i'r hen amsar ? Ydi . . . ydi, mae hynny'n wir. Ond . . . " Edrychodd eto ar y llythyr, gan ysgwyd ei ben yn araf. "Ond a fydden' nhw'n ddiddorol i eraill sy'n amheus iawn. Tipyn o bregethwr, nid sgwennwr, fûm i, Mary fach, a hyd y gwela' i, y sgwennu, nid yr atgofion 'u hunain, sy'n bwysig mewn ysgrif. . 'Wn i ddim, 'wn i ddim, wir.

Mi feddylia' i am y peth tra byddwch chi allan, ac efalla' y rho' i rwbath ar bapur."

"Deudwch hanes yr hen gi hwnnw oedd yn medru gwenu, Taid."

"Wel, ia, yntê, 'ngwas i? Lapia di'r crafat 'na am dy wddw'n iawn, 'rŵan, Meurig, gan fod y gwynt mor fain . . . Dyna chdi."

"Fyddwn ni ddim yn hwyr, Owen. Mi ddown yn ôl rhwng saith ac wyth."

"O'r gora', Mary, o'r gora', ond peidiwch â brysio'n ôl er fy mwyn i."

"Ta-ta 'rŵan, Taid."

"Ta-ta, 'machgen i. A phaid di â bwyta llawar o dda-da Robat bach, a nhwtha' ar boints."

Ymhen ennyd clywodd ddrws y tŷ'n cau ar eu holau, yna sŵn traed y ddau ar y llwybr hyd fin yr ardd a chyn hir rygniad y glwyd, a agorai i'r ffordd. Syllodd eto ar y llythyr ar ei lin ac yna'n hir i gochni'r tân. Nid stydi'r Parch. Owen Ellis oedd yr ystafell mwyach, ond y "siambar" lle cysgai ef, Now Ellis, Tyddyn Cerrig, efo Dafydd ei frawd ymhell bell yn ôl, drigain mlynedd yn ôl. . .

𝒫𝑒𝓃𝓃𝑜𝒹 1

COFIAI am fore Llun yn niwedd Gorffennaf a'r ysgol newydd dorri ac yntau'n fawr ei siom am na châi fynd i'r chwarel. Yr oedd yn ddeuddeg oed—wel, o fewn mis i hynny, beth bynnag—ac yn dalach a chryfach hogyn na Huw Rôb a Wil Cochyn, ei gyfeillion yn yr ysgol.

Deffroes yn gynnar iawn y bore Llun hwnnw, a gwelai fod rhywun yn symud yn hanner-gwyll yr ystafell. Ei frawd Dafydd yn gwisgo amdano. Ffrydiodd chwerwder i feddwl Owen fel y cofiai fod Huw Rôb a Wil wrthi'n ymwisgo y munud hwnnw hefyd, a throwsus melfared newydd gan bob un o'r ddau. A daeth atgof am y prynhawn Gwener cynt a Huw a Wil yn mynd adref o'r ysgol efo'i gilydd yn dalog, wedi rhoi heibio am byth bethau bachgennaidd fel "syms" a llyfrau-darllen a llyfrau-ysgrifennu. Cerddai ef ugain llath tu ôl iddynt yng nghwmni Cecil Rowlands—"Cecil Mami" i hogiau mwyaf yr ysgol a gwyliai hwy'n eiddigus, Huw Rôb yn poeri rhwng ei ddannedd, a'i fawd yn nhwll-braich ei wasgod, a Wil Cochyn yn sgwario'i ysgwyddau a gwyro o ochr i ochr fel llongwr. Teimlai Owen ei fag-ysgol yn faich ofnadwy, ac er ei fod yn hoff o Mr. Roberts, athro ifanc Standard V, gwgodd ar ei gefn wedi iddo fynd heibio iddo ef a Cecil ar y ffordd.

"Mi wyddost be' mae dy dad wedi'i ddeud," ebe'i fam amser te. ""Rwyt ti i aros yn yr ysgol am flwyddyn arall. Mi gei fynd i'r chwaral pan fyddi di'n dair ar ddeg a dim cynt."

"Ond mi gafodd Dafydd fynd yn ddeuddag oed."

"Mae pethau'n well arna' ni erbyn hyn, a'r 'gennod a Dafydd yn gweithio. Mi ddylat fod yn falch o'r cyfla i gael addysg. 'Chydig iawn o ysgol ges i na'th dad, a'r hen Ddefis y Sgŵl ers talwm yn hannar-meddw mor amal ag yr oedd o'n sobor. A phaid di â swnian wrth dy dad pan ddaw o adra'. Cofia di, 'rŵan. 'Wyt ti'n clywad?"

"Ydw', 'Mam."

Yr oedd Owen yn ddigon hen i amau pam y siarsiai ei fam ef i beidio â swnian wrth ei dad. Nid rhag iddo boeni'r chwarelwr blinedig ar ôl ei ddydd o waith, ond rhag ofn i Robert Ellis haelfrydig a llon ildio'n fyrbwyll i gais ei fab. "Cei, debyg iawn, Now bach," a ddywedai ef efallai, a'i lygaid mawr anghyfrifol yn osgoi rhai ei wraig.

"Mi wyddost be' mae dy dad wedi'i ddeud," oedd geiriau ei fam, ond gwyddai Owen mai'r hyn a ddywedai hi a oedd yn ddeddf. Yn awr, ac yntau bron yn ddeuddeg, dechreuai weld trwy frawddegau fel "Mi ofynna' i i'th dad" neu "Mi gawn ni weld be' fydd dy dad yn feddwl" neu "Dy dad sydd i benderfynu." Rhoddent i Robert Ellis awdurdod a chadernid na pherthynent iddo yn wir, treuliasai'r fam lawer o'i dyddiau'n creu ym meddwl ei phlant y syniad bod eu tad yn gawr mewn doethineb a phwyll yn ogystal ag o gorff. Ac nid hollol gywir oedd mai am fod "y 'gennod a Dafydd yn gweithio" yr oedd pethau'n well ar y teulu erbyn hyn. Nid aethai'n angof ambell nos Sadwrn pan yrrai'i fam hwy oll i'w gwelyau'n gynnar ac yr arhosai Owen yn effro i wrando am sŵn ei dad yn ymlwybro'n feddw hyd lwybr yr ardd tan ganu a siarad ag ef ei hun bob yn ail. Ond ers blynyddoedd bellach nid âi Robert Ellis ar gyfyl y Crown.

Ar y bore Llun hwnnw, fel y gwyliai Dafydd yn ymwisgo yng ngwyll y "siambar," teimlai Owen yn ddig tuag at ei frawd mawr pedair ar bymtheg. Droeon yn ystod y Sadwrn a'r Sul y ceisiasai ei gymell ef i ddadlau o'i blaid, ond yr un oedd yr ateb bob gafael—cyngor dwys i wneud yn fawr o'i gyfle i gael addysg. Hy, yr oedd yn ddigon hawdd i Ddafydd siarad, ac yntau wedi gadael yr hen ysgol 'na pan oedd o'n ddim ond deuddeg oed. Daeth golau cyfrwys i lygaid Owen. Efallai efallai ped âi am dro i'r chwarel a dangos i'w dad ei fod yn hwylus efo'i ddwylo, ac yn eiddgar am ddysgu, y medrai ei berswadio i'w dynnu o'r ysgol. Câi ddiwrnod cyfan efo'i dad, ymhell o gyrraedd dylanwad a dadleuon ei fam.

"Dafydd?"

"Ia, Now bach?"

""Faint ydi hi o'r gloch?"

""Wn i ddim yn iawn. Tua hannar awr wedi pump."

"Ydi 'Mam wedi codi?"

"Ydi. Mae hi wrthi'n cynnau'r tân."

"Yr ydw' inna' am godi hefyd."

"Codi? Yr argian, i be', dywad?"

"I ddŵad efo chi i'r chwaral am dro. Gan nad oes 'na ddim ysgol, yntê Dafydd? 'Ydi 'Nhad yn saethu hiddiw?"

"Ydi, yr ydw i'n meddwl. Ond 'fedri di ddim dŵad hiddiw, Now bach. 'Chlywis i mo 'Mam yn deud dy fod di i fynd tros dy addroddiada' efo Taid bora 'ma?"

"Do, ond twt, mi wnaiff heno'r tro. Mi fedar Enid alw yno i ofyn iddo fo newid yr amsar."

Yr oedd Owen ar ei draed erbyn hyn ac yn gwisgo amdano ar frys gwyllt.

"Brensiach annwl, i b'le'r wyt ti'n mynd?" oedd cyfarchiad ei fam pan gyrhaeddodd ef y gegin.

"I'r chwaral am dro, 'Mam. Mae 'Nhad yn saethu hiddiw."

"A thitha' i fynd at Taid i redag dros dy adroddiada'?

Ac wedi addo picio i'r Hafod pnawn 'ma i nôl llaeth imi?"

"Mi geiff Enid alw yn nhŷ Taid, ac mi a' i i nôl llaeth heno ar ôl dŵad adra'."

"'Rydw' i isio'r llaeth pnawn i wneud tatws-llaeth i'r swpar- chwaral. Hwda, bwyta'r uwd 'ma, a mi gei fynd cyn bellad â gwaelod Lôn Serth efo nhw."

Daeth Robert Ellis i mewn, ac yr oedd Owen yn falch o weld ei fod mewn tymer dda.

"Wel, Owen Ellis, 'machgan i," meddai, gan ddynwared llais main hen flaenor o'r enw Ifan Ifans, "a b'le ma' chi'n meddwl bod chi'n mynd hiddiw os ma' chi'n gwbod?"

""Ydach chi'n saethu hiddiw, 'Nhad?"

"Ydw', am naw os medra' i.

Pam, Now bach?"

""Ga' i ddŵad i'r chwaral efo chi, imi gael eich gweld chi'n saethu ?"

"Cei, debyg iawn, 'r hen ddyn. Hynny ydi.. Sylweddolodd iddo siarad heb ymgynghori â'i wraig.

"Mae o i fynd dros i adroddiada' efo Taid am un ar ddeg," ebe hithau, "ac i nôl llaeth pnawn 'ma."

"Mi fydda' i'n ôl cyn un ar ddeg, 'Mam, os ydi 'Nhad yn saethu am naw."

"O, o'r gora".

"Mi ofala' i y daw o adra' ar ôl imi saethu, Emily," meddai'r tad. "A mi gei weld dy dad i fyny yn y rhaff, Now bach. Y twll yn un go uchal ar y graig, wsti."

"Dew !" meddai Owen, a'i lygaid yn disgleirio. Gan edmygedd, debygai'r lleill, ond rhan bwysig o'r cynllun dirgel ym meddwl y bachgen oedd ffalsio i'w dad. Ac yr oedd y ffordd honno'n un rwydd a sicr i galon Robert Ellis.


Gan fod y tad a Dafydd yn gweithio'n o uchel yn y chwarel, ychydig o ddynion a oedd ar hyd y ffordd yn nhawelwch y bore cynnar. Ond ymunodd tri arall â hwy yng nghanol y pentref, a melys i Owen oedd clywed tramp y traed yn eco caled, brau, hyd furiau a thoau'r tai. Dim ond o ran eu gweld yr adwaenai ef ddau o'r tri dyn—i gapel arall yr aent hwy—a rhoddai'r dieithrwch hwnnw fwy o flas fyth ar yr antur. Y trydydd cydymaith oedd Elias Thomas, ei athro yn yr Ysgol Sul, dyn mwyn, breuddwydiol, tawel ac araf ei leferydd, a'i frest wan yn gwneud iddo anadlu'n drwm.

"Mae gynnoch chi jermon newydd hiddiw, Robat Ellis," meddai un ohonynt, gŵr bychan, eiddgar, a lusgai'i draed yn flêr wrth geisio canlyn y lleill. Yr oedd Owen o'i ben a'i ysgwyddau'n dalach nag ef, ac ymsythodd i'w wneud ei hun yn dalach fyth.

"Na, dim ond am 'chydig bora 'ma, Huw Jones," meddai'r tad. "Yr ysgol wedi torri. 'Dydi o ddim yn ddeuddag eto." "Tewch, da chi! Hogyn mawr o'i oed. Tynnu ar ôl 'i dad, yntê?" Edrychai'r dyn bach heibio i Owen i fyny i wyneb ei dad, gan lusgo'i glocsiau'n waeth fyth, nes peri i'r bachgen ofni iddo ef a'i "biser chwarel" fynd ar eu hyd i'r lôn. Sylwodd fod cryn berth o flew yn tyfu o'i glust. Dew, dynion rhyfedd a oedd yn y chwarel, yntê?

"Be' 'newch chi efo fo, Robat Ellis? Clarc o ryw fath, efalla"."

Yr ail ddyn, ar ôl clirio'i wddf yn bwysig, a ofynnai'r cwestiwn, gan swnio fel petai'n rhoi cyngor yn hytrach na disgwyl ateb.

"Mae'r hogyn acw," chwanegodd, "wedi cael addewid am le reit dda. Efo Roberts y Twrna' yn y dre. Ond mae gan Cecil flwyddyn arall yn yr ysgol cyn hynny. 'Roedd Roberts yn deud wrth y wraig acw fod un o'r hogia' oedd gynno fo yn fannister tua Lerpwl erbyn hyn."

Cecil! Ia, tad "Cecil Mami" oedd y dyn, meddai Owen wrtho'i hun, a gwelai wedyn y tebygrwydd rhyngddo a'i fab. Yr oedd iddo wyneb fflat, llywaeth, a llygaid mawr yn ymwthio o'i ben. Edrychodd ar Owen cyn clirio'i wddf eto a chwanegu, "Synnwn i ddim na wnâi hwn glarc reit dda hefyd. Ne' mewn siop."

"Na, mae o'n sâl isio mynd i'r chwaral," ebe Robert Ellis, braidd yn swta.

"Fedrwch chi ddim deud, na fedrwch?" meddai'r dyn bach, gan boeri i'r ffordd yn ei ddoethineb. "Ond mae 'na lefydd gwaeth na'r chwaral, ond oes? Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag."

Yr oedd geiriau'r dyn bach yn flêr a thrwsgl fel ei draed, ond llefarai tad Cecil yn bwyllog a phwysig, fel petai'n traethu gwirioneddau mawr. Sylwodd Owen na thalai'i dad fawr o sylw i'r un o'r ddau, gan hanner-droi ei ben tuag at Elias Thomas, fel petai'n aros am ei farn ef. Er bod Robert Ellis ymhell o fod yn ŵr amlwg yn y capel—gwnâi ryw esgus byth a beunydd i osgoi mynd yno ar noson waith—edrychai ar flaenor gyda pharchedig ofn, ac o holl flaenoriaid Siloam, Elias Thomas, yr addfwynaf o ddynion, oedd ei arwr ef. Efallai am ei fod ef ei hun mor wahanol iddo, mor drystiog a byrbwyll ei ffordd.

"Mae Owen yn tynnu ar ôl 'i daid," meddai Elias Thomas yn awr. "Fo ydi'r adroddwr gora' yn y capal 'cw. A'r gora' o ddigon am ddysgu a deud adnoda".

"Ond 'fedrwch chi ddim ennill tamad wrth ddeud adnoda', Lias Tomos," oedd sylw craff tad Cecil.

"Na fedrwch," cytunodd y dyn bach, "ne' mi fasa'r hen wraig, fy mam, yn werth ffortiwn. Pennod gyfa' yn y Seiat bob nos Fawrth. Yntê, Ifan Rowlands? 'Welis i neb tebyg iddi hi. Na fedrwch, 'nen' dyn. A mae'n rhaid i rywun fyw, ond oes? Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag."

"Prygethwr ddyla' Owen fod," ebe Elias Thomas. "Mae'n blesar 'i glywad o'n atab cwestiyna' ar y wers yn yr Ysgol Sul. Dyna chi ddoe ddwytha' pan oeddan ni'n trin dameg y perl gwerthfawr . . ."

""Fedrwch chi ddim deud, na fedrwch?" meddai'r dyn bach. "Dyna chi be'-ydi'i-enw-fo, Carey Robaits, hogyn Wmffra Robaits. Cena' bach drwg yn y Band o Hôp ers talwm. Pwy fasa'n meddwl amdano fo'n brygethwr, yntê? Ond dyna fo, 'fedrwch chi ddim deud, na fedrwch? Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag."

"Clarc!" "Prygethwr!" Yr argian, beth pe clywai Huw Rôb a'r Cochyn y siarad hwn!

Daethant i'r Lôn Serth cyn hir ac ymffurfio'n ddau a dau i ddringo tua'r chwarel. Ceisiodd Owen fod yn gydymaith i'w dad, ond methodd, ac fe'i cafodd ei hun yn olaf yng nghwmni Dafydd. Cerddai'i dad ac Elias Thomas ar y blaen, a gwyliodd hwy'n amheus: ai trin ei ddyfodol ef yr oeddynt?

"Y lolyn, yntê, Dafydd?"

"Pwy, Now bach?"

"Y Lias Tomos 'na."

"O, mae'r hen Lias yn meddwl llawar ohonat ti, wsti."

"'Wnaiff o ddim prygethwr ohona' i, myn diain i, mi wn i hynny."

Ni ddywedodd Dafydd ddim. Yr oedd hynny'n hollol fel efô, meddyliodd Owen yn sur, gan feddwl ei feddyliau'i hun yn lle cytuno ag ef.

"Ac mae o'n siŵr o fedru perswadio 'Nhad, 'gei di weld. Pam na roith o lonydd i rywun? 'Dydi o'n ddim o'i fusnas o, 'ydi o?"

"Mae'n hen bryd i Huw Jones gael trowsus newydd," meddai Dafydd, gan wenu tua choesau'r dyn bach. "Mae o'n fwy o glytia' nag o drowsus ers tro byd."

Hy, newid y stori i osgoi ateb y cwestiwn.


Wedi ymdroelli'n wyn a serth am dros hanner milltir, croesai'r llwybr bont fechan haearn ar ysgwydd y mynydd. Uchel oedd clonc yr esgidiau hoelion-mawr ar y bont, a phan gyrhaeddodd Owen hi, trawodd yntau ei draed yn drwm arni er mwyn iddynt ddeffro cymaint o sŵn â rhai Dafydd. Tu draw i'r bont yr oedd darnau o lechi wedi'u chwalu dros y llwybr, ac yna fforchiai'r Lôn Serth yn sydyn, un fraich yn llithro i'r ddeau dan goed a'r llall yn dringo hyd ymyl tomen o rwbel.

"Rhaid imi d'adael di 'rŵan, Now bach," meddai Dafydd. "Os na ddoi di efo mi i Bonc Rowlar."

18 Y CYCHWYN

“Na, efo 'Nhad yr ydw” i'n mynd. Mae o'n saethu hiddiw.”

“Efo chi mae o am ddŵad, 'Nhad,” meddai Dafydd pan ddaethant i'r fforch, lle'r oedai'r lleill i arosamdanynt. “Nhad yn saethu” ydi popath hiddiw."'

Dringodd Dafydd a thad Cecil y llwybr ar y chwith, a dilyn- odd y lleill y lôn dan y coed, ac Owen yn cerdded wrth ochr ei dad yn awr. Yn y coed yr oedd rhes o gytiau, a dynion yn rhuthro allan o rai ohonynt tua'r gwaith.

“Y Barics, yntê ?”” ebe Owen.

“Ia,” atebodd ei dad. “Dynion o bell sy'n byw yn rhain, wsti. Ond 'chydig sy ynddyn” nhw ar fora Llun fel hyn gan fod y rhai sy wedi bod gartra' i fwrw'r Sul yn cael dechra” gweithio awr yn hwyrach. Fydd 'na neb yma dros y Sadwrn a'r Sul ncsa”, a hitha'n Gyfri Mawr ddydd Gwecnar.”

“Yn y Barics yma y mae'ch partnar chi, yntê ?”

«3 Y BA

Rhoes Robert Ellis ddau fys yn ei geg a chwibanoedd dros y lle. Daeth dyn yn llewys ei grys i ddrws un o'r cytiau, chwif- iodd ei law arnynt, yna diflannodd yn ci ôl i'r cwt am ennyd, ac ymddangosodd drachefn a'i gôt yn un llaw a'r llaw arall yn cau botymau'i wasgod. _ Yr ocdd brechdan fawr rhwng ei ddannedd.

“Un sâl gynddeiriog ydi George yn y bora,” ebe Robert Ellis. “Ond 'does dim modd i'w gacl o i'w wely, medda'r hogia”.”

“O? Be'mae o'n wneud, Robat ?”

““Darllan tan ohydion, Lias Tomos.”

“9 Ydi o'n darllan 'i Feibil weithia”, dywad ?”

“Na, go 'chydig, mae arna” i ofn... Mae o'n Sais go dda, fel y gwyddoch chi, ac yn cael plesar mewn stracon a nofelau Saesnag o bob math. Un garw ydi George.”

“Ia, hogyn clyfar, yntê? Rocdd 'i dad o, John Hoblcy, felly o'i faen o. Ond piti 'i fod o'n un mor wyllt. Ia, wir,

piti garw, a 'fynta' mor alluog.” "Hylô, pwy ydi'r gŵr bonheddig yma, Bob?" gofynnodd George Hobley pan ymunodd â hwy. "Hwn ydi Now?"

"Ia, fachgan. 'Roedd yn rhaid iddo fo gael dwad i'n gweld ni'n saethu bora 'ma."

"O? Diwrnod bach yn y chwaral? Tipyn gwell na'r hen ysgol 'na, yntê, Now?"

Ia," meddai Owen gan roi tro ar ei ben a gwenu'n hynod gyfeillgar ar bartner ei dad: hwn oedd y gŵr callaf a welsai y bore hwnnw, y callaf o ddigon.

Dyn tenau, llon, ydoedd, yn hanner-chwerthin wrth lefaru ac yn gweiddi fel petai'r un y siaradai ag ef yn bur fyddar. Yr oedd tua phump a deugain, ond gwnâi ei wallt golau a'i lygaid gleision, direidus, iddo ymddangos lawer yn ieuangach. Cofiodd Owen iddo ddigwydd clywed ei fam yn sôn am "Y George Hobley 'na" droeon wrth ei dad, a'i thôn yn awgrymu nad oedd y gŵr hwnnw'n un i'w edmygu na'i efelychu. A chofiodd hefyd am y noson honno y gwelodd ef yn honcian allan o'r Crown ac y cafodd ei rybuddio gan ei dad i beidio â sôn gair am y peth wrth ei fam.

"Na, 'dydi o ddim am aros drwy'r dydd, George," ebe Robert Ellis. "Mae'n rhaid iddo fo fynd adra'n syth ar ôl inni saethu. 'I fam o isio iddo fo redag tros 'i adroddiada' efo'i daid rhag ofn iddo fo'u hanghofio nhw, a'r gwylia' hir o'i flaen o."

"Wel, ia, hwn ydi'r adroddwr, ynte?"

"Y gora' yn y capal acw," meddai Elias Thomas â balchder mawr. "A chystal â neb yn yr ardal i gyd, o ran hynny."

Cerddent dros wastad o lechi yn awr, a chyn hir fesul un hyd ystlys tomen fawr, wasgarog. Safodd y cwmni ar ei hysgwydd ac yr oedd Elias Thomas, yn amlwg, yn falch o'r seibiant ac o gyfle i gael ei wynt ato.

"Dyma iti'r olygfa ora' yn Sir Gaernarfon, am wn i, Owen," meddai ymhen ennyd. "Yr hen Wyddfa a'r clogwyni o'i chwmpas hi; un, dau, tri llyn yn 'sgleinio fel gwydra' yn yr haul; hannar dwsin o nentydd yn hongian yn wyn ar y llethra' acw; a draw i'r dde caea' ac afonydd yn llithro i lawr tuag Afon Menai... Ia... Ia... Uchel yw dy ddeheulaw. . ." Ac ysgydwodd yr hen flaenor ei ben yn ddwys.

"Ia, Lias Tomos, ia, wir," meddai Huw Jones, gan swnio bron yn bregethwrol.

"'Chafodd O ddim llawar o hwyl ar y fargan 'na sy gynnoch chi, Lias Tomos," oedd sylw amharchus George Hobley. "Gwnithfaen bron i gyd, yntê?"

"Mae 'na dda a drwg mewn craig fel mewn pobol, George, 'machgen i," atebodd blaenor yn dawel. "Oes, mae 'na wnithfaen yng nghalon y ddau weithia', wel'di."

Nid oedd Owen yn meddwl cymaint o bartner ei dad ar ôl clywed ei eiriau am y wenithfaen. Teimlai fel y gwnaethai y bore Sul hwnnw pan alwodd Wil Cochyn Dduw yn "hen snîc" am ei fod yn gwylio rhywun ddydd a nos. Wedi iddynt gyrraedd y llwybr lletach tu draw i ysgwydd y domen, cerddodd, yn reddfol bron, wrth ochr Elias Thomas, a thôn ddirmygus ei fam wrth sôn am "y George Hobley 'na" yn atgof annifyr o gryf yn ei feddwl.


Yr oedd Britannia yn bonc lydan braf, a rhes hir o gytiau agored, y "waliau" lle'r oedd y dynion yn hollti a naddu'r cerrig, hyd un ochr iddi ac o'u blaen hwy bentyrrau taclus o lechi o wahanol faint. Rhedai rheiliau drwy ganol y bonc, rhai tua phen y domen ac eraill tua'r Twll. Safai gwagenni rhydlyd arnynt, yn barod i'w llwytho â rhwbel o'r waliau ac â cherrig a baw o'r Twll.

"Yr ydw' i'n mynd i'r Twll, Now bach," meddai Robert Ellis wrth daro'i gôt ar fachyn yn ei wal a gwisgo un arall hen a chlytiog yn ei lle. "Fasat ti'n licio rhedag draw i wal Lias Tomos am dipyn?"

"Ond... ond 'cha' i ddim dŵad efo chi, 'Nhad?"

"Na, os doi di i lawr i'r Twll mi fyddi fel pelican ymhell odana' i a finna' i fyny yn y rhaff, wsti."

"Twt, mi geiff yr hogyn aros yma efo mi nes bydda' i'n dŵad i lawr i'r Twll, Bob," meddai George Hobley.

"O'r.. o'r gora', George. Ond meddwl yr on i y basa' fo'n fwy cartrefol efo'r hen Lias, a 'fynta'n 'i 'nabod o mor dda. Un go swil efo rhywun diarth ydi Now 'ma."

Gwelai Owen fod ei dad eisiau iddo fynd at y blaenor am dipyn yn lle aros yn y wal efo'i bartner. Pam, tybed? Daeth ateb i'r cwestiwn ar unwaith.

"Swil! Ond damia, 'fydd o ddim yn swil efo mi. 'Fyddi di, Now bach?"

"Na . . . na fydda'." A daeth eilwaith yr atgof am Wil Cochyn yn galw Duw yn "hen snîc." Ac am ddyn meddw yn honcian allan drwy ddrws y Crown. Cofiodd Owen hefyd na welsai George Hobley erioed yn Nhyddyn Cerrig, er y piciai i lawr i'r Llan ddwywaith neu dair bob wythnos i siopa ac i . . . i alw yn y Crown. Ac o dan ddylanwad ei fam a chan wybod mor dlawd oedd ei gartref gynt cyn i'w dad roi'r gorau i yfed, casai Owen y Crown â chas perffaith.

"Mynd at Lias Tomos am dipyn, 'Nhad."

"O'r gora', 'ngwas i, a mi ddaw George â chdi i lawr i'r Twll ymhen rhyw awr."

"Geiff o ddŵad yma atach chi am dipyn, Lias Tomos?" gofynnodd Robert Ellis pan ddaethant at wal yr hen flaenor.

"Ceiff, 'nen' Tad, â chroeso. Ac mi rown ni gyfla iddo fo naddu llechan ne' ddwy inni, on' rown, Huw Jones?"

Edrychai Huw Jones yn ddigrifach fyth yn awr. Trawsai hen gôt glytiog amdano, ac am ei ben gwisgai het galed felynwen a'i hymyl yn dechrau ffarwelio â'r gweddill ohoni. Syllodd yn hir a beirniadol ar Owen, ac yna daeth ei fysedd o hyd i bwt o bensil ym mhoced ei wasgod. Rhoes hwnnw rhwng ei ddannedd tra thynnai nodlyfr hynafol o'r boced tu fewn i'w gôt.

""Wn i ddim," meddai. "Ydi o wedi cael caniatâd i ddŵad i'r chwaral?"

"Wel, mae o yng nghwmni'i dad, Huw Jones," atebodd Robert Ellis.

"Hm... Enw?"

"Owen Ellis," meddai Owen, gan wincio ar ei dad.

"Enwad ?"

"Y?"

"Pa gapal ?"

"Siloam."

"O, Methodus, ia? Mae gynno' ni ddigon o'r tacla' hynny yn y chwaral 'ma'n barod. Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag.

"Methodistiaid creulon, cas,
Mynd i'r capal heb ddim gras,
Gosod seti i bobol fawr,
Gadael tlodion ar y llawr."

A chwarddodd Huw Jones am chwarter munud am ben ei ddigrifwch ei hun. Chwarddodd ymyl yr het hefyd, gan ddal i ysgwyd yn hir ar ôl i'w pherchennog sobreiddio.

Brysiodd nifer o ddynion heibio i'r wal ar eu ffordd i'r Twll ac ymunodd Robert Ellis â hwy. Gwyliodd Owen ef yn mynd, a theimlai'n falch o'i dad. Ef oedd y dyn mwyaf a'r cryfaf ohonynt oll, dros ei chwe throedfedd a'i ysgwyddau llydain yn ysgwâr a'i ben cringoch yn uchel. Dywedodd un o'i gymdeithion rywbeth digrif wrtho a thorrodd ei chwerthin llon, bachgennaidd, yn ffrydlif drwy'r bonc. Gresyn, meddyliodd Owen, na châi fynd i'r Twll i gynorthwyo'i dad-ac i brofi iddo y gwnâi chwarelwr. Ond fe ddôi cyfle ar ôl y saethu: ni fyddai raid iddo gychwyn adref tan tua deg.

Canai'r corn saith o'r gloch fel y troai'n ôl i'r wal. O Lan Feurig swniai'r corn bob amser yn dirion, a'i lais wedi'i leddfu gan y pellter, ond o agos yr oedd yn groch a haerllug a'i awdurdod yn ddiymwad. Gwyliodd y ddau chwarelwr wrth eu gwaith, Elias Thomas yn hollti clytiau o gerrig ac yn taro ar y pentwr wrth ochr ei bartner y crawiau a ryddhâi'r cŷn a'r ordd, a Huw Jones yn eu cymryd fesul un ar y "drafael", y fainc naddu, ac yn naddu pen ac ochr i bob un â'r gyllell cyn rhwbio hoelen y pren mesur yn gyflym hyd ymylon eraill y grawen er mwyn ei naddu yn llechen o fesurau arbennig.

""Fasat ti'n licio trio, 'ngwas i?" gofynnodd y dyn bach ymhen tipyn.

"Baswn, os ca' i."

Eisteddodd Owen ar y drafael, ac o dan gyfarwyddyd Huw Jones llwyddodd i naddu pen ac ochr i'r grawen, er mai yn boenus o araf y gwnâi hynny. Yna, eto yn araf ac yn hynod ofalus, cymerodd y pren-mesur a marciodd hi, gan orffen naddu'r pen a'r ochr arall iddi yn gywir ar hyd y marciau.

"Wel, wir, mae hwn wedi'i eni'n chwarelwr, Lias Tomos, ydi, 'tawn i'n peth'ma. Y tro cynta' i mi drio fy llaw, mi falis i'r grawen yn dipia' ulw racs, wchi. Ond 'drychwch, mewn difri calon, ar y lechan 'ma! Y gynta' 'rioed iddo fo'i naddu, ac mae hi'n ddigon da i'w rhoi ar do Bycinam Palas unrhyw ddydd ! Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag."

Gwyddai Owen mai tynnu ei goes yr oedd y bach, ond gobeithiai, er hynny, iddo ddangos peth medr ac y soniai Huw Jones amdano wrth ei dad. Teimlai braidd yn ddig wrth Elias Thomas am nad ymunai ef yn y clod. Ond yn y capel, fel arfer, yr oedd meddyliau'r blaenor.

"Mi fasat yn synnu mwy 'tasat ti yn yr Ysgol Sul efo mi ddoe, Huw," meddai. "Yn y drydedd bennod ar ddeg o Fathew yr oedd y wers, a phan ofynnis i i Owen 'ma egluro dameg y perl gwerthfawr . . ."

Ond bychan oedd diddordeb Huw Jones yn y perl gwerthfawr. "Mi wneiff hwn chwarelwr heb 'i ail, 'gewch weld," meddai. "Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag... Hwda, tria'r grawan fawr 'ma, Now bach. Marcia a nadda di hi yr un fath â'r llall, ond cymar ofal efo'r gongol bella' acw rhag iddi hi falu o dan y gyllall. Dim ots os gwneiff hi. Mi gei naddu llechan lai ohoni hi wedyn . . . Diawch, un peth'ma ydi hwn efo'r prenmesur a'r gyllall, Lias Tomos!"

Ond nid oedd Elias Thomas fel petai'n hoffi brwdfrydedd ei bartner uwch gorchestion y "jermon" newydd. Hy, os oedd o'n dal i feddwl y medrai o wneud pregethwr ohono, meddyliodd Owen, 'wnaeth o erioed fwy o gamgymeriad! . . .

"Dacw fo dy dad. 'Weli di o?"

Cerddai George Hobley ac Owen o'r bonc tua'r Twll.

"I fyny ar y rhaff acw? Dew!"

"Ia, ond yn y rhaff, nid ar y rhaff, fydd chwarelwr yn ddeud, wsti."

Gadawsant y bonc ymhell o'u holau a dilyn y rheiliau haearn i'r Twll ac yna ar ei draws at fargen Robert Ellis. A'r rhaff am ei forddwyd a'i ganol, a'i draed ar grib yn y graig, curai ef yr ebill hir yn ddyfnach, gan roi tro ynddo o guriad i guriad. "Mae o'n ddigon hir bellach, Bob," gwaeddodd George Hobley.

"Ydi, mi wneiff y tro, George. 'Ddoist ti â'r powdwr a'r ffiws a'r stamping?"

"Do, dyma nhw."

"Estyn nhw i mi."

Llaciodd y rhaff oddi am ei ganol, gan adael tro am ei forddwyd, ac yna gollyngodd raff fain i lawr i afael ei bartner. Rhoes yntau gwlwm am glust y botel bowdr, a phen y rhaff drwy'r cnotyn ffiws. Tynnodd Robert Ellis hwy i fyny a'u rhoi mewn lle diogel cyn gollwng y rhaff i lawr eilwaith am y 'pren stampio' a'r bagiaid o 'stamping'. Yna yn araf a gofalus, gan benlinio ar ei ben glin chwith ar y grib lle.safai, tywalltodd beth o'r powdr i'r twll. Gwyliodd Owen ef wedyn yn gwthio'r ffiws. yn bwyllog i mewn i'r twll nes teimlo ohono i'w flaen gyrraedd y powdr. Yna â'i gyllell boced torrodd y ffiws, gan adael darn helaeth ohono tu allan i geg y twll. "Ydi o'n barod i danio 'rŵan?" gofynnodd Owen wrth weld ei dad yn tywallt gweddill y powdr i mewn i'r twll. "Ddim eto, Now bach, nes rhoi'r stamping, y llwch gwyn o'r wal, ynddo fo. Dacw fo dy dad yn 'i dywallt o i mewn, wel'di, ac yn 'i wthio fo i'r twll hefo'r pren stampio. I gledu tipyn arno fo, wyt ti'n dallt . . . 'Oes gin' ti bapur poeth, Bob?" gwaeddodd ar ei bartner.

"Oes."

Datododd Robert Ellis ddarn o'r llinyn yng ngwead pen y ffiws a chlymodd ef am y 'papur poeth'.

"Iddo fo fod yn siŵr o danio, wyt ti'n gweld, Now bach," eglurodd George Hobley. "Dydi'r tân ar ben y ffiws ddim yn cydio bob amsar, wsti, a 'fydd gan dy dad ddim llawar o amsar i roi mwytha' iddo fo, na fydd? Os na fydd o isio cael 'i chwythu i . . . i Aberdaron."

"I be' mae'r llwch yn dda ?"

"Y stamping? I wneud y twll yn airtight, rhag i'r powdwr chwythu allan yn fflam heb wneud niwad i'r graig."

Trawodd Robert Ellis ben y ffiws dan garreg, ac wedi gollwng y botel bowdr a'r pren stampio a'r cwdyn i lawr, gorffwysodd ar y brig, gan wenu i lawr ar Owen.

Cyn hir canodd y corn naw a brysiodd Owen wrth ochr George Hobley i'r "cwt 'mochal ffaiar" ar ganol y Twll.

Ymgasglodd rhyw ugain o ddynion ynddo cyn i "gorn yr ail-dro" gyhoeddi ei bod yn dri munud wedi'r awr, ond llwyddodd y bachgen i aros wrth y drws i wylio'i dad yn tanio'r ffiws. Gwelodd ef wedyn yn llithro i lawr y rhaff, yna'n gafael yn ei chynffon a'i chlymu am biler carreg dipyn i ffwrdd fel na falurid hi gan y saethu, cyn rhedeg atynt i'r cwt-ymochel.

Pan dorrodd taranau'r saethu drwy wahanol dyllau'r chwarel, ychydig o sylw a gymerai'r dynion ohonynt, eithr ymgomio am bopeth ond eu gwaith. Pregethau'r Sul a oedd gan rai, a deuai'r geiriau "cyfiawnhad" ac "etholedigaeth" i mewn yn bur aml; siaradai eraill am ysgrifau Thomas Gee ac Emrys ap Iwan yn Y Faner; a chytunai dau ddyn yn ymyl y drws na fu erioed areithiwr fel Mr. Gladstone. Cwynai Huw Jones, a ddaethai i'r Twll erbyn hyn, fod gan ryw Ned Huws y drws nesaf iddo glamp o geiliog croch a'i deffroai am bedwar bob bore.

"Pam na bryni di o gynno fo, Huw?" gwaeddodd dyn arall, 'wag' y bonc.

"I brynu o? I be', dywad?"

"I dalu'n ôl iddo fo, debyg iawn."

"Sut . . . sut wyt ti'n feddwl, Robin?"

"Wel, os pryni di o, dy geiliog di fydd yn 'i ddeffro fo wedyn!"

Chwarddodd amryw, ond gwrando am sŵn y ffrwydriad yr oedd clustiau Owen.

"'Dydi'ch un chi ddim wedi tanio eto, 'Nhad?"

"Ddim eto. Mae'r ffiws yn un go hir, wsti."

"Ond mi fydd 'na gy.. goblyn o daran mewn munud," meddai George Hobley.

Ac yr oedd, pan dorrodd, yn "goblyn o daran", a'i hadlais dwfn yn crwydro'r bryniau a thrwy gilfachau pell y mynyddoedd Gwenodd Owen yn falch ar ei dad, awdur y rhu.

"Mae 'na sŵn go dda yn hon'na," meddai Huw Jones

"Ne' dyna ydw' i'n feddwl, beth bynnag."

"Piti na chaet ti daran fel'na yng nghefn y tŷ am bedwar bob bora, Huw," meddai'r 'wàg' gan ysgwyd ei ben yn freuddwydiol. "Mi fasa'n boddi sŵn yr hen geiliog 'na, wsti."

Owen oedd un o'r rhai cyntaf i frysio allan o'r cwt pan ganodd y Corn Heddwch am naw munud wedi'r awr. Gwelai fod plygion mawr islaw'r cwmwl o lwch lle bu'r saethu, a bod y graig, a fu'n llefn, yn fylchau bellach. Cerddodd yn dalog rhwng ei dad a George Hobley, gan benderfynu dangos ei nerth a'i fedr wrth gynorthwyo i lwytho'r wagen â phileri. Yr oedd ganddo awr arall i brofi y gwnâi chwarelwr.

I fyny ar y graig yr oedd plyg fel petai ar fin syrthio ond heb ei lwyr ryddhau gan y tanio.

"Rhaid inni gael hwn'na i lawr, George," ebe Robert Ellis.

"Rhaid, ne' mi fydd hi'n gwd-bei-blewyn arna' ni. Gad i mi fynd i fyny ato fo, Bob," meddai George Hobley, gan daflu golwg bryderus ar y graig uwchben.

Chwarddodd Robert Ellis a chydiodd yng nghynffon ei raff a'i dadfachu o'r piler.

"Mi fydd un sgwd yn ddigon iddo fo, George," meddai, gan roi'r rhaff i orwedd ar wyneb y clogwyn. "Estyn di'r wif 'na imi wedi imi fynd i fyny."

Llithrodd mân gerrig i lawr pan oedd tua deg troedfedd i fyny, a thybiai Owen fod y plyg yn gwyro.

"Y nefoedd, gwylia, Bob, gwylia!" gwaeddodd George Hobley.

Rhoes Robert Ellis droed yn erbyn wyneb y fargen i'w wthio'i hun ymaith, gollyngodd y rhaff yn ei ddychryn, a neidiodd. Landiodd ar ei draed ar wastad caled y llawr a'i ben yn cael ei ysgwyd fel un dol yn y cyhwrdd, ac yna syrthiodd ar ei gefn gan daro'i ben yn greulon yn erbyn darn miniog o graig Gorweddai yn ofnadwy o lonydd yn union o dan y plyg a oedd ar fin syrthio

Rhuthrodd George Hobley ac Owen ato i'w gludo i le diogel, ac ymunodd Huw Jones o'r fargen nesaf â hwy ar unwaith. Yr oedd wyneb y dyn bach yn wyn fel y galchen.

"M . . . mi g . . . gydia' i odano fo, George," meddai. "C . . . cymar di'i . . . goesa' fo, Now bach."

Llwyddodd y tri i'w gael i lecyn clir, a buan yr ymgasglodd nifer o ddynion o'i gwmpas. Tynnodd George Hobley ei gôt a'i phlygu a'i tharo dan ben ei bartner. Diferai gwaed o'r lle y trawsai'i ben, ond y llonyddwch diymadferth a ddychrynai Owen, fel petai'i dad, ar wahân i'w anadlu anesmwyth a'i gwynfan isel, yn gelain yno wrth droed y graig. Rhedodd un o'r dynion i ddal ei gadach poced dan bistyll a ffrydiai gerllaw, ond er iddynt agor ei goler a gwlychu'i wyneb, ni ddychwelodd ymwybod i Robert Ellis.

"Rhed i'r Offis i ddeud wrthyn' nhw, Twm bach," meddai George Hobley wrth hogyn gerllaw. "A dywad wrthyn' nhw am roi gwbod i'r Hospital."

"Tyd, Robin, i nôl y s . . . strejar," meddai Huw Jones, gan ruthro ymaith.

Gwnaethant yr hyn a allent â chadachau poced a phethau tebyg, ac yna nid oedd dim ond aros am y stretcher. Yr oedd hwnnw ar ffurf blwch hir, a thyngai llawer un y byddai'n well ganddo drengi na chael ei roi yn yr 'arch' fel y gelwid ef yn aml. Ond gan ei fod yn anymwybodol o hyd, nid oedd gan Robert Ellis un dewis pan gyrhaeddodd y stretcher, a chodwyd ef iddo a rhoi'r holl faich wedyn ar wagen i'w wthio'n araf o'r Twll i'r bonc.

Aethai'r sôn am y ddamwain fel tân drwy'r bonc a daeth gwŷr y waliau yn dwr i'w cyfarfod. Brysiodd yr hen Elias Thomas yn syth at Owen.

"Yr ydw' i wedi gyrru rhywun i fyny i Bonc Rowlar at Datydd," meddai. "Mi fydd o yma mewn munud, Owen . . . O, dacw fo'n dwad, fachgan."

Safodd yr orymdaith ennyd pan ymunodd y Stiward, dyn o'r enw Richard Davies, â hwy.

"Daria, rhowch le iddo fo anadlu, ddynion," meddai ef.

"Peidiwch â gwyro uwchben y stretcher."

"Diolch, Robin," meddai George Hobley wrth ddyn a redasai i'r Barics i nôl potelaid o frandi. ""Ga' i roi diferyn o hwn iddo fo, Mr. Davies?"

"Na, mae'n well peidio. Doeth ydi aros nes i'r Doctor 'i weld o. 'Falla' mai tagu wnâi o, a 'fynta' heb ddŵad ato'i hun . . . Mi ddigwyddodd damwain debyg ym Mhonc Nelson. dair wythnos yn ôl . . . "

"I Wil Robaits—Wil Leghorn, chwadal ninna'—yntê ?" "Ia, ac mi fu ddiwrnod cyfa' cyn dwad ato'i hun. Ond mae o'n ôl wrth 'i waith hiddiw . . . Pwyll 'rŵan, hogia' . . . yn ara' deg . . . Mi fedrwn fynd â fo ar y wagen i'r Ysgwydd, a 'fydd dim llawar iawn o waith cario o'r fan honno. Ond mae'n well i wyth ohonoch chi ddŵad efo ni—dau bedwar, yntê?"

Bwriadai Owen fynd gyda'r rhai a ofalai am ei dad, ond ataliwyd ef gan Elias Thomas.

"Mi ddo' i adra' efo chdi, Owen, 'machgan i," meddai.

"Rhag ofn i'th fam feddwl bod pethau'n waeth nag y maen' nhw, yntê? 'Dydi o ddim i'w weld wedi torri dim byd, ac felly 'does 'na ddim i boeni yn 'i gylch. Tyd, 'ngwas i, mi awn ni."

Na, nid oedd dim i boeni yn ei gylch, ymgysurodd Owen ar ei ffordd i lawr tua'r pentref: dôi ei dad ato'i hun yr un fath â'r Wil Roberts hwnnw y soniodd Mr. Davies y Stiward amdano. Ond . . . ond dyna resyn i'r peth ddigwydd ar y bore pan aethai ef i'r gwaith i geisio cymell ei dad i'w dynnu o'r ysgol. Byddai gan ei fam ddadl arall yn awr—peryglon yr hen chwarel 'na. Caledodd llygaid Owen wrth syllu i lawr ar Lan Feurig ac ar do helaeth yr ysgol islaw Coed-y-Brain . . . Blwyddyn arall efo Cecil Mami a Bertie Glyn a rhai tebyg, a'i ffrindiau yn eu llodrau melfared a'u hesgidiau hoelion-mawr.

"O, mi ddaw o'n iawn, Owen, 'machgan i," meddai'r hen flaenor yn garedig, gan gamgymryd achos y gofid yn wyneb ei gydymaith. Ac yna, i newid y stori: "Edrych ar yr haul yn taro ar ffenestri'r ysgol ac yn'u troi nhw'n aur. Ond ydyn' nhw'n hardd, dywad?"

"Ydyn'," meddai Owen, ond rhwng ei ddannedd.

𝒫𝑒𝓃𝓃𝑜𝒹 2

GWENODD yr hen ŵr wrth y tân wrth gofio'r celwydd a ddoi mor rhwydd i'w wefusau flynyddoedd wedyn . . . "Ia wir, 'mhlant i, gwnewch yn fawr o freintiau addysg. Ni fu raid i mi adael yr ysgol cyn bod yn ddeuddag oed a chasglu ychydig ddysg orau y medrwn i" . . . Celwydd, ac eto yr oedd yn wir. Ac yntau'n dyheu am fynd i'r chwarel, nid oedd angen gorfodaeth i'w yrru yno, ond, dyheu neu beidio, i Chwarel y Fron yr aethai pan orfu i'w dad roi'r gorau i'w waith. Heb yr hyn a enillai ef, er lleied ydoedd, pur dlawd fyddai byd y teulu yn Nhyddyn Cerrig.

Gorweddodd Robert Ellis yn amymwybodol drwy'r Llun hwnnw a thrwy'r nos, a phan ddaeth ato'i hun yng nghanol y prynhawn wedyn, yr oedd ei ben fel petai'n cael ei hollti â chŷn. Ni wyddai ym mh'le yr oedd, ond lle bynnag yr ydoedd nid oedd ganddo syniad yn y byd sut y daethai yno. Curai gordd enfawr yng nghanol ei ymennydd, a thu ôl i'w lygaid yr oedd gwifrau llosg yn serio nerfau a chnawd.

"Ym mh'le yr ydw' i?" gofynnodd yn floesg, a'i lais ei hun yn gwneud iddo feddwl am su isel yr hesg islaw Tyddyn Cerrig. Tynnodd rhywun lenni'r ffenestr o'r neilltu, ac aeth y boen. yn ei lygaid yn ganwaith gwaeth wedyn. Chwifiodd law ymbilgar tua'r golau a chaewyd y llenni drachefn.

Caeodd ei lygaid: yr oedd y boen wrth eu cadw'n agored yn annioddefol. Ceisiodd gofio beth a ddigwyddasai iddo a sut y daethai i'r lle hwn, ond rhywfodd ni faliai: y cwbl a ddymunai oedd i'r ing yn ei ben esmwytho a dwyn ymaith gydag ef y cysgodion enfawr, trwm, anniddig, a ymwingai tros ehangder ei feddwl fel cymylau o inc ar gaeau disglair, tanllyd. Gwasgodd ei amrannau'n dynn, gan grychu'i dalcen a chau ei ddannedd yn ffyrnig, ond daliai'r ordd i guro a'r gwifrau i losgi a'r caeau llachar i ddisgleirio a'r cymylau aflonydd i lusgo'u cysgodion. plwm. O, na allai gysgu am dipyn a deffro'n rhydd o'u gormes! Cysgu . . . efallai mai cysgu yr oedd ac mai hunllef oedd y dychrynfeydd hyn oll. Rhoes rhywun ddiferyn o frandi rhwng ei wefusau, ac anwylodd ei dafod sych ef yn hir cyn gollwng ei surni brathog i lawr ei wddf. Na, yr oedd yn effro, rhaid ei fod yn effro.

"Dyna chi, mi deimlwch yn well 'rwan."

Edrychodd drwy gaddug o boen ar y wraig ganol-oed a weinyddai arno.

"Ym mh'le yr ydw' i?" gofynnodd eilwaith. "Yn Hospital y chwaral. 'Wnewch chi drio tamaid o fwyd ysgafn 'rwan?"

"Dim, diolch . . . Sut . . . sut y dois i yma?"

"Mi gawsoch ddamwain i'ch pen. Bora ddoe."

Damwain? Teimlodd y rhwymau am ei ben a nodiodd yn ffwndrus. Bore ddoe? Cofiodd ddringo'r rhaff, a George Hobley a Now yn ei wylio, ond yr oedd ei gof yn wag wedyn. Ai'r plyg a syrthiodd a'i daro? Neu ai colli'i gydbwysedd pan neidiodd a wnaethai, a tharo'i ben ar garreg neu ar lawr y fargen? Nid oedd ddim callach o ddyfalu.

"Ydi fy ngwraig i'n gwybod, Nyrs?"

"Roedd hi a'r ddau hogyn yma neithiwr am oria'. Triwch gysgu am dipyn 'rŵan. Mae gynnoch chi gur yn eich pen, ond oes?"

"Cur? Dwsin ohonyn' nhw . . . dau ddwsin. A sychad ofnadwy."

"Llyncwch y ddwy dabled 'ma. Mi fyddan' yn help i chi . . . I lawr â nhw . . . Dyna chi. A dyma i chi ddiod o lefrith . . . Yn ara' deg, 'rŵan."

Yfodd yr hanner cwpanaid yn awchus a gofynnodd am ychwaneg: teimlai y gallai ddrachtio Afon Meurig bob diferyn. "Na, 'chewch chi ddim chwanag 'rŵan," meddai'r nyrs. "Triwch gysgu: mi fydd hynny'n fendith fawr i chi."

Fflachiai dreigiau o'r gwifrau llosg tu ôl i'w lygaid a gwasgodd. Robert Ellis ei amrannau ynghyd eto i geisio'u diffodd. Ond cyn hir, o dan ddylanwad y ddwy dabled, pylodd eu disgleirdeb a thawelodd sŵn yr ordd a chollodd y cŷn a holltai'i ben ei rym miniog. Pan alwodd Dafydd ac Owen yn yr hwyr, yr oedd eu tad yn dal i gysgu, ac ni ddeffroes tan oriau mân y bore wedyn.


Ar y bore Sul wedi'r ddamwain y daeth yr ofn gyntaf i feddwl Robert Ellis. Erbyn hynny eisteddai i fyny yn ei wely, a thynasid ymaith y rhwymau oddi am ei ben, gan adael y plaster yn unig. Yr oedd wedi eillio'i wyneb yn ofalus y bore hwnnw a theimlai, wrth fwynhau mygyn gyda chwpanaid o de, yn hapus iawn. Dywedai'r nyrs ei fod "yn dwad ymlaen yn champion", ac nid oedd y cur a fu'n ceisio hollti'i ben yn ddim ond anghysur disylw bellach ac fe ddiflannai'n llwyr cyn hir, meddai'r meddyg.

Rhoes y cwpan ar y bwrdd wrth y gwely, ac yna ymsythodd ar ei eistedd a gwyro ymlaen i syllu drwy'r ffenestr. Gwelai linell syth yr afon ymhell islaw a thu draw iddi y Ddôl Lydan a chaeau ffermdy Llwyn Bedw ac yna'r pentref gwasgarog hyd y llechweddau uwchlaw iddynt. Chwiliodd ei lygaid am Dyddyn Cerrig, a safai o'r neilltu gerllaw'r ffordd a ddringai tua'r Ysgol a Choed-y-Brain. Ond nis gwelai . . . Rhyfedd . . . Wrth gwrs, yr oedd yn bell iawn a tharth y bore'n cuddio'r Llan . . . Ond . . . ond nid oedd mor bell â phan safai ar ben Lôn Serth, a hyd yn oed ar ddiwrnod glawog gallai weld ei gartref oddi yno. Gallai . . . Rhyfedd . . . Ac erbyn meddwl, nid oedd to mawr yr Ysgol nac wyneb Capel Siloam yn . . . yn glir o gwbl. Yn glir? Oni bai ei fod yn gwybod lle'r oeddynt, gwyddai na fedrai eu hadnabod fel Ysgol a Chapel.

Brysiodd y nyrs i mewn i ddwyn ymaith lestri'r brecwast.

"Wel, wir, yr ydach chi'n well hiddiw, ond ydach, Robert Ellis ?" meddai. "Yn ista' i fyny yn eich gwely ac yn smocio'n braf!"

"Faint fydda' i yma eto, ydach chi'n dybio, Nyrs?"

"Rhyw wythnos arall, neu ddeng niwrnod efalla'. Os byddwch chi'n byhafio, yntê?"

"Nyrs?"

"Ia?"

"Sefwch wrth y ffenast' 'na am funud, 'wnewch chi?"

Ufuddhaodd hithau ar unwaith: credai fod boddio mympwyon dynion claf yn rhan bwysig o'i gwaith.

"Bora clir, braf, yntê?" meddai hi wedi iddi groesi at y ffenestr.

"Y? Clir? A'r hen darth 'na dros y pentra' i gyd!"

Edrychodd hi'n ddryslyd arno: ond doeth oedd peidio â dadlau â chlaf.

""Welwch chi gapal Siloam, Nyrs?"

"Gwela'. Ond 'does 'na neb ar y ffordd eto. Rhy gynnar o lawar. O, hannar munud. Mae 'na ddau ne' dri ar y lôn uwchlaw iddo fo. Yn mynd i'r gwasanaeth cynnar yn yr eglwys, mae'n debyg."

"Nyrs?"

"Ia, Robat Ellis?"

""Wela' i mo'r capal na'r ysgol na'r eglwys na dim."

"Be' ydach chi'n feddwl?" "Mi wela' siâp y pentra' a Choed-y-Brain uwch 'i ben o, ond 'fedra' i wneud dim allan yn fanwl. 'Welwch chi Dyddyn. Cerrig?"

"Gwela', debyg iawn. Mae 'i walia' fo'n glaerwyn yn yr haul bora 'ma. A mae 'na rywun yn troi tuag ato fo o'r ffordd."

"Wil Llefrith, mae'n siŵr. 'Wela' i mono fo."

"Na finna' 'rwan. Mae o tu ôl i'r llwyni sy wrth ochor y llwybyr."

"Wela' i mo Dyddyn Cerrig heb sôn am rywun ar y llwybyr. 'Ydach chi'n . . . 'ydach chi'n meddwl bod rhwbath wedi digwydd i 'ngolwg i, Nyrs?"

"O, dyna sy'n poeni'ch pen chi, ia?" A chwarddodd hi i'w gysuro. "Be' ydach chi'n ddisgwyl ar ôl yr ergyd gawsoch chi? Mi deimlwch bob math o betha' rhyfadd am ddiwrnod ne' ddau. Yr ydach chi—a phob dyn, am wn i—fel John 'mrawd. Tipyn o boen ym mawd 'i droed o—a dyna fo am gael i gaethiwo hefo'r cryd cymala' am weddill 'i ddyddia'." Ac aeth ymaith gan chwerthin—ond gan benderfynu sôn am y peth wrth y meddyg er hynny.

Suddodd Robert Ellis yn ôl i'r clustogau, gan geisio anghofio'i bryder. Ia, yr ysgytwad a gafodd a amharodd ar ei olwg. A'r hen gur ofnadwy hwnnw a'i poenodd am ddyddiau. Ia: dôi ato'i hun mewn diwrnod neu ddau. Ond er iddo gredu geiriau'r nyrs, daliai i wyro ymlaen a rhythu tua Llan Feurig bob hyn a hyn drwy'r bore, gan obeithio bob tro y byddai'r tarth a orweddai tros y pentref wedi llithro ymaith.

Galwodd Dafydd ac Owen a Myrddin, ei fachgen saith mlwydd oed, yn y prynhawn—y ddau olaf yn falch o gael osgoi'r Ysgol Sul, ac anghofiodd eu tad ei ofnau'n llwyr yn eu cwmni. Wedi iddynt roi'r newyddion pwysicaf iddo, edrychodd Myrddin yn slei arno a'i law ar y boced tu fewn i'w gôt.

"Mae gin' i bib bren, Tada," meddai.

"Taw, fachgen!"

"Ond 'newch chi ddim deud wrth 'Mam, na 'newch?"

"Pam, 'ngwas i?"

""Ron i'n 'i chanu hi bora 'ma ar ôl capal, ac mi ddaru hi 'i dwyn hi odd' arna' i. Ond mi ddois i â hi hefo mi i chi gael 'i gweld hi. 'Newch chi ddim deud, na 'newch ?"

"Na wna', debyg iawn. Lle cest ti hi? Gan Ffowc y Saer?" "Ia, ac mae o am fy nysgu i i'w chanu hi'n iawn, medda' fo."

"Ac mi wneiff yr hen Ffowc hefyd, wsti, os ydi o wedi gaddo."

"Mi faswn i'n 'i chanu hi i chi 'rŵan 'tasach chi. . . 'tasach chi . . .”

"'Taswn i'n be', 'ngwas i?"

"'Tasach chi'n gofyn imi."

"O! Wel, cana hi 'ta', Myrddin, imi gael dy glywad di."

"Chi sy'n gofyn, cofiwch—er mai dydd Sul ydi hi."

"Ia, fi sy'n gofyn, 'r hen ddyn, a fi fydd yn cael row."

"Mi gana' i emyn, yntê? 'Fydd 'na ddim allan o le yn hynny, na fydd?"

Ond er bod wyth o dyllau ar y bib a nodyn gwahanol i bob un, undonog iawn oedd yr emyn, a phrin yr adwaenid hi gan ei chyfansoddwr petai'n digwydd ei chlywed.

"Yr Hen Ganfed, yntê ??" meddai Dafydd.

Edrychodd Myrddin yn ddirmygus arno. "Naci," meddai'n gwta. "Y Delyn Aur."

"O, chdi sy'n gwbod, 'r hen ddyn."

Gwrandawsant mewn edmygedd dwys am dipyn, ac yna cofiodd Dafydd fod ganddo gopi o'r papur lleol, "Y Llusern," i'w roi i'w dad. "Diawch, mi fu bron imi ag anghofio, "Nhad," meddai, gan ei dynnu o'i boced. "Rydach chi wedi mynd yn ddyn reit enwog. Mae'ch enw chi yn y papur."

"Y tro cynta' 'rioed, am wn i, fachgan," meddai Robert Ellis, gan gymryd y papur o'i law.

"Dyna fo, o dan Llan Feurig . . . 'Damwain yn Chwarel y Fron'." Gwelai'r tad y geiriau LLAN FEURIG er eu bod yn búr aneglur, ond craffai'n ofer ar y fan argraff o dan yr enw. Dychwelodd yr ofn i'w galon a chynhyrfodd drwyddo. meddai'n gas wrth Myrddin.

"Rho'r gora' i'r sŵn 'na, wnei di, hogyn!" "Wyddost ti ddim fod dy dad yn sâl?"

Tawodd y bib bren a syllodd y tri mab yn syn ar eu tad. Ni chofient ef yn cyfarth fel hyn erioed o'r blaen. Gŵr hapus, llawn o chwerthin, oedd ef, fel rhyw hogyn mawr anghyfrifol yn hytrach na dyn mewn oed Hyd yn oed yn y dyddiau pan dreuliai oriau yn y Crown bob nos Sadwrn, ni fyddai byth yn wyllt a chwerylgar: dôi tuag adref dan ganu a chlebran a chwerthin, gan aros yn aml ar y ffordd i ddweud stori ddigrif—neu un y tybiai ef ei bod yn ddigrif—wrth hwn a'r llall. A chytunai Llan Feurig yn dosturiol a dwys mai gelyn pennaf Robert Ellis oedd ef ei hun, gan ddiolch yr un pryd, o gofio'i nerth cawraidd, na throai'n sarrug yn ei ddiod. Yr argian, petai ef yn dechrau ymladd, meddent, fe loriai ddwsin o ddynion cryfion cyn ei orthrechu, a chyda gwên ddiolchgar y cofient am ei straeon a'i ddywediadau ffôl ar ei daith swnllyd drwy'r pentref. Pe haerai ar y nosau hynny fod pob un a gwrddai yn feddw gaib, fe gutunai pawb ag ef yn wylaidd ac edifeiriol, gan wrando'n astud ar ei gyngor a'i siars a chredu â mawr ryddhad yn ei argyhoeddiad bod gobaith i'r truenusaf rai. A phan âi ef a'i chwerthin rhuadwy ymlaen i'w taith, cofient iddo unwaith, wrth ladd-dy Rhys y Cigydd, gydio yng nghyrn tarw gwyllt ac ysigo'r anifail nes bod hwnnw'n gorwedd yn orchfygedig ar fin y ffordd. Hir fyddai'r sôn am yr ornest aruthr honno.

Rhoes Myrddin y bib bren yn ôl yn ei boced yn araf, gan wenu'n euog ac ansicr ar Owen a Dafydd arno ef, meddai'r dagrau a gronnai yn ei lygaid, yr oedd y bai am ddicter ei dad. "Na, paid a'i chadw hi, Myr, 'r hen ddyn," meddai Robert Ellis, gan edifarhau am ei wylltineb sydyn. "Mi gawn ni diwn eto cyn iti fynd, yntê, 'ngwas i? 'Yr Hen Ganfed' y tro nesa', yntê?"

"Ia." Ond llithrai'r dagrau i lawr ei ruddiau bellach.

"Be' mae'r papur 'ma'n ddeud, Dafydd ?" gofynnodd y tad.

"O, dim o bwys. Dim ond i chi syrthio wrth ddringo'r rhaff a tharo'ch pen ar ymyl plyg, a dweud mor falch ydi pawb o ddallt eich bod chi'n gwella cystal. Mae 'na hanas cynhebrwng hogan Edward Edwards, Tŷ Crwn hefyd, a phriodas Llew'r Hafod, a'r Cwarfod Sefydlu yng nghapal Tabor."

Daeth y nyrs i mewn â the i'r claf, arwydd ei bod yn bryd i'r ymwelwyr gychwyn ymaith.

"Mi ddaw 'Mam ac Enid i fyny am dipyn heno, 'Nhad," meddai Dafydd.

"O'r gora', Deio . . . 'Ydi'r Doctor yma'r pnawn 'ma, Nyrs?"

"Rydw i'n 'i ddisgwyl o ar ôl te, Robat Ellis. Pam?"

"Mi liciwn i 'i weld o . . . "

"Wel, da boch chi rŵan, 'Nhad," meddai'r ddau fachgen hynaf.

"Ta-ta, a 'wna' i byth eto, Tada," ebe Myrddin.

"Hwda, dos â'r deisan 'ma efo chdi, Myr, 'r hen ddyn." A gwasgodd Robert Ellis ysgwydd ei fab ag un llaw a gwthio teisen i'w ddwylo â'r llall. Cerddodd Myrddin allan a'i lygaid yn disgleirio'n llon.

Yn araf a pheiriannol y bwytaodd y tad ei de, heb ei fwynhau. Gorweddai'r papur ar y gwely a syllodd yntau'n ddig arno, fel petai mai ar y papur a'i fân lythrennau yr oedd y bai am ei olwg diffygiol. Cydiodd yn ofnus ynddo a rhoes ef i lawr drachefn. Meddyliodd am Fyrddin bach a'i bib, am Ffowc y Saer a'i ddwylo deheuig, am Ned Tŷ Crwn a marwolaeth sydyn ei unig ferch, ond er ei waethaf llithrar'i feddwl a'i lygaid tua'r tryblith niwlog a oedd yn y papur newydd Yr arswyd annwyl, ef, Bob Tyddyn Cerrig o bawb, yn fyr ei olwg! Ers talm, pan sleifiai i fyny'r afon yn nirgelwch y nos weithiau, yr oedd ei "lygaid cath" yn ddihareb ymhlith ei gymdeithion. A oedd Ned Tŷ Crwn gyda hwy y noson honno pan aeth y cipar o Sais hwnnw ar ei hyd i'r afon? Oedd, debyg iawn, rhedeg ar ôl Pyrs Bach, brawd Ned, yr oedd y cipar ar y pryd, a Phyrs yn gwyro'n sydyn ar fin yr afon ac Adams yn baglu trosto nes... Ond... ond gallai rhywbeth gwaeth na bod yn wan ei olwg ddigwydd iddo. Beth... beth ped âi'n ddall? Rhoes y gorau i'w fwyd a rhythu'n llwm ar y papur ac yna drwy'r 'ffenestr. "Wel, wir," meddai'r nyrs pan ddaeth i mewn a gweld y brechdanau heb eu bwyta, "wnewch chi ddim tyfu'n ddyn fel hyn, Robert Ellis! 'Does dim o'i le ar y bwyd, gobeithio?"

"Na, mi ... fytis i ormod i ginio, mae arna' i ofn... Nyrs?"

"Ia?"

""Ydi'r Doctor wedi cyrraedd?"

"Ddim eto." Croesodd at y ffenestr i syllu ar y ffordd a droellai o'r ysbyty tua'r pentref. "O, dacw fo'n dwad yn 'i drap, yn ymyl y Bont Fain. Pam yr ydach chi isio'i weld o?"

"Yr ydw' i'n poeni am y llygaid 'ma. Mi ddaeth Dafydd â'r 'Llusern' imi gynna', ond 'fedra' i ddim gwneud rhych na rhawn o'r print."

"Mi ddeudith o'r un peth ag a ddeudis inna' wrthach chi bora 'ma. Ond mae'n well iddo fo gael eich gweld chi ar unwaith, rhag ofn."

Rhoes y Nyrs weddillion y te o'r neilltu ac aeth ati'n wyllt it dwtio'r ystafell cyn i'r meddyg gyrraedd. Wedi iddi gael Robert Ellis i edrych-ac i deimlo-fel pin mewn papur, rhuthrodd ymaith i nôl y taclau glanhau, a phan ddychwelodd yr oedd y frawddeg "Lle mae'r llwch 'na ?" wedi'i naddu'n ddwfn ar ei hwyneb. Gwthiodd y gwely arall a oedd yn yr ystafell tua'r ffenestr, ac yna aeth ar ei gliniau i dynnu'r llwch oddi ar y llawr.

"Dyna'r drwg efo rhyw dipyn o Hospital fel hon. Mae rhywun yn gorfod gwneud pob math o betha'. Dyna chi Jane 'nghnithar yn Lerpwl-nyrsio a dim arall. Braf ydi'i byd hi."

"Ydi Doctor Williams yn gwbod tipyn am lygaid, Nyrs?" "Ydi, debyg iawn. 'Does 'na ddim doctor gwell na fo yn y wlad 'ma-pan fydd o'n sobor... Hy, Jane 'nghnithar yn cwyno 'i bod hi'n methu cael amsar i drwsio'i 'sana' hyd yn od. Ond dyna fo, esgus iawn am fod yn un mor flêr, yntê?"

"'Ydi Doctor Williams wedi trin damwain fel hyn o'r blaen, Nyrs?"

"Dwsina' ohonyn' nhw . . . 'Wn i ddim o b'le mae Jane yn dŵad, na wn i, wir. A'i thad hi a'i mam hi yn rhai mor dwt a thaclus bob amsar."

"'Oedd 'na rai ohonyn' nhw'n cwyno efo'u llygaid, Nyrs?"

"Oedd, amryw, am dipyn. Y sioc, wrth gwrs. Be' arall sy i'w ddisgwyl ar ôl ergyd fel'na i'ch pen ? . . . Na, 'dydw' i ddim yn dallt Jane o gwbwl, mor flêr a hitha' mewn lle fel Lerpwl.

'Ydach chi'n cofio'i thad hi-John Wmphras, John Larts' chwadal nhwtha'?"

'Faswn i'n 'nabod rhai ohonyn' nhw,

"Ydw'n iawn.

Nyrs?"

""Nabod pwy?"

"Rhai o'r dynion oedd yn cwyno efo'u llygaid." ""Wn i ddim. 'Rhoswch chi imi gael trio cofio . . . Wel, dyna hwn'na-er nad ydi Doctor Williams ddim yn debyg o sylwi a ydi'r lle yn lân ai peidio. Y gwely 'na'n ôl 'rwan . . . Mae'r Doctor yng ngwaelod yr Allt Hir, mi fydd yma mewn pum munud . . .

Dyn bychan, tew, oedd y Doctor, a barf fel un bwch gafr ar ei ên, a honno, fel ei wallt tenau, yn britho'n gyflym. Ym- ddangosai'i ben lawer yn rhy fawr i'w gorff, ac nid rhyfedd iddo suddo i mewn rhwng ysgwyddau'i berchennog, gan wneud i rywun feddwl am iâr yn ei phlu. Edrychai'r ardal ar y Doctor fel "cymeriad", a mwynhâi yntau hynny, gan wneud a dweud pethau anghyffredin. Siaradai'n dawel a breuddwydiol, fel petai'i feddwl ymhell, ond mewn gwirionedd yr oedd y llygaid, a ymddangosai'n swrth a difater tu ôl i'r sbectol ddiymyl, yn rhai hynod graff. Yn ôl pob hanes, byddai wedi dyfod yn feddyg o fri oni bai iddo ei yfed ei hun allan o swyddi a chylchoedd pwysig yn Llundain. Yr oedd pobl Llan Feurig--a Huws y Crown yn arbennig—yn falch iawn o'r Doctor, ac er yr ysgydwai apostolion Dirwest eu pennau'n drist pan sonient amdano, daethai'r ardal oll i ganiatáu bod i athrylith ei phenrhyddid ei hun.

"Wel, a be' ydi hyn ydw' i'n glywad amdanat ti?" gofynnodd pan ddaeth i mewn i'r ystafell. "Ti" y galwai ef bawb yn ddiwahân.

"Fy ngolwg i, Doctor. 'Fedra' i ddim darllan y papur 'na."

"Hm. 'Rwyt ti'n lwcus."

"Lwcus?"

"Yn methu darllan 'Y Llusern.' Piti na fasa' pobol y cylch 'ma i gyd yr un fath â thi." A chofiodd Robert Ellis fod ymgyrch ddirwestol frwd newydd gychwyn yn y papur a bod un gohebydd wedi cyfeirio at "esiampl meddyg galluog mewn ardal arbennig."

Troes y doctor at y nyrs. "I don't suppose you've got an opthalmoscope here, Nurse?" gofynnodd yn ddiog, fel pe na bai'r peth o ddim pwys.

"No, indeed, we haven't, Doctor."

"No. I'll bring mine along to-morrow."

Gwyrodd uwchben y gwely a daliodd ei fys i fyny.

"Dilyn di 'mys i efo'th lygaid, ond paid â symud dy ben . . . Hm . . . Hm . . . 'Fedra' i ddim deud yn iawn tan 'fory, ond yr ydw i'n meddwl mai codi bwganod yr wyt ti. Y shoc, yr optic nerve wedi cael ysgytwad. Mi fedri ddarllan 'Y Llusern' bob gair 'mhen ychydig ddyddia', mae'n debyg—colofn Ebenezer Morris a phopeth, os ydi hynny o ryw galondid iti." Y Parch. Ebenezer Morris, gweinidog Siloam, a daranai fwyaf yn erbyn melltith y ddiod. "A 'rŵan, Nyrs, y dressing 'ma . . . Hm, mae dy goco-nyt di'n gwella'n iawn, beth bynnag."


Yr oedd y nyrs yn fuddugoliaethus wedi i'r meddyg fynd ymaith. "Dyna chi, be' ddeudis i wrthach chi?" meddai. "Welis i ddim hen fabis fel chi'r dynion. Bob tro y bydd. tipyn o gamdreuliad ar John 'mrawd, mae'r cansar wedi gafael yn 'i hen du-fewn o."

Chwarddodd Robert Ellis yn hapus wrth suddo'n ôl i'r clustogau 1 aros hyd oni ddeuai'i wraig a'i ail ferch i'w weld. A chawsant hwy ef yn un o'i hwyliau gorau y noson honno, fel un heb bryder yn y byd.

"Estyn fy mhwrs i mi, Emily," meddai pan godasant i gychwyn adref. "Diolch . . . Hwda, rho'r ddwy geiniog 'ma i Myrddin. I'w gwario yn siop Siani Da-da, dywad wrtho fo."

"Ond mi fasa' dima' . . . "

"Rho di nhw iddo fo, 'rŵan. Mi fûm i'n reit gas wrth yr hogyn pnawn 'ma. Ond 'doeddwn i ddim yn teimlo'n hannar da. Yr ydw' i'n champion erbyn hyn, hogan, yn champion."

Yr hwyr trannoeth pan oedd ar ei ffordd adref o'r gwaith, gwelai Dafydd y meddyg yn amneidio arno o ddrws ei dŷ.

"Mae arna' i isio chat efo chdi," meddai wedi i Ddafydd groesi'r ffordd ato. "'Fedri di alw yn y surgery heno?"

"Medra', Doctor."

"O'r gora'. Tua hannar awr wedi saith."

Nid oedd y peth yn bwysig, meddai ffordd araf a difater y meddyg o siarad, ond tybiai Dafydd y swniai'r doctor yn fwy didaro nag arfer. A guddiai ryw newydd drwg tu ôl i hynny? A oedd ei dad wedi gwaethygu'n sydyn?

Ond tawelwyd ei feddwl pan gyrhaeddodd Dyddyn Cerrig. Aethai Owen a Myrddin i weld eu tad y prynhawn hwnnw a chawsent ef wrth ei fodd ar ôl clywed y câi ddod adref ymhen. wythnos . . . Y Doctor Williams am awgrymu rhyw feddyginiaeth arbennig efallai, a honno'n un gostus. Wel, os oedd ei hangen ar ei dad, rhaid oedd ei fforddio.


Yr oedd yr olaf o gleifion yr hwyr newydd adael y surgery pan aeth Dafydd yno, a galwodd y meddyg ef i mewn ato ar unwaith.

"Mi wyddost fod dy dad yn cwyno efo'i lygaid, mae'n debyg?"

"Na, 'ddaru o ddim sôn wrtha' i, Doctor . . . 'ydi o?"

"Ydi, yn methu darllan na gweld ymhell drwy'r ffenast'."

"O . . . yr ydw' i'n dallt 'rŵan."

"Y? Dallt be'?"

"Pam yr oedd o'n gwylltio efo Myrddin bach pnawn ddoe.

'Ron i newydd roi'r papur iddo fo. Mi edrychodd arno fo ac wedyn mi wylltiodd yn gacwn am fod Myrddin yn cadw sŵn."

"Hm . . . m. Mi fùm i'n archwilio'i lygaid o bora 'ma."

"Wel, Doctor?"

"Mae gin' i wydr bach sy'n medru edrach i mewn drwy'r llygaid at y nerf tu ôl iddyn nhw. A 'dydw' i ddim yn licio golwg yr optic nerve."

"Be' mae hynny'n olygu, Doctor? Y rhaid iddo fo wisgo sbectol?"

"Fel y gwyddost ti, rhyw fymryn o ddoctor bach yn y wlad ydw' i—Doctor Williams Llan Feurig, a 'does dim disgwyl imi fod yn awdurdod ar bopath. Mae hwn yn achos lle dylid galw Specialist i mewn."

"A be' ydach chi'n 'i ofni, Doctor?"

Ond nid atebodd y meddyg. "Glywaist ti am Sir Andrew Sinclair?" gofynnodd.

"Naddo, wir, pwy ydi o?"

"Un o ddynion gora'r Deyrnas 'ma ar y llygaid."

"Lle mae o'n byw?"

"Yn Llundain 'rŵan, ond mae o'n digwydd bod yn aros yn ymyl Caernarfon yr wythnos yma. A 'fynta' ar 'i wylia', mae'n bur debyg mai fy rhegi i wneiff o os gofynna' i iddo fo ddŵad i weld dy dad, ond mi wnes i gymwynas â fo unwaith yn Llundain ac efalla' y bydd o'n cofio hynny. Os liciet ti a'th fam imi drio'i gael o yma . . . "

"Ar bob cyfri, Doctor, os gwnewch chi."

"O'r gora', mi sgwenna' i ato fo ar unwaith."

Galwodd y meddyg enwog yn ysbyty'r chwarel y prynhawn Gwener canlynol, ac yn yr hwyr brysiodd Dafydd i weld y Doctor Williams.

"Wel, be ydi'r ddedfryd, Doctor?"

"Ista' i lawr am funud . . . Sigaret?"

"Dim 'rŵan, diolch."

"Hm . . . m. Wel, mi ges i air efo dy dad ar ôl i Sir Andrew 'i weld o. Mi ddeudis wrtho fod y rhaid iddo fo orffwys am rai wythnosa', peidio â darllan dim am dipyn na gwneud un gwaith fydd yn gofyn iddo fo graffu o gwbwl . . . Hm . . . m." Yr oedd y meddyg yn bur anniddig ac nid edrychai i wyneb Dafydd.

"Rydach chi'n cuddio rhwbath, ond ydach, Doctor?"

"'Faint ydi d'oed di?"

"Pedair ar bymtheg, Doctor. Pam?"

"Hm . . . m. A'th dad yn hannar cant?"

"Wyth a deugian ddeufis yn ôl."

"Hm . . . m. 'Wyt ti mewn lle go lew yn y chwaral?"

"Na, lle gwael iawn sy gin' i."

"Hm . . . m." Croesodd y meddyg at gwpwrdd yng nghongl yr ystafell a thywalltodd lymaid o chwisgi iddo'i hun. Drachtiodd ef ar unwaith a dychwelodd at Ddafydd, a phelydryn o benderfyniad yn ei lygaid breuddwydiol.

"Pan soniodd y nyrs gynta' wrtha' i fod dy dad yn cael trwbwl efo'i olwg, 'doeddwn i ddim yn licio sŵn y peth yntôl. Mae llawar un wedi mynd yn ddall ar ôl damwain fel yr un gafodd o. Mi es â'r teclyn yma, yr ophthalmoscope, i fyny i'r Hospital bora Llun, ac mi welwn fod nerf y llygaid yn llwyd. Hm . . . m."

"Be' mae hynny'n olygu, Doctor?"

"Roeddwn i'n ofni'r gwaetha' wedyn, ond yn gobeithio fy mod i'n gwneud camgymeriad ac y basa' Sir Andrew'n meddwl yn wahanol. Ond . . . hm . . . m."

"Mi eiff. 'Nhad yn . . . yn ddall, Doctor?"

"Yn fuan, mae arna' i ofn."

Bu tawelwch anniddig rhyngddynt. Syllai Dafydd yn ymbilgar i wyneb y meddyg, ond cadwai ef ei olwg ar y llawr. Gwyddai Dafydd i'w dad a'r Doctor Williams fod yn gyfeillion. yn y dyddiau pan fynychai Robert Ellis y Crown, a gwelai atgof am yr amser hwnnw yn yr awgrym o wên ofidus ar ei wefusau'n awr.

"Ydi o wedi . . . wedi ama', Doctor?"

"Na, 'dydw' i ddim yn meddwl. 'Roedd o'n reit siriol pnawn 'ma."

"'Oes 'na ddim fedrwch chi 'i wneud, Doctor?"

Ysgydwodd y meddyg ei ben, a'i law'n chwarae'n nerfus. â'i farf. "Doedd gan Sir Andrew ddim i'w gynnig. Hynny ydi, dim i achub 'i olwg o. Ond mae pobol ddall y dyddia' yma yn cael 'u dysgu i fyw bywyd llawn a diddorol, wsti. Y dyn hapusa' y gwyddwn i amdano fo pan on i yn Llundain . . .

Ond mi gawn ni chat am hynny eto. Y peth pwysig 'rŵan ydi i'th dad wella a chryfhau, heb fynd i boeni am 'i olwg."

"Be' am 'Mam, Doctor? 'Fasach chi'n deud wrthi hi?"

"Baswn, yr ydw' i'n meddwl; mae'n well iddi hi gael gwbod.

A'th daid, Owen Gruffydd. Mae o'n siŵr o ddallt, a pheth da i'th fam fydd cael rhywun y medar hi siarad efo fo. A phwy well na'i thad 'i hun, yntê? Hm . . . m. Mae'n ddrwg iawn gin' i, 'machgan i, ond . . . hm . . . m, rhaid inni wneud y gora' o betha', on' rhaid?"

Y prynhawn Mawrth canlynol, aeth Owen a Myrddin. gyda'u taid, Owen Gruffydd, a'i gi, Carlo, i hebrwng eu tad adref o'r ysbyty.

Dyn tal, tenau, oedd Owen Gruffydd, a'i wyneb creigiog a'i dalcen uchel a'i drwch mawr o wallt claerwyn yn rhoi iddo urddas anghyffredin. Ar yr olwg gyntaf edrychai'n ŵr llym, anhyblyg, a phan oedd Owen yn ieuangach, yr oedd arno ofn ei daid a'i lygaid treiddgar a'i leferydd pwyllog, pregethwrol. Yn arbennig ar ambell Sul pan gâi Owen Gruffydd gyhoeddiad yn Siloam a chyfle i hyrddio byd a betws i dragwyddol golledigaeth. Yn yr oedfaon hynny crynai bron bawb yn y capel rhag 'llidiowgrwydd ei ddicter ef': nid Owen Gruffydd Tŷ Pella' a daranai o'u pulpud, ond rhyw Amos neu Eseia a gyhoeddai ddigofaint Duw yn erbyn Israel Ofnadwy a rhyfedd oedd huodledd Owen Meurig.

Ei enw barddol oedd "Owen Meurig", ac er na fentrai lawer tu allan i Golofn yr Awen yn "Y Llusern" yn awr, tystiai'r ddwy gadair dderw ym mharlwr Tŷ Pella' i'w ddwy gerdd "Sodom o Gomorrah" a "Jeroboam" gyrraedd tir uchel iawn, y naill yn eisteddfod Bryn Llwyd a'r llall yn Aber Hen. Ac ar furiau'r un parlwr hongiai tua deg ar hugain o fedalau arian wrth rubanau amryliw, yn brawf o athrylith Owen Gruffydd fel adroddwr eisteddfodol gynt. Yn yr un ystafell hefyd, mewn unigrwydd urddasol ar fwrdd bychan, safai'n cwpan arian a enillodd Côr Meibion Chwarel y Fron yng Nghaer Heli. Ond byr fu hoedl Owen Meurig fel arweinydd côr, er ei fod yn gerddor pur dda: nid oedd cyffelybu'r baswyr i gorn Enlli a'r tenoriaid i werthwyr penwaig na holi'n ddwys am annwyd rhai o'r altos y math o gefnogaeth a fwynhâi'r cantorion, a phan aeth yr arweinydd gam ymhellach un noson ystormus a dweud wrthynt am "fynd i ganu", i ganu yr aethant—ond dan faton fwy amyneddgar.

Rhoesai Owen Gruffydd y gorau i'r chwarel ers blynyddoedd, gan fyw ar ei enillion fel pregethwr achlysurol ac fel beirniad mewn eisteddfodau. Trigai ar ei ben ei hun yn y Tŷ Pella', bwthyn ar gwr y pentref, ond âi ef a'i gi, Carlo, i Dyddyn Cerrig i swper ddwywaith neu dair bob wythnos. Ddegau o weithiau ar ôl marw ei mam y ceisiodd Emily Ellis. gymell ei thad i ymgartrefu gyda hi a'i theulu, ond yr oedd ef yn berffaith hapus yn yr hen fwthyn, meddai, ac ni hoffai Elin druan iddo'i adael. Ei wraig oedd Elin, a soniai amdani fel petai hi'n fyw o hyd felly, y mae'n debyg, y ceisiai ddianc o'i unigrwydd syfrdan, oherwydd er ei bod hi mor dawel ac addfwyn, Elin Gruffydd oedd y dylanwad grymusaf ym mywyd ei rhyferthwy o wr. Ac wedi ei marw hi collodd yntau lawer o'i ynni chwyrn, gan fyw'n hiraethus yn y gorffennol ac adrodd wrth Garlo atgofion melys am Elin ac yntau'n blant gyda'i gilydd yn Ysgol Huws Coes Bren, am yr hwyl a gaent yn ifainc yn ffeiriau Bryn Llwyd, am golli'r fodrwy fore'r briodas, am eu hunig blentyn Emily yn "bwtan fach dew", am... Ond llithrasai niwl henoed tros y blynyddoedd wedyn, a'r darluniau pellaf oedd y rhai cliriaf, er mai i'r cyfnod a anghofiai y perthyn—ai bri'r medalau a'r cwpan arian a'r ddwy gadair ac enwogrwydd Owen Gruffydd fel pregethwr ac fel areithiwr chwyrn mewn. etholiadau.

Y pethau hynny, a aethai bellach mor ddibwys yn ei feddwl ffwndrus ef, a gofiai'r ardal, ac yn arbennig ei daranau o bregethau. Oherwydd yr oedd, yn ei anterth, yn bregethwr nerthol iawn a'r sôn am ei huodledd ysgubol ac am utgorn arian ei lais yn ymledu drwy holl siroedd y Gogledd. Cynghorai llawer un ef i fynd i'r Weinidogaeth, ond ni wnâi ef ond taflu'i ben hardd i fyny a gwenu. "Fi! Mi faswn wedi ffraeo efo'r blaenoriaid i gyd cyn pen mis a deud wrthyn' nhw am fynd i ganu! Na, mae'n well imi aros fel yr ydw' i." Fe'i adwaenai Owen Gruffydd ei hun yn o dda.

Cerdded a wnâi i'w gyhoeddiadau bron i gyd, ac nid oedd pymtheng neu ugain milltir yn ddim iddo. Pan weithiai yn y chwarel brysiai adref ganol dydd Sadwrn, bwytâi ddau blatiaid o lobscows, newidiai i'w ddillad patriarchaidd, cydiai yn y ffon gollen a enillasai wobr iddo mewn eisteddfod leol, ac i ffwrdd ag ef. Troediai i ganol Môn neu i bellterau Llŷn ym mhob tywydd, gan ddweud ei bregethau wrth y llwyni a'r creigiau ar fin y ffordd, a'i lais cyfoethog, ar ros neu forfa unig, yn codi i orfoledd yr hwyl. Ac yn yr 'hwyl' yr oedd Owen Gruffydd yn aruthr ac ysblennydd. Dechreuai'i bregeth bob amser yn dawel, gan egluro a dadansoddi, fel gwaedgi ar ôl pob trywydd. o ystyr yn ei destun: yna llithrai'r tipyn lleiaf o gryndod i'w lais fel y dechreuai'r proffwyd a'r bardd wthio'r esboniwr o'r neilltu. Cyn hir codai'r llais, âi afon redegog y geiriau yn rhaeadr, yn rhuthr a dorrai bob argae, yn rhu môr ar greigiau. Anghofiai Owen Gruffydd ei gynulleidfa, flachiai'i lygaid, crwydrai'n ôl a blaen yn y pulpud a'i ddwylo mawr uwch ei ben yn erfyn am daranfolltau o'r nef ar drythyllwch byd, am ddwyn ymaith wartheg Basan â drain a'u hiliogaeth â bachau pysgota, am dymestl genllysg neu gorwynt fel llifeiriant dyfroedd mawrion ar falchder a meddwon Effraim, am ffrewyll lifeiriol ar gelwyddau Jerwsalem, am ostwng dinas Ariel nes o'r llwch y bydd isel ei lleferydd hi, am . . . Ond geiriau, dim ond geiriau, meddai'r rhai a oedd yn eiddigus eu calon, gan orfod edmygu er hynny ogoniant y llais a'r llefaru ac angerdd ysgubol y proffwyd. o chwarelwr. Ac er eu gwaethaf troai'r crintachrwydd yn wir edmygedd pan glywid, yn yr emyn olaf, y môr o lais yn arwain y gân. Yna, wedi'r gwasanaeth a thamaid o fwyd, cychwynnai'r chwarelwr gerwin tuag adref. O'i flaen yr oedd y ffordd. hir, deng neu bymtheng neu ugain milltir ohoni efallai, ychydig oriau o gwsg yn y bore bach, ac yna gyda'r wawr y dringo llafurus i fyny Lôn Serth i'r chwarel. Rhaid bod Owen Gruffydd yn ddyn cryf yn y dyddiau hynny.

Ymladdwr a gwrthryfelwr oedd ef, a'i holl natur wrth ei bodd pan welai elyn i frwydro ag ef ac i daranu yn ei wyneb. Gelynion felly oedd Pechod (â llythyren fras, rhyw greadur tywyll, llechwraidd, creulon, yn prowlan fel rheol o gwmpas tafarndai), y Ddiod, y Babaeth, Eglwys Loegr a'r hen Gatecism y ceisiai hi ei wthio i lawr gyddfau plant Ymneilltuol mewn ysgolion, y Dreth Eglwys, y Dwymyn Seisnig, y Degwm, Gwrthwynebwyr Dadsefydliad. A bu'n arwr ac arweinydd drocon yn Llan Feurig a'r cylch. Yn fuan wedi iddo briodi, gwrthododd yn lân dalu'r Dreth Eglwys, ac yn rheolaidd am rai blynyddoedd cyn i'r dreth honno gael ei diddymu, galwai'r beiliaid yn Nhŷ Pella' i gludo ymaith beth o'r dodrefn. Uchel a chwyrn oedd ei lais hefyd ym mhob etholiad, er i Mr., wedyn. Syr, Oswald Meyricke, perchennog y chwarel, ddod i'r maes fel ymgeisydd Toriaidd. Collai amryw eu gwaith yn y chwarel ar ôl etholiad, ond—oherwydd ei huodledd a'i ddylanwad, y mae'n debyg—ni throwyd Owen Gruffydd ymaith. Cael ei roi, er ei fod yn grefftwr medrus, ar graig wael oedd ei benyd ef, a rhybela—"clirio baw", chwedl yntau—gan chwysu i ennill pymtheg i ddeunaw swllt yr wythnos. Cyn etholiad 1874, blwyddyn cyn geni Owen, rhoddwyd iddo fargen neilltuol o dda ac enillai'n rhwydd ddwybunt a chweugain yr wythnos. Gwenai'r Rheolwr yn gyfeillgar arno bob tro y dôi ef ar ei rawd heibio i'r bonc, a phroffwydai ambell 'wàg' y byddai Owen Gruffydd yn Stiward cyn hir. Pan nesaodd yr etholiad ac ymdaflu ohono ef iddo, rhewodd gwên Jones-Parry a galwodd ym Mhonc Boni i awgrymu'n gynnil fod craig a-chraig. Ar ôl yr etholiad fe'i cafodd Owen Gruffydd ei hun yn tynnu a chario gwenithfaen mewn rhan arall o'r un Twll. Slafiodd felly am fisoedd, ond gan wybod bod cerrig rhywiog tu draw i'r rhwbel a gliriai ef a'i bartner ymaith. Ond wedi iddynt agor ffordd at y llechfaen, daeth John Humphreys, y Stiward Gosod, atynt un bore, a nodiodd yn gwrtais tua rhwb a syrthiasai heb fod nepell i ffwrdd. "Mae arna' i isio i chi symud hwn'na 'rŵan," meddai, a'i wên mor loyw—ac mor gynnes—â'r heulwen aeafol a drawai ar ddarnau o rew yn y graig gerllaw. Trwy ryw ryfedd ras, fe'i meddiannodd Owen Gruffydd ei hun. "Rhwb go fawr, yntê, Mr. Humphreys?" meddai. "Bron cymaint â'r un ddaeth i lawr ar gefn Mr. Meyricke yn y Lecsiwn, am wn i." Yna syllodd i fyny ar y graig. "Hm, 'synnwn i ddim na ddaw un mwy i lawr y tro nesa', wchi. Mae'r hen graig yn dadfeilio'n o gyflym y dyddia' yma, ond ydi? Ydi, wir." Yna cydiodd yn ei gôt a'i gwisgo, casglodd ei arfau at ei gilydd, a cherddodd ymaith yn dalog heb air pellach. Ychydig flynyddoedd tros ei hanner cant oedd ef y pryd hwnnw, a byth er hynny. pregethwr achlysurol, adroddwr, areithiwr, beirniad eisteddfodol, a thipyn o lenor fu Owen Meurig. Main oedd ei fyd yn aml, ond ac yntau'n annibynnol bellach, yn rhydd i godi'i ddwrn yn wyneb pob camwri, ac i grwydro pan fynnai i'r Cyfarfod Dosbarth a'r Cyfarfod Misol, ni phoenai lawer am hynny. O waelod ei chalon diolchai Elin ei wraig, a welsai drueni rhai a drowyd o'u cartrefi yn ogystal ag o'r chwarel ar ôl etholiad, nad oedd Tŷ Pella' ar ystad Oswald Meyricke. dadfeilio'n o gyflym y dyddia' yma, ond ydi? Ydi, wir." Yna cydiodd yn ei gôt a'i gwisgo, casglodd ei arfau at ei gilydd, a cherddodd ymaith yn dalog heb air pellach. Ychydig flynyddoedd tros ei hanner cant oedd ef y pryd hwnnw, a byth er hynny. pregethwr achlysurol, adroddwr, areithiwr, beirniad eisteddfodol, a thipyn o lenor fu Owen Meurig. Main oedd ei fyd yn aml, ond ac yntau'n annibynnol bellach, yn rhydd i godi'i ddwrn yn wyneb pob camwri, ac i grwydro pan fynnai i'r Cyfarfod Dosbarth a'r Cyfarfod Misol, ni phoenai lawer am hynny. O waelod ei chalon diolchai Elin ei wraig, a welsai drueni rhai a drowyd o'u cartrefi yn ogystal ag o'r chwarel ar ôl etholiad, nad oedd Tŷ Pella' ar ystad Oswald Meyricke.

Nid âi Owen Gruffydd ar gyfyl Tyddyn Cerrig yn y dyddiau hynny, gan wrthod maddau i'w ferch Emily, cannwyll ei lygaid ef ac Elin, am briodi'r cawr anhydrin Robert Ellis. Oni fu ef, ei thad, am dros ugain mlynedd yn Ysgrifennydd "Cymdeithas Ddirwestaidd Llan Feurig"—y "Titotaliaid gythral 'na", ar lafar rhai mwy sychedig—gan drefnu Cymanfa a gorymdaith flynyddol na bu eu hafal yn yr holl sir? Ac onid yn erbyn melltith y ddiod y lluniodd ef rai o'i bregethau grymusaf, gan hyrddio'r meddwyn i'r 'tywyllwch eithaf', neu i 'lyn yn llosgi o dân a brwmstan'? Pan glywsai gyntaf am y garwriaeth, ffromodd yn aruthr, a bygythiodd yrru'i unig ferch tros y drws. Onid oedd y llanc a'i dad Dafydd Ellis a bron bawb o'r teulu ffiaidd yn nhir gwrthgiliad? Yr argian fawr, mab Dafydd Ellis y llofrudd, creadur a laddodd ei dad ei hun!

Nid oedd hynny'n hollol wir am Ddafydd Ellis. Syrthiasai plyg yn y chwarel ar gefn ei dad a threuliodd yr hen Effraim weddill ei ddyddiau mewn cadair. Ond ni chadwai hynny ef o'r Crown gwthiai'i fab ef i lawr i gefn y dafarn yn rheolaidd ddwywaith bob wythnos, a rhoddai focs a'i ben i fyny wrth ei ochr ac ar hwnnw dri pheint, ei ddogn o gwrw. Ond un hwyr, wedi pwl o afiechyd, hawliodd yr hen Effraim ddogn pythefnos ar un eisteddiad, gan fygwth ymlusgo o'i gadair ac o fywyd yr un pryd oni châi hwynt. Y diwedd fu i ddyn meddw gael ei wthio gan ddyn meddw arall i fyny'r Allt Wen y noson honno, y cyntaf yn chwipio'r ceffyl dychmygol a farchogai, a'r ail, a dybiai ei fod mewn angladd, yn gofyn iddo, mewn sibrwd dwys a thaer, ymdawelu ac ymddwyn yn weddaidd os gwelai fod yn dda. Wedi iddynt gyrraedd adref, brysiodd y gwthiwr i mewn. i'r tŷ am funud, ond, yn esgeulus, gadawodd y gadair tu allan a'i hwyneb tua'r goriwaered a heb garreg o flaen yr un o'r olwynion. Ond, chwarae teg iddo, yr oedd ei pherchennog wedi'i ddarbwyllo mai mewn cynhebrwng yr oedd ac wrthi'n canu am "daith yr anialwch" a "troeon yr yrfa" mewn edifeirwch bloesg. Yna, yn sydyn, fel y dychwelai'i fab i'w nôl, penderfynodd yr hen Effraim mai marchog ydoedd wedi'r cwbl, ysgydwodd yr awenau'n ffyrnig ag un llaw, cleciodd ei chwip ddychmygol â'r llall, dechreuodd godi a disgyn fel joci, gan weiddi "Ji-hyp! Ji-hyp!" ac i ffwrdd ag ef. Erbyn i Ddafydd Ellis gyrraedd y ffordd, yr oedd y gadair yn rhuthro fel car gwyllt i lawr yr allt a'r joci a eisteddai ynddi yn dal i yrru'n fuddugoliaethus tua phen y daith. Bu'r hen Effraim farw'n orfoleddus.

Mab y Dafydd Ellis hwnnw oedd y Robert Ellis yr oedd Emily mor hoff ohono. Ymresymodd Owen Gruffydd yn daer â'i ferch, ond ni thyciai na dadlau nac ymbil na gwylltio ddim. Y nefoedd fawr, oni wyddai hi fod Dafydd Ellis a'i fab yn medru difyrru diotwyr y Crown drwy adrodd, yng nghanol rhuadau o chwerthin, hanes yr hen Effraim yn marchogaeth i'w dranc? Do, fe glywsai Emily hynny, ond yr oedd hi'n sicr y gallai hi wneud dyn o Bob. Pa arweiniad a gawsai ef erioed? gofynnodd. Unwaith y câi ei gartref ei hun a thipyn o ofal a chysur, fe newidiai'n llwyr a dôi'r gorau ynddo—ei garedigrwydd a'i haelioni, er enghraifft yn fwy i'r golwg. Haelioni! rhuodd ei thad. Haelioni i ddeiliaid y Crown! Ac yn awr, os oedd y stori'n wir, etifeddasai ddeucant o bunnau ar ôl rhyw ewythr a gadwai dafarn ym Môn. Arian y Fall, wedi'i fathu o drueni a thlodi gwragedd a phlant anghenus. Ac unwaith y câi mab Dafydd Ellis y cyfoeth hwnnw i'w ddwylo, fe'i gwariai, fo a'i dad a'i frodyr a'i gyfeillion ysgymun, ar y ddiod felltigedig 'na. Na, meddai Emily, yr oedd Tyddyn Cerrig yn mynd yn wag, a threfnodd Bob a hithau i brynu gweddill y lês. Ofnai hyd yn oed Owen Gruffydd y penderfyniad a'r sicrwydd tawel yn ei llais.

Wedi'r briodas, ffromodd yn aruthr ac nid âi ar gyfyl Tyddyn Cerrig, a surodd yn fwy pan alwyd y baban cyntaf yn 'Ddafydd' ar ôl ei daid arall. Dôi Emily i Dŷ Pella' weithiau a galwai Elin Gruffydd yn aml yng nghartref ei merch, gan wirioni uwch y plentyn, ond caledodd Owen Gruffydd ei galon, er y gwyddai'r rhai a'i hadwaenai orau ei bod hi ar dorri o'i fewn. Hyd yn oed pan anwyd merch a'i bedyddio'n 'Elin', ni liniarodd ei ysbryd i bob golwg, beth bynnag. A suddodd yn ddyfnach i'w elyniaeth tuag ato pan gyfarfu â Robert Ellis, a hwnnw'n bur feddw, ar y ffordd un nos Sadwrn yn ffodus, digwyddai twr o bobl fod gerllaw ar y pryd a gwahanwyd y ddau cyn i eiriau fynd yn ergydion. Ganwyd Enid ryw flwyddyn yn ddiweddarach, ond er i'w ferch fod yn beryglus o wael wedi'r enedigaeth, cadwai Owen Gruffydd draw o Dyddyn Cerrig er gwaethaf erfyniadau dwys ei wraig. Felly y parhaodd am dair blynedd arall, nes geni'r baban a enwyd yn 'Owen'. "Yr un ffunud â'i daid," oedd barn pawb a welai'r bychan, a chan roi ei falchder heibio brysiodd Owen Gruffydd i Dyddyn Cerrig un noson i'w weld. Gwyrodd uwch ei ben, â dagrau hapus yn ei lygaid, ac yna cododd ef o'i grud i'w anwylo. Daeth Robert Ellis i mewn, ac yr oedd aroglau diod yn gryf arno. Rhoes y taid y baban yn ôl yn ei grud a cherddodd allan heb ddywedyd gair.

"Mae o mor styfnig â mul," meddai Robert Ellis drannoeth wrth Robin Ifans, 'wag' y bonc.

"Nac ydi, wir, Bob, mul sy mor styfnig â fo," oedd yr ateb, a gofalodd Robin fod y ffraethineb yn cael cylchrediad da yn y bonc a'r Twll. Cyrhaeddodd glustiau Owen Gruffydd a'i 'fuleiddio'n' fwy nag erioed.

Yr oedd Owen bach yn bedair oed cyn i'r wyrth ddigwydd. Dychwelodd Elin Gruffydd adref un hwyr a dweud bod rhyw bigyn ofnadwy yn ochr y plentyn. Gwthiodd Owen Gruffydd ddarn o bapur llwyd i'w boced, ac wedi rhoi mewn llestr lwyaid. fawr o driagl i'w thaenu arno, ymaith ag ef i Dyddyn Cerrig. Pan gyrhaeddodd yno, yr oedd y boen yn waeth a Robert Ellis ar fin cychwyn i dŷ'r meddyg. "Hy!" meddai'r taid, gan fynd ati fel un wedi hen arfer â dileu anghysuron o'r fath. A chyn pen chwarter awr, a'r pwltis o driagl a phapur llwyd ar ei ochr, yr oedd y bychan yn gwenu'n hapus ar ei daid. "Yr argian fawr!" meddai Robert Ellis mewn edmygedd syn. A bu'r ddau yn gyfeillion mawr wedyn.

Ar y prynhawn Mawrth hwnnw o Awst fel y cerddai Owen rhwng ei daid a Myrddin tuag ysbyty'r chwarel, sylwodd fod yr hen ŵr yn bur dawedog, fel petai rhyw bryder yn ei feddwl.

"Mae Now yn sâl isio mynd i'r chwaral, Taid," meddai Myrddin yn sydyn pan ddringent yr allt tua'r ysbyty.

"'Ydi o, 'ngwas i?... 'Rwan, Carlo, sa'n ôl, 'wnei di!"

"Ydi, wedi hen flino ar yr ysgol, medda fo."

"Felly yr on inna' yn 'i oed o. Yn iengach o lawar o ran hynny."

Bu tawelwch am dipyn. Disgwyliai Owen bregeth chwyrn ar fanteision addysg a siars i wneud yn fawr ohonynt, ond ni ddaethant, a cherddodd Owen Gruffydd ymlaen yn fud, fel petai'i feddwl ymhell. Yn fud ar wahân i'r sŵn a ddôi o'i wddf weithiau, yr un sŵn ag a wnâi Elias Thomas yn y Sêt Fawr wrth ategu sylwadau'r pregethwr. Ai cydsynio â'i feddyliau'i hun yr oedd?

"Do, mi es i i'r chwaral cyn bod yn ddeg oed," meddai ymhen ennyd, "ac am y nesa' peth i ddim. Os awn i â deunaw neu ddeuswllt adra' ar ddiwadd mis, yr on i'n cerddad i'r tŷ yn reit dalog."

Dringodd Owen yr allt fel un mewn breuddwyd. Yr oedd wedi gwrido at ei glustiau pan agorodd Myrddin ei hen geg fawr i ddweud ei fod ef yn dyheu am fynd i'r chwarel. Wrth Taid, wrth Taid o bawb! Ef oedd yr olaf un i grybwyll y peth wrtho : hyd yn oed ped ildiai'i fam, gwyddai Owen y gwnâi Taid ei orau glas i'w gadw yn yr Ysgol. Ond yn lle dweud y drefn a'i alw'n ffŵl, y cwbl a wnaeth oedd edrych yn ffwndrus a sôn amdano'i hun yn ddeg oed. Curodd calon Owen yn hyderus o'i fewn.

"Yr ydw' i bron yn ddeuddag, Taid," meddai, "ac mae pawb yn deud 'mod i'n hogyn mawr o f'oed."

"Wyt, fachgan ... wyt. Wyt, yn hogyn cry', diolch am hynny. Yr ydach chi i gyd yn blant cry' ac iach, i Dduw y bo'r clod. Ydach, bob un ohonoch chi. A 'thawn i yn y chwaral, mi faswn i wrth fy modd pe cawn i jermon fel chdi. Hogyn sâl iawn ges i ddwytha' yno, cena' bach slei a diog, a finna' wedi gwneud cymwynas â'i dad o, Edward Edwards druan, drwy'i gymryd o ata' i i'r wal. Ond pan yrrwn i o i'r efail efo gêr, mi fydda' yno am oria', yn clebran a stwnsian efo Twm Go'."

Ai Taid a lefarai? Fel rheol, pan soniai Owen am y chwarel wrtho, troai'r stori ar unwaith a siarad am adrodd neu farddoniaeth neu bregethu. Ond heddiw... Yr oedd y peth yn ddirgelwch mawr.

"Ond mae'r hen chwaral 'na wedi magu dynion gwych," chwanegodd Owen Grufiydd ymhen ennyd, fel pe mewn ymson. "Dyna Ifan Hughes Caer Heli. Yn y chwaral yr oedd o am flynyddoedd cyn mynd i'r Weinidogaeth. Ac O. R. Morris Llan Eifion. Ac Arfonydd a llawar o rai eraill. A 'thaswn i heb fod yn greadur mor wyllt pan on i'n ifanc..." Chwarddodd yn dawel yn lle gorffen y frawddeg.

"Gwerthu penwaig yr ydw' i am wneud, beth bynnag," meddai Myrddin, gan swnio'n bendant ar y pwnc.

"Dyna ddylwn inna' fod wedi'i drio, yn ôl rhai, fachgan Wel, os ei di i weiddi penwaig, gofala fod gin' ti benwaig i gael, a'r rheini'n rai gwerth gweiddi yn 'u cylch nhw. Mi wn i am lawer un sy â'i lais o'n ddigon croch ond â'i fasgiad o'n bur wag."

"Yn lle, Taid?" gofynnodd Myrddin. Ond yr oeddynt. bellach wrth ymyl yr ysbyty, a rhuthrodd Carlo ymlaen i gyfarch Robert Ellis.

Cronnodd dagrau yn llygaid y tad pan welodd hwy, a siaradai bymtheg y dwsin ar y ffordd adref, fel gŵr a ddaethai o garchar i lawenydd rhyddid. Yr oedd te cynnar yn eu haros ar y bwrdd yn Nhyddyn Cerrig, a thywalltodd Emily Ellis ddŵr i'r tebot. cyn gynted ag y clywodd hi sŵn Carlo'n cyfarth fel y ceisiai Myrddin redeg o'i flaen i fyny'r lôn.

"Dowch yn syth at y bwrdd," meddai pan ddaethant i mewn i'r gegin.

"Ond prin y mae hi'n dri o'r gloch eto, Emily," meddai'i thad.

"Dim gwahaniaeth. Mae Bob yn sgut am deisan fwyar duon, a 'chafodd o'r un yn yr hen Hospitol 'na, yr ydw' i'n siŵr.

Y rhai cynta' 'leni, Bob Owen wedi'u hel nhw ar y Fron."

"Yr ydw' inna'n sgut am deisan fwyar duon, 'Mam," ebe Myrddin, gan lithro i'w gadair wrth y bwrdd. "Ac 'rydw' i'n cal fy mhen blwydd wsnos i 'fory."

"Aros i dy daid ofyn bendith, hogyn," oedd gorchymyn ei fam. Eisteddasant i fwyta, ac fel y codai Robert Ellis ei gwpan i'w geg, "Mae'n rhaid 'mod i wedi magu nerth yn yr Hospitol 'na, Emily," meddai.

"Pam, Bob?"

"Y gwpan 'ma. Mae hi fel pluan yn fy llaw i, hogan."

"O, mae gynno' ni dipyn o steil hiddiw," atebodd hithau.

"Mi ddois i a'r llestri gora' i'r bwrdd. I roi croeso i'r dyn diarth, yntê, Taid?"

"Ia, wir, croeso brenhinol i frenin y tŷ," meddai'i thad yn ddwys.

"Ond . . . " Syllodd Robert Ellis yn ddryslyd i lawr ar y plât o'i flaen.

"Ond be', Bob?"

"Roedd 'na batrwm o floda' bach ar y llestri gora'."

Chwarddodd Myrddin am ben ei dad. "Rhaid i chi gael sbectol, Tada," meddai, gan ddal i chwerthin yn uchel. "Taw, hogyn!" Ac ni fedrai Myrddin ddeall pam yr oedd ei fam mor gas.

Ni ddeallai Owen chwaith pam yr aeth ei dad i'w gragen fel petai wedi sorri am rywbeth, na pham y taflodd ei fam a'i daid olwg ffwndrus ar ei gilydd.

"Paid â brysio adra', Owen," meddai Elias Thomas ar ddiwedd yr Ysgol Sul y prynhawn Sul wedyn. "Mae arna' i isio siarad efo chdi. Hwda, dos â'r llyfra' 'ma i lawr i'r Festri tra bydda' i'n cael gair efo Mr. Morris y Gwnidog."

Cerddodd y ddau yn araf drwy'r pentref, ac wedi clirio'i wddf droeon, meddai Elias Thomas o'r diwedd: "Maen' nhw'n deud i mi dy fod di bron â marw isio mynd i'r chwaral, Owen."

"Mae . . . mae fy ffrindia' i, Huw a Wil, wedi dechra' gweithio."

"Hm. 'Rwyt ti'n hogyn cry' hefyd, ond wyt?"

"Ydw', Lias Tomos." Beth a oedd ym meddwl y blaenor? Hy, wedi penderfynu gwneud pregethwr ohono. Caledodd llygaid Owen.

"Meddwl yr on i, fachgan, os wyt ti'n sgut am ddŵad i'r chwaral, y basa'n beth da iti ddechra' yn y bonc acw. Mi faswn i a Huw Jones yn cadw'n llygaid arnat ti."

Syllodd Owen yn geg-agored arno. "Ydach chi . . . 'ydach chi o ddifri, Lias Tomos?"

"Ydw', debyg iawn. Ac ymhen rhyw flwyddyn mi gaet dd wad ato' ni i'r wal fel jermon fesul dydd."

"Mi . . . mi faswn i wrth fy modd efo chi, Lias Tomos. Ond . . . ond . . . 'fydd Taid ddim yn fodlon."

Mi fûm i'n siarad efo fo pnawn ddoe cyn iddo fo gychwyn i'w gyhoeddiad ym Mryn Llwyd."

"Ac yr oedd o'n . . . ?"

"Oedd, yn reit fodlon. Fo ddaru awgrymu'r peth wrtha' i."

"Taid!"

"Ia."

"A be' mae 'Mam yn feddwl, tybad?"

"'Roedd o wedi trin y matar efo hi . . . Gan dy fod di'n ymddangos mor anniddig, yntê?"

"Pryd . . . pryd y ca' i ddechra', Lias Tomos?"

"Mi wela' i Mr. Davies y Stiward 'fory ac mi geiff o drefnu yn yr Offis. Wedyn mi fydd rhaid iti gael trowsus melfared, on' fydd? A 'sgidia' hoelion-mawr a thun bwyd. A gêr. Na, 'faswn i ddim yn prynu tun bwyd na gêr am dipyn. Cymar di fenthyg rhai dy dad nes bydd o wedi gwella'n iawn. Mae Doctor Williams yn meddwl y rhaid iddo fo fod adra' am sbel go lew. Ia, dyna wnei di, cymryd benthyg arfa' dy dad am fis ne' ddau . . . Pryd mae'r ysgol yn dechra'?"

"'Fory."

"O. Efalla' fod yn well iti fynd yno am yr wsnos yma rhag ofn i ryw anhawster godi."

"An . . . anhawster?"

"Na, 'fydd 'na'r un, o ran hynny. Ond mae'n well iti fod yn yr ysgol nag yn loetran adra', ond ydi?"

Nid atebodd Owen. Yr oeddynt wrth y tro a arweiniai i Dyddyn Cerrig ac yr oedd yn falch o adael yr hen flaenor a dringo'r allt dan chwibanu. Prin y medrai goelio'r peth. Hanner awr ynghynt, yn yr Ysgol Sul, meddyliai'n sur am drannoeth a Cecil Mami a Berti Glyn ac eraill, a gwyddai'n reddfol, er na chlywai mohonynt, fod Huw Rôb a Wil Cochyn yn y sedd gefn wrthi'n sibrwd pethau sbeitlyd amdano. Âi, fe ai i'r ysgol drannoeth—i ddweud wrth Jones y Sgwl am gadw'i Saesneg tragwyddol a hanes brenhinoedd a brwydrau Lloegr. Yr oedd yn well ganddo ef fod yn 'fonitor' ym Mhonc Britannia nag yn Standard VI.

Ac eto yn nyfnder ei feddwl corddai anesmwythyd mawr. Elias Thomas . . . Taid . . . 'Mam. Pam . . . pam y newidiodd y tri mor sydyn? A oedd a wnelo'r ddamwain rywbeth â'r peth? Na, edrychai'i dad yn iawn, cyn gryfed ag erioed. Yr oedd yn werth ei weld yn symud yr hen garreg honno ddoe wrth lidiard Tŷ Pella'. Yr oedd yn dawelach nag arfer efallai er pan ddaethai adref o'r ysbyty, ond yr oedd hynny'n ddigon naturiol ac yntau gartref yn segur a heb golli diwrnod o waith drwy'r blynyddoedd.

Fel y troai Owen o'r ffordd i'r llwybr a redai tua'r tŷ, clywai chwerthin uchel Myrddin yn yr ardd. Peidiodd ei chwibanu ac arafodd ei gamau. Ni wyddai pam, ond daeth eto i'w feddwl yr olwg ar wyneb ei dad pan syllodd i lawr ar y plât brynhawn Mawrth. Pam yr oedd ei fam mor gas wrth Myrddin? A pham . . . pam yr edrychodd ei fam a'i daid ar ei gilydd am ennyd fel petai . . . fel petai rhyw gyfrinach rhyngddynt? Yr oedd rhyw ddirgelwch yn rhywle.

𝒫𝑒𝓃𝓃𝑜𝒹 3

WYRODD yr hen weinidog ymlaen, cydiodd yn y procer, a daliodd ef yn ei law yn freuddwydiol. Yna, wedi iddo bwnio'r tân, eisteddodd yn ôl i wylio dawns fflam a chysgod ar y silffoedd llyfrau gyferbyn ac ar y darluniau o'i blant ar y mur uwchlaw iddynt . . . Olwen . . . Dôi hi adre nos Wener i fwrw'r Sul, yn athrawes bob mymryn ohoni ac yn edrych dros ei sbectol yn aml ar Feurig-ac arno yntau hefyd weithiau . . . Glyn.. Oedd, yr oedd Glyn yn fachgen da ac yn well pregethwr o lawer na'i dad . . . Arthur, a aeth i'r Llynges Fasnach ac i'w dranc a'i farddoniaeth orau heb ei hysgrifennu a'i blentyn, Meurig, ond pedair oed heb brin adnabod ei dad . . . Arthur druan . . .

Hm, yr oedd yn hen bryd iddo droi'r golau ymlaen a chau llenni'r ffenestr. Ond ni syflodd o'i gadair yr oedd y gwyll. mor llariaidd, mor dirion, mor ddigynnwrf, i henwr yn synfyfyrio wrth y tân.

Cofiodd mai ychydig a wyddai ef ar y pryd am ing meddwl a chorff ei dad, a phan gafodd yr hanes, ymhen amser, gan ei fam a Dafydd a'r nyrs ac eraill, synnai iddo fod mor ddifater ac ansylwgar. Ond, a chyffro a newydd-deb bywyd y chwarel yn llond ei feddwl, ni phoenai ryw lawer am y peth, gan gredu haeriad Dafydd y cryfhâi golwg ei dad wedi i effeithiau'r ddamwain gilio. Bob gyda'r nos wedi iddo gyrraedd adref o'r chwarel, gwelai'r bachgen fod ei dad yn mynd yn fwy ffwndrus ac ansicr hwyr ar ôl hwyr, yr oedd ei chwerthin hefyd wedi'i ddiffodd bron yn llwyr, a phan siaradai, dim ond darn o'i feddwl a oedd yn yr hyn a ddywedai. Rhywfodd, nid yr un dyn a ddaeth o'r ysbyty ag a gludwyd i mewn yno: yr oedd hwn yn ŵr syn a thawel a dwys, yn gwenu'n beiriannol, a hyd yn oed yn torri allan i grio wrth wrando ar hanesion am y bonc. Ond fe ddechreuai wella cyn hir wedi ychydig mwy o orffwys. Yna, y nos Sadwrn ar ddiwedd ei wythnos gyntaf o waith, gwyddai Owen hyd sicrwydd fod ei dad ar fynd yn ddall. Fel y syllai i mewn drwy ffenestr Tyddyn Cerrig y noson honno, deallodd pam y cawsai ef adael yr ysgol.

Aethai ef a Huw Rób a Wil Cochyn i Gaer Heli y prynhawn hwnnw, ac yno, mewn Syrcas ac yn gwylio'r gwerthwyr ar faes y dref ac yn crwydro'r heolydd yn ddynion i gyd, y buont tan amser y brêc a gyrhaeddai Lan Feurig hanner awr wedi un ar ddeg. Yn ofnus y nesaodd Owen at Dyddyn Cerrig, gan wybod y cãi dafod gan ei fam am fod allan mor hwyr. Gobeithiai y byddai hi wedi mynd i'w gwely a gadael Enid neu Ddafydd i lawr i aros amdano. Oedodd ennyd wrth ffenestr y gegin a gwrando. Nid oedd yno sŵn. Camodd o'r llwybr at y mur ac edrychodd i mewn heibio i ymyl y bleind.

Dim ond ei dad a oedd yn y gegin, yn sefyll a'i ddwylo'n cydio ym min y bwrdd. Gwyrai ymlaen at y lamp, rhythai ar ei golau, yna tynnai'n ôl a chau ei lygaid ennyd cyn pwyso ymlaen drachefn. Yn sydyn, fel petai'n clywed sŵn, ymsythodd ac eisteddodd yn frysiog yn ei gadair. Gwelai Owen ei fam yn dod i mewn, a channwyll olau yn ei llaw. Cododd ei dad a chymryd ei llaw arall, a syllodd Owen yn hurt arni'n ei arwain yn araf o'r ystafell.

Camodd y bachgen yn ôl i'r llwybr a safodd yno a'i feddwl yn dryblith niwlog a morthwyl ei galon yn curo'n wyllt o'i fewn. Gerllaw, ar y lôn, canai amryw o feddwon ar eu ffordd adref o'r Crown, a chaeodd ei ddannedd yn chwyrn wrth wrando arnynt. Troes i mewn i'r tŷ yn araf, gan agor a chau'r drws yn dawel, ac eisteddodd wrth y bwrdd i fwyta'r bara a chaws a adawsai'i fam. Yr oedd wrthi'n tywallt glasaid o laeth enwyn iddo'i hun pan ddaeth hi i mewn. Sylwodd fod ei llygaid yn goch gan ôl crio.

"Lle buost ti mor hwyr, hogyn?" oedd ei chyfarchiad.

"Colli brêc wyth ddaru ni ac 'roedd un naw yn rhy lawn inni gael lle ynddi hi."

"'Gest ti fwyd yn y dre 'na?"

"Do, yn y tŷ-bwyta wrth y Cei. Platiad iawn o datws a phys am rôt . . . Lle mae Dafydd, 'Mam?"

"Yn 'i wely, debyg iawn. Ac Enid. A'th dad. Yno dyliet titha' fod ers awr. Tyd, styria." "O'r gora', 'Mam. Dew, dyna i chi Syrcas sy yng Nghaer Heli! Ac mi gafodd Huw a Wil a finna' fynd i mewn am ddim."

"Am ddim?"

"Ia. Pwy ddaeth heibio pan oeddan ni wrth y cae ond George Hobley, ac mi fynnodd gael talu drostan ni." "Hm. 'Oedd o wedi bod yn yfad?"

"Wel, 'roedd o'n . . . " A gwenodd Owen. "Dydi hynny ddim yn beth i wenu yn 'i gylch o . . . Rhyw greadur fel'na'n cael 'i iechyd i jolihowtio hyd y dre 'na . . . "

"A 'wyddoch chi pwy welsom ni ar y cae?"

"Pwy?"

"Harri Ellis, brawd 'nhad." "Brawd 'nhad," nid "f'ewyrth," oedd y gŵr hwnnw i Owen: ni wnâi teulu Tyddyn Cerrig ddim ag epil yr hen Ddafydd Ellis.

"O? 'Ron i'n meddwl 'i fod o a Wil 'i frawd efo'r soldiwrs."

"A finna'. Ond efo'r Syrcas 'na y mae Harri, yn edrach ar ôl y ponis. 'Dydi o ddim yn perfformio yno, dim ond yn 'u bwydo nhw a llnau'r stabla', ond mi fasach yn meddwl arno fo mai fo ydi Bertram Mills 'i hun. 'Roedd o'n swagro o gwmpas . . .

"Oedd, mae'n debyg." Yr oedd yn amlwg nad oedd ei fam eisiau clywed rhagor am un o ymladdwyr a rhegwyr galluocaf yr ardal. "Lle buoch chi wedyn?" gofynnodd.

"Ar y Maes y rhan fwya' o'r amsar." Aeth i'w boced a thynnodd allan gwpan a phatrwm o ddail a blodau arno.

"Lle cest ti hwn'na?"

"Rhyw hen ddyn oedd yn gwerthu llestri ar y Maes, a neb yn prynu gynno fo. Mi wylltiodd yn gacwn. 'Hwdiwch, y tacla'!" medda' fo. 'Isio rhwbath am ddim yr ydach chi yntê? A dyma fo'n dechra' taflu cwpana' a soseri a phlatia' i'n canol ni. Mi gafodd Wil Cochyn ddwy sosar a thair plât. Un ar y naw ydi Wil."

Ond nid oedd ei fam fel petai hi'n gwrando. "'Gest ti ddigon?" gofynnodd.

"Do, diolch, 'Mam."

Goleuodd hi gannwyll a'i tharo ar gongl y bwrdd. Yna, ond heb edrych ar Owen, meddai: "Rwyt ti i gysgu yn y llofft ffrynt heno."

"O?"

"Yno y mae Dafydd.

Rydw' i wedi newid dillad y gwlâu.

Mae dy dad yn y siambar. Newydd fynd i'w wely. Haws iddo fo na dringo'r hen risia' 'na." Brawddegau cwta, cyflym, anniddig.

"'Mam?" Cododd Owen.

"Ia?"

"Be' ydi'r matar ar 'Nhad?"

"I olwg o. Effaith y ddamwain Ond . . . "

"Ond be', 'Mam?" Camodd yn nes ati a dywedai'r olwg yn ei lygaid na ellid ei dwyllo ddim rhagor. Yr oedd ei llais yn floesg pan atebodd.

"Mae'n rhaid iti wybod yn hwyr neu'n hwyrach, Owen bach. Mae dy dad yn . . . yn mynd yn ddall."

Eisteddodd hi mewn cadair wrth y bwrdd a'i dwylo ar ei harffed, gan edrych heibio iddo tua'r lle tân. Bu tawelwch llwm rhyngddynt. Aeth cyffro drwy ymysgaroedd yr hen gloc wyth niwrnod yng nghongl y gegin ac yna, yn araf a thrwm fel cnul, trawodd hanner nos.

"'Oes 'na ddim fedar y Doctor 'i wneud, 'Mam?"

Ysgydwodd ei phen mewn anobaith, yna, "Ron i wedi meddwl i ti gael rhwbath gwell na'r chwaral," meddai.

"Rargian, peidiwch â phoeni dim am hynny. Yr ydw' i wrth fy modd yn y chwaral, ac mae Lias Tomos a Huw Jones yn ffeind ofnadwy wrtha' i. 'Ydi . . . 'ydi 'Nhad yn gwbod?"

"Mae o'n ama', mae arna' i ofn. Ac mae'r peth fel hunlla' ar 'i feddwl o. Diar, pwy fasa'n meddwl y medrai un fel fo, mor llawn o fywyd bob amsar, hogyn ym mhopath bron, fynd mor dawal, mor drist, mor hen, mewn 'chydig wythnosa'? Mae Taid a finna' a Dafydd yn deud wrtho fo y daw o'n well yn fuan, ond . . . ond mae swnio'n glonnog yn mynd yn anos bob tro."

Cododd mewn braw: clywai sŵn rhywun tu allan i'r gegin ac ofnai mai ei gŵr a ocdd yno ac iddo glywed ei geiriau. Agorodd y drws a daeth Dafydd i mewn, wedi hanner-wisgo amdano.

"Hylô, be' ydi peth fel hyn?" meddai. "Mae'n hen bryd i chi, Mrs. Ellis, fod yn y gwely 'na."

"Yr ydw' i'n mynd 'rŵan, Dafydd, ar ôl imi glirio'r 'chydig lestri 'ma."

"Mi ofala Now a finna' am y llestri, ac am y drysa', ac am ddiffodd y lamp. 'Rwan, i'r lle 'sgwâr 'na â chi." Ac, yn dyner ond yn benderfynol, gwthiodd ei fam tua'r drws.

"Mae 'Mam wedi deud wrtha' i, Dafydd," meddai Owen wedi iddi fynd.

"Ydi hi, Now bach? Wel, 'roedd yn well iti gael gwbod, ond oedd? A thitha'n ddyn 'rŵan, yntê, yn gweithio yn y chwaral?"

"Be' fedrwn ni 'i wneud, Dafydd?"

"Dim llawar, fachgan. Gwneud ein gora' i ennill cyflog, yntê? A thrio helpu tipyn ar 'Mam gyda'r nos—torri pricia' a gofalu am yr ardd a phetha' felly."

Nodiodd Owen, ond gan gofio'n euog iddo ef ruthro allan ar ôl ei swper—chwarel bob hwyr yr wythnos honno i sgwario hyd y pentref efo Huw a Wil, ac iddo edrych ar Ddafydd fel tipyn o hen Fetsi, yn piltran o gwmpas y tŷ. Ond, erbyn meddwl, ychydig a wnâi Dafydd yn yr ardd a'r tŷ tan yn ddiweddar iawn. Y nos Fercher wedyn, galwodd Robert Ellis Ddafydd ato: erbyn hynny yr oedd y tad yn gwbl ddall.

"Dafydd?"

"Ia, "Nhad?"

"Mae arna' i isio iti alw yn Offis y chwaral i weld Jones-Parry, y Manijar."

"O'r . . . o'r gora'."

"Gofyn iddo fo gei di fy hen fargen i. Mae 'na gerrig da ynddi a lle iawn i wneud cyflog."

"Ond mi fyddwch chi'n ôl wrth eich gwaith . . . "

"Pryd?"

"Wel, ar ôl i effeithia'r ddamwain . . . "

"Effeithia'r ddamwain,'" 'effeithia'r ddamwain'—yr ydach chi fel parrots yma, dy fam a'th daid a chditha'. Pam goblyn na ddeudwch chi'r gwir wrtha' i, yn lle fy nhrin i fel plentyn dwyflwydd? Be' ddeudodd y Syr hwnnw o Lundain wrth Doctor Williams?"

"Deud bod yn bwysig i chi orffwys a chryfhau . . ."

"Cryfhau! Cryfhau!" Cododd o'i gadair, gan daro'i law chwith ar y silff ben tân. Estynnodd y llall tuag at Ddafydd.

"'Fasat ti'n licio ysgwyd llaw efo mi?"

"Dim diolch, 'Nhad."

"Na fasat, mi wn. Na'r Syr hwnnw o Lundain chwaith.

Mi fedrwn wasgu'i fysedd o nes byddai'r gwaed yn sboncio allan ohonyn' nhw. Cryfhau, wir!"

"Ia, ond nid cryfhau felly oedd o'n feddwl, ond . . ."

"Ond be'?"

"Rhoi . . . rhoi siawns i nerfa'r llygaid ddŵad atyn' 'u hunain ar ôl sioc y ddamwain."

"Mi liciwn i fedru gweld dy wynab di, Dafydd, dim ond am funud. Yr argian fawr, 'Bob Llygaid Cath', chwadal Ned Tŷ Crwn, fel twrch daear yn fan hyn!" Chwarddodd yn chwerw wrth eistedd eto yn ei gadair.

"Roeddach chi'n sôn am yr Offis, 'Nhad."

"Ôn. Dywad wrth Jones-Parry 'mod i wedi colli 'ngolwg yn 'i chwaral o ac y bydd hi'n o dena' arno' ni fel teulu os na chei di fy hen fargen i. Mi wn i nad ydi o ddim yn hoff ohonat ti, ond . . . "

"Hoff! Gin' i mae'r clogwyn sala' yn y Twll. Dwybunt a chweugian ges i y mis dwytha' er i mi a Dic fy mhartnar slafio i drio gwneud cyflog. A'r cwbwl am inni'n dau gario banar y Rhyddfrydwyr drwy'r lle 'ma amsar y Lecsiwn. 'Dydi Jones-Parry ddim yn madda', 'Nhad. 'Tawn i wedi cario banar y Toris, fel y gwnaeth Wil Sam a Robin Ifans a rhai tebyg, mi faswn mewn bargen heb 'i hail. A 'dydi bod yn Ysgrifennydd yr Undab yn y bonc ddim yn fy ngwneud i'n Sant yn 'i olwg o."

"Dos di i'r offis ato fo a dywad wrtho fo fel y mae petha' arno' ni."

"O'r gora". Mi bicia' i yno bora 'fory."

"Gofyn iddo fo am fy margen i. Mae hi'n werth i'w chael 'rŵan, ar ôl y tunelli o faw gawson ni ohoni y mis cynta' hwnnw."

"Wel . . . "

"Gofyn di iddo fo am fy margen i. 'Wnei di, Dafydd?"

Aeth Dafydd yn wyliadwrus. Tu ôl i'r llygaid dall, fe deimlai, yr oedd meddwl ei dad fel petai'n rhythu arno, yn ceisio crafu'r gwir oddi arno.

"Ia, dyna fydd ora', efalla'," meddai. "Pe cawn i'r fargen. efo George Hobley tra byddwch chi gartra', mi fydd yn ddigon hawdd iddyn' nhw fy symud i wedyn. 'Fydda' i ddim gwaeth, mi wn i hynny: mi gân' nhw waith i ddŵad o hyd i le salach na'r un sy gin' i 'rŵan, myn diagan i."

Ond drannoeth, pan ddychwelodd adref o'r gwaith, nid oedd gan Ddafydd newydd da.

"Roedd o'n hel pob math o esgusion," meddai. "John Hwmphras y Stiward Gosod am aildrefnu'r bonc, medda' fo, ac fe fydd yn rhaid iddo fo gofio am yr hen weithwyr, ac felly 'mlaen. Mi ga' i wbod gynno fo ddiwadd y mis."

Ond ni ddywedodd ef nac Owen wrth eu tad fod Robin Ifans, a gariodd faner Oswald Meyricke, yn gweithio yn y fargen ers dyddiau ac yn brolio'r cerrig breision a gâi ohoni.

Ni hoffai'r Parch. Owen Ellis fyth edrych yn ôl ar y misoedd rhwng dallineb a marwolaeth ei dad. Yr oedd y teulu'n dlawd iawn, a thros bobman a phopeth yn Nhyddyn Cerrig gorweddai cysgod yr afiechyd a ymosododd yn araf ond yn ystyfnig ar y cawr o chwarelwr.

Tlodi gellid ei ymladd ef, a dewr y brwydrai pob un o'r teulu—Enid, morwyn yn nhŷ Richard Davies, y Stiward; Dafydd ac Owen yn y chwarel; y fam fechan, ddiwyd, yn ei chartref; a hyd yn oed Myrddin, a fodlonai heb ei ddimai ar brynhawn Sadwrn. Tlodi: yr oedd pob llaw yn ddwrn i'w erbyn ef. Ond afiechyd: ni thyciai'r dyrnau caletaf ddim: yr oedd ei ymgyrch ef mor llechwraidd, mor ddidostur, mor sbeitlyd.

"Sut ydach chi'n teimlo hiddiw, 'Nhad?" oedd y cwestiwn a ofynnai Dafydd neu Owen bob hwyr pan gyrhaeddent adref o'r chwarel, a chlywent, fel yr âi'r wythnosau heibio, dristwch y "Symol" yn newid i anobaith y "Go dila, fachgan." A gwelent nad colli'i olwg yn unig a wnaethai'u tad wedi'r ddamwain. Cwynai fod ei galon yn curo'n wyllt, rhedai cryndod annifyr drwy'i gyhyrau, chwysai a blinai'n fuan fuan, ac yr oedd yn teneuo'n gyflym ac yn mynd mor nerfus ag aderyn. Ond gwrthodai'n lân adael i'r meddyg ei weld. Pan awgrymai rhywun hynny, gwylltiai a gwaeddai: "Be' fedrodd y locsyn. bwch gafr hwnnw wneud i 'ngolwg i? Dim! Dim coblyn o ddim! A 'dydw' i ddim yn mynd i dalu am 'i gwrw fo am ddŵad yma i balu clwydda' wrtha' i." Yna, wedi ymdrech y gweiddi, suddai'n ôl i'w gadair yn llipa gan grynu a griddfan, a'i lygaid dall yn ymwthio'n annaturiol o'i ben, a'i wddf chwyddedig fel petai ar dorri. Ildiodd un noson yn niwedd y flwyddyn, er hynny, pan yrrai gordd ei galon eco, fel morthwylion ffyrnig, drwy bob gwythïen o'i gorff. "Y nefoedd fawr, Doctor," meddai pan soniodd y meddyg am "orffwys a pheidio â phryderu," "be' ydach chi'n feddwl ydw' i—yr hen gi 'na sy gan Rhys Bwtsiar?" Yr oedd yr hen gi yn ddall, ond ymddangosai'n ddibryder iawn, y mwyaf cyfeillgar a'r hapusaf o holl gŵn y pentref.

Rhywfodd, wrth edrych yn ôl—a hyd yn oed o bellter blynyddoedd fel hen ddyn y gwelai'r Parch. Owen Ellis ei dad, er nad oedd ond wyth a deugain pan fu farw. Gŵr yn anterth ei nerth ydoedd, ond i hogyn deuddeg oed ymddangosai, a barf frithgoch ar ei wyneb tenau, curiedig, a'i symudiadau mor ffwndrus, yn hen iawn. Ganwaith fel y llithrai'r blynyddoedd heibio y gresynodd y gweinidog i'w dad gael ei dorri ymaith ym mlodau'i ddyddiau; a phan soniai eraill am y chwarelwr dall, gofidio i'r ddamwain ddigwydd ac yntau mor ieuanc a wnaent yn ddieithriad bron. Er hynny, er gwaethaf rheswm a ffaith, arhosai argraffiadau'r bachgen yn nyfnder ei feddwl—y gloywder arian cynamserol yn y farf a'r gwallt, y llinellau yn yr wyneb llwyd, y llais ofnus, goraddfwyn, yr anallu tosturus. Ni fedrai Owen Ellis yn ei fyw gysylltu'r gair 'ieuanc' â'r darlun hwnnw.

Galwyd y plant o'u gwelyau yn oriau mân un bore oer yn niwedd Ionawr. Arweiniodd Dafydd hwy i lawr y grisiau i'r "siambar ffrynt", ac yno safodd y tri ohonynt mewn ofn anesmwyth wrth droed y gwely. Er bod y tân yn ddisglair a'r ystafell yn gynnes, cofiai Owen yn hir wedyn iddo afael â'i law chwith yn rheilen y gwely ac i ias o oerni redeg drwy'i holl gorff.

"Dyma Enid, 'Nhad," meddai Dafydd gan ei harwain tuag ato a chymryd ei llaw a'i hestyn tuag at ei ddwylo ef. Gwasgodd Robert Ellis law ei ferch, ond ni ddywedodd ddim er bod geiriau'n ceisio ymffurfio ar gryndod ei fin.

"A dyma Now, 'Nhad."

"Ia, fi sy 'ma, 'Nhad, ac mi anghofis i ddeud wrthach chi fod Lias Tomos wedi rhoi lot o gerrig imi bora ddoe."

"'Wnaeth o, 'ngwas i?" Nid oedd y llais o'r gwely yn fawr fwy na sibrwd.

"Do, ac mae o a Huw Jones wedi addo y ca' i fynd yn jermon atyn' nhw tua diwadd yr haf. Hen ddyn iawn ydi Lias Tomos yntê, 'Nhad?" Parablai Owen mewn ymdrech wyllt i anghofio rhythu tywyll y llygaid ymwthiol. "Hen Gristion, yntê, 'Nhad?"

Nodiodd y claf, ond yn ffwndrus, fel petai'i feddwl hefyd yn ddall.

"A dyma Myrddin, 'Nhad."

Gwasgodd y tad law ei fachgen ieuangaf, a wylai mewn dychryn, ac yna cododd ei ben yn daer i gyfeiriad Dafydd.

"Dafydd?"

"Ia, 'Nhad?"

"Cofia di fynd at Jones-Parry y cyfla cynta', 'rŵan."

"O'r gora', 'Nhad."

"Mae o, mae o'n siŵr o wrando arnat ti y tro yma. Os cei di fy hen fargen i, Dafydd, os cei di fy hen fargen i . . . Emily?

'Ydach chi yna, Emily bach?"

"Ydw', Robat, ydw'."

"Os caiff Dafydd fy hen fargen i, mi fydd petha'n iawn arnach chi. On' fyddan', Emily?"

"Peidiwch chi â siarad gormod, 'rŵan, Robat bach."

"Mi wrthododd Jones—Parry y tro o'r blaen, ond . . . Dafydd?" "Ia, "Nhad?"

"Dywad wrtho fo . . . dywad wrtho fo, Dafydd, mai fy nymuniad ola' i oedd am i ti gael y fargen. 'Wnaiff o, 'wnaiff o ddim gwrthod y tro yma. 'Fedar o ddim gwrthod y tro yma . . . "

Ond ni chafodd Dafydd y fargen. Brysiodd i Swyddfa'r Chwarel y bore ar ôl yr angladd, ac wedi iddo ffwndro â'i gap am ugain munud yn y swyddfa allanol, galwyd ef i mewn i'r cysegr sancteiddiolaf. "Wel?" Cyfarthiad oedd y gair, a cheisiai Mr. Jones—Parry roi'r argraff ei fod yn brysur iawn. "'Roeddan ni'n claddu 'Nhad ddoe, a fo ddaru ofyn imi ddŵad i'ch gweld chi." Gwyddai wedi iddo orffen y frawddeg y dylasai ddweud "Mr. Jones-Parry, Syr" a llefaru'n fwy taeog, ond yr oedd cynffonna'n groes i holl natur Dafydd. Gwrthryfelai hefyd yn erbyn tôn ac agwedd anghwrtais y Rheolwr.

"Hm, mae'n ddrwg gen' i, ddrwg gen' i." Yna edrychodd. fel petai'n disgwyl i Ddafydd fynd ymlaen â'i stori.

"Mi fu farw tua dau o'r gloch bora Sadwrn, ond cyn iddo fo fynd mi erfyniodd arna' i ddŵad atach chi i ofyn am 'i hen fargen o yn Nhwll Britannia."

"Hm."

"Dyna oedd 'i ddymuniad ola' fo cyn marw."

"Hm. Ond mae'r peth yn anodd os nad yn amhosib', mae arna' i ofn."

"Pam Mr. Jones-Parry?" Unwaith eto gwyddai Dafydd y talai iddo swnio'n fwy taeog.

Cymerodd y Rheolwr lyfr—ysgrifennu trwchus oddi ar silff a throi ei ddalennau nes dod o hyd i'r un a geisiai.

"Britannia . . . Britannia. Ond mae Robert Evans yn hen le dy dad." Ceisiai ymddangos fel petai hynny'n newydd iddo. "Ydi, mi wn, ond mae'r lle yr oedd o ynddo o'r blaen yn wag o hyd. Os na fedrwch chi fy rhoi i yn hen fargen fy nhad, 'oes 'na siawns imi gael mynd i fan'no?"

"Lle gwael sy gen' ti 'rŵan?"

"Y graig yn gefnau i gyd a dim deunydd llechi ynddi. Gorfod malu'r plygion yn faw i'r wagan ar ôl wastio powdwr. Tair ceiniog y dunnall am y baw. 'Fedra' i yn fy myw wneud cyflog. A go dena' ydi hi arno' ni fel teulu ar ôl i 'Nhad fod yn sål cyhyd."

"Hm. "Wnaiff hynny mo'r tro o gwbwl, ddim o gwbwl.

O'r gora', Ellis, mi ga' i air efo'r Stiward Gosod. Mi gawn ni weld be' fedrwn ni 'i wneud."

"Diolch, Mr. Jones-Parry, diolch yn fawr."

Aeth Dafydd allan o'r Swyddfa yn llawen. Efallai wedi'r cwbl iddo gamfarnu'r dyn: efallai ei fod wedi maddau ac anghofio erbyn hyn. Sylweddolodd fel y cerddai ymaith nad oedd ei gap am ei ben a brysiodd yn ôl i'r Swyddfa i'w ymofyn. "Anghofio 'nghap," meddai wrth Rowlands Bach, y clarc. Fel y plygai i'w gymryd oddi ar gadair, clywai lais y Rheolwr yn y swyddfa fewnol: "Hm, a maen' nhw'n dechra' meddwl mai dymuniada' dynion wrth farw sy'n rheoli'r chwaral 'ma, 'ydyn' nhw?"

Nid oedd Dafydd mor llawen pan frysiodd allan yr eiltro. Ei unig gysur oedd bod Jones-Parry ar fin ymddeol o'i swydd fel Rheolwr y chwarel.

Parhaodd y tlodi yn Nhyddyn Cerrig, ond teimlai Owen yn llawer hapusach wedi marw ei dad. Ni feiddiai gyfaddef hynny wrth neb, dim hyd yn oed wrtho ef ei hun, ond gwnâi'r band du am ei fraich a chlywed brawddegau fel "Wedi colli'ch tad, yntê, 'machgan i?" iddo deimlo'n llawer hŷn—a thipyn bach yn bwysig. Yn enwedig pan fyddai yng nghwmni Huw Rôb neu rywun arall o'r un oed ag ef: nodiai'n ddwys, yn ddyn o'i gymharu â hwy. Ac yr oedd Tyddyn Cerrig yn awr yn lle y gallai chwerthin a chanu a chlebran ynddo. Wedi misoedd o orfod mygu'i asbri, melys oedd cymryd arno ymladd â Dafydd, neu dynnu gwallt Enid, neu Elin pan ddigwyddai hi ddod adref am dro o Lŷn, neu chwarae â Myrddin. Bellach, wrth fwrdd y Swper-chwarel, câi Owen siarad yn hy ac uchel, gan ddynwared Huw Jones neu Robin Ifans, a digwyddiadau bychain y dydd yn fawr yn ei feddwl a brawddegau fel "y tebot gwirion iddo fo" neu "yr hen snisyn bach" yn ei wneud yn gawr o chwarelwr. O'r blaen, pan ddywedai hanes y chwarel, âi hiraeth ei dad yn drech nag ef a thorrai i wylo a chwynfan—yn blentynnaidd, meddai llais bach anhydrin yng ngwaelod meddwl Owen. Ond yn awr nodiai a gwenai'i fam, chwarddai Enid os digwyddai hi fod yn y tŷ, ac yr oedd Myrddin wrth ei fodd yn gwrando ar straeon ei frawd. A chwarae teg i Taid, yr oedd yntau i'w weld yn mwynhau'r sgwrs.

Agwedd Dafydd a wnâi Owen yn anesmwyth. Ar y ffordd o'r chwarel yr oedd yn glustiau i gyd a tha flai "Taw, fachgan!" neu "Go dda, 'r hen ddyn!" i lif huodledd Owen. Ond yn y tŷ, dim ond nodio a gwenu a wnâi, a'i lygaid mawr fel pe'n ceisio denu mwynhad i rai trist-freuddwydiol ei fam ac yn goleuo a thywyllu fel y llithrai cysgodion tros ei hwyneb hi. Pam na chwarddai Dafydd wrth y bwrdd fel y gwnâi ar y ffordd, yn lle ei wneud yn annifyr, bron yn euog, pan ddechreuai ddynwared rhai o ddynion y bonc? Wedi'r cwbl, onid Dafydd ei hun a ddywedodd, "Efalla' mai hyn sy ora', wsti," y bore hwnnw pan fu farw'u tad? A thebyg oedd geiriau Taid ac Elias Thomas a Mr. Morris y Gweinidog ac amryw eraill. 'Roedd modd deall 'Mam yn 'i hiraeth, ond 'doedd dim eisiau i Ddafydd ymddwyn fel petai'u tad dall a chlaf yn y tŷ o hyd. Ni ddeallai Owen ei frawd Dafydd o gwbl, a theimlai'n ddig tuag ato.

Ond gwyddai yn ei galon mai Dafydd oedd ei gyfaill gorau, a pha bryd bynnag, ymhen blynyddoedd, yr edrychai'r Parch. Owen Ellis yn ôl ar ei ieuenctid, am gadernid tawel, di—hunan, ei frawd y meddyliai fwyaf. Diolchai'n ddwys am dynerwch a phenderfyniad ei fam, am ysbrydiaeth hyrddiog ei daid, am ddylanwad mwyn yr hen sant Elias Thomas, ond sylweddolai mai i Ddafydd yr oedd ei ddyled drymaf. "Chafodd neb erioed well brawd," oedd ei sylw'n aml pan gofiai am ymdrech y dyddiau gynt.

Yn y chwarel i ddechrau. Rhedai Dafydd i lawr i Bonc Britannia bron bob awr ginio i weld sut y deuai'i frawd ymlaen ac i'w hyfforddi yn ei grefft, gan ddysgu iddo bopeth a wyddai ef. Ac fel y sylwai Owen ar fechgyn eraill o 'rybelwyr', sylweddolai mor hynod ffodus ydoedd. Pigo'u crefft i fyny orau y gallent a wnâi amryw ohonynt, heb neb arbennig i'w cynghori a chan ddibynnu ar garedigrwydd oriog hwn a'r llall am glwt o garreg i'w hollti a'i naddu'n llechi i'w cyfrif ar ddiwedd mis. Hynny fu hanes Wil Cochyn ym Mhonc Nelson, ac âi Wil druan adref ar nos Wener Cyfrif, wedi mis o waith, heb ddim ond rhyw ddeuswllt neu hanner-coron i'w roi i'w fam weddw. Efallai fod peth bai arno ef am hynny, gan ei fod yn ddynwaredwr medrus, a phan âi ar neges i ennill clwt, oedai yma ac acw i ymarfer ei ddawn, tra holai'r chwarelwr a'i gyrasai lle'r oedd "y Cochyn diawl 'na" cyhyd. Er ei fod dan adain ei dad yn yr un bonc, dim ond triswllt a oedd gan Huw Rôb ar ddiwedd ei fis cyntaf a thri a grot ar derfyn yr ail, ond nid oedd ei ddwylo ef, yn ôl a glywai Owen, yn rhai deheuig iawn, a châi'r enw o gam-drin yn lle trin ei gerrig. Ond, ac Elias Thomas a Dafydd yn ei hyfforddi'n eiddgar a'r "George Hobley 'na" er ei holl ffaeleddau yn ŵr hynod hael, rhoes Owen goron i'w fam ar ei nos Wener Cyfrif gyntaf a chweswllt ar yr ail. Ac yn awr, yn y gwanwyn cynnar, enillai tuag wyth swllt y mis yn rheolaidd, a hynny heb orfod 'begera' fawr ddim. Y gŵr y siomwyd ef fwyaf ynddo yn y bonc oedd yr hen Ifan Ifans y blaenor. Cawsai ddau neu dri o glytiau ganddo am redeg ar negesau trosto, ond pan âi ati i'w trin ni châi lechi o faint na gwerth ohonynt. Un ai yr oeddynt "fel coed" chwedl George Hobley, heb ddim hollti ynddynt, neu yr oedd y crawennau'n malurio o dan y gyllell-naddu. "Mae'n rhaid fod yr hen Ifan Ifans mewn lle sâl ofnatsan," meddai Owen wrth Elias Thomas un prynhawn ar ôl methu'n lân â hollti un o'r clytiau anhydrin. Ni ddywedodd yr hen flaenor ddim ac edrychodd yn geryddgar ar Huw Jones am gecian chwerthin. Yna un prynhawn, "Hylô, pwy roth y clwt yna iti, Now?" gofynnodd George Hobley. "Yr Hen Phar, mae'n debyg?" "Naci," atebodd Owen yn ei anwybodaeth, "Ifan Ifans." Troes Huw Jones ei gefn arno'n sydyn a dywedai ymyl crynedig ei het fod plwc o chwerthin yn ysgwyd ei pherchennog. Deallodd Owen cyn diwedd y dydd mai cwtogiad o 'Pharisead' oedd 'Phar'. Yn chwerw braidd y gwrandawodd ar huodledd Ifan Ifans yn y Cyfarfod Gweddi y noson honno ac ar ei 'brofiadau' dwys yn y Seiat yr hwyr canlynol.

Gyda'r nos hefyd, cadwai Dafydd olwg dadol ar ei frawd. Nid oedd raid iddo'i dywys i'r capel, i'r Cyfarfod Gweddi nos Lun, i'r Seiat nos Fawrth, i'r Band of Hope nos Fercher, i'r Cwrdd Darllen nos Iau, i'r Gymdeithas Lenyddol nos Wener—gofalai'r plisman defosiynol Owen Gruffydd am hynny—ond, gan gredu barn Mr. Roberts Standard V a Jones y Sgŵl fod Owen yn "hogyn peniog iawn", aeth ati, yn ddiarwybod iddo, i feithrin ei chwaeth mewn llenyddiaeth. Yr oedd Dafydd ers blynyddoedd yn ddarllenwr eiddgar, a phob tro yr âi i Gaer Heli ar brynhawn Sadwrn, yn chwilota ymhlith y llyfrau ail—law yn y Farchnad y treuliai'r rhan fwyaf o'i amser yno. Er hynny, er ei fod mor wahanol i'r mwyafrif o'i gydweithwyr, na phrynent lyfr tros eu crogi, yr oedd yn fodlon ar ei fyd fel chwarelwr, heb chwennych dim yn wahanol. Ni feddyliai am adael y chwarel a cheisio mynd i'r Weinidogaeth, ac nid awgrymai neb hynny iddo chwaith, efallai mai am ei fod mor yswil a thawedog a'i leferydd braidd yn sydyn ac aneglur. Yn awr, a chyfrifoldeb y pen-teulu ar ei ysgwyddau, aethai'n fwy tawedog fyth, ond ni chysgai'r fam weddw un nos heb ddiolch i Dduw am gadernid tawel, diymhongar, ei mab hynaf.

Ac yntau'n tynnu at ei ugain oed ac Owen yn ddim ond deuddeg, gwyddai Dafydd nad oedd y llyfrau yr ymddiddorai ef ynddynt yn debyg o ddenu'i frawd. Cofiodd fod yn yr Ysgol gwpwrdd enfawr a'i lond o lyfrau i rai ieuainc, ac un noson wrth deithio yn y brêc o Gaer Heli yng nghwmni Mr. Roberts yr athro, gofynnodd a gâi fenthyg un neu ddau ohonynt. Câi â chroeso, a daeth Dafydd adref o'r ysgol un hwyr yr wythnos wedyn â dwy gyfrol dan ei fraich—Robinson Crusoe a Mr. Midshipman Easy. Yr oedd y ddwy, meddyliodd â gwên, yn blentynnaidd iddo ef, ond cymerai arno fwynhau pob gair ohonynt, gan ofalu gadael un ar y seld yn y gegin pan welai Owen yn anniddig o segur ar ôl swper. Ond ni fu raid i Ddafydd gymryd arno. Unwaith y dechreuodd ddarllen Robinson Crusoe, ni fedrai yn ei fyw ei roi o'r neilltu, a phan agorai Owen sgwrs am y chwarel neu'r capel neu rywbeth arall, tawedog iawn oedd ei frawd, a'i drwyn byth a beunydd yn lyfr. "Hy," meddai Owen y noson y gorffennodd Dafydd y nofel, "stori i hogyn-ysgol, myn diagan i!" "Efalla', wir, fachgan, ond mae hi'n un dda gynddeiriog ac yr ydw' i am fynd drwyddi hi eto—hynny ydi, os nad wyt ti 'i heisio hi." "Fi? Hy!" "Wel, mi ddarllena' i'r llall 'ma gynta', rhag ofn." A'r un fu profiad Dafydd yng nghwmni Midshipman Easy a Mr. Chucks ac Equality Jack a'r lleill ag wrth ddilyn anturiaethau Crusoe a Friday. Camodd ef ei hun i'r fagl a luniasai ar gyfer ei frawd, a safai Owen draw yn ddidaro, onid yn ddirmygus. Ond un noson, a Dafydd yn dychwelyd yn hwyr iawn o dŷ ei bartner i fyny ar ochr y Fron, synnodd weld bod golau yng nghegin Tyddyn Cerrig er iddo siarsio pawb i fynd i'w gwelyau a pheidio ag aros amdano. 'Mam i'r dim, meddai wrtho'i hun: yr oedd hi mor benderfynol â... â Thaid. Sleifiodd i mewn i'r gegin yn dawel, ac yno, wedi ymgolli'n llwyr yn ei lyfr, a'i ddau benelin ar y bwrdd a'i ddwylo ar ei glustiau, eisteddai Owen. Yr oedd y tân wedi hen ddiffodd a'r lamp yn mygu'n ddrwg, ond ni theimlai'r darllenwr yr oerni, ni chlywai'r aroglau, ni welai anwadalrwydd y fflam.

"Be' sy gin' ti, Now?" gofynnodd Dafydd wedi iddo drin y lamp.

"Midshipman Easy."

"Taw! Dew, stori dda ydi hi, yntê?"

"Go lew, wir," atebodd Owen, gan geisio swnio'n ddifater, ond a'i lygaid yn awchus ar y llyfr o'i flaen. "Wel, tyd i'r gwely 'na, 'r hen ddyn. Bora 'fory ddaw." "Dos di i dy wely. Yr ydw' i am orffan y bennod 'ma."

"'Wyddost ti faint ydi hi o'r gloch, 'ngwas i?"

"Un ar ddeg?"

"Mae hi wedi hannar nos."

"Dim ond tair tudalen sy gin' i eto. Mi ddo' i ar dy ôl di."

"Lwc nad ydi Taid ddim yn gwbod dy hanas di. Mi ddeuda' i wrth 'Mam am beidio â sôn gair wrtho fo."

"Fy hanas i, be'?"

"Yn darllan rhyw sothach pechadurus fel'na tan oria' mân y bora. Celwydd ydi pob nofal, medda' fo, ac mae celwydd yn bechod."

"Hy, 'roedd o'n darllan un y noson o'r blaen pan on i yn Nhŷ Pella'. Ac yn chwerthin fel ffŵl."

"Oedd, mi wn. Ond mae 'Rhys Lewis' yn wahanol."

"Pam?"

"Mae hi'n delio â phregethwr yn un peth, ac yn fwy o ddameg na stori, medda' fo, ac yn . . . yn Gymraeg."

"Mae gin' ti hawl i ddeud celwydd yn Gymraeg, mae'n debyg, ond ddim yn Saesnag?"

"Gofyn di hynny i Taid, Now bach . . . Wel mi osoda' i'r tân i 'Mam at y bora tra byddi di'n gorffan y bennod 'na. Ond fi pia' hwn'na nos 'fory, cofia di 'rŵan. Mi gei di'r llall os lici di."

"Croeso iti ohono fo. Dim ond isio gweld sut stori oedd hi yr on i." Y nos, drannoeth, er hynny, yn lle mynd i'r Gymdeithas Lenyddol, ar fwrdd yr Aurora yr aeth Owen, ac yr oedd yn falch i ddarlith y Parch. Ebenezer Morris ar Ddirwest barhau am awr a hanner ac i Ddafydd orfod oedi yn y Festri am hanner awr arall ym mhwyllgor y Gymdeithas. Gorffennodd y llyfr y noson honno.

Yr oedd eraill o storïau'r Captain Marryat—Masterman Ready, Peter Simple, Jacob Faithful, a Poor John—ymhlith y llyfrau yng nghwpwrdd mawr yr Ysgol, a thrwy'r gwanwyn a'r haf llosgai'r lamp yn hwyr yn aml yng nghegin Tyddyn Cerrig. Owen oedd y pechadur pennaf, a phan ddarganfu nofelau Scott a Dickens, gorfu i'w fam, a ddeffroesai ambell noson yn oriau mân y bore i ganfod golau o'r gegin ar lwybr yr ardd, godi droeon i yrru'r darllenwr i'w wely. A bellach, ar ei ffordd o'r Ysgol â llyfr dan ei fraich, ni faliai pan welai Will Cochyn yn taflu'i ben i fyny ac yn poeri'n ddirmygus i'r lôn. Na phan ddaliai Huw Rôb ef yn sgwrsio'n frwdfrydig efo Mr. Roberts Standard V.

Ffarweliodd Jones-Parry â Chwarel y Fron yn nechrau Awst a daeth Rheolwr newydd, dyn o ardal Llanarfon, i gymryd ei le. Penderfynodd ei gi bach, y Stiward Gosod John Humphreys, hefyd ymddeol yr un pryd, a chytunai gwŷr gorau'r chwarel fod cyfnod heulog o chwarae—teg yn ymagor, yn enwedig pan ddaeth y si fod Richard Davies, er nad oedd nac Eglwyswr na Thori, wedi'i ddyrchafu'n Stiward Gosod.

"Dyn da, er mai fi sy'n deud hynny, a finna'n ista' yn y sêt tu ôl iddo fo yn y capal," meddai Huw Jones wrth Owen. "Gŵr bneddig i'r carn. Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag."

"Mae 'na wŷr bonheddig hyd yn oed ymhlith y Batus, wsti," eglurodd Elias Thomas yn ddwys. Pur anaml y ceisiai ef fod yn ddigrif, ac yn ddieithriad bron, ar draul enwad Huw Jones y dôi'r ffraethineb.

Yn lle chwilio am ateb, troes y dyn bach at Owen. "Ydi Dafydd yn gwbod?" gofynnodd.

"'Wn i ddim. 'Doedd o ddim bora 'ma, Huw Jones."

"'Tasa' Richard Davies yn Stiward Gosod pan fu dy dad. farw, mi fasa' Dafydd wedi cael y fargen. Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag."

"Efalla', wir," meddai Elias Thomas.

"Efalla'? Yr on i'n cerddad adra' o'r Seiat efo fo un noson tua'r amsar hwnnw, ac mi feiddis sôn am y peth wrtho fo. 'Ia, piti,' medda' fo, 'piti garw.' Mi ddaru droi'r stori wedyn, ond yr oedd o wedi deud digon. Ne' dyna ydw' i'n feddwl, beth bynnag. Unwaith y byddai rhywun yn pechu yn erbyn Jones-Parry . . . "

Ond tawodd âi Robin Ifans heibio i'r wal. "Yr argian fawr, Huw! Trowsus newydd?" meddai hwnnw, gan aros i'w edmygu.

"Lle cest ti o?"

"Ar y Maes yn y dre. Gan yr Iddew bach tew hwnnw."

"Un da ydi o hefyd. Ond piti fod 'na dylla' ynddo fo, yntê."

"T . . . tylla'?" Archwiliodd Huw Jones ei drowsus mewn dychryn.

"Rhai ciwt ydi'r Jiws 'ma, wchi. Yntê, Now?"

"Tylla'? Lle wyt ti'n gweld tylla', ddyn?"

"Mae dy goesa' di'n dwad drwyddyn' nhw, Huw."

Ni wnaeth Owen ond gwenu, ac aeth Robin ymaith tua'r

Twll yn siomedig. Fe'i mwynhâi ef ei hun fel gŵr digrif y bonc, ond yn ddiweddar ni chwarddai'r dynion gymaint am ben ei ddywediadau ysmala. Byth er pan gafodd ei symud i fargen Robert Ellis, meddai wrtho'i hun fel y deuai i wastad y Twll. Hy, eiddigedd, eiddigedd a dim arall.

"Fyddi di ddim yn y fargen 'na'n hir iawn, 'ngwas i," meddai Huw Jones wedi iddo fynd. "Ne' dyna ydw' i'n feddwl, beth bynnag."

Dyna hefyd a feddyliai Owen y noson honno, pan ddaeth ei chwaer Enid adref o dŷ Richard Davies.

"Lle mae Dafydd?" gofynnodd pan gyrhaeddodd y gegin.

"Yn twtio tipyn yn yr ardd gefn. Pam?"

"Dim byd. 'Dydw' i ddim i fod i sôn gair wrth neb."

"Am be'?"

"Dim byd."

"Am y chwaral?"

"Ddeudis i mo hynny, naddo?"

"Hy, mi wn i."

"Be'?"

"Mae Richard Davies wedi'i wneud yn Stiward Gosod."

"Mae pawb yn gwbod hynny, ond nid dyna oedd gen' i."

"Be' 'ta'?" "Rhwbath am Ddafydd, ond 'ddeuda' i ddim."

"I be' oeddat ti isio Dafydd 'ta'?"

"'Wnes i ddim ond gofyn lle'r oedd o. 'Oes 'na rwbath o'i le yn hynny?"

"Enid?"

"Ia?"

"'Ddeuda' i ddim gair o 'mhen. 'Ddaru o sôn am y fargen?"

"Ar dy lw?"

"Cris—cros, tân poeth, chwadal Myrddin."

"Cofia di, 'rwan. Mrs. Davies ddaru siarad efo fi. Deud bod Dafydd wedi cael cam byth ar ôl y Lecsiwn a bod Mr. Davies am ofalu y ceiff o chwara' teg 'rŵan. Mae o'n meddwl lot o Dafydd, medda' hi, ac os medar o, mae o am roi hen le Tada iddo fo. Ond 'doedd hi ddim i fod i sôn dim am y peth wrtha' i. 'Wnei di ddim cymryd arnat, na wnei?”

"Dim peryg'."

Deallodd Robin Ifans ddiwedd yr wythnos honno ei fod i ailgychwyn yn ei hen fargen fore Llun, a dathlodd George Hobley'r amgylchiad yn y Crown yn lle mynd adref i fwrw'r Sul. Dywedodd droeon wrth y dynion a'i hebryngai i fyny'r Lôn Serth, ymhell wedi un ar ddeg nos Sadwrn, ei fod wedi cael gwared o'r "Robin Ifans diawl 'na" o'r diwedd. Ac yntau mor feddw, ni sylweddolai fod Robin yn un o'r cwmni. Bore Llun ar y ffordd i'r chwarel, yr oedd Owen yn un o bump—ef a Dafydd, Elias Thomas a Huw Jones, ac Ifan Rowlands, tad Cecil. Yr oedd y bore'n loyw a'r awyr yn denau, a chofiai Owen am fore tebyg, flwyddyn ynghynt, pan oedd ei dad yn eu plith. Ai hynny a oedd ym meddwl ei gymdeithion hefyd? Yr oeddynt oll yn dawedog iawn. Rhedai eco'r traed hyd doau'r tai, llusgai Huw Jones ei glocsiau, cliriai Ifan Rowlands ei wddf fel petai'n Farnwr ar fin cyhoeddi dedfryd, anadlai Elias Thomas yn drwm, ond ni ddywedai neb ddim. Yna, o'r diwedd, fel y gadawent y pentref o'u holau, "Mae'r hogyn acw yn dechra' yn y dre hiddiw," meddai tad Cecil.

"Ydi o, wir?" ebe Huw Jones, ond heb frwdfrydedd. Er na wnâi ef fawr fwy yn y capel na chadw trefn ar seddau ôl y Band of Hope, gofalu bod bysedd y cloc yn dangos yr amser iawn ar ddechrau gwasanaeth, a rhedeg dŵr i'r seston ar gyfer bedydd, gwelai ddigon ar Cecil i beidio â'i hoffi, yn arbennig ar ôl clywed barn hogiau fel Owen a Huw Rôb a Wil Cochyn amdano. "Mewn siop, yntê?"

"Y?"

Dyn llariaidd oedd Ifan Rowlands, ond swniai'n gas yn awr.

"O, meddwl imi glywad be'-ydi-i-henw-hi yn deud 'i fod o'n mynd i siop be'-ydach-chi'n-'i-alw-fo. Honno sy ar y Maes ddeudodd hi, dwch? Ne' honno sy yn Stryd y Cei? 'Fedra' i ddim bod yn siŵr, wir."

"Dydi o ddim yn mynd ar gyfyl yr un siop, ar y Maes nac wrth y Cei. Mae o'n dechra' yn offis Roberts y Twrna' bora 'ma."

"O, deudwch chi. Wel, gobeithio y bydd o'n fwy gonast na'i fistar, yntê? Un garw ydi'r Robaits 'na, meddan' nhw i mi. Ond dyna fo, 'fedrwch chi ddim deud, na fedrwch? Ne' dyna ydw i'n feddwl, beth bynnag. 'Fydda' i ddim yn gwrando ar chwartar y petha' fydda' i'n glywad."

"'Roedd Jones y Sgŵl yn deud 'i fod o'n siŵr o ddŵad yn 'i flaen yn iawn yno. Mae'n blesar gweld 'i gopi-bwc o, medda' fo wrth y wraig 'cw. Dim blot ar 'i gyfyl o. Wel, 'roeddan ni'n benderfynol o'i gadw fo o'r hen chwaral 'na."

Yr oedd tipyn o gryndod yn llais Huw Jones pan atebodd. "Dydi'r chwaral ddim yn lle drwg i hogyn cydwybodol a gweithgar," meddai. "Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag. I hogyn fel Now 'ma. Dim ond blwyddyn sy er pan ddaeth o i'r bonc acw, a hiddiw dyma fo'n dechra' fel jermon fesul dydd. efo Lias Tomos a finna'. Swllt y dydd, ar ôl blwyddyn o rybela."

"Yr argian fawr!" meddai tad Cecil, gan gofio am yr arian a dalai ef i'r cyfreithiwr yn y dref.

Dyna hefyd a ddywedai'r lleill—wrthynt eu hunain. Edrychodd Dafydd ac Owen ar ei gilydd yn syn hwnnw oedd y tro cyntaf iddynt hwy glywed dim am y peth.

Daethant i waelod Lôn Serth cyn hir a dringodd Owen hi wrth ochr Elias Thomas.

"Un byrbwyll ofnatsan ydi Huw Jones," meddai'r hen flaenor ymhen ennyd. "'Roeddwn i ac ynta' wedi bod yn sôn am dy gymryd di fel jermon, Owen—ond ymhen rhai wythnosa', ar ôl iti gael tros flwyddyn fel rhybelwr. A 'rŵan, mae 'na fatar arall i'w ystyriad. Efalla' y bydd yn well gen' ti fynd yn jermon. at Dafydd a George Hobley. Chdi sydd i benderfynu hynny, Owen, 'machgan i. Fel y gwyddost ti, mi fedrwn ni fforddio talu i jermon, a'r graig wedi gwella cymaint yn ddiweddar."

Wedi iddynt groesi'r bont haearn ar ben Lôn Serth, aeth Ifan Rowlands i'r chwith tua Phonc Rowler a throes y lleill i'r dde drwy'r coed a heibio i'r Barics. Fel y gwnaethai'i dad flwyddyn ynghynt, rhoes Dafydd ei fysedd yn ei geg a chwiban dros y lle, ac ymhen ennyd ymddangosodd George Hobley yn nrws ei lety yn llewys ei grys. Chwifiodd law arnynt, diflan— nodd, rhuthrodd allan wedyn gan wisgo'i gôt ac â brechdan fawr rhwng ei ddannedd. Pan gyrhaeddodd y cwmni ysgwydd y domen a godai rhyngddynt a'r bonc, oedodd Owen wrth ochr Elias Thomas i syllu ar yr olygfa, ac yna dilynodd y ddau y lleill yn araf heb ddywedyd gair. "Ia, Ia, wir, fachgan," meddai'r hen flaenor yn ddwys ymhen ennyd, a gwyddai Owen fod ei feddyliau yntau'n crwydro'n ôl i'r bore Llun arall hwnnw, flwyddyn ynghynt.

Troes Owen i mewn i hen wal ei dad ar ei ffordd drwy'r bonc. Yr oedd Dafydd yn newid ei gôt cyn cychwyn i lawr i'r Twll.

"Wel, sut mae'r jermon yn teimlo?" gofynnodd.

"Jermon?" meddai George Hobley'n herfeiddiol. "I bwy?"

"Mae Huw Jones a Lias Tomos am 'i gymryd o."

"Ond damia . . . "

"Be', George?" Dim ond dau air, ond gwnâi'r dôn i Owen feddwl mai llais ei fam ac nid un Dafydd a glywai. "Be' sy o'i le ar y wal yma? Os medar Huw Jones a Lias Tomos 'i gymryd o fel jermon . . . "

"O, mae o a'r hen Lias yn dipyn o lawia', wsti. A Huw Jones o ran hynny. Ac efo nhw mae o wedi bod ers misoedd, yntê? Ond dyna fo, matar i Now ydi o. Mi geiff o benderfynu, ar ôl meddwl dros y peth hiddiw."

Ond gwyddai Owen mai at Elias Thomas yr hoffai Dafydd iddo fynd. Ac fel o'r blaen yng nghwmni'i dad, cofiodd am ddyn meddw yn honcian allan o'r Crown ac am "y George Hobley 'na" y soniai'i fam amdano. Eto, hen foi iawn oedd. George, y caredicaf dan haul, heb ddichell yn y byd, mor ddiniwed â phlentyn. Ond ped âi ato ef a Dafydd, ni wnâi'i fam ond pryderu yn ei gylch, ac wedi'r cwbl, yng ngofal Elias Thomas a Huw Jones y dysgodd ei grefft. "Faint maen nhw am roi iddo fo?" gofynnodd George Hobley yn awr.

"Swllt y dydd."

"O ... Damnia, mi rown ni ddeunaw iddo fo 'ta'. Mi fedrwn fforddio hynny, a ninnau'n cael cerrig mor freision, Dafydd."

Canodd y corn. "Chawn ni ddim cerrig o fath yn y byd fel hyn," ebe Dafydd, gan droi ymaith. "Ron i wedi bwriadu saethu pnawn 'ma. Tyd, Now." Yna, ar ei ffordd tua wal Elias Thomas, "Mi gei di benderfynu, yntê, 'r hen ddyn?" meddai wrth ei frawd.

"Yr ydw' i wedi penderfynu," atebodd Owen.

"O?"

"Ydw'. At yr hen Lias a Huw Jones yr ydw' i am fynd. Hen ddyn iawn ydi Lias Tomos, yntê, Dafydd?"


𝒫𝑒𝓃𝓃𝑜𝒹 4

RHOES yr hen weinidog ychydig glapiau ar y tân yn ffwndrus o ofalus, un yma ac un acw, lle gwelai fflam i'w cynnau "Treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl" . . . "Fy nyddiau sydd gynt na gwennol gwehydd" . . . "a ddarfuant fel mwg" . . . Syllodd ar y mwg yn ymdroelli i fyny'r simdde, ochneidiodd, ysgydwodd ei ben yn araf. Tu allan yr oedd y gwynt yn codi a'i ru dwfn i fyny yng Nghoed—y—Brain yn troi'n chwiban hir, dolefus, o gwmpas y tŷ.

Llithrodd amlen y llythyr, oddi ar ei lin i'r llawr a syllodd yn ddiog arni. Ni fedrai ddarllen yr enw a'r cyfeiriad a oedd arni yn y tywyllwch, ond goleuwyd hwy am eiliad gan fflam sydyn o'r tân . . . "Parch. Owen Ellis" . . . Yn y dyddiau pell hynny pan weithiai yn wal Elias Thomas a Huw Jones, breuddwydiai weithiau, ond yn ddirgel ddirgel, amdano 'i hun yn gwefreiddio torfeydd â'i huodledd a'r capelau'n gorlenwi lle bynnag yr âi. Cadeiriau yn y rhodfeydd, pobl yn eistedd hyd yn oed ar risiau'r pulpud, y lobi'n llawn, ugeiniau y tu allan—ac yn y pulpud Owen Thomas, Lerpwl, yn mynnu pregethu'n gyntaf o flaen y gŵr ifanc disglair Owen Ellis, Llan Feurig. Ond cadwodd. Owen yr holl bethau hyn yn ei galon, gan fodloni ar ei orchestion fel adroddwr ac ar ennill ar ambell draethawd yn eisteddfodau'r cylch. Fel ei daid o'i flaen, daeth yn adroddwr o fri, ac yng nghyrddau achlysurol y caban ar awr ginio, yng Ngobeithlu a Chyfarfodydd Llenyddol y capel, mewn ambell gyngerdd yn yr ardal, ac mewn eisteddfodau lu, clywid ef yn rhoi'r Dyn Tylawd yn ei fedd neu'r Caethwas dan y morthwyl neu'n wynebu holl rym y Dymestl.

"Mi fydd Now 'ma'n enwog ryw ddiwrnod, 'gewch chi weld," oedd barn Huw Jones. "Fel prygethwr ne' rwbath. Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag."

Ond ni ddywedai Elias Thomas ddim yr oedd ef ac Owen Gruffydd a Dafydd yn hollol fud ar y pwnc, fel petai rhyw gynghrair rhyngddynt. Ymhen blynyddoedd, pan edrychai'r Parch. Owen Ellis yn ôl ar ei yrfa, yr oedd yn sicr i'r tri hyn, yn ddistaw bach, lunio'i ddyfodol—Dafydd drwy ofalu ei fod yn darllen llawer yn Gymraeg a Saesneg, Elias Thomas drwy'i wthio i'r amlwg bob cyfle a gâi yn y capel, Owen Gruffydd drwy'i ddisgyblu fel llefarwr. Y tri hyn, fe wyddai, a'i moldiodd ef yn ddiarwybod iddo, a'r mwyaf ei ddylanwad o'r tri hyn oedd Dafydd.

Pan adawodd Owen ddosbarth Elias Thomas yn yr Ysgol Sul a dringo i un llanciau rhwng un ar bymtheg ac ugain oed, dewiswyd Dafydd tua'r un pryd yn athro ar y dosbarth hwnnw. Ni hoffai Owen hynny: pwy oedd Dafydd ei frawd i'w ddysgu ef a Huw Rôb a Wil Cochyn ac eraill? Ac am Suliau lawer llafuriodd Dafydd yn wyneb sisial a direidi ac ystrywiau o bob math, er iddo fenthyca ac astudio amryw esboniadau a llyfrau ar gyfer y gwersi.

"Pam yr wyt ti'n edrach mor ddigalon, Dafydd?" gofynnodd ei fam iddo amser te un prynhawn Sul. "Be' ydi'r matar?"

"Dim o bwys, 'Mam."

"Y dosbarth 'na sy ar dy feddwl di?"

"Wel, ia. Yr ydw' i wedi gwneud fy ngora' efo fo." Ochneidiodd, ond gan daflu winc arni. "'Dwyt ti ddim am 'i roi o i fyny?".

"Ydw'. Mi fydd yn ddigon hawdd i Ifan Ifans ne' rywun 'i gymryd o."

"Yr Hen Phar!" meddai Owen â dirmyg mawr.

"O, mae'r hen Ifan yn gwbod 'i Feibil, wsti," ebe Dafydd, "a fo ydi'r tebyca' o fedru cadw trefn arnach chi. 'Fedra' i ddim, beth bynnag, mae hynny'n amlwg. Piti hefyd, a finna'n cael y maes yn un hynod ddiddorol . . . 'Ga' i banad arall, 'Mam?"

"Be' ddigwyddodd hiddiw?" gofynnodd hi wrth dywallt y te.

"Y Wil Davies 'na—Wil Cochyn, chwedl Now 'ma."

Tynnodd Dafydd o'i boced ddau ddarn o bapur a'u hestyn i'w fam. Llun y Parch. Ebenezer Morris, y gweinidog, a oedd ar un, a pheint enfawr, ewynnog, o'i flaen, ac ar y llall gwenai wyneb tew Huw Rôb rhwng adanedd angel. "Mi ges i afael yn y ddau yna."

Chwarddodd Owen a Myrddin yn uchel pan welsant hwy, ac er y ceisiai hi edrych yn gas, yr oedd awgrym o wên ar wefusau'r fam.

"Mae o'n glyfar efo'i law, mae'n rhaid dweud," meddai hi.

"Ydi." Ond, o fwriad, swniai Dafydd yn sych, gan guddio'i edmygedd.

Crwydrodd allan i'r ardd ar ôl te, ac ymhen ennyd dilynodd Owen ef yno.

"'Wyt ti o ddifri, Dafydd?"

"O ddifri?"

"Ynglŷn â'r dosbarth."

"Ydw', debyg iawn. Mi ga' i air efo Richard Owen, yr Arolygydd, heno ar ôl capal . . . Piti am yr hen goeden 'fala' 'na, yntê? Dyma'r ail flwyddyn i'r 'fala' syrthio'n rhai bychan oddi arni hi. 'Chawn ni ddim un ohoni hi."

"'Fasat ti'n dal ymlaen 'tasan ni'n . . . byhafio?"

"Rhyw bryfyn sy ynddi hi wsti. Rhaid inni holi John Jones Gardnar pan wela' i o."

"'Fasat ti'n dal ymlaen 'tasan ni'n . . . byhafio?"

"Nid y byhafio sy'n fy mhoeni i . . . Mi welis i o'n golchi coed Jones-Parry efo rhyw stwff. 'Roedd gynno fo bwmp i da flu'r peth trostyn' nhw."

"Be' sy'n dy boeni di, 'ta'?"

"Ynglŷn a'r dosbarth? O, y diffyg diddordab. 'Dydach chi ddim fel 'tasach chi'n gwrando arna' i nac yn malio be' sy yn y wers. 'Rydach chi'n sbwylio'r pwdin i minna' hefyd. 'Ron i'n gweld yr hanas yn un diddorol iawn nes imi ddechra' trio'i egluro fo i chi, y cnafon."

"O, chwara' teg, 'roeddan ni'n gwrando'n o lew hiddiw."

"Ym mh'le'r oedd y wers?"

"Yn yr Actau, debyg iawn. Yr unfed bennod ar bymthag."

"Be' oedd ynddi hi?"

"Hanas Paul a Silas."

"Yn be'?"

"Yn mynd ar daith."

"I b'le?"

"I . . . i Troas."

"Ac oddi yno?"

"I Philippi."

"Lle mae hwnnw?"

"Ym Macedonia."

"A lle mae Macedonia?"

"Yng ngwlad Groeg ddeudist ti, dywad?"

"Ia, yng ngwlad Groeg . . . Hm, 'rwyt ti wedi dysgu mwy nag on i'n feddwl."

"Wnei di ddal ymlaen, Dafydd?"

"'Wn i ddim. Mi feddylia' i am y peth tan amsar Seiat nos Fawrth."

Ond nos Lun daeth dirprwyaeth i Dyddyn Cerrig—Huw Roberts a William Davies, neu, ar lafar, Huw Rôb a Wil Cochyn, y ddau'n ceisio edrych mor ddifrifol â phe baent mewn angladd.

"Ydi Dafydd yn tŷ, Mrs. Ellis?" gofynnodd Huw, llywydd y ddirprwyaeth, mewn llais dwfn, a chan besychu'n bwysig.

Cuddiodd Wil ei wên fawr, ddanheddog, tu ôl i gefn ei gyfaill.

"Ydi, mae o ac Owen yn y gegin. Dowch i mewn."

"Y . . . diolch, Mrs. Ellis, diolch." A rhoes Huw bwniad i Wil am gecian chwerthin tu ôl iddo.

Eisteddodd Huw yn y gadair freichiau yn y gegin, ond bodlonodd Wil ar y stôl drithroed, gan gadw'i ben i lawr.

"Yr ydan ni wedi dwad yma ynglŷn â'r Dosbarth Ysgol Sul," meddai Huw, a'r llais dwfn yn gwneud i Owen hefyd guddio'i wyneb.

"Ydan," ebe Wil, ond wrth ei droed chwith.

"Mae 'na si eich bod chi, Dafydd, am 'i roi o i fyny."

"Oes," ebe Wil.

"Mi fydda' hynny'n . . . y . . . siomiantigath go fawr inni.'

"B . . . bydda'," ebe Wil, gan ddarganfod yn sydyn fod carrai' esgid yn o lac. Anadlai'n drwm hefyd, fel petai rhyw aflwydd ar ei frest. "Aros di nes awn ni allan i'r lôn 'na, Wil Cochyn," meddai Huw wrtho'i hun.

"Yr ydan ni'n gwbod—ac yr ydan ni'n siarad dros weddill y dosbarth hefyd . . . "

"Ydan." "Yr ydan ni'n gwbod—ac yr ydan ni'n siarad dros weddill y dosbarth hefyd—inni fethu talu'r sylw dyladwy i'r wers."

Yr oedd brest Wil yn ddrwg eto a charrai'r esgid arall yn hawlio'i thrin. "Ie wir," meddai'n ddigyswllt pan deimlai'n well.

"Ond os daliwch chi ymlaen efo ni, Dafydd, yr ydan ni'n golygu trio'n gora' o hyn allan."

Hogyn tew, bochgoch, oedd Huw, yn gryf fel tarw ond mor ddiniwed ag oen. Gwyrodd ymlaen yn eiddgar a'i ddau lygad croes yn fawr yn ei ben.

"Mi fùm i'n meddwl am y peth gynna' cyn i chi ddŵad, hogia'," meddai Dafydd. "Piti na chawn i dipyn o help efo'r dosbarth,' meddwn i wrtha' f'hun."

"Help?" ebe Huw.

"Ia. "Tai gynno' ni rywun fedrai dynnu mapia' go lew . . . "

Cododd Wil ei ben. "Pa fapia'?" gofynnodd.

"Wel, Sul dwytha' 'roeddan ni'n darllan am Paul yn teithio bob cam o Jerwsalem i wlad Groeg. 'Doedd neb fel 'taen' nhw'n malio i b'le'r oedd o'n mynd, ac i ddeud y gwir, 'doeddwn i fy hun ddim yn rhyw glir iawn fy meddwl. 'Roeddwn i wedi'i ddilyn o ar fap sy gan fy nhaid yn 'i Feibil, ond 'fedrwn i yn fy myw gofio'r map wrth drio egluro petha' i chi. "Tai gynno' ni rywun go dda efo'i law, 'rŵan . . . "

"Mae gin' i focs paent," meddai Huw.

"'Oes, wir? Diawch, 'taswn i'n cael benthyg hwnnw gin' ti, Huw, efalla' . . . Ond dwy law chwith sy gin' i, mae arna' i ofn."

"Ar be' oeddach chi'n meddwl tynnu'r map, Dafydd?" gofynnodd Wil.

"Ar ddalan fawr fawr o bapur. Maen' nhw i'w cael yn siop Owens yng Nghaer Heli. Mae isio tri map i gyd."

"Tri?"

"Ia.

Y daith i wlad Groeg, honno yr oeddan ni'n sôn amdani Sul dwytha'; taith wedyn ymhellach ymlaen, eto i Roeg; a'r daith olaf pan aed â fo'n garcharor i Rufain. Mi liciwn i hefyd gael llun y llong yr oedd o'n hwylio ynddi hi a llun y Parthenon, teml fawr yn Athen, a llun canwriad Rhufeinig Mae lot o lunia' da mewn llyfr y ces i 'i fenthyg o gan fy nhaid, ond 'u bod nhw i gyd yn fychan. Mi driais i fy llaw ar fap un noson, ond un sâl ar y naw ydw' i efo petha' felly, mae arna' i ofn."

Mi geiff Wil fenthyg fy mocs paent i," meddai Huw.

"Wil? 'Ydi Wil . . . ? Wel, yr argian fawr, ydi, wrth gwrs!"

"Pryd ydach chi'n mynd i gael y papur 'na o Gaer Heli, Dafydd?" gofynnodd Wil.

"Mae Meri 'chwaer yn mynd yno 'fory," ebe Huw. "Mi fedar hi alw yn y siop os liciwch chi."

"Campus, Huw, campus!" Tynnodd Dafydd hanner

coron o'i boced. "Mae'n well iddi ddŵad â hannar dwsin ohonyn' nhw inni, ond ydi? Maen' nhw tua dwy droedfadd sgwâr, yr ydw' i'n meddwl."

"Reit." Cododd Huw yn bwysig. "Ydi'r Beibil gynnoch. chi?” "Beibil? O, hwnnw sy â'r mapia' ynddo fo? Ydi, mi a' i i'w nôl o 'rŵan, a'r llyfr yr on i'n sôn amdano fo."

"Mi fasat yn meddwl mai fo sy'n mynd i dynnu'r mapia' a'r llunia', Now," meddai Wil wedi i Ddafydd adael y gegin.

"A 'fedra' fo ddim tynnu llun bwgan brain, myn diân i!"

"Yr ydw i'n mynd i ofalu bod rhain yn cael 'u tynnu," oedd ateb Huw. "Mi wyddost un mor ddigychwyn wyt ti, a 'thaem ni'n dibynnu arnat ti, 'welen ni ddim ar bapur cyn 'Dolig. Wel, yr ydan ni'n tri'n mynd i gwarfod yn tŷ ni nos 'fory. Mi ofynna' i i 'Mam wneud tân yn parlwr ac mi gawn ni lonydd yno i ddechra' ar y map cynta'—Now i ddarllan y bennod a studio'r map, a finna' i estyn petha' iti. 'Dydan ni ddim yn mynd i siomi Dafydd."

"Rhoi siomiantigath iddo fo," meddai Wil yn amharchus, mewn llais dwfn.

"Aros di nes ei di allan, Cochyn."

Bu'r cynllun yn llwyddiant mawr, a daeth Owen yn awdurdod ar rannau olaf yr Actau, Wil yn fapiwr a thynnwr lluniau heb ei ail, a Huw yn—"giaffar" llond ei groen. Yn y seiadau hynny ym mharlwr Huw Rôb, fel y cofiai'r Parch. Owen Ellis bob tro y codai destun yn yr Actau, y ganwyd ei ddiddordeb mawr yn yr Apostol Paul. Yno hefyd y sylwodd mor ddu oedd llygaid Mary, chwaer Huw.

Yn y tŷ, Dafydd; yn y capel ac yn y chwarel, Elias Thomas. Am bregethau a phregethwyr yr oedd sgwrs yr hen flaenor beunydd. Pan aethai Owen i'r chwarel gyntaf, gwrandawai arno'n ddifater—yn wir, yn fingam braidd, a'i osgo'n awgrymu mai'r Seiat, nid y bonc, oedd y lle i bethau felly. Ond fel y treiglai amser heibio, daeth yntau, fel ei dad o'i flaen, i dalu mwy a mwy o sylw i eiriau tawel Elias Thomas.

Ym meddwl iach bachgen deuddeg oed, prin iawn oedd cysgodion beirniadaeth. Yr oedd pawb o'i gwmpas yn llawn rhamant—Huw Jones a'i het galed amharchus a'r cnwd o flew yn ei glustiau; Robin Ifans a'i dafod cyflym; George Hobley uchel a diofal ei lais; Ifan Ifans, a wisgai gôt laes a bwa gwyn i fynd i'r capel hyd yn oed ar noson waith, mewn hen hen ddillad wrth y drafael neu ar y ffordd i'r Twll; Elias Thomas wyredig yn trin cerrig yn lle trin adnodau yn yr Ysgol Sul. Ond wedi pylu o'r newydddeb a thyfu o'r bachgen yn llanc, ciliodd yr hud a'r lledrith: aeth het Huw Jones yn llai digrif a thafod Robin Ifans yn llai ffraeth, gwaeddai George Hobley ormod wrth siarad, a phan droai llais main Ifan Ifans yn ddwys, cofiai Owen am y clytiau o gerrig a gawsai ef a bechgyn eraill ganddo. O bawb yn y bonc, Elias Thomas fwyn a thawel a wisgai orau.

Pregethwyr y Methodistiaid oedd ei arwyr ef, a phan lithrai i mewn i ymgom, "Yn 'i bregath fawr ar y testun 'Seimon, fab Jona, 'wyt ti'n fy ngharu i?' y gwnaeth y Doctor John Hughes, Caernarfon, y sylw..." neu "William Prytherch, Y Gopa, yn 'i bregath ar 'hau a medi' glywis i'n deud. . ." neu "Pan ddaeth Matthews, Ewenni, â'r 'ddafad golledig' i Gaer Heli a'i chario hi—y Beibil mawr oddi ar y pulpud, wrth gwrs— yn ôl a blaen ar 'i ysgwydd, yr ydw' i'n cofio..." neu rywbeth tebyg oedd ei eiriau cyntaf yn ddieithriad bron. Clywsai, pan oedd yn ifanc, John Elias a William Roberts, Amlwch, ar eu gorau, a gallai adrodd darnau o bregethau John Jones, Tal-y-sarn, a Henry Rees, a'r athrylith ifanc o Fôn, William Charles, a David Jones, Treborth, bron air am air. Er nad oedd yn ddyn. cryf, cerddai filltiroedd i wrando ar y Prifathro Thomas Charles Edwards neu ar y Dr. Griffith Parry neu ar John Williams, Brynsiencyn, pan ddeuai un ohonynt i'r cylch, a gwnâi pregeth fawr ef flynyddoedd yn ieuangach: yr oedd ei gam yn ysgafnach a'i lygaid yn loywach a'i wên yn fwy eiddgar am ddyddiau lawer wedi'i chlywed. Cofiai destunau a phennau ugeiniau o bregethau, a phan siaradai yn y Seiat, mwynhâi pawb ei glywed yn dyfynnu stori neu eglureb o bregeth a glywsai neu a ddarllenasai —bob tro gan ymddiheuro am ei ffordd anghelfydd o'i dweud. "Ond dyna fo," meddai, "does gen' i mo'r ddawn na'r llais i wneud cyfiawnder â hi. Yr oedd llais y Doctor Owen Thomas, meddan' nhw i mi—nid fy mod i'n credu hynny, cofiwch—yn ddealladwy filltir a hannar i ffwrdd ac yn glywadwy am bedair milltir, a finna' efo fy ngwich o lais yn cael trafferth i dynnu sylw Esthar acw pan fydda' i ar ben y grisia' a hitha' i lawr yn y gegin."

Yr oedd ei gof yn rhyfeddol, a dyfynnai'n helaeth a hynod gywir o'r llyfrau a ddarllenai—"Geiriadur Charles", "Cyfatebiaeth Butler", "Traethodau Lewis Edwards", "Hanes Methodistiaeth", cofiannau a chyfrolau o bregethau. Bob yn eilnos, cyn troi i'w wely, treuliai awr gydag un o'r llyfrau hyn neu gyda'i Feibl, ac yna pan drawai'r cloc ddeg o'r gloch, caeai'r llyfr yn araf, tynnai'i sbectol, a syllai'n dawel am chwarter awr i weddillion y tân, gan fyfyrio ar yr hyn a ddarllenasai. Haf a gaeaf, gŵyl a gwaith, cadwai'r hen flaenor y ddefod hon, a pharchai Esther Thomas dawelwch meudwyaidd ei gŵr ar y nosweithiau hynny, er mai "difetha'i lygaid" yr oedd efo'i "hen lyfra'." Codai dadl rhyngddynt weithiau, pan welai hi ei fod yn flinedig neu'n ddi-hwyl, ond pur anaml y llwyddai i'w ddarbwyllo ac "Yr ydw' i'n mynd i'r gwely a'ch gadal chi efo'ch hen drwyn yn eich hen lyfr," fyddai diwedd yr anghydfod fel rheol.

Er ei fod yn ddarllenwr mor fawr, ychydig o ddiddordeb a gymerai mewn llenyddiaeth yn wir, hoffai ddilorni'r beirdd a'r llenorion er mwyn profi'i gred ddi-sigl-ystyfnig, ym marn Owen Gruffydd—mai yn ei phregethwyr yr oedd mawredd Cymru. Pa rai o'r beirdd, gofynnai, a oedd yn deilwng i ddatod carrai esgid John Elias neu Henry Rees neu John Jones, Tal-y-sarn, neu'r Dr. Owen Thomas? Neu gewri llai fel Edward Morgan, y Dyffryn, neu Joseph Thomas, Carno, neu'r Doctor John Hughes? Neu—a braidd yn anfoddog yr âi Elias Thomas tu allan i'w enwad eu hun—a oedd yn un ohonynt yr ysbrydiaeth a oleuai bregethau Christmas Evans neu William Aubrey, neu John Evans, Eglwys Bach, neu Hiraethog, neu Herber Evans? Cythruddid Owen Gruffydd, a rhuai linellau o waith Eben Fardd neu Ddewi Wyn o Eifion yn ei wyneb, a'i utgorn o lais yn gwneud i Esther Thomas ruthro mewn braw o'r llofft neu o'r cefn atynt i'r gegin. Ond ni threchid Elias Thomas gan huodledd Owen Meurig. "Rhoswch chi, Owen Gruffydd," gofynnodd yn dawel un noson pan ddigwyddodd Owen alw yno gyda'i daid, "nid Eben Fardd bia'r englyn yma—

'Trwy y niwl Catrin Ellis—a ganfu
Y gwynfyd uchelbris . . . '?"

"Twt, yr oedd hyd yn oed Homer yn hepian weithia'," torrodd Owen Gruffydd yn wyllt ar ei draws. "Oedd," cytunodd Elias Thomas yn slei, "ond fe wnâi iawn am hynny, chwara' teg iddo, drwy godi i dir uchel mewn lle arall. Mi fydda' i'n hoffi'r llinella' hynny luniodd Eben Fardd ar ôl y ferch honno o Ardudwy, wchi." "Pa rai ydi'r rheini, Lias?" Ac eisteddodd Owen Gruffydd yn ôl yn ei gadair gan wenu ar Owen a theimlo bod nosweithiau lawer o ddadlau tros achos barddoniaeth o'r diwedd yn dwyn ffrwyth. "Rhoswch chi . . . O, ia . . .

'Sylwch ar hanes Elen
Fu arw ei chwymp o'r frech wen' . . . "

"Tyd, Owen, tyd." A chododd Owen Meurig yn chwyrn a brasgamu ymaith i'r drws nesaf, ei dŷ ei hun, gan haeru wrth roddi daeargryn o glep i'r drws nad âi'n agos at ei gymydog yrhawg. "Mae'r hen lymgi'n benthyg llyfra' gin' i dim ond i chwilio am linella' fel'na, wsti. Er mwyn dadla'n hurt a dim arall. Piti dy fod di'n gorfod gweithio yn yr un wal â'r hen ffwl, ynte?" Ond gwyddai Owen y byddai'i daid yn mwynhau cwpanaid o de wrth dân Elias Thomas y noson ganlynol yr un modd.

Elias Thomas oedd y Pen Blaenor yng nghapel Siloam, a gofynnai'r swydd honno am amynedd anfeidrol weithiau, yn enwedig pan ddôi llygaid barcud y disgyblwr llym Ifan Ifans of hyd i 'bechadur'. O graig a thŵr YR EGLWYS syllai Ifan Ifans yn ffiaidd ar gors ffolineb ac aflendid Y BYD, a phan ganfyddai ynddi rywun a fynychai'r cysegr, llithrai gorfoledd milain i'w drem a defnyddiau araith finiog i'w feddwl. Yr oedd yr hen frawd ar ben ei ddigon pan ddôi cyfle i gyhuddo rhywun o feddwi neu regi neu ymladd, o "ieuo yn anghymharus" neu o "esgeuluso moddion gras" neu hyd yn oed o "ddewis y Syrcas yng Nghaer Heli yn lle'r Gyfeillach yn Siloam". Chwarae plant iddo ef oedd diarddel mam ddibriod—nid oedd eisiau dychymyg i weld y pechod hwnnw—ond yr oedd disgyblu dwy wraig am "anghytuno â'i gilydd" neu ŵr am "ganu maswedd" neu am "dorri'r Sabath" yn orchestwaith. Disgyblu? Fe'u torrai allan o'r Seiat bob copa walltog ohonynt pe câi ef ei ffordd. Ond ni châi ei ffordd ar ei ôl bob gafael codai Elias Thomas yn y Sêt Fawr, yn fwyn a charedig i sôn am drugaredd Duw ac am faddeuant llawn a rhad. A throai'r pechadur, a oedd yn herfeiddiol o flaen Ifan Ifans, yn wylaidd ac edifar a'i draed diolchgar yn benderfynol o aros ar y graig byth mwy.

Elias Thomas hefyd oedd Llywydd y caban ym Mhonc Britannia, a buan y tawelai ymryson a rhegfeydd yn ei ŵydd, er bod angen doethineb mawr i gadw pleidiau'r bonc—Undebwyr a'r rhai na pherthynent i'r Undeb, capelwyr ac eglwyswyr, cefnogwyr a gwrthwynebwyr Gladstone, y gor-grefyddol fel Ifan Ifans a'r anystyriol fel George Hobley, cynffonwyr fel Robin Ifans a dynion cydwybodol a diweniaith—rhag ffraeo'n chwyrn. Pryderai lawer, fel y cyfaddefodd droeon wrth Owen, ynghylch clebran dibwrpas yr awr ginio, a cheisiai ef ac eraill lunio adloniant a chynnal dadleuon i ddiddori'r caban. Ond byr oedd hoedl y pethau hynny, a daliai'r hen flaenor i ysgwyd ei ben yn llwm. Cynhelid 'cwarfod' weithiau—i anrhegu hen frawd a fwriadai roi'r gorau i weithio neu ddyn ifanc ar fin priodi neu i godi cynrychiolwr ar ryw bwyllgor—ac ymgasglai nifer ambell awr ginio i wrando ar y 'darllenwr' yn darllen yn uchel o ysgrifau Thomas Gee yn 'Y Faner'. Ond, gan amlaf, mân siarad oedd y drefn ymhlith y mwyafrif, a phan ddewiswyd Owen yn 'ddarllenwr', ac yntau'n ddwy ar bymtheg, teimlai hi'n anodd cystadlu â lleisiau eraill ym mhen arall y caban a oedd yn dadlau ynghylch rhinweddau "White Wyandottes" neu'n clodfori "Sharpes Express" neu'n haeru, fel y gwnâi George Hobley, mai yn y "Pig and Whistle" yr oedd cwrw gorau Caer Heli.

"Mae George Hobley yn hogyn clên ac yn weithiwr heb 'i ail," meddai Elias Thomas un prynhawn yn y wal pan gwynai Owen am ei lais uchel. "Ond gresyn na fasa' fo wedi cael gras, chwedl yr hen Fari Lewis."

Rhoes Huw Jones ei gyllell-naddu ar ei lin am ennyd a syllodd yn dosturiol ar ei bartner. "'Wni ddim ar bwy y byddwch chi'n gwrando nesa', Lias Tomos," meddai.

"Gwrando, Huw?"

"Ia. Y Mari Lewis 'na o bawb! 'Dydi hi ddim ffit i fyw y drws nesa' i unrhyw gapal, heb sôn am gapal Batus. Os oes 'na rywun heb ras, Mari Lewis ydi honno. Ne dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag. Neithiwr ddwytha', pan on i'n mynd heibio ar fy ffordd i'r capal, y clywis i hi'n rhegi un o'r plant ar dop 'i llais."

"Am Fari Lewis arall yr on i'n meddwl, Huw. 'Wyt ti ddim wedi darllan y nofal Rhys Lewis gan Ddanial Owen?"

"Danial Owen... Danial Owen." A chwiliodd Huw Jones yn ei gof ymhlith y cannoedd o lyfrau na ddarllenasai. "Na, 'dydw' i ddim yn meddwl 'mod i, wchi."

"Mi liciwn i pe bawn i heb 'i darllan hi," ebe Owen. "Taw, fachgan! Pam, Now, pam?"

"Imi gael 'i darllan hi eto am y tro cynta', Huw Jones."

"O." Swniai'n siomedig.

Galwodd Elias Thomas heibio i dŷ ei bartner y noson honno a'r llyfr yn ei law. Trannoeth, am y tro cyntaf ers blynyddoedd, yr oedd Huw Jones yn hwyr yn cyrraedd ei waith, wedi bod yn darllen tan oriau mân y bore, meddai. Yr oedd ei lygaid yn gyffrous.

"Yr ydw' i wedi cael syniad," meddai wrth hongian ei gôt yn y wal. Dywedai'r cyffro yn ei drem fod y profiad yn un go newydd. "Mae Now 'ma'r darllenwr gora fuo yn y caban 'na, ond ydi, Lias Tomos?"

"Wel, ydi, am wn i, wir, Huw."

"Mi ddois i â'r llyfr efo mi. Rhaid iddo fo ddarllan darna' o 'Rys Lewis' i'r dynion. Dechra' hiddiw. Mi fydd pawb wrth 'u bodd. Ne' dyna ydw' i'n feddwl, beth bynnag."

"Pawb ond Ifan Ifans, efalla'. Mi ddaeth y stori allan gynta' yn 'Y Drysorfa' rai blynyddoedd yn ôl, ac mi sgwennodd Ifan Ifans at y Parch. Roger Edwards, y Golygydd, i ddeud y drefn."

"I ddeud y be'?" Ac edrychai Huw Jones fel petai ar fin cychwyn o'r wal i dagu Ifan Ifans.

"Ond wir, mae'r syniad yn un da, Huw; ydi, fachgan, yn un da iawn. Mi fùm i'n trio meddwl am rwbath tebyg droeon. ac yn marcio amball stori yn y 'Cymru' Coch, gan fwriadu. dŵad â hi efo mi i'r chwaral. Ond rhywfodd, 'doedd awduron. y straeon ddim fel 'taen' nhw'n gweld ac yn clywad 'u pobol.

Ond mae Danial Owen..."

"Yn true to nature, Lias Tomos. Yn true to nature bob gafal. Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag."

"Diwrnod darllan Y Faner ydi hiddiw, yntê? Mi soniwn ni am y peth wrth y dynion, ac os ydyn' nhw'n cydsynio, mi geiff Owen ddechra' darllan ddydd Llun. Mi rydd hynny amsar iddo fo ddewis y darna' cynta'n ofalus ac, os myn o, i redag trostyn' nhw efo'i daid, Owen Gruffydd."

"O'r gora', Lias Tomos. Diawch, mi tydd 'na lond y caban cyn diwadd yr wsnos nesa', 'gewch chi weld. Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag. 'Nenwedig ac adroddwr fel Now 'ma'n 'i ddarllan o inni. Llais uchal fel un George Hobley i Wil Bryan, llais fel eich un chi i Abal Huws, llais Dafydd i Bob, llais . . . "

"Sut ydach chi hiddiw 'ch dau?" galwodd Robin Ifans ar ei ffordd heibio i'r wal. Yna safodd yn syfrdan. "Diast i, mae 'na dri ohonoch chi, ond oes? 'Welis i mo'r dyn bach 'na, wchi. Bora braf?"

Y gwir a broffwydasai Huw Jones: cyn diwedd yr wythnos wedyn yr oedd llond y caban ar hanner olaf yr awr ginio, ac ym mhlith y gwrandawyr rai dynion o bonciau eraill a glywsai am ddoniau 'darllenwr' Ponc Britannia.

"Diawch, prygethwr ddyla' Now 'ma fod, wchi," oedd sylw aml Huw Jones yn y wal yn ystod yr wythnosau canlynol. "Yntê, mewn difri, Lias Tomos?"

"Wel, mae o'n darllan yn hynod o dda, Huw. Ydi, fachgan, ydi, yn hynod o dda. Ydi, wir, fachgan, ydi."

Pam yr oedd Elias Thomas mor ochelgar, tybed? Ni wyddai Owen, ond cofiai'r amser pan soniai'r hen flaenor am wneud pregethwr ohono er ei waethaf. Aethai pum mlynedd heibio er hynny, a bellach, gan iddo fynnu cael dyfod i'r chwarel, yr oedd Elias Thomas—a Dafydd a Thaid hefyd—am iddo fod yn chwarelwr, mae'n debyg. Câi ddwybunt a choron y mis bellach a phob cyfle i ddysgu gwaith y Twll yn ogystal â'r wal, ac ymhen rhyw flwyddyn neu ddwy cymerai Elias Thomas neu Ddafydd ef yn bartner... Ymhen rhyw flwyddyn neu ddwy? Ni hoffai Owen feddwl am flwyddyn a blynyddoedd eto yn y chwarel.

"Mae 'na brygethwrs reit ulw dda wedi codi o'r hen chwaral 'ma, wchi," chwanegodd Huw Jones. "Nid rhai cynorthwyol ydw' i'n feddwl. Rhai goiawn fel Ifan Hughes, Caer Heli. Ond on i'n jermon iddo fo ym Monc Rowler pan ddaru o ben derfynu mynd i'r be-ydach-chi'n-'i-alw-fo? Dyna i chi strygl, Lias Thomas! 'Rydw' i'n siŵr fod Ifan Hughes wedi hannar—llwgu ganwaith er mwyn medru prynu amball lyfr. Bara a chaws yn 'i dun bwyd yn amal iawn, ac yn gweithio ymhell ar ôl caniad. O, mae gin' i barch mawr i Ifan Hughes— er 'i fod o'n Fethodus."

"Ydi, mae Ifan yn fachgen da," ategodd Elias Thomas.

"Ydi, ac yn gredyd inni yn Siloam 'cw."

"Mi fydda' i'n gweld lot o debygrwydd rhwng Ifan Hughes a Now 'ma, wchi."

"O?"

"Bydda'. Colli'i dad yn ifanc, mynd i'r chwaral, adroddwr da, ennill ar draethoda', cymryd rhan yn capal, darllenwr mawr..."

"Mae'n bryd picio â rhai o'r cynion 'ma i'r efail eto, Huw. Mi yrrwn ni un o'r hogia' y peth cynta' bora 'fory, cyn inni fynd i lawr i'r Twll. Blaen go sâl sy ar y miniar 'ma, wir." Ac felly, dro ar ôl tro, fel y llithrai'r wythnosau a'r misoedd. heibio, y newidiai Elias Thomas y stori. Ond gwrandawai'n astud iawn pan soniai Owen am lyfr a ddarllenai neu draethawd a ysgrifennai, a galwai yn Nhyddyn Cerrig weithiau â llyfr neu gylchgrawn yn ei law. A oedd ef o hyd yn ei weld fel pregethwr, ond yn aros ei gyfle? A Thaid hefyd? Yr oedd yntau'n llawn mor ochelgar. Penderfynodd Owen sôn am y peth wrth Ddafydd, ac un noson yn yr hydref fel y dringai'r ddau frawd tua Thyddyn Cerrig,

"Dafydd?"


"Ia, Now?"

"Wyt ti'n cofio'r bora hwnnw y dois i am dro i'r chwaral efo 'Nhad a chditha'?"

"Bora'r ddamwain? Ydw', debyg iawn. Pam?".

"Wel, y bora hwnnw, os wyt ti'n cofio, 'roedd Lias Thomas yn deud . . . "

"Ia, Now?"

"Yn deud mai . . . pregethwr ddylwn i fod." Gwridai Owen cyn gorffen y frawddeg.

"Oedd o, dywad?"

"Oedd. Ac 'ron inna'n teimlo'n reit ddig wrtho fo."

"Wel?"

"Wel . . . y chwaral oedd popeth gin' i yr amsar hwnnw, yntê? Ond 'rwan . . . 'wn i ddim."

Cerddodd y ddau'n dawel am dipyn ac yna dywedodd Owen yn sydyn: "Chdi ddyla' fod yn bregethwr, Dafydd."

"Fi? Yr argian, pam?"

"'Rwyt ti mor . . . mor dda, Dafydd."

"Y?"

"Mor ddi-feddwl-ddrwg, mor anhunanol, mor ofalus o 'Mam, mor . . . "

"Paid â stwnsian, Now bach. 'Rydw i'n hŷn na chdi, dyna'r cwbwl 'rhen ddyn. Yr esgob, fi'n bregethwr! 'Wyt ti ddim yn cofio'r troeon hynny y triais i ddeud gair yn y Seiat?

Ond mae'n bryd inni benderfynu rhwbath ynglŷn â chdi." Llithrodd y frawddeg olaf o'i enau yn ddiarwybod bron.

"Penderfynu?"

"Dacw Mr. Roberts yn mynd i fyny i'r ysgol i rwbath." Chwifiodd Dafydd ei law ar yr athro. "Rhaid inni gofio mynd â'r 'Sesame and Lilies' 'na yn ôl iddo fo. 'Wyt ti bron â'i orffen o?"

"Ydw', bron iawn. Dew, llyfr da, yntê, Dafydd?"

"Ia, ac mae gynno fo chwanag o waith y John Ruskin 'na, medda' fo."

"Dafydd?"

"Ia, Now?"

"Be' oeddat ti'n feddwl wrth sôn am 'benderfynu rhwbath' ynglŷn â fi?"

"O, dim byd o bwys, fachgan."

"Oeddat. Be'?"

"Dim ond i Taid a Lias Tomos a finna' fod yn siarad amdanat ti y noson o'r blaen. Ond paid â chymryd arnat, cofia."

"'Wna' i ddim. Ond ydi'r hen Lias yn un slei?"

"Cofia di, 'rŵan."

"Ddim siw, Dafydd. Be' oeddan' nhw'n ddeud?"

"'Doeddwn i ddim wedi meddwl deud cymaint â hyn'na wrthat ti—ddim eto. 'Dydan ni . . . 'dydyn' nhw ddim am iti dreulio d'oes yn y chwaral 'na. Mi ddown ni . . . mi ddôn' nhw o hyd i ryw ffordd allan cyn hir. 'Ddeuda' i ddim chwanag wrthat ti 'rŵan, dim ond bod yn rhaid iti ddal ymlaen efo dy ddarllan a'th studio. O ddifri, yntê?"

"Ia, Dafydd. Pam wyt ti'n gwenu?"

"Rhyw dderyn bach oedd yn sibrwd dy fod di a Wil yn rhai garw efo'r 'gennod ar ôl amball 'steddfod."

"O, chwara' teg, Dafydd, colli'r ffordd ddaru ni y noson o'r blaen wrth ddŵad o Lan Eithin. 'Roedd hi fel bol buwch ar y mynydd a ninna' heb lantar' a Wil wedi troi'i droed a . . . "

"Ond mi ei ati a'th holl egni o hyn ymlaen, mi wn."

"Af . . . Af, Dafydd. 'Ron i wedi addo mynd i ffair Bryn Llwyd heno, ond mi arhosa' i gartra' efo fy llyfr yn lle hynny."

"I bwy y daru ti addo?"

"I Huw a Wil."

"O, mae'n well iti beidio â'u siomi nhw, 'r hen ddyn."

"Ydi? . . . Ydi, efalla'."


Yn ei ddillad gorau, a'i esgidiau'n loyw a rhosyn yn ei gôt a phin ysblennydd yn ei dei a'i wallt wedi'i blastro'n ôl â sebon, galwodd Wil heibio i Dyddyn Cerrig yn fuan ar ôl chwech. Edrychai fel petai ar ei ffordd i briodas, a synnodd weld Owen yn ei siwt noson-waith, heb ymbincio dim. Pan gyrhaeddodd y ddau y ffordd fawr, yr oedd Huw'n aros amdanynt yno a chap check du-a-gwyn wedi'i daro'n herfeiddiol ar ochr ei ben a'r pig wedi'i dynnu i lawr dros un llygad ac yn ei geg bibell newydd. sbon, a ysmygai'i pherchennog yn orchestol o ddidaro gan boeri'n freuddwydiol weithiau i'r lôn. Fel y cerddent ymlaen, teimlai Owen yn annifyr wrth eu hochr yr oeddynt hwy mor dalog a difraw, ac yntau, a'r ymgom â Dafydd yn llond ei feddwl, mor dawedog. Torrodd ei gymdeithion wialen iddynt eu hunain. oddi ar fedwen ar fin y ffordd, a chwifiai Wil ei un ef yn rhodresgar ar ôl pob brawddeg a ddywedai, ond fe'i cafodd Owen ei hun droeon a'i ddwylo wedi'u plethu tu ôl iddo, a brysiodd i'w rhyddhau a'u taro ym mhocedi'i drowsus... "Rhyw ffordd allan," a ddywedasai Dafydd. Oedd, yr oedd eisiau tipyn go lew o arian i gael cychwyn da, a phan fu farw ei dad, fel y cofiai Owen, yr oedd y teulu'n dlawd iawn a thro ar ôl tro y clywsai'i fam yn diolch am hen arferiad yr 'offrymu' mewn cynhebrwng 'mawr'. Yr oedd yn agos i saith bunt mewn chwechau a sylltau ar y cadach sidan gwyn y diwrnod hwnnw, a chliriwyd holl dreuliau'r angladd yn rhwydd...

"Diawch, mi fydd 'na le yn y Bryn heno," meddai Wil fel troent o'r ffordd fawr i'r llwybr a ddringai tuag ysgwydd Clogwyn. "Fydd Jinni Llan Eithin yn y ffair, Huw?"

"Bydd." A thynnodd Huw â'r un sicrwydd ar ei bibell.

"Paid di â mynd yn rhy hy arni hi, 'rŵan, Huwcyn. Mae gynni hi gythral o dempar, wsti."

"Pwy oedd yn deud?"

"Dic Meréd. Mi landiodd un ar 'i glust o nes oedd 'i ben o'n troi fel top, medda' fo."

. . . Byddent yn ei holi am ei gymhellion. Beth oedd ei gymhellion? Ni wyddai'n iawn, ond pan ysgrifennai draethawd ar destun crefyddol neu pan astudiai'r wers ar gyfer yr Ysgol Sul neu'r Cyfarfod Darllen, teimlai fel pe bai rhyw newyn dwfn yn cael ei ddiwallu. Mewn pethau felly, nid mewn hollti a naddu yn y chwarel, yr oedd ei galon, ac yn ddiweddar collasai ddiddordeb yn sgwrs rhai fel Robin Ifans a George Hobley, a hyd yn oed ym mhrebliach diddrwg Huw Jones. Pe câi roi'i holl amser i ddarllen a myfyrio . . .

"Be' sy, Now?" gofynnodd Wil.

"Be' sy, be'?"

"Pam wyt ti mor dawal, was?" "Ydw' i?"

"Ydw' i! 'Rwyt ti fel brych, Now El. 'Cheiff o ddim. hogan yn y ffair 'na heno os bydd o fel hyn yno, Huw."

"Paid di â siarad yn rhy fuan, Cochyn," meddai Huw, a oedd bob amser yn barod i amddiffyn Owen. "Efalla' y bydd o'n mynd â'r un fyddi di'n 'i ffansio o dan dy drwyn di. Ac nid y tro cynta' fydd hwnnw chwaith, mêt."

Culhai'r llwybr yn sydyn, ac yr oedd Owen yn falch o gael cerdded ar ei ben ei hun tu ôl i'w ddau gyfaill. Pa bryd y byddai Taid ac Elias Thomas yn "penderfynu rhwbath", tybed? Ar ôl iddynt siarad â rhai o'r blaenoriaid ac â Mr. Morris y gweinidog . . .

"Cofia di gadw o Dy'n Llan heno, Huwcyn," meddai Wil. "Ne' mi fydd Ifan Ifans ne'r hen Eb yn siŵr o glywad, wsti."

Yna dynwaredodd gryglais undonog Ebenezer Morris. "Canys eang yw y porth a llydan yw y ffordd sydd yn arwain i ddistryw ; a llawer yw y rhai sydd yn myned i mewn trwyddi."

Wedyn gofynnid iddo bregethu yn Siloam un nos Sul. Yr oedd deunydd pregeth go dda yn yr "On Heroes and Heroworship" hwnnw gan Thomas Carlyle. Y pen cyntaf—y pwysigrwydd o edmygu dynion mawr, o ddilyn eu hanes a darllen llyfrau amdanynt. . .

"'Fydd y restlar hwnnw yno heno, tybad?" gofynnodd Huw. "'Hidiwn i ddim â thrio codwm efo fo. Dwybunt am 'i gael o i lawr."

"Tyt, mi glywis i 'i fod o'n sebon ne 'rwbath i gyd," meddai Wil. "Fedri di ddim cael gafael ynddo fo, was. Mae o fel darn o rybar."

. . . Yr ail ben—y priodoldeb o geisio'u hefelychu, o gael ysbrydiaeth, o ddrachtio ysbrydiaeth—gair da oedd 'drachtio'—o'u bywyd a'u meddyliau aruchel hwy . . .

"'Dydw' i ddim yn mynd adra' heb goco-nyt, beth bynnag," ebe Huw. "Wyt ti isio coco-nyt, Now?"

"Y . . . ydw', Huw."

"Reit. Mi ga' i un iti."

"Y . . . diolch, Huw."

. . . Y trydydd pen—er mor dda oedd esiampl dynion mawr, nid oedd hynny'n ddigon, a threfnodd Duw yn ei ras, yn ei ryfedd ras . . .

Yr oeddynt ar ysgwydd y Clogwyn a chlywent ymhell oddi tanynt sŵn gwerthwyr a miri'r ffair. Cyflymodd y tri eu camau'n reddfol, Wil gan swagro cerdded a phoeri i'r grug a chwifio'i wialen.

"'Faint sy gin' ti i wario, Huw?" gofynnodd.

"Tri a grot, 'achan." "Diawch, yr un faint yn union â finna'!"

Cofiodd Owen nad oedd ganddo ond ychydig geiniogau yn ei boced.

Erbyn iddynt gyrraedd y ffair, yr oedd y goleuadau naphtha wedi'u cynnau ac yn poeri'n swnllyd uwch rhuthr o wynebau llwydfelyn. Yr oedd ystryd hirgul Bryn Llwyd yn un berw of sŵn, yn ystorm o fwyniant, a phobl yn heidio'n wyllt o stondin i stondin ac o fwth i fwth fel petai pob un ohonynt ar fin cau am y nos.

"Inja-roc 'rŵan, hogia'," meddai Wil. "Tyn di yn y pwl-awê, Huw, a mi ro' i gythral o sgwd i'r stondin pan fydd y bêl wedi canu'r gloch."

"Reit."

Ond gwyddai'r werthwraig dew am yr ystryw hwnnw, a gofynnodd i Wil fod mor garedig â pheidio â phwyso yn erbyn ei stondin. Galwodd ef yn 'dearie', ond yr oedd ei llygaid yn galed a'i gwên wneud yn fygythiad. Llipryn main o'r inja-roc, rhy wan i sefyll yn ei le, a enillodd Huw.

"Mi driwn ni stondin yr hen fôi gwallt-gwyn 'na 'ta', hogia"," meddai Wil. "Tyn di y tro yma, Now, a mi gymera' i arna' 'mod i wedi meddwi."

Hen ŵr dwys a breuddwydiol yr olwg a ofalai am y bwrdd nesaf. Edrychai, yn ei ddillad duon parchus a'i goler big a'i glamp o dei patriarchaidd, yn fwy cymwys i arwain Cymanfa Bwnc nag i eistedd tu ôl i stondin inja-roc.

"Ifan Ifans wedi colli'r llwybyr, Wil," meddai Owen wrth ei weld.

"Wedi cael y llwybyr, was," ebe Wil.

Pan ganodd y gloch, cydiodd y "dyn meddw" yn wyllt yn y stondin i'w sadio'i hun. Newidiodd y bêl ei chwrs yn sydyn, ac anelodd yn syth am baladr urddasol o inja-roc, brenin y bwrdd. "Very good, very good indeed," meddai'r hen wr mewn edmygedd dwys. "Magnificent, in fact."

Ond petrusodd y bêl, aeth hithau'n feddw am ennyd, yna troes i'r dde, ac ymgartrefodd gyda stympyn disylw iawn. "Oh, pity; yes indeed, a great pity," ebe'r hen ŵr. "But a noble effort, my boy, a glorious failure." Ac o'i fawr haelioni rhoes ddarn ychwanegol i Owen wrth lapio'r stympyn.

Pwyswyd yn erbyn trydedd stondin; tynnodd Wil, yn 'feddw' eto, y bedwaredd tuag ato; gan gymryd arno chwilio am geiniog a gollasai, aeth Huw o dan y bumed i'w chodi dipyn; gyrrwyd y bêl yn gyflym gyflym, yn araf araf, yn sydyn sydyn; ond ni ddaeth lwc ar fyrddau'r inja-roc.

"Coco-nyts, hogia'!" meddai Huw.

Troesant i mewn i'r cae ac at fwrdd y cnau-coco. Yno safodd Owen a Wil o'r neilltu i wylio'r campwr, oherwydd enillasai Huw enwogrwydd fel hitiwr mewn llawer ffair. Rhoddwyd iddo dair pêl am geiniog a thrawodd yr un gneuen deirgwaith. Ond nis diorseddwyd.

"Hei, not ffêr, not ffêr, was!" gwaeddodd Wil gan ddangos dyrnau bygythiol.

"Not fair, did you say, mate?" ebe'r perchennog. "Right you are, then, right you are. Nobody can say as Sam Bailey ain't playin' the game." A rhoes ddyrnaid o had llif newydd o dan y gneuen honno. Ymhen ennyd yr oedd y gneuen ar lawr ac yna wrth draed Huw, a'r un yn fuan iawn fu tynged dwy arall a osodwyd yn yr un cwpan. Edrychodd y dyn ar ei gwsmer gyda pharchedig ofn: llygaid croes heu beidio, nid anelwr cyffredin oedd hwn. Plannodd y gneuen nesaf yn gadarn yn ei lle, a throcs Huw ei sylw at eraill mwy ansad yr olwg. Erbyn iddo wario swllt, yr oedd ganddo saith o'r cnau yn bentwr wrth ei draed, ac yr oedd Sam Bailey yn falch o weld y tri chyfaill yn troi ymaith tua'r bwth—saethu: nid er mwyn ei iechyd y daethai ef ar ei rawd i Fryn Llwyd.

Cadwodd Huw un gneuen iddo'i hun, rhoes un i Owen ac un i Wil, a rhannodd y gweddill ymhlith yr edrychwyr edmygol. Fel y cerddent tua'r bwth-saethu, taflodd dwy ferch gawod o gonffeti i'w hwynebau. Jinni, Llan Eithin, oedd un ohonynt a rhuthrodd Huw a Wil ar eu holau. Crwydrodd Owen wedyn yn anniddig o fwth i fwth, a'i feddwl eto'n ôl gyda'i ymgom â Dafydd... Yr oedd eglureb dda mewn ffair. Ym. mh'le y gwelsai ef ddarlun o ffair, hefyd? Yn "Gweledigaethau'r Bardd Cwsg," onid e? Ni ddarllenasai'r llyfr, dim ond taflu cip ar dudalen neu ddwy un noson yn Nhy Pella'. Gofynnai i Taid am ei fenthyg y tro nesaf yr âi yno.

Clywodd leisiau uchel, meddw, gerllaw iddo, a chiliodd yn gyflym tu ôl i dwr o bobl fel yr âi George Hobley a dyn arall heibio. Safodd yno'n hir gan deimlo braidd yn unig, a'r rhuthr a'r chwerthin a'r rhegfeydd o'i gwmpas fel sŵn trai ar draethau pell. Nid oedd Dafydd nac Elias Thomas na Thaid yn y ffair: a oedd yn iawn iddo ef fod yno? "Gwagedd o wagedd, gwag- edd yw'r cwbl," meddai adnod yn Llyfr y Pregethwr. Ai am ffair y meddyliai'r awdur, tybed, pan ysgrifennodd hi? "Fedrwch chi saethu, Herbert?"

Llais ei chwaer Enid.

"Saethu? Medra'! Crack shot. Bull's eye bob tro."

Beth yn y byd a welai Enid yn yr ysgogyn hwn? Gadawsai hi dŷ Richard Davies y Stiward ers tros flwyddyn ac. aethai i weini i Gaer Heli, gan ddod adref weithiau, ond yn bur anaml yn awr, i fwrw'r Sul. Gwyddai Owen fod ei fam yn poeni yn ei chylch ac yn gwrando'n bryderus ar straeon rhai a ddigwyddai daro arni yn y dref. Clerc yn yr orsaf oedd yr Herbert hwn, ac yn ôl pob hanes yr oedd yn greadur gwyllt ac ofer, yn goegyn a brolgi nad âi ar gyfyl un capel. Hwn oedd y tro cyntaf i Owen ei weld, a chasaodd ef wrth ei wylio'n sefyll yn simsan wrth y bwrdd saethu a'i lygaid yn hanner-gau a'i wefl yn llaesu ag ysgorn a doethineb meddw.

Anelodd yn rhodresgar o ofalus, saethodd, a thrawodd ymyl y cylch gwyn o'i flaen. Chwarddodd Enid dros y lle gan daflu'i phen yn ôl, a'i llygaid mawr yn ddisglair a'i dannedd perffaith fel ifori. Cariai'i het yn ei llaw, ac fel y chwarddai ysgydwai llywethau modrwyog ei gwallt cringoch ar ei phen. Mor debyg i'w thad yr oedd! meddyliodd Owen. Cofiodd y bore hwnnw pan safodd ef wrth wal Elias Thomas a gwylio'i dad yn mynd ymaith tua'r Twll gan daflu'i ben yn ôl a chwerthin pan ddywedodd rhywun rywbeth digrif wrtho. Ia, Enid a'i chwerthin diofal a'i gwallt cringoch a'i chorff tal, lluniaidd, oedd y debycaf o'r plant i'w thad. Syllodd Owen arni gydag edmygedd er mai ef, ei brawd, a ddywedai hynny, hi oedd y ferch lanaf yn y ffair.

Saethodd Herbert at y cylch dro ar ôl tro, yna edrychodd gydag ystum gŵr cyfarwydd ar hyd y gwn, a tha flodd ef i lawr mewn dirmyg pwy a fedrai anelu'n gywir â'r fath declyn? Croesodd y ddau wedyn at fwth y fenyw dweud—ffortiwn, a sylwodd Owen. fod amryw o wŷr ifainc yn llygadu Enid yn edmygol ac yna'n troi i edrych ar ei hôl. Adwaenai'r chwarelwyr yn eu plith, ac yr oedd pob un ohonynt, meddyliodd yn sur, yn werth dwsin o'r clercyn mursennaidd o'r dref.

Nid oedd golwg o Huw a Wil ar y cae, a phenderfynodd Owen gerdded unwaith drwy'r stryd ac yna, oni welai hwynt, gychwyn tuag adref. Fel y nesâi at yr adwy i'r cae, gwelai glamp o filwr meddw yn holl ysblander ei gôt ysgarlad yn rhuthro i mewn drwyddi a geneth ifanc yn dianc mewn ofn o'i flaen. Adnabu hi—Mary, chwaer Huw, a churodd ei galon. yn wyllt o'i fewn.

"Tu ôl i'r garafan 'na, Mary!" sibrydodd yn uchel fel y rhedai hi heibio iddo.

Ufuddhaodd hithau, gan droi i'r dde tua'r garafan a safai wrth wal y cae.

Yna, pan ddaeth ei gyfle, rhoes Owen ei droed allan yn esgeulus, baglodd y milwr trosti, gan honcian mewn tri cham aruthrol cyn mynd ar ei hyd i'r cae. Ni wyddai Owen. beth i'w wneud, pa un ai sefyll ei dir ai dianc, ond wrth weld y milwr yn methu â chodi, dychrynodd a brysiodd ato i'w gynorthwyo.

"Diolch, chum, diolch. Corporal Lewis at your service.

Lle mae'r diawl?" "Pwy?"

"Ddaru 'maglu i, lle mae o?" A rhuthrodd Corporal Lewis yn ffyrnig o'i gwmpas.

"Ydach chi'n iawn?" gofynnodd Owen, gan dynnu peth o'r llwch a'r gwellt oddi ar ei gôt.

"Diolch, chum, diolch. 'R Aifft, Shwdan, Khartŵm efo Gordon, Byrma, India. A sh—oldier of the Queen, Shyr, sh— oldier of the Queen." Curodd ei frest yn herfeiddiol, yna ysgydwodd law ag Owen, saliwtiodd, a throes yn ei ôl tua'r adwy a thua thafarn Ty'n Llan gyferbyn â hi.

"Be' ddigwyddodd, Mary?" gofynnodd Owen i chwaer Huw pan ddaeth hi ato o'i chuddfan.

"Ron i'n siarad efo rhai o'r 'gennod yn y lôn, ac yn sydyn dyma hwn'na'n rhoi'i fraich am f'ysgwydd i a thrio 'nghusanu i.

'Roeddach chi ar fai 'i faglu o fel'na, Owen."

"Pam?"

"Mi fasa' wedi hannar eich lladd chi 'tai o'n gwbod mai chi ddaru."

"Mi fasa' wedi trio, beth bynnag. . . Pryd y daethoch chi i'r ffair, Mary?"

"O, yn syth ar ôl te. Mi adawodd Miss Roberts imi orffan. yn gynnar pnawn." Yr wniadwraig y gweithiai iddi oedd "Miss Roberts". "Ron i'n meddwl cychwyn adra' 'rŵan."

"A finna' hefyd, ar ôl edrach am Huw a Wil."

"O, 'welwch chi mo'r rheini—heb i chi fynd hyd ffordd Llan Eithin i chwilio amdanyn' nhw."

"'Ddowch chi. . . 'ddowch chi adra' efo fi?"

"'Wn i ddim. Mae'r 'gennod . . . O, dacw nhw." Chwifiodd ei llaw ar dair geneth ar y ffordd a chwifiasant hwythau'n ôl, ond gan wenu'n awgrymog a throi ymaith tua berw'r ffair.

"Dydyn nhw ddim am gychwyn adra', mae'n amlwg," ebe Owen. "Ddowch chi, Mary?"

"Wel . . . oreit. Ond mi liciwn i fynd rownd y cae 'ma unwaith eto."

"O'r gora'." Fel y cerddent heibio i'r bythau a'u gwaeddwyr croch a'u tyrrau llawen o ymgeiswyr, teimlai Owen yn ddig wrtho'i hun am na ddaethai ag arian gydag ef. Dim ond tair ceiniog a oedd ganddo ar ei elw. Arhosodd y ddau o flaen bwth yr hwp- la, gan wylio llanc medrus a fu bron ag ennill cloc bychan o farmor. Bron—oherwydd yr oedd i'r cloc sylfaen ysgwâr a gwrthodai'r cylch a da flasai'r llanc lithro tros hwnnw a gorwedd yn fflat ar felfed y bwrdd.

"Cloc bach del, yntê?" meddai Mary. "Un o'r rhai dela' welis i 'rioed."

"'Fasach chi'n licio'i gael o?" gofynnodd Owen.

"Hy, 'fedar neb 'i ennill o, mae'n debyg. Mae'r bobol 'ma'n gwbod be' maen' nhw'n wneud."

Rhoed i Owen dri chylch am geiniog ac anelodd am y cloc y trithro, ond heb lwc. Gwariodd geiniog arall, eto'n ofer. Aeth y cylch am y cloc y cynnig olaf, ond ni orweddodd ar y bwrdd.

"O, gadewch iddo fo, Owen," meddai Mary, gan weld y siom yn ei wyneb.

"Tri chynnig i Gymro!" A thalodd am dri chylch eto—â'i geiniog olaf.

Methodd â'i dafliad cyntaf, ond cafodd yr ail gylch am y cloc, a dim ond y mymryn lleiaf o gongl y sylfaen farmor a'i cadwai rhag mynd ar y melfed.

"Brysiwch, tra bydd hi wedi troi'i chefn," sibrydodd Mary, gan wylio'r wraig addurnedig a ofalai am y bwth. "'Rwan!" Taflodd Owen ei drydydd cylch a llwyddodd i daro'r ail ag ef, a'i yrru tros y gongl. Gorweddai'r cylch yn awr yn fflat ar y melfed, a churodd Mary ei dwylo'n gyffrous, a'i llygaid duon duon yn fflachio'n llon.

"Hwdiwch, i chi y mae o, Mary," meddai Owen wedi i'r wraig addurnedig, yn bur anfoddog, roi'r cloc yn ei ddwylo. "O, na, chwara' teg, yr ydw' i'n siŵr y basa'ch mam ne' Enid. . ."

"Os dechreuwch chi wneud unrhyw lol, mi fydda' i'n dilyn siampl y soldiwr hwnnw ac yn rhoi cusan i chi o flaen y bobol 'ma i gyd."

"Dim o flaen y bobol 'ma, Owen." Ac yr oedd direidi'r llygaid duon duon yn werth cannoedd o glociau.

*****

Cododd yr hen ŵr wrth y tân ei ben a gwrandawodd. Tawelodd y gwynt ennyd, ac ni thorrai dim ar ddistawrwydd y stydi ond tician cyflym y cloc bychan ar y silff-ben-tân. Gwenodd yn hiraethus. Oedd, yr oedd y cloc bach wedi cadw amser am dros hanner canrif. Y gorau a fu ganddo erioed. A fu gan Mary, yn hytrach, oherwydd hi bioedd y cloc.


𝒫𝑒𝓃𝓃𝑜𝒹 5

CODODD yr hen weinidog o'i gadair, troes y golau ymlaen, caeodd lenni'r ffenestr, ac yna croesodd at y silffoedd llyfrau a thynnu allan gyfrol fechan . . . "On Heroes, Hero-worship, and Kindred Subjects". Diar, yr oedd blynyddoedd meithion er pan ddarllenasai'r llyfr, a brynasai Dafydd yn ail-law un Sadwrn ym marchnad Caer Heli, ond fel y troai'r dalennau dôi peth o'r cynnwrf cyntaf hwnnw yn ôl iddo. Syllodd eto ar ddarnau a farciwyd ganddo pan oedd yn ddeunaw oed a'i gampwaith o bregeth yn fawr yn ei feddwl. Mor ddigydwybod o rwydd y benthyciodd angerdd a huodledd a syniadau Carlyle ar gyfer y rhannau pwysicaf ohoni, gan lefaru'n llithrig am Fahomed er na wyddai fawr ddim amdano, am Shakespeare, Luther, Arwr nad oedd cyn hynny ond enw a glywsai ar ddamwain mewn ambell bregeth! Llithrodd taflen fechan, rhestr testunau Eisteddfod Siloam gynt, o'r llyfr i'r llawr, ac wedi iddo roi'r gyfrol yn ei hôl dychwelodd i'w gadair a'r daflen yn ei law . . . "Traethawd—Natur a dyben goruchwyliaeth Moses. Gwobr 5s., 3s. 6c." Ia, â thriswllt o'r goron honno y prynodd dri o lyfrau Owen M. Edwards— Llynnoedd Llonydd', 'O'r Bala i Geneva', a 'Tro yn Llydaw', gan fynnu eu dewis hwy yn hytrach na Chofiant a Phregethau'r Dr. David Saunders, cyfrol yr âi Elias Thomas i ecstasi yn ei chylch. Ond, a bod yn onest, gwyddai y câi fenthyg honno gan yr hen flaenor.

Cofiai'n dda y noson, tua phythefnos ar ôl ffair Bryn Llwyd, pan aeth am dro i Dŷ Pella' i edrych am Garlo, a oedd yn wael, a phan siaradodd ei daid gyntaf wrtho am ei ddyfodol. Wedi iddo adael y pentref, cerddodd yn araf gan aros weithiau i syllu ar ogoniant y machlud draw i gyfeiriad y môr. Machlud yn yr hydref, a'i niwlen o borffor tawel yn ymestyn ac yn dyfnhau tros y mynyddoedd agos . . . "Pan edrychwyf ar y nefoedd . . . Onid ydym yn ddall, gyfeillion? Onid oes mwgwd ar ein llygaid? Onid awn heibio i holl harddwch, i holl odidowgrwydd, i holl ryfeddod y ddaear a'r nef heb eu gweld? Onid sefyllian i graffu ar bethau dibwys yr ydym, bobol, yn lle dyrchafu ein llygaid i'r mynyddoedd, o ba le . . . " Torrwyd ar huodledd ei feddwl gan lais Wil Cochyn.

"Hylo'r hen Now, chdi sy 'na? Mynd i Dŷ Pella'?"

"Ia."

"Rydw' inna'n mynd i dŷ Lias Tomos."

Cerddodd y ddau gyda'i gilydd yn dawel. Gwyddai Owen beth a olygai ymweliad Wil â thŷ Elias Thomas. Yr oedd ei fam yn wael, yn ffwndrus iawn ei meddwl weithiau, a'r hen. flaenor oedd y gorau o bawb am ei chysuro a'i thawelu pan ddôi un o'r pyliau hynny trosti.

"Noson braf, Wil?"

"Ydi, 'chgan."

"Ydi, wir. Yr awyr 'cw'n dlws, ond ydi?"

"Ydi, 'chgan."

"'Wyddost ti be' on i'n feddwl 'rŵan?"

"Na wn i, be'?"

"Meddwl 'tawn i'n medru tynnu llunia' a pheintio fel chdi . . . "

"'Rydw' i wedi rhoi'r gora' iddi."

"O? Piti, fachgan, piti garw, a chditha' mor alluog."

"Paid â siarad fel prygethwr, Now Êl."

Ni welsai'r ddau gyfaill fawr ddim ar ei gilydd ers pythefnos. Rhwng dilyn cyrddau'r capel yn selog bron bob gyda'r nos, astudio wedyn i gadw'i addewid i Ddafydd, a mynd am dro ambell noson efo Mary, ychydig o amser a gawsai Owen yn weddill. Ond meddyliodd lawer am Wil, a holai rywun bob dydd am gyflwr ei fam, gan wybod mor hoff oedd ef a'i chwaer Myfanwy ohoni.

Cerddodd y ddau heb air am dipyn. Teimlai Owen yn euog: er ei holl brysurdeb, dylai fod wedi galw i weld Wil.

"Sut . . . sut mae dy fam heno, Wil?"

"Ddim yn dda o gwbwl. Mi alwodd y Doctor gynna'."

"Be' ddeudodd o?"

"Isio iddi fynd i ffwrdd. I'r lle 'na yn Ninbych. Ond mae'r hen Lias yn siŵr o fedru dŵad â hi ati 'i hun."

"Ydi."

"Mi . . . mi ddaru 'mosod ar 'Fanwy heno. 'Fanwy of bawb, a hi a 'Mam yn meddwl y byd o'i gilydd! Ond mae'r hen Lias yn siŵr o fedru dŵad â hi ati'i hun, ond ydi, Now?"

"Ydi, 'r hen Wil, ydi."

"Mae o'n beth rhyfadd, ond mae gweld a chlywad yr hen Lias yn gwneud y byd o wahaniaeth iddi hi. Dim ond iddo fo siarad efo hi am dipyn ac wedyn ddarllan pennod ne' emyn ne' ddau, mae'r hen edrychiad gwyllt 'na'n cilio o'i llygaid hi. Rhyfadd, yntê? 'I gwneud hi'n waeth, nid yn well, mae'r hen Eb, wedyn, pan fydd o'n galw acw." Y Parch. Ebenezer Morris oedd "'r hen Eb."

Nesaent at y rhes fechan o dai tua hanner milltir tu allan i'r pentref. Codasid hwy ddeugain mlynedd ynghynt pan agorwyd tipyn o chwarel ar ochr y Clogwyn, ond byr fu oes y chwarel, ac i waith y Fron yr âi dynion Tai Gwyn ers blynyddoedd bellach.

"Fydd Lias Tomos yn y tŷ, tybed?"

"Bydd, mae'n debyg, Wil. Pur anaml y bydd o'n mynd i'r Band of Hope."

"Mi alwais i yn y capal rhag ofn 'i fod o yno."

"O, mae o'n siŵr o fod gartra' 'ta'."

Yr hen flaenor ei hun a ddaeth i'r drws.

"Hylô, Lias Tomos. Dŵad i ofyn ddowch chi acw."

"Do, debyg iawn, William. O, yr wyt titha' yna, Owen?

Dowch i mewn am funud, hogia', dowch i mewn."

"Ddo' i ddim, Lias Tomos, diolch. Mynd i'r drws nesa' at Taid yr ydw' i."

Wrth guro ar ddrws Tŷ Pella', syllodd Owen eto ar aur a phorffor a gwaed y machlud. Oedd, yr oedd yn hardd. Ond yr oedd caredigrwydd syml Elias Thomas yn . . . yn harddach.

"Sut mae o heno, Taid?"

"Mae'r hen frawd yn darfod, mae arna' i ofn, Owen."

Gorweddai'r hen gi ar bentwr o ddillad ar aelwyd y gegin, ond ni chymerodd yr un sylw o Owen pan wyrodd ef uwch ei ben.

"Carlo! Carlo! 'Rhen Garl!"

Agorodd y ci ei lygaid mawr brown, ond fflam yn pylu oedd y golau ynddynt.

"Mi fûm i fyny drwy'r nos neithiwr efo fo, ond 'doedd 'na fawr ddim fedrwn i 'i wneud, dim ond 'i gadw fo'n gynnas, gwlychu'i ena' fo bob hyn a hyn, a rhoi diferyn o ddŵr—barli iddo fo weithia'. Yr hen Garlo druan." Yr oedd llygaid Owen Gruffydd yn llaith. "Hylô, dyna'r brêc o Gaer Heli, yntê? Ond mi ro' i amsar iddo fo fynd i'r tŷ a chael 'i wynt ato."

"Pwy, Taid?"

"Harri Hughes, Nymbar Wan. 'Roedd o'n mynd i'r dre yn syth ar ôl dŵad adra' o'r chwaral ac mi addawodd alw yn y Farchnad trosta' i. Mae'r hen Lysieuwr hwnnw sy yno yn dallt cŵn i'r dim, medda' fo i mi."

"Sut mae mab Harri Hughes, Taid?"

"Iorwerth? Cwla iawn, fachgan. A 'rwan mae Harri wedi colli ffydd yn y Doctor ac yn mynd at yr hen Lysieuwr 'na. 'Wn i ddim ydi o'n gwneud yn ddoeth, wir, ond mae rhywun yn barod i drio rhwbath wrth weld yr hogyn druan yn mynd yn wannach wannach ddydd ar ôl dydd. Ista' yn y gadair 'na tra bydda' i'n picio i Nymbar Wan. Cadw dy lygaid arno fo."

"Mae o'n cysgu 'rŵan, Taid."

"Fel'na mae o wedi bod drwy'r dydd, yn anesmwyth o effro un munud ac wedyn yn cysgu, cysgu. Mi fydd y lle 'ma'n rhyfadd hebddo fo. A mi dorrith Esthar Tomos y drws nesa' 'i chalon yn lân. Efo hi yr on i'n 'i adael o i fwrw'r Sul pan awn i i ffwrdd i bregethu. Yr argian, a dyna groeso gawn i pan ddown i'n ôl ddydd Llun! . . . 'Fydda' i ddim dau funud."

Eisteddodd Owen yn llwm yn y gadair. Drwy'r ffenestr gyferbyn gwelai'r nef yn gwaedu ar greigiau miniog y Clogwyn, ond nid oedd ganddo ddiddordeb yn y machlud mwyach, ac ni ddôi darnau o retoreg llithrig i'w feddwl. Syllodd yn drist ar yr hen gi wrth ei draed, gan wrando ar ei anadlu cryg, anniddig. Nid oedd Carlo, ac yntau'n gymysgedd o gi defaid a spaniel, o uchel dras, ond ar ddüwch dwfn ei gorff yr oedd marciau gwynion prydferth iawn a dywedai cromen hardd ei ben i un o'i hynafiaid fod yn bendefig ymhlith cŵn. Pa wahaniaeth beth. oedd? Ef oedd y ci gorau a anadlodd erioed, yr addfwynaf, y mwyaf serchog, y ffyddlonaf. Yr hen Garlo! Byddai Taid yn unig iawn hebddo. Siaradai ag ef am oriau bob dydd, a gwrandawai yntau mewn doethineb mud. Dysgasai ef i fegian, i gyfrif â'i bawen, i ysgwyd llaw, i ganu, a hyd yn oed i wenu. "Gwena 'rŵan, Carlo," meddai 'i feistr, a chodai'r ci ei wefus uchaf a dangos ei ddannedd yn chwyrn. Dim ond dieithriaid ofnus a oedd yn ddigon anghwrtais i beidio â gwenu'n ôl.

Yr oedd Owen Gruffydd yn oedi yn nhŷ Harri Hughes, a safodd Owen wrth y ffenestr yn gwylio'r machlud yn pylu a'r Clogwyn yn mynd yn ddim ond llinell bigog yn erbyn disgleirdeb y nef. O'r diwedd goleuodd y lamp ac eisteddodd eto yn y gadair. Mor dlawd a blêr yr edrychai'r gegin, meddyliodd. Rhywfodd, ac yntau'n gwisgo mor barchus a gofalus bob amser, ni chysylltodd ei daid â thlodi, ond cofiodd yn awr fod ei fam yn gyrru tamaid o fwyd neu rywbeth yn aml i Dŷ Pella'. Syllodd ar y tyllau ym mreichiau'r soffa, ar y mat treuliedig ar y llawr, ar y rhwyg safnrhwth yn un o lenni'r ffenestr. Ac eto cyfrannai Owen Gruffydd yn hael yn Siloam ac at wahanol achosion dyngarol yn yr ardal, a phrynai docyn i bron bob cyngerdd ac eisteddfod. Ond nid rhyfedd ei fod yn dlawd: aethai'n rhy hen bellach i grwydro i gyhoeddiadau pell, a dim ond mewn pentrefi gweddol agos y pregethai mwyach. 'Faint oedd oed Taid? Yr oedd yn siŵr o fod yn dair neu bedair ar ddeg a thrigain. Pam yn y byd na ddôi i fyw atynt hwy i Dyddyn Cerrig? Ond dyna fo, Taid oedd Taid, ac ni adawai'i hen aelwyd pe cynigid iddo holl aur Periw.

Cydiodd Owen mewn nodlyfr bychan a oedd ar gongl y bwrdd. Tu fewn i'w gas du yr oedd enw Owen Gruffydd ac of dan hwnnw, "At wasanaeth Pwyllgor Cylchwyl Lenyddol Siloam, 1893—4." Yna ceid cofnodion amryw o bwyllgorau a fu wrthi'n ddyfal yn dewis testunau a beirniaid a phennu gwobrwyon, ac yng nghanol y llyfr restr o'r cystadleuthau. Gwyddai Owen fod hon yn gyfrinachol, ond taflodd olwg cyflym trosti i weld beth a ddewiswyd yn ddarnau adrodd. Yna dechreuodd ei darllen yn hamddenol, ond ag un glust tua'r drws.

RHYDDIAETH

1. Traethawd—Natur a dyben goruchwyliaeth Moses.
(Pob oed).
2. Y Pwysigrwydd o fynd i'r ystad briodasol
yn anrhydeddus. (Cyfyngedig i'r merched).
3. Daniel (Dan 20 oed).
4. Ateb gofyniadau ar "Y Sabbath". (Pob oed).


5. Ateb gofyniadau ar Ioan II. 1—12. (Merched).
6. " " " Ioan IV. (Dan 20 oed).
7. Tynnwch allan y gwersi addysgiadol a ganfyddir yn
hanes y personau canlynol—Abiah (mab Jeroboam),
Elihu, Nehemiah. (Cyfyngedig i feibion dan 28 oed,
ond yn rhydd i'r merched o bob oed).

Clywai sŵn ei daid yn dychwelyd a thrawodd y llyfr yn ei ôl yn frysiog ar y bwrdd.

"Mi wnaeth Margiad Hughes imi gymryd tamaid o swpar efo nhw, fachgan—Harri wedi dwad â thamaid o ham o Gaer Heli. 'Doeddwn i ddim isio aros o gwbwl, a'r hen Garlo mor wael, ond mi wyddost am Margiad Hughes . . . Sut mae o?"

"Cysgu o hyd. Be' ddeudodd yr hen ddyn hwnnw yn y Farchnad, Taid?"

"Y kidneys, medda' fo, a 'does dim gwella ar yr aflwydd.

Mi roth y ffisig 'ma ar 'i gyfar o, ond rhwbath i leddfu poen ydi Wel, chwara' teg i'r hen frawd am fod yn onast, yntê?"

"Sut mae mab Harri Hughes, Taid?"

Ysgydwodd yr hen ŵr ei ben yn drist. "Mi fu raid imi fynd i fyny i'r llofft am funud i'w olwg o, a phan ddaethom ni i lawr i'r gegin, dyma Harri Hughes yn troi yn sydyn ata' i. "Ydach chi'n dallt Rhagluniaeth yn wynab peth fel hyn, Owen Gruffydd?" medda' fo."

"A be' ddaru chi ddeud, Taid?"

"Be' fedrwn i ddeud, yntê? Dim ond bod y Drefn yn dywyll iawn inni weithia'. 'Mae 'na lawar o betha' nad ydw' i ddim yn 'u dallt nhw, Harri, 'machgan i,' meddwn i. "Dydw' i ddim yn dallt pam yr oedd y Gwaredwr yn nyddiau'i gnawd, ac ynta'n ddim ond dyn ifanc tair ar ddeg ar hugain, yn gorfod diodda' holl arteithia'r groes. Ond drwy ddirgel ffyrdd—dyrys iawn i rai yn amal, Harri—y mae'r Arglwydd Iôr yn dwyn ei waith i ben."'

Bu distawrwydd rhyngddynt am ysbaid, a'r ddau'n gwrando ar anadlu llafurus, anesmwyth yr hen gi.

"Taid?"

"Ia?"

"Pan oeddach chi allan . . ."

"Ia?"

"Yr oedd y llyfr 'na ar y bwrdd, a . . . a mi ddarllenis i rai o'r testuna'."

Chwarddodd Owen Gruffydd. "Twt, dim gwahaniaeth, 'machgan i. Mi aeth Siôn y Brêc â nhw i Swyddfa'r 'Llusarn' bora ddoe, a mi fyddan' allan 'fory ne' drennydd . . . Be' wyt ti'n feddwl o'r testuna'?"

"Rhai reit dda, Taid."

"Siawns iti ennill tipyn o bres, Owen. Mi gest ddalfa go lew y llynadd, ond do?"

"Do, ond . . ."

"Ond be'?"

"Ydi o'n . . . 'ydi o'n deg imi drio cymaint a chipio cymaint o wobrwyon?"

"Pam lai?"

"Wel, yr oedd rhai o'm ffrindia' i, yr on i'n meddwl, yn edrach yn o siomedig llynadd. Mae gin' i well manteision na rhai ohonyn' nhw, ond oes?"

"Y? Manteision?"

"Ia, a chi a Dafydd a Lias Tomos yn fy helpu i."

"Yr argian fawr, hogyn, 'rwyt ti'n siarad fel 'taet ti wedi cael ysgol gostus, yn lle mynd i'r chwaral yn ddeuddag oed. Gwell manteision na phwy, mi liciwn i wybod?"

"Myfanwy, chwaer Wil, er enghraifft, a'i mam hi fel y mae hi. 'Roedd hi yn trio yn f'erbyn i yn 'Steddfod Sardis y Sulgwyn."

"Wel?"

"Fi enillodd. A 'Fanwy oedd y gynta' i ysgwyd llaw efo mi."

"Wel?"

"'Dydw' i ddim yn mynd i gymryd mantais ar 'Fanwy eto."

"Be' wyt ti'n feddwl?"

"Bedd y Dyn Tylawd' oedd y darn yn Sardis. Os bydd hi yn trio yn Siloam, 'fydda' i ddim, Taid. A 'thasach chi . . . 'tasach chi'n rhoi gwers ne' ddwy iddi hi, mi faswn i'n ddiolchgar iawn i chi."

Disgwyliai Owen ystorm, rhuadau tebyg i'r rhai pan gyhoeddai Owen Gruffydd wae o'r pulpud, oherwydd ymfalchïai'r hen ŵr yng nghampau'i wyr fel adroddwr ac âi gydag ef weithiau i rai o'r pentrefi cyfagos pan gystadlai ynddynt. Ond yn lle gwg yr oedd gwên dyner ar ei wyneb yn awr, a thybiai Owen fod ei lygaid yn llaith. Syllai i lawr ar Garlo, gan gymryd arno. mai'r olwg ar yr hen gi a'i cyffroes.

"'Wnewch chi, Taid?"

"Gwnaf, debyg iawn, 'machgan i, gwnaf, debyg iawn."

Yna ymhen ennyd, "Os nad wyt ti am drio dan ugain, be' am fentro ar y Prif Adroddiad?"

"Ymson y Llofrudd? Mi fydd Meurigfab yn siŵr o drio ar hwnnw."

"Bydd mae'n debyg."

Meurigfab oedd Adroddwr yr ardal, ac yr oedd ei berfformiad o "Ymson y Llofrudd" yn aruthrol. Camai i'r llwyfan â golwg wallgof arno, a'i wallt hir, o fwriad, fel perth afreolus ar ei ben a thros ei dalcen, a'i law ddeau'n waed—hynny yw, yn inc coch neu sug betys—i gyd. Edrychai'n orffwyll, a'i lygaid yn rhythu'n wyllt a'i geg fawr yn agored a'i ddwylo'n crynu. Yna dechreuai, gan sibrwd yn uchel a bloesg:

"Pa le 'rwyf? Ol! Ol! Ol—Olwen! Pa le'r ydwyf?
Nid gartref; rhaid mai hwn yw cartre'r pruddglwyf!
Fy nghrasboeth lwnc! A oes dim modd i'w oeri?
Ac O, fy mhen! mae yntau fel ar hollti!


Afi—Och, pa beth yw hwn.
Pa le'r wyf?
Ruddliwia'm llaw? Gwaed? Na, nid gwaed, mi wn—
Gwaed? Ie, gwaed! O ba le y—? O, Dduw!
Pa beth yw hyn gyfoda'm cof yn fyw . . . ?"

"Be' ydi'r fedal 'leni, Taid? Arian?"

"Ia."

"'Tasa' hi'n aur, 'faswn i ddim yn adrodd rhyw rwdl fel 'Ymson y Llofrudd' i drio'i hennill hi."

Am yr ail waith disgwyliai Owen ystorm. Ond ni ddaeth.

"'Rwyt ti wedi newid dy dôn dipyn, ond wyt? Pryd oedd hi—ia, ar ôl y 'steddfod yn Nebo ddechra'r flwyddyn, yntê?— clywis i di'n canmol y Meurigfab 'na? 'Ydi'r dyn wedi gwneud rhwbath iti?"

"Dim o gwbwl. Prin yr ydw' i'n 'i 'nabod o, Taid. Sôn am y darn 'Ymson y Llofrudd' yr on i."

"A be' ydi dy farn di amdano fo?"

"Wel, os ydach chi isio gwbod—y rwdl mwya' dan haul.

Mi fedra' Huw Jones sgwennu cystal adroddiad â hwn'na.

'O! Ha! Och! Gwaed? Ie, gwaed! Gwaed Ol? Y nefoedd fawr 'rwy'n cofio'r cyfan!" Actiai Owen yr ebychiadau gan gerdded o gwmpas y gegin. Ond nid edrychai ar ei daid gwyddai na fuasai mor hy arno erioed o'r blaen, ac ofnai'r canlyniad. Clywodd ef yn anadlu'n isel a chyflym, a pharatoes i glywed y rhyferthwy o lais yn ei alw'n bob enw.

"Wel, wir, fachgan!" A throes yr anadlu yn hwrdd enfawr o chwerthin.

"'Ron i'n disgwyl i chi hannar fy lladd i, Taid."

"Am ddeud yn union fel yr on i'n dadla' ar y Pwyllgor—ond dy fod di'n 'i fynegi o'n well nag y gwnes i? Gresyn na fasa' Ffowc y Saer yma i'th glywad di. 'Roedd o'n benderfynol o gael y darn yn y testuna'. I dynnu pobol, medda' fo. Ond mae'r Meurigfab 'na yn gefndar i'w wraig o, ond ydi?"

Syllodd Owen Gruffydd yn hir ar ei wyr. Yna cododd a mynd at y ffenestr i dynnu'r bleind i lawr. Safodd yno am ennyd gan edrych allan i'r nos a gwneud sŵn dwys yn ei wddf. Wedi iddo ostwng y bleind dychwelodd yn araf i'w gadair, gan ddal i graffu ar Owen.

"Wyt . . . Wyt, wir, fachgan."

"Be', Taid?"

"'Rwyt ti'n fwy aeddfed nag yr on i'n meddwl dy fod di."

"Be' ydach chi'n feddwl, Taid?"

"Yr hyn ddeudist ti am roi cyfla i hogan Jane Davies druan, ac am 'Ymson y Llofrudd' . . . Hm . . . Ydi, mae'n bryd inni siarad efo chdi . . . Ydi . . . 'Dwyt ti ddim isio treulio d'oes yn y chwaral, 'wyt ti, Owen ?"

"Wel, i fod yn onast, nac ydw'. Pam?"

"Mae rhai ohono' ni yn y capal wedi bod yn sôn amdanat ti gan deimlo y dylen ni dy godi di i bregethu. 'Gawn ni. . . 'gawn ni siarad efo Mr. Morris yn dy gylch di?"

"Os . . . os ydach chi'n meddwl 'mod i'n ddigon da, Taid." "Does neb yn ddigon da, yn wir deilwng, 'machgan i. Ond mae rhai sy'n fwy addas na'i gilydd i lefaru tros yr hwn ni wnaeth bechod ac ni cheid twyll yn ei enau. 'Rydan ni'n meddwl dy fod di'n un o'r rheini, Owen, ac y byddi di, wedi iti gael dy draed yn sicr ar ffordd yr efengyl, yn weinidog da i Iesu Grist. A thrwy ffolineb pregethu, chwedl yr Apostol, fe wêl yr Arglwydd yn dda dy wneud di'n nerth ac yn . . ." Cododd Carlo'i ben, griddfannodd, ceisiodd godi ar ei draed, methodd, suddodd yn ôl ar y dillad ag ochenaid fawr. "Ond ydi dy daid yn un rhyfadd, fachgan? Dim ond chdi a fi a'r hen Garlo sydd yma, yntê? A finna'n dechra' traethu fel 'tai 'na lond capal yn gwrando arna' i." Gwyrodd a thynnu'i law yn dyner hyd ben y ci. Yr oedd y pen yn awr yn crynu a rhedai tonnau o gryndod drosto hefyd fel pe byddent o dan y croen: nid oedd y diwedd ymhell. "Dim ond fi a Charlo a'r gath sy yma, Owen,' fydda' geiria' dy nain wrtha' i amball noson pan fyddwn i'n mynd yn huawdl... Diar, dyna ffond oedd Catrin druan o'r hen Garlo ! 'Roedd o'n dallt pob gair oedd hi'n ddeud ac yn troi'i ben yn ddoeth wrth wrando arni hi. A phan aeth hi'n sâl yr oedd ynta'n sâl hefyd, ac fel ysbryd hyd y lle 'ma ar ôl iddi'n gadal ni. 'Fu ci erioed mor gywir, mor driw, ac yn lle pentyrru geiriau, pe bawn i'n deud wrthat ti am fod mor ddiffuant â'r hen Garlo, Owen, 'fydda'r cyngor ddim yn un sâl. Na fydda', wir, fachgan." Ysgydwai'r hen gi yn waeth a gwaethygai'r cynnwrf a ymdonnai dan y croen. Yr oedd dagrau yn llygaid ac yn llais Owen Gruffydd. "Fydda' i ddim yn hoffi ama' dim a ddywedodd yr Apostol, ond yn fy marn i, mi fu'n anffodus mewn un gymhariaeth. 'Gochelwch gŵn,' medda' fo wrth y Philipiaid, yntê? Nid 'u gochal nhw fasa' 'nghyngor i ond gwneud ffrindia' efo nhw, dŵad i'w deall nhw, 'u caru nhw. 'R hen Garlo, Pero o'i flaen o, Sam o'i flaen ynta', Siôn cyn hynny, Cymro ges i'n anrheg briodas-boneddigion i'r carn bob un ohonyn' nhw... Carlo! Carlo bach! 'Rhen Garlo !" Ond ni chlywai'r ci. Ysgydwyd ef gan ffit greulon, fel petai ysbryd drwg yn ei feddiannu ac yn ceisio'i ddarnio, gnawd ac esgyrn. Yna ymdawelodd.

"Rhen Garl! 'Rhen Garl !" Daeth dagrau i lygaid Owen hefyd wrth glywed llais toredig ei daid. "Efalla' y medrwn ni roi llwyaid o'r ffisig 'na iddo fo."

"Mae'n rhy hwyr, Taid."

"Y?" Syllodd yn ffwndrus ar y llonyddwch mud oddi tano. "Ydi, fachgan . . . ydi . . . Ydi, mae'r hen gyfaill wedi mynd. Mae'r hen Garl wedi'n gadael ni."

"Os ewch chi i'r drws nesa' at Lias Tomos am dipyn,

Taid . . . "

"At Lias Tomos?"

"Mi fydda' i wedi'i gladdu o erbyn y dowch chi'n ôl. O dan y goeden 'fala' ym mhen yr ardd, yntê?"

"Ia, Owen, ia. Diolch iti, 'machgan i." Rhoes ei law

eto ar ben y ci, gan sibrwd yn floesg. "Diar, mi fydd hi'n rhyfadd yma heb yr hen Garl, on' fydd? . . . Tyd ditha' draw i'r drws nesa' ar ôl iti orffan. Mi wneiff Esthar Tomos 'banad inni, yr ydw' i'n siŵr . . . Gwneiff . . . Gwneiff. Mi fydd yr hen ledi'n torri'i chalon yn lân pan glyw hi . . . Ac mae arna' i isio siarad efo Lias yn dy gylch di, ond oes? Oes, fachgan . . . oes." Yr oedd fel petai'n siarad wrtho'i hun yn hytrach nag wrth Owen.

"Fydda' i ddim yn hir, Taid."

"O'r gora' 'machgan i, o'r gora."

Wedi iddo gau'r bedd, safodd Owen wrth y pren afalau gan syllu ar hen hen ddirgelwch y nef a'i phell, afrifed, sêr. Teimlai'n fychan ac yn wylaidd iawn fel y dôi geiriau'r Salmydd i'w feddwl . . .

"Y nefoedd sydd yn datgan gogoniant Duw,
a'r ffurfafen sydd yn mynegi gwaith ei ddwylaw ef.
Dydd i ddydd a draetha ymadrodd,
a nos i nos a ddengys wybodaeth..."

Pwy oedd ef, Now Ellis, Tyddyn Cerrig, i geisio sôn am y gogoniant hwnnw? Ond fe ymroddai, fe ymgysegrai i'r gwaith; fe weai eiriau am ryfeddod y cread, am Dduw harddwch a thangnefedd a chariad, am fywyd yn ei geinder a'i obaith a'i . . .

"Owen! Lle'r ydach chi, Owen, 'ngwas i?"

"Dyma fi, Esthar Tomos."

"Dowch dros y wal. 'Rydw' i newydd ferwi wy i chi. " Dringodd y wal a chroesi i lwybr gardd y drws nesaf.

"Diar, noson glir a thawal, yntê, Esthar Tomos? 'Welis i 'rioed y sêr mor agos, wchi. Fel 'taen' nhw. . . . fel 'taen' nhw

"Yr hen greadur, yntê!

Mi fydd hi'n chwith inni hebddo fo. Mae'ch taid druan yn reit ffrweslyd yn y gegin 'na, fel

'tai o'n methu sylweddoli bod yr hen Garlo wedi'n gadael ni rywsut . . . O, Owen?"

"Ia?"

"Mae'ch ffrind chi, Willie Davies, yma, yn cael tamaid of swpar efo ni."

"O? Sut mae . . .? Mi . . . mi ga' i gwmni Wil adra' felly."

"Cewch. A chwmni Lias hefyd."

"Lias Tomos? Yr amsar yma o'r nos?"

"Mae'n well i chi gael gwbod, rhag ofn i chi ddeud rhwbath na ddylech chi. Maen' nhw wedi penderfynu mynd â mam Willie, y beth fach, i ffwrdd. Ddwywaith heno y daru hi droi ar 'Fanwy, yr ail dro efo cyllall fawr yn 'i llaw." "Ddi . . . ddigwyddodd rhwbath?"

"Naddo, diolch i'r Tad. 'Roedd Edward Robaits, tad Huw, yn digwydd bod yno ar y pryd. Mae hi wedi dwad ati'i hun yn iawn erbyn hyn, ond y mae'r Doctor am i rai aros i fyny'r nos efo hi."

"Ac mae Lias Tomos am fod yn un?"

"Tan tua dau. Fo a Dafydd chi."

"Mi a' i yn 'i le fo, Esthar Tomos."

Ysgydwodd yr hen wraig ei phen. "Mi ddaru'ch taid a finna' awgrymu hynny, a Dafydd hefyd. Ond mi wyddoch mor benderfynol y medar o fod Willie druan, yntê? Colli'i dad pan oedd o'n ddim ond naw a 'Fanwy'n ddim ond deuddag oed, a 'rŵan dyna'u mam nhw, y beth fach weithgar, ddewr, siriol bob amsar, yn gorfod mynd i'r hen le 'na yn Ninbych. Gobeithio'r annwyl y ceiff 'Fanwy ddal ymlaen efo llnau'r ysgol, ne' dyn a ŵyr be' ddaw ohonyn' nhw . . . Mae'n anodd dallt petha', ond ydi? 'Fedra' i ddim gweld sens o gwbwl mewn Rhagluniaeth weithia', na fedra' i, wir. Fel 'tai 'na ryw hen greulondab milain yn rhywla . . . "

. . . bywyd yn ei geinder a'i hagrwch, yn ei obaith a'i siom, yn ei . . .

"Ond dowch i'r tŷ, ne' mi fydd yr wy 'na wedi oeri."

Wedi tair wythnos bryderus, daeth nos Sul ei bregeth gyntaf. Fel yr eisteddai yn y pulpud cyn dechrau'r gwasanaeth, gwyliodd yn yswil ac ofnus lif y bobl i'w seddau, yn eu plith amryw o enwadau eraill a rhai na pherthynent i achos crefyddol o gwbl. Yr oedd wynebu cynulleidfa Siloam ei hun yn ddigon o dasg, meddyliodd, heb orfod teimlo fel pregethwr cyrddau mawr ar ei gynnig cyntaf.

Chwiliodd ei lyfr emynau am y rhai a ddewisasai i'w canu, gan roi darnau o bapur yn ofalus rhwng y dalennau. Pant gododd ei olwg, gwyrodd ei ben yn gyflym drachefn i guddio gwên. Yn un o'r seddau cefn eisteddai George Hobley a Huw Jones ac eraill o wŷr y bonc, ac yn ochr arall y capel, wrth ymyl y drws, Robin Ifans. Yr argian, pwy fyddai'r nesaf i lithro i mewn? Ei daid, Dafydd Ellis? Na, yr oedd yr hen feddwyn hwnnw yn methu â symud cam o'r tŷ bellach-a diolch am hynny, efallai.

Teimlai Owen yn nerfus a hunan-ymwybodol iawn drwy rannau cyntaf y gwasanaeth, a throeon, yn enwedig pan ddigwyddodd edrych ar George Hobley a'i weld yn ceisio ymddangos. mor gartrefol â phetai wrth far y Crown, daeth ysfa chwerthin trosto. Ond yn ystod y cyhoeddi a'r casglu, fel yr edrychai eto o gwmpas y capel, troes yr yswildod yn falchder tawel, dwfn. Yn reddfol ond yn sicr, gwyddai fod y bobl garedig, ddiffuant, a oedd o'i flaen yn dymuno'r gorau iddo, yn ei wylio'n hyderus a ffyddiog, yn eiddgar am fedru llawenhau yn ei lwyddiant. Beth bynnag a ddygai'r dyfodol, yr oedd yn rhaid iddo fod yn deilwng ohonynt hwy ac o'u hymddiried ynddo, o'r gymdeithas a'r gymdogaeth syml y magwyd ef ynddynt.

Teilwng o Huw Jones ddiniwed, gywir. Gwenodd Owen wrth gofio amdano'n rhuthro'n wyllt i mewn i'r wal ar awr ginio yng nghanol yr wythnos gynt. "Sawl gwaith y deudis i y gwnâi Now . . . y. . . Owen 'ma brygethwr, Lias Tomos?" gofynnodd yn herfeiddiol. "Dro ar ôl tro, Huw," atebodd yr hen flaenor yn ddwys. "Do, debyg iawn." A thrawodd Huw Jones ei het ar yr hoel mor ffyrnig o ddiofal nes i'w hymyl, mewn dychryn, ffarwelio â'r gweddill ohoni. "Yr hen Ifan Ifans 'na." "Be' mae o wedi'i wneud iti, Huw?" "Deud mai fo welodd ddeunydd prygethwr yn yr hogyn, os gwelwch chi'n dda. Mi ddeudis i faint sy tan Sul wrtho fo yn fuan iawn!"

Teilwng o George Hobley anghyfrifol, haelfrydig, na regai mwyach yn ei ŵydd; o Robin Ifans, a edrychai arno bellach gyda pharchedig ofn, gan dewi'n sydyn yng nghanol stori anaddas fel.eglureb yn y Seiat pan ddigwyddai Owen fod gerllaw; o rai o ddynion y bonc a gludai, o ebargofiant rhyw gwpwrdd. llychlyd neu oddi tan dresal ag un o'i thraed ar goll, lyfrau iddo —"rhag ofn bod 'na rwbath ynddyn' nhw, yntê, Now?" O Huw Rôb ddidwyll, ffyddlon, a eisteddai yn awr ym mhen ei sedd a'i ddau lygad mawr croes fel stopiau organ yn ei ben; o Edward Roberts, tad Huw, araf, pwyllog, parod ei gymwynas; o Leusa Roberts ei fam, siriol, lawn bywyd, uchel ei llais; o'i ddwy chwaer hynaf, Nel a Chatrin—pob un ohonynt yn falch o weld "ffrind Huw" yn y pulpud. O . . . o Mary. Ceisiai beidio ag edrych arni hi, ond gwyddai fod ei llygaid duon, yswil, yn ei wylio'n bryderus bob cyfle a gaent . . .

Yr oedd y casglu drosodd, a rhoes emyn allan. Yna, pan gododd y gynulleidfa i ganu, chwiliodd am ei destun—"Byddwch chwi, gan hynny, yn berffaith, fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith."—A thrawodd ei nodiadau, mor ddisylw ag y gallai, ar y Beibl agored o'i flaen . . . Yn deilwng hefyd o'i fam, a oedd mor fechan ac ofnus yng nghongl ei sedd, a'i llaw anesmwyth, nerfus, yn gwyro dan bwysau'r llyfr emynau a ddaliai efo Myrddin; o Elin dew, fochgoch, gartref i fwrw'r

Sul; o Ddafydd, a gymerai arno, ac un llaw ym mhoced ei drowsus a'r llall yn dal y llyfr emynau'n esgeulus, nad oedd ganddo ddiddordeb arbennig yn y gwasanaeth heno. O Ddafydd yn fwy na neb; o Ddafydd, a fugeiliodd ei feddyliau ef o fis i fis, o flwyddyn i flwyddyn, heb yn wybod iddo bron; o Ddafydd ddiymhongar, anhunanol, deallus, a'i harweiniodd ef i borfeydd gwelltog llyfrau da, a da flodd mewn ymgomiau. tawel, dwys, oleuni ar lawer pwnc, a . . .

Teimlai fod rhywun mingam, gelynol, yn ei wylio o rywle tu ôl i ysgwydd Dafydd. Wil Cochyn: a phan syllodd Owen arno, edrychodd Wil ymaith a'i lygaid yn galed a'i enau'n dynn. Wrth ei ochr canai'i chwaer Myfanwy yn isel a phetrus fel petai hithau'n anniddig yng ngŵydd surni llwm ei brawd. Taflodd Owen olwg tros rai o'i nodiadau yn beiriannol, a chynnwrf yn ei feddwl.

Byth er pan aed â'i fam i ffwrdd, ni ddôi Wil yn agos i'r capel, ac er i Ddafydd a Huw geisio'i gymell droeon i ddod i'r Ysgol Sul, aros gartref yn sarrug a wnâi. "Mi faswn i'n falch 'taet ti'n siarad efo fo, Now," oedd sylw Dafydd un noson ar y ffordd o'r chwarel. "Mi glywis i 'i fod o wedi dechra' taro i mewn i'r Crown 'na." "Mi a' i yno heno nesa'," atebodd Owen. Ond nid oedd Wil yn y tŷ pan alwodd y noson honno na'r un ddilynol, a rhywfodd, cofiodd Owen yn euog, aeth y peth yn angof ganddo wedyn. Piti os oedd yr hen Wil, yn ei hiraeth am ei fam, a garai'n angerddol, yn mynd oddi ar yr echel.. Gwelai Ffowc y Saer, yr Arweinydd Canu, yn cau ei lyfr yn urddasol ac yna'n ei ddal i fyny yn ei law a'i ostwng yn araf gydag ymchwydd a threigl yr Amen.

Er iddo lafurio'n ddyfal i lunio'r bregeth ar yr Arwr, ni theimlai Owen ei fod yn cael hwyl ar ei llefaru y noson honno. Gwenai a nodiai Huw Jones fel petai'n cofio Mahomed a Shakespeare a Luther yn rhybela gydag ef ym Mhonc Rowler ers talwm, edrychai George Hobley yr un mor atgofus a dwys, gan lyncu poer edifeiriol yn aml, a bron na ddisgwyliai Owen glywed Robin Ifans yn taflu 'Amen' i ganol y tawelwch. Gwyrai Huw Rôb a'i dad ymlaen yn eiddgar, a gerllaw iddynt, yr ochr arall i'r rhodfa, cytunai wyneb edmygol Esther Thomas à phopeth a ddywedai'r pregethwr. Syllai Dafydd yn syth o'i flaen tua chongl y pulpud, ond gwyddai Owen oddi wrth ei wyneb fod y bregeth yn ei fodloni. Gwrandawai bron bawb yn astud, deuai porthi aml o'r Sêt Fawr, yn arbennig o enau'r gwein- idog, ond . . . ond ni chymerai Wil Cochyn ddiddordeb, ac er y ceisiai Owen edrych i bobman ond i'w gyfeiriad ef, taflai difaterwch blwng ei gyfaill gysgod tros ei holl feddyliau. Fel y cyrhaeddai funudau olaf ei bregeth, teimlai fel petai'r difaterwch hwnnw'n mynd yn ormes arno, yn ddwrn yn ei wyneb, yn floedd yn y tawelwch, yn watwar ac yn her. Ac wrth dderbyn yr her ymda flodd gydag angerdd sydyn i'r diweddglo, a'i eiriau'n ffrydlif a'i lais yn crynu gan deimlad. Yr oedd hwn, meddyliodd amryw, wedi etifeddu dawn ac ysbryd ei daid, a dwysaodd y tawelwch o'i flaen a chryfhaodd Amenau'r Sêt Fawr oddi tano. Fel y caeai'r Beibl gwelai olau edmygedd cyndyn yn llygaid Wil.

Uchel oedd clod y gweinidog yn y Seiat wedi'r oedfa, ac ar ei ôl ef siaradodd Ffowc y Saer a blaenor arall o'r enw Richard Owen ac yna Elias Thomas, pob un yn frwd eu canmoliaeth. Yna, gydag edrychiad ymholgar o gwmpas y Sêt Fawr a chan furmur, "Dydw' i ddim yn meddwl bod 'na ddim arall yn galw am sylw, frodyr," cododd y Parch. Ebenezer Morris i derfynu drwy weddi.

"Oes." A chamodd Ifan Ifans ymlaen yn araf o'i gongl dan y pulpud. Safodd yn llonydd am ennyd, ag un llaw tu ôl iddo o dan gynffon ei gôt laes a'r llall yn chwarae â chadwyn ei oriawr, gan fwynhau'r tawelwch disgwylgar. "Oes," meddai drachefn mewn tristwch mawr, a gwyddai pawb fod y Disgyblwr ar ei draed.

"Fel y brodyr sydd wedi siarad eisoes," aeth ymlaen, "yr ydw' inna'n llawenhau fod bachgen o'r eglwys yma â'i fryd ar fynd i'r Weinidogaeth ac yn addo-a barnu wrth 'i bregath fach gynta', beth bynnag-datblygu'n brygethwr reit dda. Yr ydan ni'n hyderu, fel y deudis i wrth ein parchus weinidog pan awgrymais i y priodoldab o'i gymall o i brygethu, y bydd o'n glod nid yn unig i ni yn Siloam ond i'r Cyfundab ac i'r genedl. Ac mi fydd o, 'gewch chi weld. Yr ydan ni'n gweddïo trosoch. chi, 'machgan i, yn gwylio'ch camra chi mewn llawn hyder ffydd. Yr Arglwydd a roddo nerth i chi yn eich gwendid ac a fyddo'n uchel dŵr ac yn noddfa i chi ym mhob perygl." Ymsythodd Ifan Ifans i'w lawn daldra, edrychodd yn ofnadwy o drist, ochneidiodd, tynnodd law flinderus tros ei dalcen. "Ond codi yr oeddwn i, yn anfodlon iawn, i ddwyn matar arall gerbron. Y mae'n ddyletswydd ar yr eglwys i gadw'i hun yn ddifrycheulyd rhag y byd, a phan welwn ni aelod yn cael ei ddenu gan ffôl bethau'r byd, y mae'n bryd inni geisio'i atal drwy weinyddu cerydd. Y rhai sydd yn pechu, cerydda yng ngŵydd pawb.' Dyna y mae'r Gair yn ei orchymyn, yntê? Ia, ia. Yr oeddwn i wedi clywad bod llanc ifanc o'r eglwys yn cadw cwmni drwg ac yn dechra' cael blas ar y ddiod y felltith 'na. Mi fùm i a'n parchus weinidog yn ymddiddan ag o, gan obeithio medru dangos iddo gyfeiliorni ei ffyrdd. Ond neithiwr yn hwyr pan on i'n mynd heibio i'r hen dafarn 'na, mi ddois i wynab yn wynab â fo yn . . . y . . . dynwarad prygethwr . . . y . . . adnabyddus ar ganol yr heol a'i gymdeithion gwatwarus yn porthi ar uchaf 'u llais . . . Willie Davies, tyd ymlaen i'r Sêt Fawr 'ma."

Ni syflodd Wil, a dywedai'r her yn ei lygaid na fwriadai ufuddhau.

"William Davies!" Ceisiai'r Parch. Ebenezer Morris swnio'n awdurdodol, ond ni chafodd hynny ddylanwad o gwbl ar y pechadur. Gwyrodd Elias Thomas ymlaen i sibrwd,

"Gadewch i mi siarad efo fo, Mr. Morris. Mi a' i â fo acw i swpar heno." Ond yr oedd Apostol Dirwest, fel yr hoffai gael ei alw, ar ei urddas ac yn benderfynol o gyfiawnhau ei enw.

Nid oedd Owen yn hoff iawn o'i weinidog. Y prif reswm efallai oedd nad ymddangosai'r dyn yn naturiol. Bu Ebenezer Morris arall yn un o "hoelion wyth" y Cyfundeb, a cheisiai'r ail efelychu'r cyntaf, gan grychu'i dalcen a chwarae â'i farf a thynnu'i law drwy'i wallt a cherdded yn urddasol a chodi'i lais fel y gwnaethai'i gyfenw. Ond cul oedd talcen, tenau oedd gwallt a barf, bychan oedd corff, a gwichlyd oedd llais "R hen Eb," ac, er na chredai ef mo hynny, nis breintiwyd â gwreidd- ioldeb nac â dychymyg anghyffredin. Efallai mai ei lais tenau, gwichlyd, a roes fod i'r stori amdano'n pregethu un nos Sadwrn mewn Cyrddau Mawr ym Mryn Llwyd. Dechreuasai rhywun arall y gwasanaeth iddo, ac yna dringodd "R hen Eb" i bulpud uchel, hen-ffasiwn, y capel. Dim ond darn o'i ben, o'i drwyn i fyny, a welai'r gynulleidfa, a phan gyhoeddodd y wich of lais y testun, "Nac ofnwch, Myfi yw," yr oedd gwên hyd yn oed. ar yr wynebau mwyaf Piwritanaidd.

Dirwest oedd ei bwnc mawr, ac yn ei freuddwydion, ynghwsg ac yn effro, fe'i gwelai'i hun yn Ddafydd a âi allan i ladd Goliath y ddiod. Taranai-neu gwichiai, yn hytrach-yn erbyn yr anghenfil bob cyfle a gâi, ysgrifennai lythyrau ffyrnig i'r papurau. newydd, a chynigiai benderfyniadau mewn cyfarfodydd o bob math.

"William Davies!" meddai eto, dipyn yn uwch. Clywai Owen ei galon ei hun yn curo'n wyllt yn y distawrwydd. A Wil yr oedd ei holl gydymdeimlad, a theimlai y medrai guro pennau Ebenezer Morris ac Ifan Ifans yn ei gilydd. Cododd o'i gadair ac aeth at ymyl y gweinidog. "Os caniatewch chi i mi siarad efo fo ar ôl capal, Mr. Morris, yr ydw' i'n siŵr . . . "

"Y mae achos Dirwest yn y lle 'ma," meddai Ebenezer Morris yn uchel, gan ddiystyru Owen, "yn hawlio gwyliadwriaeth wastadol ar ein rhan, a phan ganfyddwn un o'n plith â'i draed ar y ffordd sy'n arwain i ddistryw, ni ddylem oedi ennyd awr. Oherwydd eang yw y porth a llydan yw y ffordd. y . . . honno. Am y trydydd tro, William Davies, yr ydw' i'n gofyn i chi ddŵad ymlaen i'r Sêt Fawr 'ma."

Cododd Wil, ond yn lle troi i'r chwith tua'r Sêt Fawr, aeth i'r dde a thua'r drws, gan gerdded yn gyflym ac edrych yn syth o'i flaen.

"Wil!"

Er nad oedd y gair ond sibrwd, fe'i clywyd gan amryw yn y seddau blaen. Yna, heb aros eiliad i ystyried beth a wnâi, gadawodd Owen y Sêt Fawr a brysiodd ar ôl ei gyfaill. Teimlai fod pob llygad yn rhythu'n anhygoel arno, a phan âi heibio i Ddafydd, a eisteddai ym mhen ei sedd, arafodd ei gamau'n betrus am ennyd, a'i ffolineb byrbwyll fel niwl yn ei feddwl. Ond yr oedd yng nghanol y capel erbyn hynny a'i draed, yn beiriannol bron, yn ei yrru tua'r drws.

"Owen Ellis!"

Ond ni chymerodd sylw o gyfarthiad meinllais Ebenezer Morris, ac ymhen ennyd yr oedd distawrwydd syfrdan, llethol y capel o'i ôl ac yntau'n brasgamu'n bennoeth i'r lloergan a heibio i Huw Jones a George Hobley ac eraill a oedd yn sefyllian yn y stryd tu allan.

Daliodd ef wrth y tro i Allt-yr-ysgol.

"Wil!"

"Y nefoedd, o b'le doist ti?"

"O'r capal, debyg iawn."

"Ia, ond . . . ond 'dydyn' nhw ddim wedi gorffan yno."

"Mi ddois i allan yn syth ar d'ôl di."

"Cyn . . . cyn iddyn' nhw ofyn gras?"

"Ia."

"Yr argian, dyna ti wedi'i gwneud hi, was!" Ystyriodd ennyd ac yna cydiodd ym mraich Owen "Tyd, mi awn ni'n ôl ar unwaith."

"I be', Wil?"

"Mi ddeuda' i wrth 'R hen Eb fod yn ddrwg gin' i, i goblyn, ac mai chdi ddaru—be' ydi'r gair?-fy . . . fy edifarhau i—naci, fy..

"Celwydd fydda' hynny, Wil."

"Dos di yn d'ôl 'ta'. Dywad wrthyn' nhw dy fod di wedi siarad efo mi ond 'mod i mor styfnig â mul Charlie Pennog. Dywad rwbath lici di, ond dos yn d'ôl, Now."

"Tyd, mi awn ni am dro bach."

"Ond os nad ei di . . . "

"Mae'n rhy hwyr 'rŵan, p'un bynnag. Tyd."

"Be' goblyn wnaeth i ti ddŵad allan fel'na?"

""Wn i ddim, wir."

""Wyddost ti ddim?"

"Na wn, dim ond bod 'y 'ngwaed i'n berwi pan oedd Ifan Ifans a 'R hen . . . a Mr Morris wrthi."

"Mae gan 'R hen Eb 'i gyllall yna' i, wsti. Byth er pan rois i 'mraich am Riannon yn y brêc wrth ddŵad yn ôl o drip yr Ysgol Sul." Unig ferch y Parch Ebenezer Morris oedd Rhiannon, a chan fod gan ei mam fodd i'w chadw ynddynt, addysgwyd hi mewn ysgolion preifat, a dim ond yn ystod ei gwyliau y câi Llan Feurig y fraint o'i gweld. Yr oedd yn awr mewn Coleg yn Llundain. "Be' gythral mae o'n feddwl ydi hi? Darn o borslein?"

Dringodd y ddau yr allt yn araf heb yngan gair am dipyn. Wil a dorrodd gyntaf ar y distawrwydd.

"Roeddat ti wrthi'n reit dda heno, oeddat, wir, 'chgan. Mi fydd Lias Tomos wrth 'i fodd."

"Wil?"

"Ia?"

"Pam . . . pam oeddat ti'n gwrando mor . . . "

"Mor be'?"

"Wel, fel 'taet ti ddim yn gweld llawar yn y bregath."

""Oeddwn i? Oeddwn, mae'n debyg. Ond nid amdanat ti na dy bregath yr on i'n meddwl."

"O? Am be'?"

"Am 'Mam. 'Fûm i ddim yn agos i'r capal er pan aeth hi i ffwrdd, er i Lias Tomos siarad efo mi. Mi wnawn i rwbath i'r hen Lias—ond dŵad i'r capal. 'Roedd 'Mam wrth f'ochor i bob amsar yn y sêt a'i gwefusa' hi'n symud efo'r bennod a'i phen hi efo'r bregath ac yn canu'r emyna' fel eos. Dew, 'roedd 'Mam yn medru canu, ond oedd, Now?"

"Oedd . . . Oedd, fachgan."

Aethant heibio i'r tro i Dyddyn Cerrig ac i fyny tua chartref Wil.

"Be' . . . be' wnaeth iti ddŵad yno heno?"

""Wn i ddim. 'Doeddwn i ddim wedi meddwl dŵad, ac mi aeth 'Fanwy'n reit gas wrtha' i amsar te. Ar ôl iddi hi a phawb arall fynd, mi es i fyny i'r llofft gefn, lle'r oedd 'Mam yn arfar cysgu, a sefyll yn annifyr wrth y ffenast'. I lawr at y tân wedyn, am fygyn, ond 'fedrwn i ddim aros yno. Allan, gan feddwl mynd am dro hyd yr afon, ond at y capal yr es i-'wn i ddim pam-a sleifio i mewn er 'u bod nhw wrthi'n canu'r ail emyn." "Oedd Ifan Ifans yn deud y gwir?"

"Am neithiwr? Oedd." Chwarddodd Wil uwch yr atgof. "Mae arna' i ofn 'mod i wedi'i dal hi, 'chgan."

"Pwy oedd y 'prygethwr adnabyddus' yr oeddat ti'n 'i ddynwarad?"

"R hen Eb . . . Hylô, mae hi'n dechra' bwrw, a chditha' heb gôt fawr na het. Tyd, brysia."

Aethant i mewn i dŷ Wil ac at dân y gegin. Goleuodd Wil y lamp ac yna taniodd sigaret yn rhodresgar. Ond ni thwyllwyd Owen gan y rhwysg gwyddai fod ei gyfaill yn drwblus iawn ei feddwl. "Daria, be' goblyn oeddat ti isio dŵad allan ar f'ôl i? 'Fydd 'R hen Eb ddim yn madda' iti, 'gei di weld."

"Wil?"

"Ia?"

"Mae'n ddrwg gin' i na faswn i wedi dwad i'th weld di yr wsnosa' dwytha' 'ma. Mi alwais i ddwywaith, ond 'doedd neb yn y tŷ. Ac fel y gwyddost ti, mi fûm i'n o brysur rhwng popath."

"Do, mi wn, Now bach. Paid â meddwl chwanag am y peth. Mae'n . . . mae'n ddrwg gin' inna' na faswn i wedi gwrando'n well arnat ti heno. Pregath dda, Now, dda iawn, er nad on i'n ddigon o sgolar i ddallt lot ohoni hi. Nid arnat ti na'r bregath yr oedd y bai 'mod i'r edrach mor sarrug, cofia di hynny."

"Ar be' 'ta', Wil?"

"Y diwrnod yr aethon' nhw à 'Mam i ffwrdd, mi alwodd 'R hen Eb yma. "Ydi peth fel hyn yn gwneud sens i chi, Mr. Morris?' medda' fi wrtho fo. 'Ei ewyllys Ef a wneler, William,' medda fo fel Person mewn gwasanaeth claddu, 'Ei ewyllys Ef a wneler.' Mi wylltiais i'n gacwn-mi wyddost nad ydw' i ddim yn ffond iawn o Eb. Wel, 'dydw' i ddim yn meddwl. llawar ohono Fo na'i ewyllys,' medda' fi. Mi gododd 'i ddwylo mewn dychryn ac mi ddechreuodd bregethu wrtha' i, ond mi gydiais yn fy nghap a mynd allan . . . Mi drois i mewn i'r Crown efo rhai o'r hogia' y noson honno."

"Piti, 'r hen Wil, piti garw.".

"Pam?"

""Wnaiff hynny ddim lles i dy fam, na wnaiff?"

"N . . . na wnaiff, ond . . ."

"A 'thasa' hi'n clywad dy fod di'r fath lwfrddyn, mi boena'n ofnadwy, on' wnâi?"

Yn lle ateb, taflodd Wil ei sigaret i'r tân a throes yn ffyrnig ar Owen. ""Wyt ti'n gweld sens yn y peth 'ta'?"

Achubwyd Owen rhag gorfod ateb ar unwaith gan glic y gât tu allan a sŵn rhywun yn dod i mewn i'r tŷ.

"Fanwy," ebe Wil.

"O, yma yr ydach chi, y cnafon?" meddai hi pan ddaeth i'r gegin.

"Be' ddigwyddodd ar ôl inni fynd allan?" gofynnodd ei brawd.

"Dim llawar o ddim. Mi gododd Lias Tomos a deud mor ffond oeddat ti o 'Mam a bod Owen a chditha' yn dipyn o ffrindia'. Mae o am siarad efo chi, medda' fo. 'Synnwn i ddim na eilw o yma heno. Wil, yr ydw' i'n mynd i newid fy ffrog ora' pwy bynnag ddaw yma."

"Wel?" meddai Wil wedi iddi fynd i'r llofft.

"Wel be'?"

""Wyt ti'n gweld sens yn y peth?"

""Fedra' i ddim ond deud wrthat ti fel y deudodd 'Nhaid un noson wrth Harri Hughes, Tai Gwyn. 'Mae 'na lawar o betha' nad ydw' i ddim yn 'u dallt nhw, Harri,' medda' fo. "Wn i ddim pam yr oedd Iesu Grist, a 'fynta'n ddim ond dyn ifanc tair ar ddeg ar hugain, yn gorfod diodda' holl arteithia'r groes.""

Syllodd y ddau yn dawel i'r tân am dipyn, ac yna cododd Owen ei ben wrth wrando ar sŵn Myfanwy'n symud yn y llofft.

"Dew, hogan ddewr ydi Myfanwy, yntê?"

"A finna'n llwfrgi, 'wyt ti'n feddwl?"

"O, 'doeddwn i ddim yn awgrymu . . . "

Daeth cnoc ar ddrws y ffrynt.

"Lias Tomos, mae'n debyg," meddai Wil, gan godi. Ond Huw Rôb a oedd yno, a chôt Owen ar ei fraich a'i het yn ei law.

"Hylô, 'r hen hogia'. Mi fûm i bron â dŵad allan ar eich hola' chi. 'Ron i'n sâl isio smôc. Sigaret, Wil?" "Diolch, Huw."

Ysmygodd y ddau heb air pellach am funud cyfan, ac yna dywedodd Huw yn bur ddidaro, "Mi ges i air efo Eb ar ôl capal."

"O?" Yr oedd gwrychyn Wil yn codi ar unwaith. "A be" ddeudist ti wrtho fo?"

"Y byddech chi'ch dau yn galw i'w weld o heno i wneud . . . y . . . ymddiheuriant . . . Tyd, Now."

"Ond yr on i wedi bwriadu . . . "

"Dyma dy gôt di."

"Diolch . . . wedi bwriadu siarad efo Lias Tomos a . . . "

"A'th het di."

"Diolch."

Brysiodd Huw allan o'r gegin a dychwelodd ymhen ennyd â chôt a chap Wil yn ei ddwylo.

"Hwda."

"Yli, Huw Rôb, os wyt ti'n meddwl . . . "

"Tyd yn dy flaen, Cochyn, a dim lol."

"O, o'r gora', ond cofia . . . "

"Lle mae 'Fanwy?"

"Yn y llofft."

Aeth Huw allan ac i waelod y grisiau.

"Fanwy?"

"Ia, Huw?"

"Mae 'Mam isio i chi ddŵad acw i swpar."

"Ond yr ydw' i . . . "

"Maen' nhw'n eich disgwyl chi, cofiwch."

"Ond yr ydw' i newydd newid fy ffrog a . . ."

"Twt. 'Rydan ni'n tri'n mynd i dŷ Lias Tomos i swpar. Nos dawch 'rŵan."

"Ond Huw . . . '

"Nos dawch, 'Fanwy."

Fel y cerddai'r tri chyfaill i lawr Gallt-yr-ysgol, teimlai dau ohonynt fel troseddwyr yng ngofal plisman. Ond yr oedd Owen yn hynod falch o weld y wên fawr, ddanheddog, ar wyneb Wil.

𝒫𝑒𝓃𝓃𝑜𝒹 6

UNWAITH y torrodd yr ias, cofiodd yr hen weinidog, nid oedd pethau'n anodd iawn wedyn. Rhywfodd, yn y pentref ac yn y chwarel, disgwylid iddo fod yn "wahanol", yn llanc dwys a difrifol, ac, a'i feddwl ar y llyfrau a ddarllenai a'r pregethau a luniai, gorau'n y byd ganddo oedd hynny. Pregethodd ddwywaith wedyn yng ngŵydd ei weinidog, cyflwynwyd ei achos i ystyriaeth y Cyfarfod Dosbarth yn nechrau'r flwyddyn, holwyd ef yn gyhoeddus un nos Fawrth yn y Seiat gan Ifan Hughes, Caer Heli, a hen flaenor caredig o'i eglwys ef, pleidleisiwyd yn unfrydol o'i blaid yn Siloam, trefnwyd cylchdaith iddo o fewn y Dosbarth, ac wedi derbyn. bendith y Cyfarfod Dosbarth a'r Cyfarfod Misol cychwynnodd ar ei "flwyddyn brawf" yn nechrau'r haf. Cyn hir gallai gyfrif ei bregethau ar fwy na bysedd un llaw, a châi, drwy ddylanwad Owen Gruffydd yn fwyaf arbennig, gyhoeddiadau aml, rhai ohonynt tu allan i gylch y Cyfarfod Misol, a chaniatâd parod Richard Davies, y Stiward Gosod, i ddechrau gweithio weithiau ar brynhawn yn lle ar fore Llun. Fel rheol, pymtheg swllt a enillai ar y Sul, ond rhoddid iddo bunt yng Nghaer Heli a lleoedd tebyg, a phum swllt ar hugain mewn rhai eglwysi pell. Cadwai'r rhan fwyaf o'r arian yn ofalus, gan wybod y byddai angen pob dimai arno pan âi i Ysgol Ragbaratoawl y Bala ym Medi'r flwyddyn wedyn.

"Paid di â phoeni am y pres, 'rŵan," oedd siars Dafydd un nos Sul pan gyrhaeddodd Owen adref o Lan Eithin â dim ond chweugain yn lle pymtheg swllt yn ei boced. "Ac Enid yn cadw'i hun yng Nghaer Helia Myrddin wedi dechra' ennill tipyn, 'rydan ni'n medru rhoi ceiniog heibio o'r diwadd, wsti. Mi ofalwn ni y cei di bob chwara' teg, 'r hen ddyn."

Yr oedd Myrddin, wedi gwrthod yn lân gynnig am ysgoloriaeth Ganolraddol newydd yng Nghaer Heli, bellach yn was bach mewn siop, ac er nad enillai ond coron yr wythnos, cynorthwyai'r teulu hefyd drwy gludo adref fanion—asgwrn ham â llawer o gig arno, nwyddau wedi'u gwlychu neu'u hanafu dipyn ar y ffordd i Lan Feurig, ffrwythau a oedd yn debyg of fynd yn ddrwg pe gadewid hwy yn y siop i fwrw'r Sul—a roddai'i feistr, Richard Owen, iddo yn rheolaidd. A chan y perthynai i Fanchester House geffyl a chert, yr oedd y gwas bach ar ben ei ddigon. Diolchai'i fam am hynny. "Dydi Myrddin ddim yn gryf," meddai'n aml, "ac yr ydw' i'n falch yn fy nghalon fod Richard Owen yn mynd â fo allan efo fo yn y gert." "Rhwng trio rhoi anrhegion go lew iddi a threfnu brecwast da," chwanegodd Dafydd wrth Owen, "mi fydd yn rhaid inni wario tipyn ar briodas Elin, ond 'fydd 'na ddim treulia' o bwys ar ôl hynny."

"Be' am y tŷ, Dafydd?"

"Y les yn dwad i ben? Ia." Cymylodd wyneb Dafydd am ennyd, ond siriolodd drachefn ar unwaith. "O, 'dydw' i ddim yn meddwl bod rhaid inni boeni am hynny, wsti. 'Rydan ni wedi edrach ar ôl Tyddyn Cerrig ac mae o'n well tŷ o lawar na phan brynodd 'Nhad a 'Mam o cyn priodi. Maen' nhw'n siŵr o estyn y lês. Mi fùm i'n holi amryw ar y pwnc, a'r farn gyffredin ydi y bydd Meyricke yn cymryd tai'r bobol esgeulus i'w rhentu, ond yn estyn lês y rhai sy mewn cyflwr da." "Hen ddeddf ofnadwy ydi hi, yntê, Dafydd?"

"Dal tŷ ar lês? Ia."

"Meddylia, mewn difri. 'Chydig dros gan mlynadd yn ôl 'doedd 'na ddim ond llethra' creigiog yma, yn dda i ddim nac i neb. Wedyn dyna agor Chwaral y Fron a phobol yn dechra' heigio iddi i ennill tamad. A lle'r oedd y graig noeth o'r blaen, mae pentra' Llan Feurig yn codi, y tai i gyd ar lês. Erbyn hiddiw mae'r hen graig yn fwy o werth na'r tir mwya' ffrwythlon yn y wlad. Dim ond am i daid Oswald Meyricke dorri'i enw wrth ochor enwa'r chwarelwyr oedd yn codi tai arni." "Wrth ochor croes y rhan fwya' ohonyn' nhw."

"Croes mewn mwy nag un ystyr. Ond 'aeth o ddim i'r draffarth hyd yn oed i dorri'i enw, mae'n bur debyg. Tipyn o gyfreithiwr oedd yn gwneud hynny trosto fo, a 'fynta'n mwynhau'i hun yn Neheudir Ffrainc ne' yn yr Eidal ne' rwla."

"Ia, ond paid di â llenwi dy ben efo problema' fel'na, Now bach." Er bod Owen bellach lawer yn dalach na'i frawd, "Now bach" y galwai Dafydd ef o hyd. "A chofia di beidio â chynilo gormod 'rŵan, a byw heb y llyfra' a'r petha' sy arnat ti 'u hangan."

"Diolch, Dafydd, ond . . . ond be' amdanat ti?"

"Fi?"

"Ia. 'Chydig o blesar wyt ti'n gael, yntê?—byth bron yn mynd am dro i Gaer Heli na . . . na . . . "

"Na be'?"

"O, 'wn i ddim, ond . . ."

"Ond byth yn mynd allan i garu, a'r 'gennod dela'n cael 'u bachu o dan fy nhrwyn i?"

"Wel . . . "

Chwarddodd Dafydd. "Mi ddaw rhyw glamp o aeres, yn rholio mewn arian, heibio un o'r dyddia' 'ma, wsti. Ac wedyn nid i'r Bala y byddwn ni'n dy yrru di ond i Oxford ac ar ôl hynny i'r 'Mericia."

Ar y bore Sadwrn cyntaf yn Hydref yr oedd priodas Elin, a mawr fu'r cyffro yn Nhyddyn Cerrig yr wythnos honno. Gan mai Miss Lucy Roberts, yr wniadwraig leol, a ofalai am ddillad y briodferch a'i mam, galwodd ei phrentis, Mary, yn y tŷ droeon a sylwodd amryw mor rhwydd y gwridai hi ac Owen yng ngŵydd eraill. Enid a oedd i fod yn forwyn briodas a disgwylid hi adref o Gaer Heli nos Iau, ond cyrhaeddodd y brêc olaf Lan Feurig hebddi a noswyliodd pawb gan gredu mai'r bore wedyn. y dôi hi. Derbyniwyd llythyr oddi wrthi yn y bore â'r newydd fod ei meistres yn wael iawn ac na fedrai ei gadael, a chytunodd Myfanwy, chwaer Wil, i fod yn forwyn briodas yn ei lle. Cawr o ddyn gwladaidd, afrosgo, oedd y priodfab o hwsmon, yn araf a chynnil ei eiriau, a dwfn iawn ei lais. Edrychai fel hogyn mawr, yswil, a dyfasai'n sydyn yn ŵr, ac er y deuai tros Fyrddin ysfa chwerthin am ben ei draed enfawr, a ymddangosai'n fwy fyth islaw culni hosanaidd coesau'i drowsus, hoffodd pawb ei ddidwylledd syml, elfennol, ar unwaith. Yn y pridd, yn dilyn yr og neu'r aradr efallai, yr oedd y traed hynny hapusaf, a thipyn o dreth arnynt oedd cludo urddas a chyfrifoldeb priodfab i ddieithrwch Llan Feurig. Ceisiai John—rhythai'i lygaid a'i geg ar bwy bynnag a'i galwai'n "Mr. Williams", fel petai'n amser at bwy y cyfeirid—ddianc o'i yswildod drwy wenu a wincio ar bopeth a ddywedid wrtho a chwibanu'n ddi-baid alaw hollol anhyglyw hyd yn oed iddo ef ei hun. Dim ond pan fwytâi neu pan siaradai y peidiai'i wefusau â gwneud cylch chwibanog, a phob tro y deuai Elin i'r gegin gofalai hi am wthio tamaid o gyflaith i'w safn.

Cysgai John yn Nhŷ Pella' y noson honno ac aeth Owen yno gydag ef, yn gwmni iddo: dôi'r gwas priodas, cefnder i'r priodfab, drosodd o Lan Eithin yn y bore. Buont yn siarad—neu'n hytrach bu Owen Gruffydd yn areithio, Owen yn taflu ambell air i mewn, a John yn chwibanu'n fud—tan ohydion, ac ni chododd un ohonynt yn fore iawn drannoeth. Wedi iddo eillio'i wyneb ac ymolchi a chael tamaid o frecwast, brysiodd y priodfab i'r llofft i ymwisgo, a chyn hir, ac yntau'n barod i ymbincio, ymunodd Owen ag ef yno. A'i goler a'i dei yn ei law, eisteddai John yn ei drowsus a'i wasgod wlanen ar ymyl y gwely gan syllu'n ddig ar y fasged wellt agored wrth ei draed.

"Be' sy, John?"

"'Roedd Meistras wedi'i daro fo'n barod ar y gwely imi, a mi fedrwn daeru imi 'i roi o yn y fasgiad."

"Be'?"

"Y crys gwyn hwnnw brynis i ym Mhwllheli. Newydd sbon. Dyma hi'r golar. A'r tei. Ond 'dydi'r tacla'n dda i ddim heb y crys, nac ydyn'?"

Gwyrodd Owen i loffa yn y fasged.

"Fyddwch chi ddim gwell, Now. 'Rydw'i wedi'i gwagio hi bedair gwaith. Dim sôn amdano fo."

"Mae fy nghrysa' i a rhai Taid yn rhy fychan i chi," meddai Owen wedi iddo chwilio'n ofer yn y fasged. "Be' wnewch chi, deudwch?"

"Crys crand oedd o hefyd. Y gora' yn y siop."

"Mi reda' i i'r pentra' os liciwch chi. Ond dim ond Manchester House sy'n cadw crysa', a 'chydig iawn o ddewis sy yno. Rhai gwlanan cartra' bron i gyd."

"Ia... 'Faint ydi hi o'r gloch?"

"Mae hi wedi naw, John."

"Rargian Dafydd, 'ydi hi? A ninna' i fod yn y capal erbyn deg."

"Cyn deg, dipyn."

"Ia, yntê?" A chododd John fel petai am gychwyn y munud hwnnw yn ei drowsus a'i wasgod wlanen. Eisteddodd ar ymyl y gwely drachefn mewn anobaith. Roedd o'n grys crand, hefyd," meddai'n llwm.

"Wel," ebe Owen, 'does dim amdani ond gwisgo'r crys gwlanan oedd gynnoch chi ddoe."

"Nac oes, gwlei."

Daeth Owen Gruffydd i'r drws. "Barod?" gofynnodd.

Eglurwyd y sefyllfa iddo a chwarddodd yntau.

"Twt, be' ydi'r ffwdan ?" meddai. "Tsiêt, John, tsiêt. Dyna oedd gin' i'n priodi." A brysiodd ymaith i nôl un o'i lofft ei hun.

Yr oedd y gwas priodas yn aros amdanynt wrth y capel, ac wedi iddynt gymell Owen i fynd gyda hwy yno am ennyd, cerddodd y priodfab a'i was, y cyntaf â thyngedfennol sang, i'r Sêt Fawr. Ysgydwodd y Parch. Ebenezer Morris law â hwy ac yna eisteddodd ef wrth y bwrdd a'r ddau ddieithryn ar y Sêt i aros nes dôi'r briodferch a'i morwyn a Dafydd. Gwelai Owen, fel y ciliai i'r sedd gyntaf at ei daid a'i fam, y câi John beth trafferth i gadw conglau'r tsiêt rhag ymwthio tros ymyl ei wasgod, yn enwedig pan blygai ymlaen dipyn, ond ar wahân i hynny ymddangosai'r priodfab yn bur gartrefol, a dechreuasai chwibanu'n ddi-sŵn eto. Ymhen ennyd gwyrodd y gweinidog ymlaen i sibrwd rhywbeth am "certificate". Nodiodd a gwenodd John yn gyfeillgar arno, ond gan ei ddal ei hun yn syth yn erbyn cefn y Sêt Fawr. Sibrydodd Ebenezer Morris eilwaith dipyn yn uwch, a chododd Owen i gyflwyno'r neges i glust chwith John.

"Y stifficet. Ar gyfar y Cofrestrydd."

Aeth wyneb coch y priodfab yn gochach a, tsiêt neu beidio, troes i hisian yn ffyrnig: "Yr hen grys goblyn 'na. Ym mhocad fy nghôt arall i."

Safodd y gweinidog a phawb arall tra deuai Elin a Myfanwy a Dafydd i mewn i'r capel. Sleifiodd Owen allan drwy'r festri a rhuthrodd i Dyddyn Cerrig, lle, yn ffodus, y gadawsent y fasged ar eu ffordd o Dŷ Pella'. Daeth o hyd i'r dystysgrif a rhedodd bob cam yn ei ôl i'r capel. Fel y camai'n dawel heibio i'r Sêt Fawr, edrychai'r pâr ifanc fel pe baent newydd ffraeo a phenderfynu na siaradent air â'i gilydd am weddill eu hoes. Ond cafwyd hwyl wrth y bwrdd brecwast, a chan fod Mary'n un o'r gwahoddedigion, yr oedd Owen yn hapus iawn. Wedi'r bwyta, areithiodd Owen Gruffydd a'r gwas priodas yn huawdl a doniol, a dywedodd John mor falch ydoedd o gael bod yno ac o'u gweld i gyd yn edrych mor dda a'r diwrnod yn un mor braf, er nad oedd o'n licio sŵn yr hen wynt 'na yntôl. Trefnwyd gosgordd, ac Owen a Mary yn eu plith, i hebrwng y pâr ifanc at y brêc a'u cludai i Gaer Heli, lle bwriadent dreulio'u prynhawn mêl yn gweld y siopau a phrynu llestri ar y Maes cyn dychwelyd i Lŷn, tafiwyd ychwaneg o reis i esgidiau'r priodfab ac i lawr ei wddf, hongiwyd pâr enfawr o esgidiau hoelion-mawr tu ôl i'r brêc, a rhoddwyd "Hwrê!" uchel i John a'i wraig fel y cychwynnai'r cerbyd. Yna aeth Owen i ddanfon Mary adref. Dim ond gwaith tri munud a oedd i'r tŷ, ond gan iddynt ddewis y llwybr a arweiniai i fyny'r Clogwyn i olwg Bryn Llwyd a chrwydro'n ôl yn araf i lawr ochr y Fron, cymerodd y daith deirawr y prynhawn hwnnw.

Yr oedd Owen i bregethu yn eglwys Ifan Hughes yng Nghaer Heli y bore a'r hwyr drannoeth, ac fel y paratoai i gychwyn am y brêc ar ôl te,

""Ei di â'r wya' 'ma efo chdi?" gofynnodd ei fam.

"I bwy?"

"I Enid, i'w rhoi nhw i'w meistras. Maen' nhw'n ffres, newydd ddŵad o'r Hafod."

"Wel . . . O'r gora', 'Mam."

Ond ni chafodd gyfle i weld Enid y noson honno. Tynnai at saith o'r gloch pan gyrhaeddodd ei lety yn y dref a chan fod ei westeiwr, Ysgrifennydd yr eglwys, yn ŵr siaradus, trawai cloc gerllaw wyth cyn iddo feddwl am gychwyn, ac erbyn hynny clywai sŵn llestri'r swper yn y gegin. Ni ddaeth Enid i'r capel yn y bore, a phenderfynodd Owen golli'r Ysgol Sul a mynd i "Fin-y-don", y plas o dŷ yr oedd Enid yn gweini ynddo, yn y prynhawn. Yr oedd hwnnw dros hanner milltir tu allan i'r dref, ar lechwedd uwch y môr, ac fel y cerddai drwy'r gerddi hardd tua'i ddrws urddasol, teimlai gywilydd o'r blwch o wyau yn ei law.. Morwyn tua'r un oed ag Enid a atebodd y drws.

"Pnawn da. Brawd Enid ydw' i."

"O . . . y . . . " Gwridodd y ferch at ei chlustiau. "Isio gweld Meistras yr ydach chi, mae'n debyg."

"Na, yr ydw' i'n dallt . . . "

"O, dyma Mistar." Troes yn ei hôl i alw, "Brawd Enid,

Syr."

"Y drawing room, Beti. Mi ddo' i yno mewn munud."

Arweiniwyd Owen i mewn i ystafell fawr gyfoethog a wynebai'r môr. Eisteddodd yn bryderus ar fin ei gadair a'r blwch wyau ar ei lin. Ni fuasai erioed mewn ystafell mor llawn o addurniadau. Ymhlith myrdd o bethau eraill, yr oedd ynddi lwynog a dylluan a physgodyn enfawr a chloc euraid, pob un yn sancteiddrwydd di-lwch ei gâs gwydr; potaid mawr o redyn ar y bwrdd ac un arall mwy wrth y ffenestr; lluniau'r teulu, pob copa walltog a moel ohonynt, ac orielau o weinidogion barfog ar y muriau; ac ar y silff-ben-tân a'r mân fyrddau a'r seld, anrhegion o Landudno a Llandrindod a Threfriw a phob llan a thref arall of ffasiynol goffadwriaeth. Coch oedd y lliain pom-pomaidd ar y bwrdd, addurnai'r un deunydd y silff-ben-tân, ac ohono ef hefyd y lluniwyd ardderchowgrwydd swrth y llenni a hongiai o boptu'r ffenestr. Ond yr oedd "hangings" o lace ar y ffenestr ei hun, ac ar bob cadair gorweddai'r antimacasars yn ddi-grych fel pe na bai neb erioed wedi'u hamharchu drwy feiddio gorffwys ar un ohonynt.

Daeth y dyn y cawsai Owen gip arno yn y cyntedd i mewn. Gŵr bychan, boliog, ydoedd, a geisiai ond a fethai gerdded yn urddasol: gan fod ei goesau byr yn glòs wrth ei gilydd, cerddai fel siswrn.

"Y . . . pnawn da."

"Pnawn da, Mr. Davies." A chododd Owen i ysgwyd llaw ag ef.

""Steddwch."

"Diolch."

"Wel?" Teimlai Owen fel petai o flaen y Stiward yn y chwarel, wedi'i ddal yn sleifio'n hwyr i'r gwaith.

"Sut mae Mrs. Davies?"

"Cystal â'r disgwyl, ac ystyriad bod 'i chalon hi mor beth'ma, yntê?"

"Mi wnaeth 'Mam imi ddŵad â'r wya' 'ma iddi hi." Ac estynnodd y blwch i'r dyn bach.

"W . . . wya'?"

"Rhai ffres. O ffarm ar y mynydd 'cw."

"D . . . diolch."

wenu braidd yn ffôl.

Daliodd hwy'n ffwndrus yn ei law, gan

"Mae'n biti, ond ydi?"

"Ydi, wir, Mr. Davies."

"Hogan glên. Heb 'i gwell am deisan 'fala'. Tipyn of sioc."

Ni wyddai Owen beth i'w ddweud. Edrychodd, mor drist ag y gallai, ar y ffan fawr las yn y grât ac yna ar y llwynog yn ei gâs gwydr.

"Anifal hardd, Mr. Davies."

"Ydi, ond ydi?" Taflodd olwg cyflym tua'r drws ac yna gostyngodd ei lais. "Yr on i'n mynd am dro un diwrnod, gwn dan fy mraich, ar ochor y Wyddfa . . . ”

"O'n wir!"

Hwyliodd dynes dal, drwynfain, wedi'i gwisgo bron at ei gên mewn sidan du, i mewn drwy'r drws. "Ar yr Eifl yr oeddach chi y tro dwytha' y clywis i'r stori."

"Y . . . brawd Enid ydi o, Patricia."

"Felly 'roedd Beti'n dweud." Troes lygaid llym ar Owen. wrth chwanegu, "Roeddan ni'n disgwyl un ohonoch chi yma cyn hyn. Y gnawas fach! . . . Be' ydi'r parsal 'na sy gynnoch chi, Alfred?"

"Y . . . wya', Patricia, wya'."

Pwy bynnag oedd y wraig, meddyliodd Owen, yr oedd ar y dyn bach ei hofn.

"Wya'?"

"Ia, y dyn ifanc 'ma wedi dŵad â nhw . . . I chi, Patricia," chwanegodd yn eiddgar.

Hon, felly, oedd Mrs. Davies. A'r "hogan glên", a'r "gnawas fach", oedd—Enid?

"Mae . . . mae arna' i ofn nad ydw' i ddim yn dallt," dechreuodd Owen.

"Ydach chi wedi'i gweld hi ar ôl dydd Iau?" gofynnodd y wraig, heb brin agor ei gwefusau tenau.

"Enid?"

"Pwy arall?"

"Naddo. 'Roeddan ni'n 'i disgwyl hi adra' nos Iau, ond 'ddaeth hi ddim. Mi gawsom air bora Gwenar yn dweud bod 'i meistres yn wael iawn . . . "

"O! 'Ydach chi'n clywad, Alfred? . . . 'Does gynnoch chi ddim syniad ym mh'le y mae hi, felly?"

"Nac oes, wir. 'Oes . . . 'oes rhywbeth wedi digwydd?"

"Digwydd! 'Dydach chi ddim wedi deud wrtho fo, Alfred?"

""Roeddwn i'n mynd i . . . "

Croesodd Mrs. Davies at y lle tân a thynnu wrth raff euraid. Canodd cloch yn rhywle.

"Ia, Alfred?"

"Roeddwn i'n mynd i . . . "

Daeth y forwyn i'r drws.

"O, Beti, cymerwch y parsel 'na o ddwylo'ch meistr—cyn iddo fo'i ollwng o. Wya' sy ynddo fo. Mi gewch ferwi un i Mr. Davies i de."

"Aci chitha', Mistras?"

"Na, dim i mi."

"O'r gora', Mistras."

Wedi i'r eneth fynd, eisteddodd Mrs. Davies yn fygythiol of anystwyth ar fin y gadair gyferbyn ag Owen.

"Wn i ddim ym mh'le y câi hi le gwell," meddai. "Wyth bunt y flwyddyn a bwyd da. A dyma'r diolch, y feudan fach anonest."

"Peidiwch chi ag egseitio 'rŵan, Patricia."

"Be' mae Enid wedi'i wneud?" gofynnodd Owen, a'i amynedd yn dechrau pallu.

"Deudwch chi, Alfred," meddai'r wraig, gan dynnu llaw finderus tros ei thalcen. "Mi aeth allan yn syth ar ôl cinio ddydd Iau," eglurodd Alfred. "Doedd hi ddim i fod i fynd, ond 'ddaru ni mo'i cholli hi tan amsar swpar. 'Ddeudodd Beti, y forwyn arall, ddim gair."

"Naddo, ac yr ydw' i wedi rhoi wsnos o notis iddi hi," meddai'r wraig yn chwyrn.

"Roedd hi wedi mynd â'i basgiad a'i phopath efo hi." Arhosodd Alfred ennyd cyn torri'r newydd mawr. "A deuddag sofran o bureau Mrs. Davies."

"Ydach chi . . . 'Ydach chi'n siŵr o hynny?"

"Siŵr? Ydan!" meddai'r wraig. "Wydda' neb arall fod yr arian yn y bureau. 'Roeddwn i wedi'u codi nhw y diwrnod cynt i dalu i Mr. Preis y bildar ac wedi bod yn ddigon. ffôl i'w cyfri nhw pan oedd hi'n llnau fy rŵm i."

"Wrth gwrs, 'ddaru chi ddim meddwl, Patricia," cysurodd ei gŵr hi.

"Naddo, ond mi ddylswn fod wedi ystyriad, a hitha'n un mor benchwiban."

""Oeddach chi wedi cloi'r bureau, Mrs. Davies?"

"Own, debyg iawn, a'r drôr fach lle'r oedd yr arian. Ond be' oedd hynny i meiledi? 'Roedd hi wedi dwyn chisel of sied y gardnar—mi welodd y gardnar hi'n sleifio o'r sied—a chlo gwantan, mae'n amlwg, oedd i'r bureau."

Cododd Owen. "Mae'n ddrwg iawn gin' i am hyn," meddai, "a mi ddo' i ne' 'mrawd yma 'fory ne' drennydd i'ch gweld chi ynglŷn â'r arian. 'Oes gynnoch chi ryw syniad ym mh'le mae Enid?"

"Dim syniad na diddordab," ebe'r wraig, gan godi a hwylio'n urddasol tua'r drws.

Yr oedd Alfred yn fwy boneddigaidd ac aeth gydag Owen i lawr i'r ffordd.

"Ynglŷn â'r llwynog 'na," meddai cyn troi'n ei ôl i'r tŷ. "Y wraig oedd yn iawn. Mi gofis i wedyn pan soniodd hi am y peth. Ia, ar yr Eifl, nid ar y Wyddfa, yr on i pan saethis i o."

Y bore wedyn, cyn dal y brêc tuag adref, galwodd Owen yng ngorsaf Caer Heli a chafodd fod Herbert hefyd ar goll er dydd. Iau. Codasai ef a'i gariad docynnau i Lundain y prynhawn hwnnw.

Er bod ei iechyd yn dadfeilio, gwrthodai Owen Gruffydd yn lân adael Tŷ Pella' ac ymgartrefu gyda'r teulu yn Nhyddyn Cerrig. Buasai'n cwyno efo cur yn ei ben a chamdreuliad a diffyg anadl ers wythnosau lawer, ond yn ofer y dadleuai ac yr ymbiliai Dafydd ac Owen a'u mam ag ef. Yna, un bore Sul oer a llaith yn Rhagfyr, fe'i llusgodd ei hun i Lan Eithin, ond wedi iddo gyrraedd yno yr oedd yn falch o gael gorwedd yn llipa ac mewn poenau ar y soffa yn y tŷ-capel, ac felly y bu drwy'r dydd. Pa fodd y cwympodd y cedyrn! meddai wrtho'i hun yn sur wrth deithio yn y brêc drannoeth i Gaer Heli ac wedyn. mewn un arall oddi yno i Lan Feurig. Y noson honno y llwyddodd Dafydd i'w ddenu i Dyddyn Cerrig.

"O'r gora'," meddai'n anfoddog. Yna'n herfeiddiol: "Ond dim ond am 'chydig ddyddia', cofia. Dim ond nes bydda' i dipyn yn well. 'Wyt ti'n dallt?"

"Ydw', Taid."

Cafwyd y meddyg ato a gyrrodd hwnnw ef yn syth i'w wely gyda'r gorchymyn i'w gadw yno, rhwng blancedi, a'i fwydo ar rual tenau yn unig hyd oni alwai ef drachefn. Ond dyn claf anhydrin iawn oedd Owen Gruffydd. Yfodd gegaid o'r ffisig a ddygasai Myrddin o dŷ'r meddyg, chwarddodd yn goeglyd, a rhoes y botel yn ôl i'r bachgen.

"Hwda, tywallt hwn'na drwy'r ffenast' i'r ardd. Os ffisig, ffisig amdani, a hwnnw'n rhy chwerw i'w lyncu bron, nid rhyw lemonêd o ddiod fel'na."

"Ond, Taid . . . "

"A dywad wrth dy fam am wneud jygaid o ddŵr camomil a thipyn o de sunsur imi."

"Ond mi fydd Doctor Williams . . . "

"Paid di â dadla' efo dy daid, 'rŵan, a 'fynta' mor sål."

A phan alwodd Doctor Williams yr hwyr drannoeth, yr oedd yr hen wrthryfelwr yn y gadair freichiau wrth dân y gegin yn darllen yn uchel i Owen ddarn o "Breuddwyd Pabydd" Emrys ap Iwan allan o hen rifyn o'r 'Geninen.'

"Ddeudis i ddim wrthat ti am aros yn dy wely?" meddai'r meddyg yn chwyrn.

"Do, ond yr ydw i'n teimlo'n well o lawar erbyn hyn, Doctor. Y ffisig 'na, mae'n debyg."

"Hm . . . m. Ar dy ben yn y nefoedd y byddi di."

"Yn y nefoedd?"

"Ia, a 'does ar yr un ohonoch chi isio mynd i fan'no, er cymaint ydach chi'n frolio ar y lle . . . 'Oes gin' ti gur yn dy ben?"

"Oes; ond mae o'n well heno."

"Poen yn dy gefn?"

"Oes, wir, dipyn."

"Camdreuliad?"

"Yn ddrwg iawn, a dim archwaeth at fwyd."

"Ac yn methu cysgu?"

"Ches i ddim winc neithiwr nac echnos."

"Hm . . . m. Ond yn gysglyd yn y dydd?"

"Pendympian, ar fy ngwaetha'."

Gofynnai'r meddyg y cwestiynau'n ddiog a difater, ond gwelai Owen eu bod yn chwalu ystyfnigrwydd yr hen ŵr ac yn deffro peth edmygedd ynddo.

"Pam wyt ti'n anadlu mor drwm?"

"Rhwbath sy'n gwasgu ar fy mrest i. Be' sy'n bod arna' i, Doctor?"

"Y kidneys."


"Y?"

"Drwg ar y kidneys."

"Yr un fath â'r hen Garlo, Owen."

"A rhaid iti gael cnesrwydd y gwely, creda di fi ne' beidio. Dillad gwlanan amdanat, gorwadd rhwng blancedi, potal-ddŵr- poeth. Cnesrwydd, cnesrwydd. Ond 'faint gwell ydw' i o siarad efo penci fel fo, yntê, Owen? Tyd di ne' dy frawd draw pan fydd o isio chwanag o'r ffisig."

"O'r gora', Doctor."

"A . . . lle mae dy fam?"

"Dyma fi, Doctor." A brysiodd Emily Ellis o'r gegin fach ac aeth gyda'r meddyg i'r drws.

"Mi wnes i'n iawn efo'r hen Garlo, felly," meddai Owen Gruffydd wedi iddynt fynd. "Mi gedwis i'r hen gyfaill yn gynnas nos a dydd—digon o hen ddillad o'i gwmpas o a thanllwyth yn y gråt. Do, mi wnes fy ngora' iddo fo, yr ydw' i'n meddwl . . . Be' ddeudodd o, Emily?"

"Rhoi tafod imi am adael i chi godi," meddai hithau wrth ddyfod yn ôl i'r gegin.

"Ia, dŵad â phobol erill i drwbwl yr ydach chi," ebe Dafydd, a gyfarfuasai'r meddyg wrth y drws. "Wyddwn i ddim y medrai'r Doctor Bach fod mor gas. 'Rwan, yn ôl i'r gwely 'na, Owen Gruffydd."

"O'r gora', Dafydd . . . o'r gora', machgan i."

Swniai'i lais yn wan iawn, a phan safodd, yr oedd yn bur ansad ar ei draed. ""Roni i fod ym Mryn Llwyd y Sul nesa'. Mi gei di fynd yn fy lle i, Owen. Pryd y methais i gadw cyhoeddiad o'r blaen, 'wn i ddim, wir."

Yn y gwely, daeth lludded mawr trosto a chydag ef iselder ysbryd.

"Wnei di ddim gadael imi fynd i'r Wyrcws, na wnei Dafydd?"

"Rargian fawr, 'rydach chi'n mynd yn rêl stwnsiwr yn eich hen ddyddia"."

"Mi ddylwn fod wedi aros yn hwy yn y chwaral, wsti, yn lle trio bod yn annibynnol. Ond dyna fo, 'fedrwn i ddim diodda'r John Humphries hwnnw, y cena' digydwybod iddo fo. Mae'n debyg y basa' fo a Jones-Parry yn licio clywad bod Owen. Gruffydd yn y Wyrcws. Basan', y ddau ohonyn' nhw."

"Twt, mi fydd o'n gymaint o lanc ag erioed cyn diwadd yr wsnos, Now, 'gei di weld," meddai Dafydd. "Ond 'dydi o ddim yn mynd yn 'i ôl i Dŷ Pella', mae hynny'n siŵr."

"Y?" Cododd Owen Gruffydd ar ei eistedd yn y gwely. "Rwan, o dan y dillad 'na," gorchmynnodd Dafydd. "Rydach chi wedi bosio digon ar hyd eich oes, ac mae'n hen bryd i rywun ddechra' giaffrio tipyn arnoch chi bellach. Mi fu 'Mam a finna'n siarad efo'r Doctor. A dyma'r ordors. 'Ydach chi'n gwrando?"

"Ydw', Dafydd."

"Mae'n rhaid i chi adael Tŷ Pella' a dŵad i fyw yma atom ni. 'Wn i ddim pam yr ydach chi wedi mynnu talu rhent yn fan'no drwy'r blynyddoedd."

"Yr hen aelwyd, Dafydd, yr hen aelwyd. A, Doctor ne' beidio, yr ydw' i'n mynd yn f'ôl i'r hen gartra'." Ond grym arferiad yn fwy na dim arall a'i gwnâi'n anhyblyg: nid oedd penderfyniad yn y geiriau.

"Gwrandwch, Taid, 'dydi afiechyd ddim yn beth i chwara' ag o. Yma yr ydach chi i fod o hyn allan. Mae'n Sadwrn Cyfri ddydd Sadwrn nesa', ac mi yrrwn ni'r gair allan 'fory a thrennydd a dydd Gwenar. Am y dodrafn."

Cronnodd y dagrau yn llygaid yr hen ŵr a brathodd ei wefus isaf yn ei ing. "O'r gora', Dafydd," sibrydodd ymhen ennyd, a lludded enfawr yn ei lais.

Cludwyd llawer o bethau Tŷ Pella' i Dyddyn Cerrig yn ystod y dyddiau canlynol, a phrin, meddyliai Dafydd ac Owen fel yr ufuddhaent i orchmynion eu mam a'u taid, y byddai dim o werth ar ôl yno erbyn y Sadwrn.

"Gwerthu'r jygia' copar!" meddai Emily Ellis mewn braw. "Mae rheini i ddŵad yma. A'r rowlin-pin wydr. A'r llong mewn potal. A'r cloc bach sy ar y silff-ben-tân. A'r cloc i gadw'r tywydd."

"A gwely'r llofft gefn," meddai Owen Gruffydd yn gadarn.

"Ond, Taid . . . "

""Waeth iti hyn'na na chwanag, Dafydd. 'Dydw' i ddim yn licio'r gwely 'ma ac mi gewch 'i dynnu o i lawr pan. fynnoch chi, fo a'i hen fatras flocs wirion. Os ydach chi isio petha' i'w gwerthu, gwerthwch hwn, da chi. A'r cloc wyth niwrnod na sy gynnoch chi ar waelod y grisia', fel cnul drwy'r nos."

"Mi stopiwn ni'r cloc heno, Taid. Ond nid ar y fatras na'r cloc y mae'r bai am na fedrwch chi gysgu. Fe ddeudodd y Doctor . . . "

"Waeth gin' i be' ddeudodd o. Mewn gwely plu yr ydw' i wedi cysgu ar hyd fy oes, a 'dydw' i ddim yn bwriadu newid 'rŵan. Tyd â'r gadair siglo hefyd. Mae hi'n well cadair o lawar na hon'na sy gynnoch chi yn y gegin. O, a chofia am fy nghwpan mwstash i. Be' am y llestri gleision, Emily?"

"Ia, mi fasa'n biti i'r rheini fynd, a 'Mam druan yn meddwl. y byd ohonyn' nhw."

"I hanrhag briodas hi o'r Hafod. Yno yr oedd hi'n gweini."

"Nid y garthen goch a du gafodd hi o'r Hafod?

Mi glywis i hi'n deud . . . "

"Wel, ia, hogan, chdi sy'n iawn. Ia, y garthen ddaeth o'r Hafod. 'I Modryb Betsan roes y llestri iddi hi. Mi gei di'r garthen, Emily. A be' am y lliain bwrdd gora', hwnnw a'r lace arno fo?"

"O, mi liciwn i gael hwnnw, 'Nhad. Gwaith Modryb

Grace druan, ac os oedd rhywun yn medru croshio, Modryb Grace oedd honno . . . "

Felly y cynyddai rhestr y 'cadwedig', nes bod Tŷ Pella' yn hanner gwag cyn bore Sadwrn. Saith bunt a deuddeg swllt. oedd cyfanswm yr arian a gyfrifodd Dafydd ac Owen ar ddiwedd y dydd, er i ambell un fel Elias Thomas fynnu talu mwy na'r gofyn am y pethau a brynent hwy.

Er na ddywedai Dafydd ddim, gwyddai Owen fod ei frawd yn bryderus iawn ei feddwl. Gwaethygu ers rhai misoedd a wnaethai'r graig y gweithiai ef a George Hobley arni; cawsai fenthyg arian gan Richard Owen, Manchester House, tuag at dalu am anonestrwydd Enid; ac efallai y byddai gwaeledd Owen Gruffydd yn un hir a chostus. Ond amheuai Owen mai amdano ef a'i ddyfodol y pryderai Dafydd fwyaf, ac un hwyr yn nechrau'r flwyddyn, ar y ffordd o'r chwarel, pan ddigwyddodd rhywbeth am y Bala lithro i'r sgwrs,

"Dydw' i ddim yn meddwl yr a' i i'r Ysgol Ragbaratoawl, Dafydd," meddai.

"Y?"

"Mae'r cwrs yn cymryd tair blynadd, ac efalla' mai 'chydig o Sulia' gawn i, i ennill tipyn at fy nghadw yno."

"Pam hynny? Os pregethi di gystal yn fan'no ag wyt ti'n wneud yma..

"Un ydw' i yn Llan Feurig a'r cylch. Rhwng yr Ysgol a'r Coleg, mi faswn yn un o drigain ne' chwanag yn y Bala."

"Ac yn gystal pregethwr ag un ohonyn' nhw."

"Chdi sy'n dweud hynny, Dafydd. A hyd yn oed 'tai'r peth yn wir, nid y pregethwr gora' sy'n caely cyhoeddiada' amla', wsti."

"Be' . . . be' wyt ti'n feddwl 'i wneud, 'ta'?"

"Dal ymlaen yn y chwaral, debyg iawn. Mi fydda' i'n eistedd arholiad Ymgeiswyr am y Weinidogaeth ym mis Mai ac wedyn mi af i ati i 'studio ar gyfar cael fy nerbyn i'r Coleg."

"Tipyn o orchast fydd hynny, Now bach. 'Oes dim isio Groeg a Lladin a phetha' felly?"

"Oes, ond yr ydw' i'n siŵr y ca' i help Mr. Morris y gweinidog ne' rywun."

"Cei, debyg iawn, ond . . . Go daria'r hogan 'na!" "Pwy?"

"Enid. "Taswn i heb fod wedi gorfod benthyg yr arian 'na gan Richard Owen i dalu am 'i thricia' hi a'i Herbert, mi faswn yn mynnu dy gael di i'r Bala fis Medi nesa' . . . Wel, mi gawn ni weld sut y try petha' allan erbyn yr ha', yntê, 'r hen ddyn? Efalla' y bydd hi'n o lew arno' ni erbyn hynny."

"Efalla', Dafydd, ond . . ."

"Mae George a finna'n dechra' cael llechi breision eto, ac yr ydw' i'n disgwyl y gwnawn ni gyflog go lew y mis yma. O, mi ddown ni drwyddi'n iawn, 'gei di weld. Y peth pwysig ydi i ti ddal ymlaen i 'studio fel yr wyt ti, ond heb boeni dy ben am y dyfodol, yntê?"

"Ia . Be' sy wedi dwad ohoni hi, tybad?"

"Enid? Dyn a ŵyr. 'Fydd y deuddag punt 'na ddim yn para'n hir, ac wedyn . . . " Ysgydwodd Dafydd ei ben. "Mi fu Twm Jos yn siarad efo mi awr ginio hiddiw."

"O?"

""Roedd o ar ôl Enid byth a hefyd cyn iddi fynd i weini i Gaer Heli, ond 'wyddwn i ddim 'i fod o mor ffond ohoni, fachgan. 'Wyddost ti be' mae o am wneud Sadwrn Cyfri nesa'? Mynd i Lundain i chwilio amdani, dal y trên cynta' o Gaer Heli bora Sadwrn a cholli stem ddydd Llun."

"Ond 'fydd gynno fo ddim syniad ym mh'le i ddechra' . . . "

"Na fydd. Nid lle fel Llan Feurig ydi Llundain, Twm,' ddeudis i wrtho fo. 'Mae 'na rwbath yn deud wrtha' i 'i bod. hi mewn trwbwl yno, Dafydd,' medda' fo. 'Os ydi hi mewn trwbwl, Twm,' meddwn inna', 'mae hi'n siŵr o fynd i un o'r capeli Cymraeg, ac yr ydw' i wedi sgwennu at bob gweinidog." Ond mae o'n benderfynol o fynd . . . Hylô, Mary, chwaer Huw, ydi 'nacw, dywad?"

"Y . . . ia."

"Mae hi'n hogan fach ddel, ond ydi? Ac yn un o'r 'gennod clenia' yn y lle 'ma. Piti na faswn i rai blynyddoedd yn 'fengach, yntê? Ond dyna fo, siawns sâl fasa' gin' i efalla' ac amball hogyn tal, golygus, fel chdi o gwmpas."

"Efalla', wir, Dafydd."

Bu Owen Gruffydd yn gorwedd drwy'r rhan fwyaf o fis Ionawr, a chan fod tân yn ei lofft bob gyda'r nos, treuliai Owen lawer o amser yno uwch ei lyfrau ac yn gwrando ar ddoethineb a phrofiadau a chynghorion ei daid. A thrwy lawer o'r nost wedyn, gan na chysgai ef ond ychydig, a thrwy'r dydd dilynol, cnoai'r hen ŵr ei gil uwch sgwrs neu ddadl y noson gynt, a châi'r Ymgeisydd am y Weinidogaeth ffrwyth ei fyfyrdod pan âi i fyny'r grisiau ar ôl bwyta'i swper-chwarel. Yr Actau oedd y maes llafur, ac astudiai Owen y llyfr yn drwyadl a chydwybodol, a'i feddwl beunydd ar yr arholiad a oedd o'i flaen. Ond gallai Owen Gruffydd fforddio esgeuluso arholiad a chwestiynau pendant, a gadael i'w ddychymyg grwydro'n rhydd ac eofn.

"Sôn yr oeddan ni neithiwr, yntê? . . . " fyddai'i gyfarchiad fel rheol, cyn tywallt ei feddyliau mewn huodledd mawr er gwaethaf siars y Doctor i orffwys yn dawel. Pethau i'w torri oedd rheolau i Owen Gruffydd ac ni chymerai sylw o rybudd na cherydd neb. Ar gyngor ei fam a Dafydd, cadwodd Owen draw o'r llofft am ddwy noson yng nghanol y mis, ac uchel oedd protest y claf.

"Lle mae o?" gwaeddodd yr ail noson. "Be' ydw' i wedi'i wneud iddo fo?"

"Rydach chi'n siarad gormod pan mae Owen yma, 'Nhad, ac mae'r Doctor . . . "

"Siarad! Siarad! Y kidneys ddeudodd o, nid fy nhafod i."

"Ia, ond yr ydach chi i fod i swatio'n dawal a pheidio ag egseitio."

"Be' mae'r Doctor bach 'na yn feddwl ydw' i? Dol?"

"Mae Doctor Williams yn gwbod be' sy ora' i chi."

"Ne' ddyn mewn wax-works?"

"Rwan, 'Nhad."

"Ne'r dummy 'na sy yn ffenast'-ddillad Manchester House?"

"Mi geiff Owen ddŵad i ista' efo chi nos 'fory tra bydda' i a Dafydd yn y capal. Ond dim ond os byhafiwch chi heno."

"Ddeuda' i ddim gair arall o 'mhen. Ddim gair." Yswatiodd yn y dillad gan sorri. "Ddim gair.

'A fo doeth, efô a dau:
Annoeth ni reol enau.'

Ia, fel y tau dafad o flaen y rhai a'i cneifiai, felly nid agorai yntau ei enau.' Rhowch yr adnod yna ar garrag fy medd i."

"Rwan, 'Nhad." A dau lyfr dan ei fraich, aeth Owen i fyny i'r llofft y noson ganlynol, gan fwriadu eistedd yno i ddarllen yn dawel.

"Sut ydach chi'n teimlo heno, Taid?" " Sôn yr oeddan ni y noson o'r blaen, yntê? . . . "

"Mae gynnoch chi liw reit dda, wir."

" . . . cyn iti wrando ar orchymyn y Pharo bach 'na . . . "

"Rydw i'n dallt bod Doctor Williams yn bur hapus yn eich cylch chi pnawn 'ma"

" . . . am yr Apostol pan oedd o yn Rhufain. Mi fùm i'n edrach ar rai o'r esboniada' 'na . . . "

"Mi wyddoch be' ddeudodd y Doctor. 'Dydach chi ddim i roi'ch breichia' allan o'r dillad i ddarllan. 'Tai o'n gwbod . . . "

"Mi liciwn i wneud pregath amdano fo yn Rhufain, yn aros 'i brawf a dim yn digwydd. 'A Phaul a arhoes ddwy flynedd gyfan yn ei dŷ ardrethol ei hun, ac a dderbyniodd bawb a'r oedd yn dyfod i mewn ato'—dyna'r testun. Pregath fach dawal, yn tynnu darlun yn lle athrawiaethu. Dim gweiddi, dim bloeddio, a'r gynulleidfa'n edrach yn hurt, yn methu credu mai Owen Meurig sy yn y pulpud. Mae'n debyg . . . "

"Rwan, 'dydach chi ddim i fod i siarad llawar, Taid. Yr ydw' i wedi cael ordors . . . "

"Mae'n debyg 'i fod o mewn oedran erbyn hynny, ac fel pob dyn mewn tipyn o oed, yn gadael i'w feddwl lithro'n ôl dros y blynyddoedd wrth sgwrsio efo'r rhai oedd yn galw i'w weld o. Dinas Tarsus, yn hogyn; Jerwsalem, yn ddyn ifanc; y ffordd i Ddamascus a'r weledigaeth fawr a newidiodd 'i fywyd a'i feddylia' fo i gyd—'roedd o'n 'u gweld nhw'n glir ac yn sôn yn amal amdanyn' nhw yn ystod y ddwy flynadd 'na yn Rhufain. Paul, Apostol Iesu Grist, yn edrach yn ôl ar Saul o Darsus, y dyn ifanc cefnog, dysgedig, balch a chreulon, ac yn ysgwyd 'i ben gan wenu'n drist wrth gofio cymaint o lanc oedd o cyn i'r goleuni o'r nef, mwy na disgleirdeb yr haul, dywynnu ar 'i lwybyr o . . . "

"Rhaid i chi beidio â siarad chwanag, Taid. Ne' fi fydd yn 'i chael hi pan ddaw 'Mam a Dafydd adra'."

"Mi faswn i'n cael ymgom rhwng y ddau, yr ydw i'n meddwl."

"Pa ddau?"

"Paul a Saul, debyg iawn. 'Roedd yr hen bregethwyr yn hoff o roi ymgom felly mewn pregath. "Tawn i'n cael f'amsar drosodd eto, mi rown i fwy o le i'r hen Apostol yn fy mhregetha' er mwyn i bobol 'i weld o a sylweddoli mor fawr oedd o, mor rhyfeddol o ddewr i ddechra'. Paid â rhuo fel y gwnes i, Owen, 'machgan i . . . "

"Rydach chi'n siŵr o flino, Taid, a phan ddaw 'Mam yn ôl . . . "

"Mi fûm i'n taranu gormod yn erbyn pechoda'r hen fyd 'ma, wsti. 'Chydig o les wnaeth hynny, am wni. Rho ddarlun o'r Gwaredwr a'r Apostol iddyn' nhw, mor fyw ag y medri di, a gad i'r darlunia' siarad drostyn' 'u hunain. Mae sefyll yn y pulpud a lladd ar bobol a phechoda' fel y gwnawn i, wsti, yn

cymryd yn ganiataol fod gen' ti hawl i hynny, dy fod di yn sant a'r gwrandawyr yn dacla' pechadurus. Am wn i na fasa'r Arglwydd Iesu yn barod inni roi uwchben pob pulpud yr adnod, 'Pa fodd y dywedi wrth dy frawd, Gad imi fwrw allan y brycheuyn o'th lygad: ac wele blanc yn dy lygad dy hun?""

"Ond yr oedd Iesu Grist yn 'i rhoi hi i'r Phariseaid a'r Ysgrifenyddion, Taid."

"Oedd, o ran hynny fachgan, oedd," atebodd yr hwn ŵr gan sirioli, fel petai'n ymgysuro yn y ffaith. "Ac yn fendigedig o ffyrnig weithia'. 'O seirff, hiliogaeth gwiberod, pa fodd y gellwch ddianc rhag barn uffern?" medda' fo, yntê? Mi liciwn i fod yno, wrth y Deml, pan oedd o'n 'u fflangellu nhw â geiria'." Cododd ar ei eistedd yn y gwely a chau ei ddwrn ar dywyllwch y ffenestr gyferbyn ag ef. Yna daeth o hyd i rywbeth tebyg i'r daran o lais a'i gwnaethai'n enwog ym. mhulpudau Môn ac Arfon gynt. "Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr: canys yr ydych yn degymu y mintys a'r anis a'r cwmin . . ."

""Rwan, Taid."

". . . ac a adawsoch heibio y pethau trymach o'r gyfraith, BARN a THRUGAREDD a FFYDD." Cododd ei lais yn floedd ar y geiriau olaf, ond nid oedd ynddo'r nerth bellach; craciodd, a thawodd yr hen ŵr yn flinedig, a'r chwys yn berlau ar ei dalcen. Diolchai Owen nad oedd Tyddyn Cerrig ar fin y ffordd ac nad oedd gan ei daid y llais a fu iddo unwaith, neu fe ruthrai'r cymdogion i'w drysau wedi dychrynu am eu bywyd. Diolchai hefyd fod y llofft yng nghefn y tŷ a bod y ffenestr ynghau. Sychodd y chwys ymaith oddi ar wyneb y claf, rhoes iddo lymaid i'w yfed, ac yna eisteddodd wrth y tân i ddarllen. Ond daeth curo ar ddrws y tŷ, a brysiodd i lawr i'w ateb.

"Fi sy yma. Digwydd pasio hyd y ffordd 'na."

"O . . . O, dowch i mewn, Doctor."

"Rhwbath o'i le?"

"Wel . . . ym . . . na . . . Taid yn . . . yn . . . pregethu . . . " Ond yr oedd y Doctor hanner y ffordd i fyny'r grisiau cyn i Owen ddod o hyd i eiriau.

"Hm . . . m," meddai wrth deimlo pyls yr hen ŵr. "Ron i'n ofni 'i fod o'n cael ffitia': maen' nhw'n digwydd yn yr afiechyd sy arno fo. Ond 'sterics ydi hyn, 'sterics, strancia' a dim arall . . . Dangos dy dafod. Hm . . . m, un go fawr ydi hi, yntê? Rho hwn yn dy geg." A gwthiodd thermometer i enau'r claf. Gwelai Owen y gwrthryfel yn dân yn llygaid ei daid, ond â'r rhimyn gwydr dan ei dafod, ni allai Owen Gruffydd ond tewi.

"Os bydd o'n gweiddi eto, rho glustan iddo fo. Clustan iawn, wsti. Yr unig ffordd pan maen' nhw'n cael 'sterics."

Yna cymerodd y thermometer a brysiodd o'r llofft cyn i'r claf fedru yngan gair. Wedi iddynt gyrraedd y drws ffrynt, rhoes y Doctor bwniad chwareus yn ystlys Owen, ac yna i ffwrdd ag ef yn fân ac yn fuan i'r nos.

Cafodd Owen Gruffydd godi i'r llofft am dipyn bob dydd yr wythnos wedyn, a chyn diwedd y mis yr oedd yn ei gadair-siglo wrth dân y gegin bob prynhawn a phob hwyr. Yng nghysur a chwmnïaeth Tyddyn Cerrig, diolchai'r hen ŵr iddo adael Tŷ Pella' pan wnaethai, ac er bod ei ynni chwyrn yn dychwelyd ac yntau'n dyheu am gael ailddechrau pregethu, llithrai'r dyddiau heibio'n gyflym wrth iddo loffa yn ei lyfrau am eglurhad ar rai o'r cwestiynau a godai ym meddwl Owen. Yr Ysbryd Glân oedd y Pwnc yn yr arholiad, a newidiai'r cyfarchiad "Sôn yr oeddan ni neithiwr, yntê?" i "Mae John Owen yn 'i lyfr ar yr Ysbryd Glân yn bendant o'r farn . . . " neu "Yn ôl Hodge yn y 'Bannau', yr on i yn llygad fy lle neithiwr." Bron bob nos defnyddiai Emily Ellis y frawddeg, "Rhoswch i'r hogyn gael tamad, wir, 'Nhad."

Un gyda'r nos, pan gyrhaeddodd Dafydd ac Owen adref o'r chwarel, gwelent fod pryder ar wynebau'u mam a'u taid.

"Hylô," ebe Dafydd. "Ydach chi'ch dau wedi bod yn ffraeo ne' rwbath?"

"Rydw' i wedi bod yn ffraeo," atebodd Owen Gruffydd, "ond nid efo dy fam. 'Welist ti o ar y ffordd 'na?"

"Pwy?"

"Mi ddeudis i be' ydi be' wrtho fo. O, do. Dŵad i fa- 'ma efo'i golar ffwr a'i bren-mesur a'i hen Saesnag mawr."

"Am bwy yn y byd ydach chi'n siarad?"

"Mi ddangosis i'r drws iddo fo yn fuan iawn. 'Mistar noti n,' meddwn i. 'Only me here on my own head.""

"Dyn dros stad Meyricke, Dafydd," eglurodd y fam. "Mae o'n mynd o gwmpas y pentra' i weld y tai."

""Roedd o isio mynd drwy'r tŷ yma," meddai Owen Gruffydd, "ac mi fynnodd ddŵad i mewn i'r gegin. Ond mi gydiais i yn fy ffon. There's the door for you to go through him,' meddwn i wrtho fo. 'Roedd yn blesar'i weld o'n 'i heglu hi am 'i fywyd."

Ochneidiodd y fam, gan edrych yn bryderus ar Ddafydd. "Y lês yn dwad i ben ddiwadd Mawrth," meddai hi. "Ron i'n clywad yn y siop fod 'na bedwar o ddynion fel hwn'na hyd y pentra'."

"Hy!" ffrwydrodd Owen Gruffydd. "Yn dŵad i weld bod y tai'n deilwng i'r Meyricke 'na gymryd meddiant ohonyn' nhw."

"Ond dowch at y bwrdd, hogia'," meddai'r fam. "Mae o'n siŵr o alw eto, a mi liciwn'i glirio'r llestri cyn iddo fo ddŵad."

"Roeddach chi ar fai yn ymddwyn fel'na ato fo, Taid," ebe Dafydd. "Dydi'r dyn ddim ond yn gwneud 'i ddyletswydd."

"Waeth gin' i be' mae o'n wneud. 'Does ganddyn' nhw ddim hawl i yrru rhyw glamp o Sais fel'na i dai pobol. Nid pawb fedar 'i atab o yn Saesnag yr un fath â fi. Meddylia, mewn difri, am rywun fel Margiad Jones, mam yr Huw Jones bach 'na y mae Owen yn gweithio efo fo."

""Dydw' i ddim yn meddwl fod rhaid inni bryderu, 'Mam,"


meddai Dafydd. "Ar ôl gweld cyflwr y tŷ, maen' nhw'n siŵr o estyn y lês."

"Gobeithio, wir. 'Rydan ni wedi gwario llawar arno fo drwy'r blynyddoedd. Gwneud rhwbath i'r tŷ yr oedd dy dad druan bron bob pnawn Sadwrn—plastro tipyn yn y fan yma, rhoi coedyn yn y fan acw, taro llechan newydd ar y to, trwsio a pheintio byth a hefyd. Ac mi roth werth arian o betha' yn yr ardd 'na. Un felly hefyd oedd William Williams, oedd yma o'n blaen ni, yr hen greadur. Fo gododd y gegin fach a'r sied yn y cefn. O b'le 'r oedd o'n cael pres i hynny, dyn a ŵyr, a 'fynta'n ddim ond pwyswr yn y chwaral. Ac yr wyt titha', chwara' teg iti, wedi bod yn hynod ofalus o'r hen dŷ." Yr oedd Emily Ellis wrthi'n clirio'r bwrdd pan ddaeth curo ar y drws.

"Dyna fo," meddai Owen Gruffydd, a'i holl gorff yn tynhau.

"Rydw i'n 'nabod 'i hen gnoc o."

""Rwan, Taid," ebe Dafydd, "rhaid i chi gadw'n dawal y tro yma, cofiwch. Dos i atab y drws, Now bach."

Dyn ifanc tal, hardd yr olwg, a locsyn trwsiadus bob ochr i'w wyneb, oedd y dieithryn.

"I'm from the Meyricke Estate Office," meddai wrth Ddafydd wedi iddo ddod i mewn i'r gegin. "I take it you have no objection to my inspecting the property. I'll start with this room if you don't mind."

"Very good," ebe Dafydd.

Yr oedd gan y dyn nodlyfr bychan yn ei law, ac ar ôl cerdded o gwmpas y gegin gan guro ar y parwydydd ac yn arbennig ar bren eu godreon, codi'r ffendar, ac agor y drysau a'r ffenestr, ysgrifennodd amryw o nodiadau ynddo.

"I'm afraid you want a new cord in this window," meddai.

"And the skirting-board is a bit loose over there, isn't it? I suppose you know that the hearthstone is cracked? . . . But

I'll be sending you a list of the things that want attending to . . . "

"Be' mae o'n ddeud, Dafydd?" gofynnodd yr hen ŵr, gan wyro ymlaen yn ffyrnig.

"O, dim byd o bwys, Taid."

"Cracio? Be' sy wedi cracio?".

"Carrag yr aelwyd. Mae'n rhaid i'r dyn . . . "

"Mi fydd 'na grac mwy yn 'i benglog o mewn munud os nad eiff o o' 'ma. Estyn y ffon 'na imi, Emily." Cododd a rhythu'n wyllt ar y dieithryn, a'i wefusau'n crynu.

""Rwan, 'Nhad."

Ond nid oedd modd ei atal. Pwyntiodd â llaw grynedig at y dyn ac yna, a'i lais yn floedd a lanwai'r tŷ, "Gwrandewch y gair hwn, gwartheg Basan, y rhai ydych ym mynydd Samaria, y rhai ydych yn gorthrymu y tlawd, yn ysigo yr anghenog, yn dywedyd wrth eu meistriaid, Dygwch, ac yfwn..?"

Ond camodd Owen rhyngddo a'r Sais ac arweiniodd ei daid yn ôl i'w gadair.

"My grandfather is a bit upset," eglurodd Dafydd.

"Q . . . quite. Q . . . quite." Yr oedd ei wyneb fel y galchen, ond ceisiai wenu. "And now," meddai braidd yn frysiog, "c . . . could I t . . . trouble you for a c . . . candle to in . . . inspect the other rooms?"

Arhosodd Owen gyda'i fam a'i daid yn y gegin, a gwrandawai'r tri, ar bigau'r drain, ar bob symudiad mewn ystafell ar ôl ystafell. Pan aeth y dieithryn eilwaith drwy'r gegin ar ei ffordd allan, ni ddywedodd neb air wrtho, ac ni chymerodd yntau sylw ohonynt. Syllai Owen Grufiydd yn ffyrnig i'r tân, a safai'i ferch wrth ei ochr, a'i dwylo anesmwyth yn gwasgu'i barclod.

"Yes indeed, the house is in a good state of repair," meddai'r dyn cyn ffarwelio â Dafydd.

"Yes. Do you think . . . do you think they will . . . lengthen the lease?"

"I'm afraid we've decided against that. And exceptions are out of the question. Absolutely. Or we shall never know where to draw the line, shall we?"

Gwyliai Owen ei daid a'i fam, yr hen ŵr yn awr a'i ben i fyny mewn astudrwydd chwyrn, a hithau'n llonydd fel delw fynor. Clywent y geiriau cyflym, mursennaidd, ond nis deallent.

"Of course, the state of the house will be taken into consideration. And I shall certainly recommend that your rent be a . . . um . . . reasonable one."

Gwelai Owen ei fam a'i daid yn gwingo fel petai rhywun newydd glecian chwip uwch eu pennau gwyddent yn dda ystyr y gair "rhent."

Yna, yng nghanol Chwefror, daeth y tywydd caled.

"Diolchwch mai yn y tŷ wrth y tân yr oeddach chi heno, "Nhad," meddai Emily Ellis un nos Sul pan ddaeth hi adref o Siloam. "Ron i bron â rhynnu yn y capal 'na."

Bore drannoeth, cerddodd Dafydd ac Owen i'w gwaith yn wyneb rhewynt mileinig a chwipiai ddagrau o'u llygaid, ac uwch- ben, gorweddai caenen o eira ar gopa a chlogwyni'r Fron, gan gyrraedd i lawr hyd odreon tomennydd uchaf y chwarel.

Yn y bonc chwythai dynion i'w dwylo, curent a lapient eu breichiau am eu cyrff, a stampient eu traed mewn ymgais i gynhesu cyn dechrau gweithio.

"Be' wnawn ni, Lias Tomos?" gofynnodd Huw Jones.

"Swatio yn y wal, yntê? Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag."

"Naci'n wir, Huw," ebe'r hen flaenor. "Mynd i'r Twll tra medrwn ni."

"Ond . . ."

"Chydig o gerrig sy gynno' ni wrth gefn yn y wal. Ac os deil hi i chwipio rhewi fel hyn, mi fydd yr hen ddŵr 'na sy'n rhedag i lawr y fargen fel plancad trosti cyn hir, mae arna' i ofn. Na, mi awn ni'n tri i'r Twll a thrio saethu pnawn 'ma."

"Pnawn 'ma, Lias Tomos? Yr argian, 'fedrwn ni byth."

"Mi wnawn ein gora', Huw, mi wnawn ein gora'," meddai'i bartner yn dawel.

"Mynd i'r Twll mae Dafydd a George Hobley hefyd," ebe Owen, gan chwifio'i law ar y ddau fel yr aent heibio drwy'r bonc.

"Ac maen' nhw'n gwneud yn ddoeth, yr ydw' i'n meddwl.

'Dydw'i ddim yn licio'r cymyla' acw uwch y Clogwyn. Maen' nhw'n llawn eira."

""Fydda' ddim yn well i chi aros yn y wal, Lias Tomos?" awgrymodd Owen. "Mi fydd yn gnesach i chi yma nag yn y Twll."

"Na, mi fydda' i'n symud mwy yn y Twll, Owen. Ac mi fydd angan inni guro'n o ddyfal hiddiw."

"Y dwbwl-hand amdani, Lias Tomos, meddai Huw Jones, gan deimlo cyhyrau'i fraich.

"Ffeit, hogia'!" gwaeddodd Robin Ifans, a ddigwyddai basio ceg y wal, braidd yn hwyr i'w waith. "Huw Jones a Lias Tomos! . . . 'Ga'i ddal dy gôt di, Huw?"

I'r Twll â hwy, i dyllu yng ngwaelod y fargen. Curai Huw Jones ac Owen bob yn ail, â morthwyl "dwbwl-hand" bob un, a throai Elias Thomas yr ebill rhwng bob trawiad. Cymerai yntau forthwyl pan flinent hwy, troai un o'r lleill iddo ef, a châi'r trydydd orffwyso. Ond gan wybod bod troi i ddau yn waith a oedd bron mor galed â tharo, gofalai Owen fod yr hen flaenor yn cymryd "pum munud bach" yn weddol aml. Yr oedd ei egni'n rhyfeddol, meddyliodd, ond grym ewyllys oedd. dwy ran o dair ohono, ac wrth wrando ar ei anadl cyflym a'i frest wichlyd, gwyddai fod yr ymdrech yn fawr. Er hynny, doeth fu peidio â'i adael yn y wal yn eistedd drwy'r bore oer ar y blocyn-hollti neu wrth y drafael: buasai wedi rhynnu yno.

Erbyn canol dydd yr oedd y twll dros chwe throedfedd o ddyfnder, a throes y tri tua'r caban-bwyta gan deimlo'n bur fodlon ar eu llafur.

"Rhyw ddwy droedfadd eto, Lias Tomos," ebe Huw Jones. "Ne' dair, Huw. Mae'r graig yn dipyn meddalach 'rŵan, ond ydi?"

"Ydi. O, mi saethwn ni am dri wedi'r cwbwl. Gwnawn. O, gwnawn." A sgwariodd y dyn bach wrth nesu at y caban. Yno yr oedd y rhan fwyaf o ddynion y gwaliau yn ymwthio at y tân i gynhesu, ac wrth weld eu hwynebau llwydlas. diolchai'r tri thyllwr mai i ymlafnio ar y graig yr aethent hwy. Ni synnent glywed i Ifan Ifans a dau arall o'r gweithwyr hynaf droi adref yng nghanol y bore.

"Nefoedd, mewn pwll glo y liciwn i weithio, hogia'," meddai Robin Ifans, gan dynnu'i glocsiau i dwymo'i draed. "Mae 'na bwll dyfnach na phwll glo yn d'aros di, Robin," oedd barn Huw Jones mewn fflach sydyn, annisgwyl. Ond ni chwarddodd neb, dim ond syllu'n geg-agored arno: prin y credent mai o'i enau ef y daethai'r geiriau.

"Rhaid imi roi hyn'na i lawr yn fy llyfr," ebe Robin ym mhen ennyd. "Mae gin' i lyfr ar gyfar dywediada' mawr y chwaral, a 'does 'na affliw o ddim gan Huw Jones ynddo fo." Saethwyd am dri o'r gloch, a phan ddychwelodd y tri o'r caban-ymochel, yr oedd cynhaeaf da o blygion ar lawr y fargen. "Rhaid inni gael slediad o gerrig i'r wal cyn mynd adra"," meddai Elias Thomas, gan ddechrau cafnu'r plyg uchaf i'w dorri'n bileri hwylus ar gyfer y wagen. Nid oedd hynny'n hawdd, a'r rhew wedi sychu a chrebachu'r graig, ond yr oedd yr hen flaenor yn chwarelwr medrus, ac ymhell cyn caniad, gwthiai Owen a Huw Jones yslediad trwm o glytiau o'r Twll i'w trin drannoeth yn y wal.

Ar y ffordd tuag adref, sylwodd Owen mai araf oedd camau Elias Thomas, fel petai'r hen wr wedi ymlâdd yn llwyr. Ond er hynny, yr oedd ar ei liniau yn y Sêt Fawr y noson honno, a'i lais mwyn, tawel, yn diolch i Dduw am Ei ofal tyner a thadol dros blant dynion ym mhob man. Pan ddaethant allan o'r Cyfarfod Gweddi, yr oedd cawod drom o eira'n chwyrlio ar flaen y gwynt.

Syrthiodd yr eira drwy'r nos, ac araf fu'r daith drwy'r pentref ac i fyny'r Lôn Serth y bore wedyn. Codasai'r rhewynt eto, ac yr oedd wyneb yr eira'n crensian dan draed.

"Gobeithio bod yr hen Lias wedi aros gartra' hiddiw," meddai Owen wrth Huw Jones a Dafydd pan orffwysent ennyd yng nghysgod craig fechan hanner y ffordd i fyny'r llwybr.

"Dim peryg'!" ebe Huw Jones. "Mi ddôi'r hen frawd ar 'i ddwy ffon petai raid. Dacw fo ar y gwaelod."

Yn y bonc, a'r eira i fyny tros olwynion y gwagenni, gwyddent ar unwaith mai yn eu gwaliau y byddent y diwrnod hwnnw. Hyd yn oed pe treulient oriau—heb ddimai goch yn dâl am eu llafur—i rawio'r eira oddi ar lawr eu bargeinion, ni fyddent fymryn callach, a'r rheiliau o'r Twll i'r bonc wedi'u cuddio'n lân.

Chwibanai'r rhewynt drwy'r bonc, gan gipio nodwyddau'r lluwch rhewedig oddi ar lawr a mur a tho a'u hyrddio'n ffyrnig i'w hwynebau. Yr oeddynt yn falch o gyrraedd gwal Dafydd a George Hobley a throi iddi am loches.

"Hen fabi, yntê, Now?" meddai George Hobley, gan nodio at Huw Jones.

"Pam, George?"

"Yn crio fel'na. Isio'i fam, wsti." Ond yr oedd y dagrau'n llawn gwaeth ar ei ruddiau yntau.

"Dim ond y clytia' yma sy gynnoch chi, Dafydd?" gofynnodd. Owen i'w frawd, gan edrych ar y cerrig yn y wal.

"Ia, fachgan. 'Roedd George a finna' am saethu bora 'ma."

"Damia," meddai George Hobley, gan ei anghofio 'i hun am ennyd yng ngŵydd y "prygethwr". "Mi gawn ni fynd adra'n gynnar, was. Ac mae Fflorri'r Crown yn un dda drybeilig am danllwyth."

"Cawn, mi gawn fynd adra'n gynnar," ebe Dafydd, braidd yn sur. "A phumpunt yn ein pocad am fynd." "O, yr hen gownt, y llechan tan ddiwadd y mis," atebodd George, gan gofio am y llechen a hongiai tu ôl i far y Crown. "Mi fydd hi'n o dena' arno' ni ddiwadd y mis hefyd os pery'r eira 'ma," meddai Dafydd yn llwm. "Ac mae arna' i ofn . . . " "Tyt. Sut yr oedd yr adnod honno'n mynd ers talwm, Now? 'Digon i'r diwrnod 'i ddrwg 'i hun,' yntê? Ac os ydi'r Beibil yn deud hynny . . . "

"Tyd, Owen, tyd," meddai Huw Jones, gan gychwyn ymaith.

Cyrhaeddodd Elias Thomas cyn hir, ac wedi iddynt guro'u breichiau am eu cyrff i gynhesu, dechreuodd y tri chwarelwr ar eu gwaith. A hwythau ar eu heistedd, heb symud fawr, ac wyneb eang y wal yn agored i'r tywydd, yr oedd eu traed bron â fferru cyn pen hanner awr. Gwelai Owen y cŷn yn llithro weithiau o law Elias Thomas, a'r hen flaenor yn ailgydio ynddo mor ddisylw ag y gallai, heb ddywedyd gair. Ond Huw Jones oedd y cyntaf i godi.

"Yr argian, mae hi'n annioddefol hiddiw, ond ydi?" meddai, gan wasgu'i ddwylo dan ei geseiliau a dawnsio o gwmpas congl y wal. "Y diwrnod oera' ers oesoedd. Ne' ydw' i'n gofio, beth bynnag. 'Dydach chi ddim bron â rhewi, deudwch, Lias Thomas?"

"Ydw', wir, fachgan. Ac mae'r clytia' 'ma'n anodd 'u trin, yn rhyw fan blicio fel ar dywydd poeth."

"Wedi'u sychu gan y rhew, wchi."

"Ia, ac yn 'cau'n glir â hollti'n deg. Dyna ti'r clwt dwytha' 'na holltis i. Mi ddylai hwn'na ildio pum crawan, chwech efalla', i'r fodfadd. Ond dim ond tair ges i bob tro, ac mi fùm i'n ffodus i gael cymaint â hynny o'i groen o. Mae'r cerrig gora' yn sâl hiddiw, ac am y rhai gwael, mae'r rheini'n . . . " "Ddigon gwael i rywun fod ar 'i draed y nos efo nhw, chwadal Robin Ifans."

"Ydyn', fachgan. Neu, fel y clywis i un hen frawd yn deud, 'fel bara ceirch.' Go anodd fydd gwneud cyflog y mis yma, mae arna' i ofn. 'Wn i ddim pryd y cawn ni fynd i fras-hollti'r plygion eraill a dŵad â'r cerrig o'r Twll." Llithrodd y cŷn eto i'r llawr, a chaeodd ac agorodd yr hen ŵr ei law chwith yn gyflym droeon. "Mae'r cŷn 'na fel petai o'n serio 'nghnawd i un funud, a'r eiliad nesa' 'dydi o ddim yn fy llaw i." Cododd oddi ar ei flocyn. "Mi a' i at dân y caban am funud i roi clwt neu ddau ar fy llaw. Gobeithio bod rhywun wedi cynna' siwin o dân yno, yntê?"

""Oes gynnoch chi gŵyr crydd?"

"Oes, tamad yn fy mhocad, diolch, Huw. Mae'r hen sgorion 'ma'n boenus iawn hiddiw."

"Mi ddyla'r hen Lias roi'r gora' i'r chwaral, wsti," meddai Huw Jones wedi iddo fynd. "Does 'na ddim synnwyr yn y peth, Owen. Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag."

"Ond mae'n rhaid i rywun fyw, Huw Jones, a . . .

"Oes, o ran hynny, ond oes?"

"A hyd nes daw blwydd-dâl i'r hen weithwyr . . ."

"Ia, hyd nes daw . . . y . . . hwnnw, Owen . . . Ia. Ia, 'nen' Tad. Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag." A phoerodd Huw Jones yn gall i'r domen rwbel cyn eistedd eto wrth ei drafael.

"Mae 'na rai o'r gwleidyddwyr 'ma'n dechra' sôn am hynny, medda Taid."

"Hen bryd iddyn' nhw hefyd."

"Un ohonyn' nhw'n awgrymu chweugian yr wsnos."

"Y?"

"Chweugian yr wsnos."

"I bwy?"

"I'r hen weithwyr."

"Am be'?"

"Wel, am . . . am 'u bod nhw'n hen."

"Am ddim?"

"Ia, at 'u cynnal."

"Chweugian yr wsnos am ddim?"

"Ia."

Bu orig o ddistawrwydd syn, a'r dyn bach yn amheus iawn ei feddwl ac yn craffu ar wyneb Owen rhag ofn bod pefriad yn ei lygaid.

"I hen hen hen withiwrs, efalla'," meddai ymhen ennyd. "Tros 'u pedwar ugian, wsti."

"Naci, tros bump a thrigian oedd o'n awgrymu, yn ôl Taid."

"Mae'r hen ŵr, dy daid, wedi bod yn tynnu dy goes di, fachgan," meddai Huw Jones, gan chwerthin yn ei ddwrn. "Un ar y naw ydi Owen Gruffydd . . . Brenin mawr, mae'r rhew 'ma'n gafal ym mhob asgwrn mewn dyn, ond ydi?"

Yr oedd wyneb yr hen Elias Thomas yn welwlas pan ddychwelodd yn nannedd y rhewynt a'r lluwch i gysgod oer y wal. Ond cydiodd ar unwaith yn ei forthwyl a'i gŷn ac aeth ati i hollti. Gwisgai ddarn o ledr, rhan o hen esgid wedi'i thorri ar ffurf maneg a thyllau ynddi ar gyfer y bys cyntaf a'r bys bach, ar gledr ei law chwith.

"Mi ges fenthyg hon gan Benja Williams," meddai. "Mae o'n mynd adra'. Dim cerrig."

""Oes 'na rywun wedi mentro cyn bellad â'r Twll, Lias Tomos?" gofynnodd Huw Jones iddo.

"Oes, Benja Williams yn un. Y rhew yn loyw ar wynab y graig, medda' fo, a phibella' hirion, trwchus, yn hongian o'r top. Y lluwch yn doman yn erbyn bargeinion y pen yma, a'n un ni yn 'u plith nhw."

Araf y treiglai'r amser heibio yn yr oerni: araf hefyd ac ysbeidiol oedd y gwaith a wnâi'r dwylo anystwyth. Teimlai Owen cyn hir fod blaenau bysedd a bawd ei law chwith, a ddaliai'r grawen ar y drafael, yn gig noeth i gyd, ac yr oedd yn falch o weld Huw Jones yn codi ac o'i glywed yn awgrymu "panad ddeg."

"Ia'n wir, Huw Jones," meddai. "Dowch, Lias Tomos." "O'r gora', Owen. Ond 'wn i ddim ym mh'le y cawn ni ddŵr."

"Pam?"

"Mae'r pistyll wrth y caban wedi rhewi'n solat, fachgan." "O wel, mi eiff Owen a finna' i'r ffrwd ar gwr y coed," ebe Huw Jones. "Mae honno'n siŵr o fod yn rhedag." Ond erbyn iddynt gyrraedd y caban, cludasai dau arall ddŵr o'r ffrwd, a safai un ohonynt, a lithrasai a syrthio i'r eira, wrth yr ystôf yn ceisio sychu'i ddillad. Codai cwmwl o ager ohono fel mwg.

"Hei, mae Twm Bach yn mynd ar dân," gwaeddodd Robin Ifans wrth ddyfod i mewn i'r caban. "Pwcedaid o ddŵr am 'i ben o ar unwaith, hogia'." Ond yr oedd Twm Bach a phawb arall yn rhy rynllyd i fwynhau direidi, ac amryw ohonynt yn rhy ddigalon hefyd, gan mai yfed cwpanaid cyn troi adref i segura'n anniddig yr oeddynt. Daeth Dafydd at Owen.

"Wel'di, Now bach, dim ond gwaith tan ganol dydd sy gan George a finna'. Gad imi gymryd dy le di efo Huw Jones a Lias Tomos pnawn 'ma."

"Yr argian, i be'?"

"Iti gael mynd adra' i 'studio, debyg iawn."

"Na chei, wir, Dafydd. Mi faswn i'n teimlo'n un go salw 'tawn i'n gadael iti wneud hynny."

"Ond gwranda . . ."

"A llawar o'studio wnawn i wedyn, yntê?"

"'Wela' i mo George a finna'n medru saethu 'fory chwaith. Na thrennydd efalla'. Mae'n well i ti fod gartra'n 'studio na 'mod i yno'n piltran."

"'Wneiff diwrnod ne' ddau o orffwys ddim drwg iti, Dafydd. Ac mae gin' ti isio paratoi'r papur hwnnw ar gyfar y Gymdeithas, ond oes?"

"Oes, ond ..."

"Efalla' mai gartra' y byddwn ni i gyd 'fory. Mae'r awyr uwchben y Clogwyn yn llawn eira, medda Lias Tomos, a phan dymherith hi dipyn, i lawr y daw o. Na'n wir, Dafydd, 'chei di ddim gweithio yn fy lle i. Fe gâi'r arholiad 'ma fynd i'w grogi cyn i hynny ddigwydd."

Tawelodd y gwynt a lliniarodd yr hin yn ystod y prynhawn, a disgynnai plu cyntaf yr eira fel y troai'r chwarelwyr tuag adref am bedwar o'r gloch. Bu'n bwrw eira'n ddi-baid drwy'r hwyr hwnnw a thrwy gydol y nos, a phan gododd Dafydd ac Owen bore drannoeth, gwelent ar unwaith nad oedd gobaith i neb fynd. ar gyfyl y chwarel.

"Wel, mi gei gyfle iawn i 'studio hiddiw, 'r hen ddyn," ebe Dafydd. "Mi a' inna' ati i glirio'r eira o gwmpas y tŷ ac i agor llwybyr i'r ffordd. Mi wneiff 'Mam dân yn y siambar iti, yr ydw i'n siŵr. Paid â dechra' stwnsian efo Taid 'rŵan, pan fydd o wedi codi."

"Yn 'i wely y dyla' fo aros hiddiw, Dafydd."

"Ia, ond os awgryma rhywun hynny iddo fo, mi fydd i lawr y grisia' 'na ar wib."

Diwrnod cyfan, di-fwlch, efo'i lyfrau! Meddyliai Owen yn aml mai mawr oedd braint llanciau mewn ysgol a choleg, yn medru rhoi'u holl amser i ddarllen ac astudio yn lle gorfod cipio awr neu ddwy gyda'r nos, yna llosgi'r lamp yn hwyr, a chodi wedyn ymhell cyn y wawr. Wedi iddo orffen ei frecwast, cludodd ei lyfrau i'r "siambar," lle'r oedd ei fam, ar awgrym Dafydd, wrthi'n cynnau tân. Gan fod gwely yn yr ystafell of hyd—ar gyfer Enid, lle bynnag yr oedd hi, neu ar gyfer Elin a John pe digwyddent hwy ddod i Lan Feurig am dro—cyfyng oedd y lle ynddi. Tynnodd Owen gadair at y tân a thrawodd rai o'i lyfrau ar y llawr wrth ei hochr.

"Ydi Dafydd wedi sôn rhwbath wrthat ti?" gofynnodd ei fam iddo.

"Am be', 'Mam?"

"Mae o i'w weld yn drwblus iawn 'i feddwl. Yr arian 'na ddygodd Enid—os daru hi, hefyd—afiechyd dy daid, talu rhent o'n blaen ni, a 'rŵan, dim gwaith—mi eiff petha'n gyfyng arno' ni fel hyn, mae arna' i ofn. Gobeithio'r annwyl na phery'r tywydd 'ma ddim yn hir, yntê?... Dyna chdi, mi ddaw y tân, ond cofia roi peth arno fo'n o fuan. Rhaid imi fynd i godi Myrddin; 'rydw' i wedi'i alw fo ers meitin, y cena' bach."

Gan gofio mor ddrud oedd y glo, gadawodd Owen i'r tân ddiffodd, a chyn hir cludodd ei lyfrau'n ôl i'r gegin.

"Fedra' i ddim gweithio yn yr hen siambar 'na," meddai wrth ei fam. "Mae'n rhaid imi gael bwrdd i sgwennu." Diwrnod cyfan, di-fwlch, efo'i lyfrau! Aeth y diwrnod yn ddyddiau, yn wythnos, yn bythefnos, yn dair wythnos. Y tywydd oeraf ers pymtheng mlynedd ar hugain, meddai'r Faner, gan adrodd hanesion am bymtheg troedfedd o eira wrth ryw eglwys yng ngogledd Lloegr, am ddynion yn cerdded tros Afon Tafwys ger Pont Llundain, am bentrefi diarffordd yn newynu, am golledion tyddynwyr a bugeiliaid y mynydd-dir. Yn Nhyddyn Cerrig, darfu'r glo yng nghanol yr ail wythnos, a llosgid darnau o goed wedyn—yr ychydig flociau a oedd ar ôl yn y cwt, y ddau blanc y safai'r mangl arnynt, hen gadair ddi-gefn o'r gegin fach, hanner uchaf y pren afalau, y brigau a dorrai Dafydd ac Owen yn fore fore—cyn i Jones y Plisman godi—yng Nghoed-y-Brain, ac ambell focs a ddygai Myrddin o'r siop. Rhaid oedd toddi eira i gael dŵr, a chan na theithiai na brêc na throl o Gaer Heli, aeth y bwyd yn Llan Feurig yn brin hyd yn oed i'r rhai â modd ganddynt. Ond nid oedd modd gan deulu Tyddyn Cerrig, a chynlluniai a dyfeisiai Emily Ellis ar gyfer pryd ar ôl pryd, gan syllu'n ddig ar yr eira tu allan wrth orfod cymysgu tatws wedi'u berwi â'r blawd pan bobai fara, neu roi dim ond esgyrn yn lle cig yn y labscows.

Ac yntau'n mynd allan yn anfynych iawn ac yn methu â theithio ymaith i bregethu, gwnâi Owen tuag wyth awr o waith bron bob dydd, a chyn pen tair wythnos yr oedd yr Actau a llyfr John Owen ar yr Ysbryd Glân ar flaenau'i fysedd. Ond â phryder yn caylu'i feddwl y gweithiai, a chodai'i ben o'i lyfrau'n aml i edrych yn llwm tua'r chwarel. Teimlai'n ddig wrth ei daid, ar y dyddiau pan godai ef, am hel straeon am dywydd caletach filwaith pan oedd o'n hogyn, wrth Fyrddin am weiddi cymaint wrth sôn am y sglefrio ar Afon Feurig, wrth Ddafydd am gymryd arno bod mor ddifater, a hyd yn oed wrth ei fam am bryderu byth a hefyd am fwyd a thân a beth fyddai'r rhent ac ym mh'le'r oedd Enid a myrdd o bethau eraill. Yr oedd y segurdod anorfod—heb bregethu, heb wasanaeth yn y capel ond ar y Sul, heb weld Mary—yn dweud arno, a dyheai'i ddwylo am gydio eto mewn crawen a chyllell—naddu. Nid oedd y diwrnod cyfan, di-fwlch, mor felys fel ffaith ag ydoedd mewn dychymyg.

Dim ond ef a'i fam a oedd yn y gegin un nos Sadwrn, hi'n gweu crafat ac yntau'n darllen yn anniddig.

"I bwy mae'r crafat 'na, 'Mam?"

"I ti. Y gwlân llwyd hwnnw yrrodd Elin imi. Ond 'chei di mo'i wisgo fo tan yr hydref. Na'r 'sana' orffennis i nos Iau."

"Tan yr hydref?"

"I fynd i'r Bala, debyg iawn. Rhaid inni ddechra' hel petha' at 'i gilydd, on' rhaid?"

"Pwy sy'n deud fy mod i'n mynd i'r Bala yn yr hydref?"

"Be' wyt ti'n feddwl ?"

"Dafydd, mae'n debyg?"

"Wel, yr ydan ni i gyd..."

"Yn gwneud camgymeriad 'ta'."

Cododd a chymryd ei gôt fawr oddi ar fachyn tu ôl i'r drws.

"I b'le'r wyt ti'n mynd?"

"I 'Fryn Myfyr', i gael gair efo Mr. Morris y gweinidog. Mae arna' i isio benthyg rhai llyfra' gynno fo."

"Dwyt ti ddim am wneud dim byrbwyll, 'wyt ti?. . .

'Wyt ti, Owen? Aros nes daw Dafydd i mewn, wir. Dyna fo wrth y drws."

"Dafydd, Dafydd byth a hefyd."

Clywent ei sŵn yn curo'r eira oddi ar ei esgidiau tu allan ac yna'r drws cefn yn agor a chau. Pan ddaeth i mewn i'r gegin, gwelai Dafydd ar unwaith fod rhywbeth yn bod.

"Hylô, Now bach, mynd allan?"

"Ia, i 'Fryn Myfyr'. 'Rydw' i am ddechra' ar Ladin a Groeg os ca' i fenthyg llyfra' gan Mr. Morris."

"Dydi o ddim am fynd i'r Bala, medda fo," ebe'r fam yn bryderus.

"O?" Sylwodd Dafydd ar yr olwg herfeiddiol yn llygaid Owen, ond gwyddai mai yn erbyn symbylau tlodi a rheidrwydd y gwingai mewn gwirionedd. "Ac mae o'n gwneud yn iawn, 'Mam."

"Yn . . . yn iawn?"

"'Ydach chi ddim wedi 'i weld o'n gweithio efo'i lyfra' ers pan ydan ni gartra'n segur?"

"Do, ond . . ."

"Mi gân' nhw gadw'u Hysgol Ragbaratoawl, on' chân' nhw, Now bach? Mi wnawn ni o'r gora' hebddi, efo tipyn of amynedd a bwyd llwy... O, gwylia dy hegla' wrth fynd i lawr yr allt 'na, was. 'Dydan ni ddim isio pregethwr coes-bren. yn y teulu, nac oes, 'Mam?"

𝒫𝑒𝓃𝓃𝑜𝒹 7

CYMERODD yr hen weinidog ei Feibl oddi ar fwrdd bychan wrth ymyl ei gadair, agorodd ef, a daeth o hyd i'r seithfed bennod o Fathew. Er bod pob gair o'i hoff bennod. ar ei gof ers blynyddoedd meithion, darllenodd ei dechrau'n araf ond â'i feddwl ymhell.

"Na fernwch, fel na'ch barner.
Canys â pha farn y barnoch y'ch bernir; ac
â pha fesur y mesuroch yr adfesurir i chwithau . . ."

Ia, wrth adnabod Ebenezer Morris yn well y dysgodd y wers honno'n llawn am y tro cyntaf erioed. Iddo ef a Huw Rôb a Wil Cochyn a bechgyn eraill, "R hen Eb" oedd bugail Siloam, gŵr i chwerthin am ei ben ac i ddynwared ei wich o lais a'i ffordd bwysig o lefaru ac o gerdded. Hyd yn oed wedi i Owen ddechrau pregethu, ychydig o gyfathrach a oedd rhyngddo ef a'i weinidog. Soniai amdano fel "Mr. Morris," yn lle "Eb," gwrandawai ag wyneb goraddfwyn ar ei gynghorion difrifol, câi fenthyg rhai llyfrau ganddo, a thrwyddo ef y derbyniai ambell gyhoeddiad, ond arhosai'r gwatwar yng nghraidd ei feddwl. Er ei waethaf, "R hen Eb" oedd y dyn bach o hyd, yn ei gwmni ac yn ei gefn.

Ar y nos Sadwrn honno o Fawrth, yn betrus yr ymlwybrodd Owen drwy'r eira tua "Bryn Myfyr." Buasai'n well ganddo ofyn cymorth Mr. Roberts yr athro neu hyd yn oed Jones y Sgwl, ond tybiai fod Lladin a Groeg bron mor ddieithr iddynt hwy ag iddo yntau, ac ni feiddiai fynd at un o weinidogion eraill yr ardal neu at Rees y Person. Ac nid oedd nos Sadwrn, cofiodd, yn noson dda i alw gyda phregethwr: efallai fod Eb

—Mr. Morris—wrthi'n brysur yn paratoi at y Sul. Ond byddai Mrs. Morris yn sicr o ddweud hynny wrtho heb flewyn ar ei thafod. Dynes fawr, fawreddog, a chyfoethog yn ôl pob hanes, oedd hi, a lywodraethai'i gŵr a'i merch Rhiannon â llaw urdd— asol. Pur anaml y gwelid hi yn nhŷ un o aelodau'r capel, yn arbennig y tlodion yn eu plith—ni chofiai Owen iddi erioed groesi trothwy Tyddyn Cerrig—ac ychydig iawn a wnâi hi yn Siloam, ar wahân i eistedd fel brenhines ym mhen ei sedd. "Fel brenhines," gan gredu gair hen frawd perswadiol o sipsi ei bod hi yr un ffunud â gwraig rhyw Tzar—ni fedrai ef gofio'n iawn pa un.

Yr oedd un peth arall a wnâi Mrs. Ebenezer Morris yn "ddynas fawr" ym marn y pentref. Yn lle gyrru ei merch Rhiannon i ysgol Llan Feurig ac yna i Ysgol Ganolraddol Caer Heli ac oddi yno i Goleg Bangor, anfonodd hi i ysgolion preifat i ddechrau, wedyn i Cheltenham, ac erbyn hyn yr oedd hi mewn Coleg yn Llundain. Gan fod Rhiannon yn ferch ddel, yn enwedig pan oedd hi'n ieuangach, ac wedi'i gwisgo'n llawer gwell na'r cyffredin, syrthiasai hogiau Siloam, ac Owen yn eu plith, yn ddwfn mewn cariad â hi. Ond, a'i mam yn ei gwylio bob ennyd, prin y câi un ohonynt gyfle i wneud mwy nag addoli o hirbell. Rhoddai Wil Cochyn, yn hogyn wyth oed, sebon yn drwm ar ei wallt pan fyddai hi gartref, a llwyddodd droeon i wthio anrhegion i'w llaw ar y ffordd allan o'r Band of Hope— caramel, afal, cnau, ac ymhellach ymlaen pan deimlai'n fwy hy, rosyn, rhuban, hen freichled, tlws neu ddau wedi'u troi heibio gan ei fam. Yna, yn fwy gwrol fyth, ysgrifennodd nodyn ati, gan ddewis Saesneg fel iaith ei serch.

"Leafs may whithar
Flowars may die
Frens may forgett you
But nevar will i.
Willie. x x x"


Gan iddi wenu'n slei arno y bore Sul canlynol, lluniodd Wil lythyr anrhydeddus o ffurfiol y prynhawn hwnnw a'i wasgu i'w llaw ar ôl yr Ysgol Sul.


"If you will be my Sweethart
i will be your's for evar.

Sined


William Davies."


Ond, a'i ddannedd yn rhai mor flaenllaw a'r brych mor amlwg ar ei drwyn a'i dalcen, ni welai Rhiannon ef yn debyg i Fedwyr na Lawnslod na neb arall o arwyr ei breuddwydion, a phenderfynodd anwybyddu Wil a'i wallt. Pan ddechreuodd yntau weithio yn y chwarel, anghofiodd yn llwyr amdani, gan chwythu "Hy!" ysgornllyd i'r sgwrs bob tro y crybwyllai Huw Rôb neu Owen. ei henw. Ond un nos Sadwrn ymhen blynyddoedd, pan ddig- wyddodd eistedd wrth ei hochr yn y brêc o Gaer Heli, rhoes Wil ei fraich am ei hysgwydd a chusan fawr ar ei boch. "You boor!" a chlusten a gafodd yn dâl am ei sifalri direidus, a chyn gynted ag y cyrhaeddodd hi adref, adroddodd yr hanes, gyda pheth gormodiaith yn ei chyffro, wrth ei mam a'i thad. Pregethodd y gweinidog yn ddifrifol iawn wrth y pechadur ar ôl y gwasanaeth bore drannoeth, gan led awgrymu iddo fod dan ddylanwad y ddiod y noson gynt, a siaradodd Mrs. Morris hefyd, yn urddasol o gynnil, a'i fam. O hynny allan nid edrychai Wil ar " yr hen bitsh bach."

Er ei bod yn nos Sadwrn, yr oedd Ebenezer Morris yn falch o weld Owen.

"Tynnwch eich côt fawr a rhowch hi ar y gadair acw," meddai, wedi i'r forwyn gau drws y stydi o'i hôl.

"Ddim os ydach chi'n brysur, Mr. Morris. Mi fedra' i alw ryw noson arall."

"Na, yr ydw' i newydd gwblhau fy ngwaith at yfory. Dowch at y tân.”

Wedi i Owen ufuddhau ac eistedd gyferbyn ag ef, edrychodd. y gweinidog yn graff ar y drws.

"Wn i ddim a ydych chi wedi dechrau ... ym... sylwi ar bethau mân bywyd," meddai. "Maen' nhw'n bwysig, wydd- och chi, yn bwysig iawn. Er enghraifft, 'welsoch chi Elsie'r forwyn yn cau'r drws 'na ?"

"Na, 'wnes i ddim..."

"Dyna fo, ydych chi'n gweld, dyna fo. Peth bach, ond y mae iddo... ym... arwyddocâd, y mae'n allwedd i adnabydd- iaeth, yn ddarlun o gymeriad. Beth wnaeth hi â'r drws?"

"Wel, yr oeddwn i..."

"Rhoi clep iddo fo, ei gau... ym... rywsut-rywsut. Y mae Elsie'n ferch dda, cofiwch, yn siriol, yn weithgar, yn barod iawn i ddysgu. Ond y mae hi'n newydd yma a braidd yn ddifeddwl eto mewn . . . ym... manion bethau. 'Ydych chi wedi sylwi mor ychydig yw nifer y rhai sy'n medru cau drws?"

"Naddo, wir, Mr. Morris, 'ddaru mi ddim... y... meddwl am y peth o'r blaen."

"A!" Cododd o'i gadair a chroesi at y drws, a'i agor ac yna'i gau heb smic. Cerddodd yn ôl at y tân a gwên fuddugol- iaethus ar ei wyneb. 'R hen Eb i'r dim, meddai Owen wrtho'i hun; gresyn na wyddai Mr. Roberts yr athro Roeg a Lladin. "A dyna chi ffordd rhywun o... ym. . . eistedd, wedyn. Y mae croesi'r coesau, er enghraifft, yn lluddias cylchrediad y gwaed." Dadgroesodd Owen ei goesau'n frysiog. "A phwyso ymlaen yn atal yr ysgyfaint rhag... ym... anadlu'n esmwyth a naturiol." Eisteddodd Owen yn ôl.

"Dŵad i'ch gweld chi yr oeddwn i, Mr. Morris, ynglŷn â Groeg a Lladin."

"O? Groeg a Lladin?" Swniai fel petai heb glywed amdanynt o'r blaen.

"Ia. Meddwl dechra' arnyn' nhw. Gan fy mod i gartra'n segur, yntê?"

Ond... ond beth am arholiad yr Ymgeiswyr?"

"Rydw i'n gwbod y maes hwnnw'n o lew erbyn hyn, ac mae'n bryd imi ddechra' paratoi ar gyfar arholiad y Coleg."

"Ar gyfar yr Ysgol Ragbaratoawl, yntê? Wel, 'wnaiff hynny ddim drwg i chi os ydych chi'n teimlo'n ffyddiog . . . ym... mewn llawn hyder ffydd."

"'Dydw' i ddim am fynd i'r Ysgol, Mr. Morris."

"Ddim am...? Ond 'fedrwch chi byth... Yr ydw' i'n edmygu'ch... ond 'chlywais i ddim... 'Welsoch chi rai o bapurau arholiad y Coleg?"

"Naddo, wir, Mr. Morris."

"O. Lle mae Calendar y Coleg?" Cododd a mynd at silffoedd llyfrau wrth y mur cyferbyn. Clywent sŵn curo traed yn erbyn y grisiau tu allan ac yna ddrws y ffrynt yn agor.

"Mrs. Morris. Mi fynnodd fynd i'r siop. Hwdiwch, edrychwch ar hwn tra bydda' i allan. 'Fydda' i ddim dau funud."

Agorodd Owen y llyfr yn eiddgar. Gwelai y byddai'n rhaid iddo astudio saith o destunau i gyd—(a) English Language, (b) Greek, (c) Latin, (d) Mathematics, (e) The Contents of the New Testament, a dau arall o blith Deductive Logic, Welsh, French or German, The Gospels of Luke and John in Greek, The Athanasian Creed in Latin, a Hebrew. Syllodd yn ddigalon ar y rhestr. Ni wyddai ef ddim am "Algebra to Quadratics (inclusive)" na "Geometry (Euclid, Books I to 3, or the Subjects thereof)," a phan edrychodd ar yr enghraifft gyntaf o bapurau arholiad y flwyddyn gynt, yr oedd ei anobaith yn llwyr.

1. Give a historical account of the Latin element in the English Language. Give instances of words which belong to the different periods.

2. Give a short account of the Old English dialects. To which of these dialects is Modern English most closely related?

3. What was the influence of Norman French upon the vocabulary and grammar of the English Language?

4. State and explain Grimm's Law.

Troes heibio i'r Greek Unseens a'r Latin Unseens ac i'r cwestiynau ar ramadeg yr ieithoedd hynny, heibio hefyd i gyfrinachau rhyfedd y Mathematics, i gael golwg ar y papur Cymraeg.

1. Translate.

(a) Mae'r eglwysydd yn gollwng defni, a'r distiau yn pydru.

(b) Gwyn eu byd y rhai a ddihunwyd ac a ddihunanwyd.

Agorodd y drws a dychwelodd y gweinidog ato.

"Fedra' i ddim gwneud rhych na rhawn o'r papura' 'ma, Mr. Morris."

"Na fedrwch, mae'n debyg."

Teimlai Owen yn ddig wrtho am swnio mor hollwybodol: pe dôi ef i'r chwarel ryw fore ac eistedd wrth y drafael, 'fyddai dim llawer o siâp arno yntau.

"Na fedrwch, 'rŵan, wrth gwrs. Ond ar ôl . . . ym blwyddyn neu ddwy yn yr Ysgol Ragbaratoawl, 'welech chi monyn' nhw'n . . . y . . . anodd iawn, efalla'."

""Rydw' i wedi penderfynu peidio â mynd yno, Mr. Morris."

"Ond pam? Pam? Mi allaf eich sicrhau chi fod yr Ysgol yn un . . . ym . . . ragorol a'r athrawon yn wŷr o . . . ym . . . brofiad a chymwysterau arbennig. Bu fy nghyfaill y Doctor Michael Roberts mewn ysgol debyg, a mawr oedd y fendith a gafodd o ynddi, fel y clywais i o'n dweud ganwaith. Fe agorodd ei lygaid ar . . . ym . . . feysydd eang, fe agorodd ei lygaid i weled, llygaid oedd . . . ym . . . heb ganfod dim o ogoniant iaith a llenyddiaeth a... ym... meddylddrychau'r hen oesoedd. 'Llygaid oeddwn i'r dall, a throed oeddwn i'r cloff," meddai Job, onid e? Dyna oedd yr hen ysgol honno iddo fo, er nad oedd o'n... ym... llawn sylweddoli hynny ar y pryd efalla'..."

Ond prin y gwrandawai Owen ar yr huodledd hwn, a gwelodd Ebenezer Morris hynny. Tawodd gydag "Ia . . . Ia, wir" ffwndrus, a syllodd i'r tân.

"Os na fedra' i basio i'r Coleg heb fynd i'r Ysgol, mi ro' i'r ffidil yn y to. Mi fedra' i bregethu'n achlysurol yr un un fath â Taid."

Beth a oedd tu ol i'r ystyfnigrwydd hwn? gofynnodd y gweinidog i'r tân, gan chwarae'n anniddig â'i farf. Nid oedd teulu Tyddyn Cerrig yn dlawd. Yr oeddynt yn cyfrannu'n dda at yr achos, yn drwsiadus a graenus eu gwisg bob amser, a'r ferch ieuangaf, Enid, yn talu sylw mawr i'w dillad a'i gwallt, er nad oedd hi ond tipyn o forwyn yng Nghaer Heli. Hm, ni welsai mohoni hi yn y capel ers tro byd rhaid iddo gofio holi yn ei chylch. Na, nid oeddynt yn dlawd, a dau fab yn y chwarel a'r bachgen arall yn siop Manchester House. Ac eto... yr oedd hynny'n bosibl, yn bosibl. Fe gâi air ag Elias Thomas ar y pwnc: adwaenai ef y teulu cystal â neb. Hm... anodd gwybod... yr oedd pobol mor falch, mor falch.

"Sôn yr oeddan ni am... ym... Ladin a Groeg, onid e?"

"Ia, ond ar ôl gweld hwn, Mr. Morris. . ." Gwenodd

Owen yn sur ar y ddalen o Roeg yn y llyfryn agored a oedd ar ei lin. "Traed brain a dim arall ydi o i mi."

"Ia... ia, wrth gwrs, a chitha' heb gael... ym... achos na chyfle i ymgodymu â'r hen iaith nac i ddarganfod ... ym... dim o'i gogoniant hi." Cododd a chroesi at ei silffoedd llyfrau. ""Welwch chi'r silff yma ?"

"Gwela'."

"Groeg. Groeg i gyd." A chwifiodd ei law mewn balchder mawr.

Aeth anobaith Owen yn wrthryfel sydyn ynddo, yn chwerwder, yn elyniaeth. Fo a'i lond mur o lyfrau! Pwy oedd 'R hen Eb i dorsythu o'i flaen ef? Petai o'n clywed barn. ambell un yn y chwarel amdano fo a'i bregethau gwichlyd a'i goesau bach pwysig a'i Ymgyrch Gwin Anfeddwol i'r Cymundeb a'i bamffledi ceiniog a dimai ar Ddirwest . . . Hy, fe fedrai Taid ei roi o yn ei boced wasgod fel pregethwr, er na wyddai ef air o Ladin na Groeg. Cododd i gychwyn ymaith.

"Wel, diolch, Mr. Morris. Mae'n amlwg fy mod i wedi cymryd gormod o gowlaid, ond ydi? Ond dyna fo, os ydyn' nhw'n mynnu cael sgolars sy'n gwbod rhyw hen ieithoedd meirwon . . . " Cydiodd yn ei gôt oddi ar y gadair lle y trawsai hi.

"Hen ieithoedd meirwon! 'Dydych chi ddim yn . . . ym . . . sylweddoli beth ydych yn . . . Mae geiriau fel yna'n . . . Ond fel y dywed yr Apostol, 'yr hwn a ddichon dosturio wrth y rhai sydd mewn . . . ym . . . anwybodaeth ac amryfusedd . . . "" Yr oedd y dyn bach wedi'i gyffwrdd i'r byw ac yn codi'i lais yn chwyrn. "Y mae'n debyg y gwyddoch chi mai . . . ym . . . mewn Groeg y meddyliai ac yr ysgrifennai ef?"

"Gwn, ond . . . "

"A 'wyddoch chi beth ydyw'r llyfr hwn?" Cymerodd gyfrol oddi ar y silff a'i hagor. "Y Testament Newydd mewn Groeg." Darllenodd adnod neu ddwy yn uchel â chryndod yn ei lais. "Iaith farw? Iaith farw ?"

"Yr hyn on i'n feddwl, Mr. Morris . . . "

"Fe ysgrifennodd Ioan y geiriau yna yng ngharchar Ynys Patmos yn agos i ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, a dyma fi, Ebenezer Morris, ar y noson hon o Fawrth ym mhentref bach Llan Feurig yng Nghymru yn eu . . . ym . . . llefaru fel y llefarai ef hwy. Iaith farw? Iaith farw?"

"'Doeddwn i ddim . . . "

Chwifiodd y gweinidog ei law'n ddiystyrllyd ac yna camodd yn ôl at ei lyfrau, gan syllu'n gariadus arnynt a llwyr ymgolli yn hud eu teitlau. "Illiad Homer, un o feirdd mwyaf y byd, os nad y mwyaf." Tynnodd y llyfr o'i le ac agorodd ef tua'i ddiwedd. "Gwrandewch! Gwrandewch ar hwn ! Yr hen frenin Priam ym mhabell Achilles yn nyfnder y nos yn erfyn am gorff ei fab, Hector. Gwrandewch, Owen Ellis, gwrandewch!"

Ni ddeallai Owen un gair, ond gwrandawodd yn syn, yn syfrdan bron. Ia, llais main 'R hen Eb a glywai, ond . . . ond rhywfodd, fel y llafar—ganai ef y llinellau, yr oedd rhithm a theimlad y farddoniaeth yn trawsnewid ei lais. Petai'r gweinidog yn mynd i hwyl fel hyn yn y pulpud, meddyliodd, yn lle gwichian tros y capel—"fel mochyn yn cael 'i begio, myn diân i," chwedl Wil Cochyn—buasai'n bregethwr gwerth gwrando arno. Pan geisiai Huw Jones godi dadl ag Elias Thomas yn y wal drwy ddilorni gweinidog Siloam fel pregethwr, atgofiai'r hen flaenor ef mai "Mr. Morris oedd y 'sglaig mwya' yn y sir," gan awgrymu nad oedd modd i neb meidrol fod yn fawr ym mhob peth. Ni wyddai Owen a oedd rhyw sail i'r haeriad ai peidio, ond ar ôl gweld a chlywed y dyn bach heno ymhlith ei lyfrau, byddai yntau'n barod i ddadlau trosto fel ysgolhaig. Byd y llyfrau hyn, yr oedd yn amlwg, oedd ei wynfyd. Pam, yn enw popeth, pam na phregethai ef yn fanwl a dysgedig yn lle ei dwyllo'i hun a chredu ei fod yn rhyferthwy o bregethwr, yn Ebenezer Morris yr Ail, yn Ddoctór Owen Thomas arall?

"Homer. Homer." Ysgydwodd y gweinidog ei ben yn ddwys mewn teyrnged i'r bardd. "A dyma'i gerdd fawr arall yr Odyssey. Wrth ei hochr hi... ym... telynegion Pindar. Wedyn... 'Glywsoch chi am Aeschylus?"

"Naddo, 'dydw' i ddim yn meddwl. Bardd oedd ynta'?" "Neu Sophocles?"

"Naddo."

"Neu Euripides?"

"Naddo, wir, Mr. Morris."

"Beirdd mawr bob un, yn llunio tragediau heb eu tebyg Neu Herodotus?"

"Naddo."

"Neu Thucydides?"

"Naddo."

"Neu Xenophon?"

"Naddo."

"Haneswyr gwych, a'u hiaith farw yn fywyd bob gair. Plato ac Aristotle, yr athronwyr ?"

"Dim ond 'u henwa' nhw, mae arna' i ofn."

"Ond mi wyddoch am hwn ac am ei waith ef, meddyliwr llawn cymaint os nad mwy na Phlato." Tynnodd lyfr tenau o'r silff a'i agor. Yna darllenodd, a'r cyffro eto'n gryndod yn ei lais.

"Paul?"

"Ia, Paul. Ei ddau lythyr at y Corinthiaid." Darllenodd ymlaen, ac yna arhosodd yn sydyn. "Hwdiwch." Estynnodd Destament i Owen. "Trowch i'r Epistol Cyntaf at y Corin thiaid, y bedwaredd bennod a'r nawfed adnod." Ac wedi iddo'i chael, "Gwrandewch arna' i'n darllen rhan olaf yr adnod yna eto." Darllenodd yn yr iaith Roeg yn araf, gan bwysleisio pob gair. "A 'rŵan, darllenwch chi'r cymal yn Gymraeg." 'Oblegid nyni a wnaethpwyd yn ddrych i'r byd ac i'r...'" 'Drych!' 'Drych!' Ond nid dyna ysgrifennodd Paul, nid dyna oedd ym meddwl yr Apostol. Theatron yw'r gair Groeg-theatr. 'Fuoch chi ddim mewn theatr erioed, wrth gwrs."

"Naddo, dim ond yn . . ." "Dim ond yn y Syrcas yng Nghaer Heli," a oedd ar flaen ei dafod, heb sylweddoli mai mynegi ffaith ac nid gofyn cwestiwn yr oedd y gweinidog. Ond tawodd mewn pryd, a dechrau gwisgo'i gôt braidd yn ffwndrus ac euog.

"Temlau Belial, temlau Belial, a diolch nad oes un ohonynt o fewn... ym... can milltir i Lan Feurig. 'Oblegid nyni a

wnaethpwyd yn theatr—neu'n . . . ym . . . sioe mewn theatr—i'r byd,' medd Paul wrth y Corinthiaid . . . ym . . . bodlon, parchus, smyg. A sylwch ar yr adnod nesaf. 'Yr ydym ni yn ffyliaid. er mwyn Crist.' Yr oedd wedi sefyll wrth y theatr yn Nharsus pan oedd yn fachgen ac wedi gwrando, yn Hebrewr o'r Hebreaid, ar y chwerthin . . . ym. ym . . . gwag, croch, masweddol, yn dod ohoni. Ac yn ninasoedd y Groegiaid, yn Athen, yn Effesus, yng Nghorinth . . . Ond y mae'n rhaid imi . . . ym . . . wneud pregeth ar y pwnc. Rhaid wir, rhaid imi . . . ym . . . wneud pregeth ar y testun. Ac am Roeg a Lladin yr oeddan ni'n ym . . . sôn, onid e?" Cymerodd lyfr bychan oddi ar y silff.

"Mr. Morris?"

"Ia?"

"Mae'n . . . mae'n wir ddrwg gin' i imi siarad fel y daru mi."

"Popeth yn dda, 'machgen i, popeth yn dda . . . Ia . . . ym . . . popeth yn . . . Hwdiwch, ewch â'r Gramadeg Groeg yma efo chi. Syml, elfennol, ond yn un bach . . . ym . . . neilltuol o dda."

"Diolch yn fawr iawn."

"A hwn, un Lladin. Ewch â'r ddau. 'Fyddwch chi'n . . . ym . . . gweithio ddydd Llun, 'ydych chi'n meddwl?"

"Na fyddwn, mae arna' i ofn. 'Does 'na ddim argoel clirio ar yr eira. Mae'n rhewi heno eto, ond ydi?"

"Dowch yma bore Llun. Mi ddechreuwn ni ar y Roeg."

"Wel, os ydach chi'n meddwl . . ."

"Am ddeg."

"O'r gora', Mr. Morris."

"Nage, am . . . ym . . . hanner awr wedi naw." "Wel . . ."

"Nage, am . . . ym . . . naw. Ia, am naw. Temtasiwn gweinidog yw gorwedd yn hwyr ar fore Llun. 'Gwyliwch a gweddiwch rhag eich myned mewn temtasiwn,' . . . Ia . . . ia, y pechod sydd ... ym... barod i'n hamgylchu. Am naw, am naw."

'R hen Eb i'r dim, meddyliodd Owen eilwaith. Ond heb wawd nac amarch y tro hwn.

Bu'r chwarel dan eira am chwech wythnos i gyd, a thrwy'r tair wythnos olaf, ac Owen Gruffydd yn ei wely o'r ffordd, llafuriodd Owen yn ddygn ar y Roeg a'r Lladin. Synnodd y gweinidog at ei ddiwydrwydd, a buan y daeth i edrych ar gynnydd ei ddisgybl fel buddugoliaeth bersonol. Ai Owen i "Fryn Myfyr" am awr bob bore, ac wedi dysgu cau'i lygaid ar rai o ffyrdd rhyfedd 'R hen Eb, daeth i'w hoffi'n fawr. Tu ôl i'r pwysigrwydd ffwdanus yr oedd diniweidrwydd plentyn, a phan ymgollai mewn darn o Roeg neu o Ladin, anghofiai'n llwyr mai ef oedd Ebenezer Morris yr Ail ac âi mor gyffrous â hogyn newydd ddal pysgodyn â'i ddwylo neu ddarganfod nyth dryw. "Mae pobol yn rhai rhyfadd, ond ydyn'?" oedd un o ddywediadau mawr Huw Jones, a mwyaf yn y byd a welai Owen o'r gweinidog, mwyaf yn y byd y cytunai â'r darganfyddiad sylfaenol hwn.

Yr oedd un gŵr yn anfodlon iawn ar ymroddiad Owen.

"Be' mae o'n wneud 'rŵan?" gofynnai Owen Gruffydd droeon bob dydd.

"Groeg yr ydw' i'n meddwl," fyddai ateb ei ferch gan amlaf.

"Hy!"

Yng ngharchar ei wely, a'r dydd yn hir iddo, aeth yr hen wr i gasáu'r Roeg a'r Lladin. Pregethwr ysgubol fel efe, nid rhyw hen wlanen o ysgolhaig, oedd ei ŵyr i fod, ac wrth droi a throi'r peth yn ei feddwl, gwelai Owen yn llithro o'i afael i ddwylo Ebenezer Morris a'i debyg. Fe wnaethai ef, Owen Gruffydd, bregethwr heb boeni'i ben am na Groeg na Lladin, a medrai roi gwers neu ddwy i weinidog Siloam, beth bynnag. Yr argian fawr, medrai: 'doedd y dyn, pob parch iddo, ddim wedi dysgu sut i agor ei geg, heb sôn am ddim arall. Yr oedd yn rhaid i'r drwg dorri allan mewn geiriau, ac un canol dydd pan aeth Owen i'r llofft i edrych am ei daid, "Fuost ti ddim ar fy nghyfyl i drwy'r bora, naddo?" oedd cyfarchiad y claf. "Na neithiwr chwaith."

""Ron i'n ofni mai cysgu y basach chi gyda'r nos neithiwr, Taid, a bora 'ma . . ."

"Mi fuost yn poetsio efo'r Groeg 'na eto, mae'n debyg." "Do, mi fùm i yn nhŷ Mr. Morris am dros awr, ac wedyn "Mi fasa'n well o lawar dy fod di'n treulio d'amsar yn llunio pregetha' ac yn dysgu ymarfar dy lais. Os oes 'na ryw ddirgelwch ynglŷn ag adnod, 'does isio iti ond troi i Esboniad Kitto neu James Hughes neu . . ."

"Ond mae'n rhaid imi ddysgu Groeg a Lladin cyn y medra' i basio i fynd i'r Coleg, Taid."

"Pwy sy'n deud?"

"Calendar y Coleg, debyg iawn."

""Wyt ti'n siwr?"

"Ydw'. Mae gan Mr. Morris un."

"O." Yna'n amheus: "Wnest ti 'i ddarllan o trosot dy hun?"

"Do. Pam?"

"'Oedd o'n deud bod Lladin a Groeg yn orfodol?"

"Oedd."

"Hm... I'r mwyafrif efalla'."

"Naci, i bawb."

"'Tasa'r Prifathro Edwards yn gwybod pwy wyt ti... Mi füm i'n teithio yn yr un brêc â fo droeon, unwaith bob cam o Walchmai i'r Borth, ac mi ddaethon yn gyfeillion mawr. Wedi bod yn sefydlu rhywun tua Chaergybi yr oedd o y tro hwnnw, ac yn siarsio'r gweinidog, ymhlith petha' eraill, i gofio pregethu'n glir a hyglyw i bawb, nid myngial yn 'i farf un munud a gwichian tros y lle y munud wedyn, fel 'tai o'n droednoeth mewn drain."

Darlun angharedig o Ebenezer Morris, meddyliodd Owen.

"Ydi'r Post wedi dechra' rhedag?"

"Hiddiw meddan nhw, am y tro cynta' ers mis. Mae'r ffordd yn glir o'r diwadd."

"Sgwenna at y Prifathro 'ta'. Eglura pwy wyt ti—ŵyr i Owen Meurig, dywad wrtho fo—a gofyn gei di wneud Areithyddiaeth ne' rywbeth yn lle'r Groeg 'na, a... ac Esboniadaeth ne' Athrawiaeth yr Iawn yn lle cyboli efo Lladin."

"Dydyn nhw ddim yn debyg o newid gwaith y Coleg er fy mwyn i, Taid."

"Sgwenna di ato fo, 'rŵan. 'Owen Gruffydd,' medda' fo wrtha' i—pan oeddan ni yng nghyffinia' Llangefni, os ydw' i'n cofio'n iawn—'mae'r Cyfundab yn falch o amball ddyn digoleg fel chi. Yr ydach chi mor eofn wrth gyhoeddi negas yr Efengyl, y negas bwysicaf yn y byd, mor llawn o argyhoeddiad ac angerdd a huodledd. Fel Prifathro Coleg, mi fydda' i'n ofni weithia' fod rhai o'r myfyrwyr yn trio pregethu'n rhy ysgolheigaidd, wyddoch chi.' Sgwenna di ato fo, a dywad dy fod di wedi cael gwersi ar draddodi gan dy daid."

"Ond y mae'r Calendar yn deud yn bendant..."

"Sgwenna pnawn 'ma." Yna—ond ni wyddai Owen ai actio ai peidio ydoedd—rhoes ochenaid fawr o flinder, a chaeodd ei lygaid.

"O'r... o'r gora', Taid."

Ac ysgrifennodd Owen y prynhawn hwnnw—i ofyn am gopi o Galendr y Coleg. Derbyniodd y llyfryn gyda'r troad ac aeth i fyny i'r llofft ar unwaith i ddangos i'w daid y rhestr o destunau gorfodol. Prin yr edrychodd ef arni, dim ond gofyn, "Lle mae'r llythyr?"

"O, dyma fo. Llythyr neis iawn, Taid."

Cofiai'r Prifathro'n dda am y bore braf hwnnw o deithio heibio i ddolydd ffrwythlon Môn yng nghwmni diddan ei hen gyfaill Owen Meurig. Yr oedd yn wir ddrwg ganddo na chaniatâi rheolau'r Coleg i un myfyriwr osgoi Groeg a Lladin: petai eithriad yn bosibl, fe wneid un yn achos Owen Ellis. Ond os oedd yn y llanc y ddegfed ran o ynni a gallu ei daid, yna nid oedd angen poeni am ei ddyfodol, dim ond iddo gael cymorth rhywun i'w roi ar ben ei ffordd. Beth am ofyn help Mr. Ebenezer Morris, gweinidog Llan Feurig? Yr oedd ef yn ysgolhaig da ac yn frawd parod ei gymwynas.

Darllenodd yr hen ŵr y llythyr drosodd a throsodd, wrth ei fodd.

"Tasa' modd gwneud eithriad o gwbwl, chdi fasa' hwnnw," meddai. "Ond dyna fo, 'dydi hynny ddim yn bosibl. Mae'n rhaid i'r Prifathro ofalu am reolau'r Coleg, wyt ti'n gweld. Rheol ydi rheol, yntê?" Swniai'n bendant a therfynol, fel petai Owen newydd ddadlau i'r gwrthwyneb ac yntau'n mynnu'r gair olaf ar y pwnc.

"Ia, Taid."

"Pryd wyt ti'n mynd at Ebenezer Morris eto?" "Bora 'fory."

"O. Cofia fi ato fo, a dywad fy mod i'n ddiolchgar iddo fo am dy helpu di fel hyn."

"Gwnaf, Taid."

"Hm, mae'n rhaid fod cof y Prifathro'n dechra' mynd. Dyn cymharol ifanc hefyd. 'Bore braf,' medda fo. A hitha'n tresio bwrw y rhan fwya' o'r daith."

"Braf' mewn ystyr arall mae o'n feddwl, Taid-braf yn eich cwmni chi. 'Yng nghwmni diddan fy hen gyfaill Owen Meurig' medda fo wedyn, ynte?"

"Ia, fachgan, ia. Gyda llaw, mae 'na un wers yr ydw' isio iti dynnu o'r llythyr yma."

"A be' ydi honno, Taid?"

"Yr ysgrifen. Yr ydw' i wedi sylwi bod d'ysgrifen di yn dechra' magu rhyw gwafra' cynffon-mochyn mewn ambell air. Mae ysgrifen yn ddarlun o gymeriad, wyddost ti. Edrych ar hon: mae cadernid ac urddas y Prifathro ym mhob gair."

"Ydyn', Taid."

"Ond dos i lawr 'rwan. Mae hi'n oer iti yn y llofft 'ma, ac yr ydw' inna' am drio cysgu tipyn."

A chysgodd Owen Gruffudd, heb wybod mai Owen a luniodd y llythyr ac mai cadernid ac urddas Huw Rôb a oedd yn yr ysgrifen.

Cliriodd yr eira'n araf oddi ar y chwarel hefyd yn ystod yr wythnos ddilynol, a dringodd y chwarelwyr y Lôn Serth yn llon y bore Llun wedyn. Ar ôl chwech wythnos o segurdod, yr oedd pawb yn hynod gyfeillgar, fel petaent heb weld ei gilydd. ers blynyddoedd, ac nid o ddireidi'n unig y cofleidiodd ac y cusanodd Robin Ifans Huw Jones. Tu ôl i'r teimladau da a'r tynnu-coes mewn gwal a thwll a chaban, yr oedd mawr ryddhad gwŷr wedi hen 'laru ar ddiogi, llawer ohonynt wedi byw'n fain rhag syrthio i ddyled.

Aethai'r wythnos olaf heibio'n gyflym i Owen. Gweithiai ar Roeg a Lladin bob bore ac am awr ar ôl cinio, yna âi efo Huw neu Wil, neu'r ddau, am dro hyd y pentref neu am stelc at Ffowc y Saer neu Siôn Ifan y Crydd, dyn llwm, unllygeidiog, swta, a gasglai, er ei waethaf ei hun, lond gweithdy o ddoethion. clebrus ato bob dydd; wedyn treuliai awr ar yr Actau neu lyfrau'n ymwneud â phwnc yr Ysbryd Glân cyn mynd i'r capel am chwech. Wedi'r cyfarfod yno, rhaid oedd osgoi'r gweinidog a Huw a Dafydd a phawb arall—dim ond ar y Sul yr âi Wil ar gyfyl y capel—er mwyn medru sleifio allan ar ôl Mary. Swper, awr arall o ddarllen—â chôt fawr amdano a hen un i Ddafydd am ei goesau, ac yng ngolau cannwyll gan fod yr olew wedi gorffen yn siopau'r pentref—ac yna i'r gwely yn felys--flinedig, gan wybod bod diwrnod da o waith o'i ôl.

Er hynny, yr oedd yn falch o gael eistedd eto wrth y drafael ac o gael teimlo'i fod yn ennill ei damaid.

"'Ydan ni am fynd i'r Twll hiddiw, Lias Tomos?" gofynnodd Huw Jones cyn hir.

"Na, mae gynno' ni ddigon o glytia' yn y wal, ond oes, Huw?

Mae'r eira'n siŵr o fod yn drwm hyd lawr y fargen o hyd, wel'di.

A rhaid i mi droi adra' ganol dydd."

"Adra'? O ia, pnawn 'ma maen' nhw'n claddu hogyn Harri Hughes, yntê?"

"Ia. Iorwerth druan."

"Paladr o hogyn cry' fel Owen 'ma. Roedd o fel 'tai o'n gwella ddechra'r flwyddyn, ond oedd? Ne' dyna glywis i, beth bynnag."

"Oedd am dipyn bach, a Harri'n credu bod yr hen lysieuwr hwnnw sy'n dwad i farchnad Caer Heli wedi'i ddallt o .Ond ... Mi fûm i ar fy nhraed drwy'r nos efo fo droeon pan on i gartra', a'r un peth oedd ar 'i feddwl o bob tro. 'Mi ddo' i at y gwanwyn 'ma, Lias Tomos,' medda' fo. 'Mi ddechreua' i wella pan glywa' i lais oen bach, wchi.' A'r tro dwytha' y bûm i yno, "Glywsoch chi'r gog eto, Lias Tomos, 'glywsoch chi'r gog?" medda' fo. Mi fu bron imi â deud celwydd, ond yr on i'n ofni, gan mai gwanhau yr oedd o, y basa' fo'n colli ffydd yn 'i freuddwyd am y gwanwyn. 'Naddo, ddim eto, 'machgan i,' meddwn i, 'ond 'synnwn i ddim na fydd hi'n canu 'fory ne' drennydd.'"

"Mae'n anodd dallt petha', ond ydi? Ydi, wir, wchi."

"Ydi weithia', Huw. Ac eto... 'wn i ddim... mae salwch. Iorwerth wedi gwneud dyn o Harri Hughes. Un cas, rheglyd, ofer, oedd Harri druan, ond mi newidiodd yn llwyr pan aeth Iorwerth yn wael, a 'chafodd mab erioed fwy o ofal ar law 'i dad... 'Wn i ddim, 'wn i ddim ... Sut mae'r Groeg a'r Lladin yn dwad ymlaen, Owen?"

"O, yn o lew, wir, Lias Tomos."

"Groeg a Lladin? Yr argian fawr, 'wyt ti'n dysgu'r rheini, Owen?"

"Ydw', Huw Jones, ar gyfar mynd i'r Coleg."

"Diawch, pan eiff o i'r be'-ydach-chi'n-'i-alw-fo fis Medi, mi fydd o'n gwbod mwy na'r Sgŵl 'i hun, 'gewch chi weld, Lias Tomos. Ne' synnwn i ddim, beth bynnag."

""Dydw' i ddim am fynd i'r Bala fis Medi."

"Y?"

"Rydw' i am ddal ymlaen yn y chwaral am ddwy flynadd arall. Ne' dair efalla'."

A chymaint o bobl yn cael mwynhad wrth dynnu'i goes ac yntau wedi hen gynefino â gwenu'n ddoeth arnynt, gwenodd Huw Jones, ond gan wylio Owen rhag ofn ei fod o ddifrif. Gwelodd ei fod.

""Wyt ti'n meddwl hyn'na Owen?"

"Ydw'."

"Mi fyddi di efo ni am ddwy ne' dair blynadd eto?"

"Bydda', os ca' i, Huw Jones."

"Tad annwl, cei. Ond nid fel jermon fesul dydd... Lias Tomos?"

"Ia, Huw?"

"Mae'n ddechra' mis hiddiw, ond ydi?"

"Ydi, fachgan."

"Wel, os ydach chi'n cytuno, yr ydan ni'n dri phartnar of hiddiw ymlaen. Be' ydach chi'n ddeud?"

"Mae'n well i ti benderfynu'r matar yna, Huw."

"Fi? Pam fi?"

""Dydw' i ddim yn meddwl y medra' i ddringo'r Lôn Serth 'na'n hir iawn eto. Yr hen fegin wedi gwisgo, wel'di, ac yn deud, fel Esthar acw ers tro, fod yn bryd imi roi'r gora' i'r chwaral. Mi ddalia' i ymlaen tan ddiwadd yr haf os ca' i fyw, ac wedyn mi gaf fod yn ŵr bonheddig am dipyn."

"Wel, ia, hen laddfa ydi'r llwybyr 'na, mae'n rhaid deud," meddai Huw Jones wedi saib annifyr. "Mi fydd... mi fydd yn gollad ofnadwy inni ar eich ôl chi, Lias Tomos. Yr argian, bydd, yn y wal a'r bonc a'r chwaral i gyd, ond mi ddyla' iechyd ddŵad o flaen pob dim, on' ddyla'? A deud y gwir, mi fûm i'n synnu na fasach chi wedi ildio, fel y gwnaeth yr hen Ifan Ifans, cyn hyn, wchi. Ond mae'n rhaid i rywun fyw, ond oes? Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag."

"Oes, fachgan. 'Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol,' meddai'r Gwaredwr, yntê? Neu fel y gwelis i yn rhwla, 'Dyro inni heddiw fara yfory'-mymryn wrth gefn, rhag inni orfod treulio'n dyddia' yn pryderu byth a hefyd am betha' materol, darfodedig, ac anghofio . . ."

"Ia . . . Ia, wir, wchi. Ond be' am y trefniant newydd efo Owen 'ma? Yr ydach chi'n cytuno, ond ydach?"

"Wel, yr wyt ti'n ffeind iawn wrtho fo, Huw. Wyt, wir, fachgan."

"Twt, lol. Nid pawb fedar gael prygethwr yn bartnar, naci?" Ac ysgydwodd y dyn bach law ag Owen i selio'r fargen.

Yr un fyddai'r gwaith a wnâi'r "partner" ag a wnaethai'r "jermon," ond byddai'i gyflog yn awr, oni waethygai'r graig, tua deg swllt ar hugain yr wythnos. Oni waethygai'r graig- ond yr oedd ffordd o drin bargen, a phenderfynodd Owen wylio Elias Thomas yn ofalus bob tro yr aent i'r Twll. Byrbwyll, fe wyddai, oedd Huw Jones fel creigiwr. Ganwaith y clywsai ef yn dweud, "Yn fan'ma, yntê?" cyn dechrau tyllu, a'r hen flaenor yn nodio am ennyd ond â'i lygaid doeth yn chwilio am arwyddion "cefn" neu "droed" neu "grwb" yn y graig. "Ia, am wn i, wir, fachgan . . . Ond aros am funud. 'Fydda' ddim yn well inni danio dipyn yn uwch i fyny, dywad ?-i osgoi'r wnithfaen 'na. Mi fedrwn chwalu hon'na efo jelatîn yn nes ymlaen, on' fedrwn? Be' wyt ti'n feddwl, Huw?" "Wel, erbyn i chi sôn, Lias Tomos . . ." ildiai bob gafael i farn ei graffach.

Cerddodd Owen adref yn dalog yr hwyr hwnnw.

"Raid i 'Mam ddim pryderu am y rhent 'rŵan, Dafydd, faint bynnag fydd o," meddai wedi i Huw Jones ac Elias Thomas eu gadael. "Yr argian, rhwng y chwaral a phregethu mi fydda' i'n ennill arian mawr."

"Byddi, 'r hen ddyn, ond mi fydd 'u hangan nhw arnat ti i fynd i'r Coleg. A 'wyddost ti ddim . . . " Tawodd, mewn cyfyng gyngor.

""Wn i ddim be'?"

""Taet ti'n cael pwl o afiechyd ne' rwbath . . . "

"Fi?" Chwarddodd Owen yn uchel.

"George yn deud dy fod di'n edrach yn llwyd."

"Mi ddylwn gymryd tipyn o'r ffisig mae o'n gael tua'r Crown 'na."

"Rwyt ti wedi gweithio'n ofnadwy o galad tra buon ni gartra', wsti. Ac os ei di 'mlaen fel hyn . . . Piti na chaet ti fynd i'r Bala 'na fis Medi."

"Ond . . . "

"Dydi 'Mam na Thaid na finna' ddim yn licio'r hen beswch 'na sy gin' ti."

"Twt, tipyn o annwyd. Mi eiff o efo'r gwanwyn 'ma . . . Efo'r gwanwyn 'ma." Ailadroddodd y geiriau'n beiriannol, gan gofio'n sydyn mai rhai tebyg a fu ar dafod Iorwerth Hughes, Tai Gwyn.

"Rhaid iti gymryd gofal, Now bach. Mae'r iechyd mor bwysig â dim, wsti."

"Rwyt ti'n swnio'n union fel Huw Jones, Dafydd." A chwarddodd Owen eilwaith. Yna safodd ar y ffordd. "Clyw!"

"Be'?"

"Y gog. 'Oes gin' i bres yn fy mhocad? Oes, fachgan !" "Mae hi'n swnio'n o agos hefyd. Wrth yr eglwys, dywad? Yng nghoed y fynwent, mae'n debyg."

"Ia . . . Ia, yng nghoed y fynwent. Rhyfadd, yntê?" "Rhyfadd? Pam?"

Ond nid eglurodd Owen, dim ond dringo'r allt yn arafach, a'i feddwl ymhell.

Ar y Sadwrn olaf ym Mai yr oedd arholiad yr Ymgeiswyr am y Weinidogaeth, a rhoes Owen ei lyfrau eraill o'r neilltu am rai wythnosau cyn hynny . . . Ofnai iddo esgeuluso'r maes a thalu gormod o sylw i'r Roeg a'r Lladin, ond pan ddaeth y dydd. ac y rhoddwyd cwestiynau'r bore yn ei law yn festri Jerusalem, Caer Heli, gwyddai nad oedd angen iddo bryderu am y papur cyntaf, beth bynnag. Yr oedd pump o fechgyn eraill yn yr arholiad, ac wrth ochr Owen eisteddai llanc tew, pendrist, a'i gŵyn o lais yn orchestol o bregethwrol; yn wir, credodd Owen ar y cyntaf ei fod yn siarad trwy'i drwyn, ac yr oedd yn ddrwg ganddo trosto, a gyrfa gyhoeddus o'i flaen. Wedi'r deirawr o ysgrifennu, aeth y ddau am damaid o ginio gyda'i gilydd i dŷ- bwyta'r platiad-o-bys-am-rot. Jeremiah Roberts oedd enw'r llanc, a thrigai yn Aber Hen, chwe milltir i ffwrdd. Pan ddeallodd fod ei gydymaith yn ŵyr i Owen Gruffydd, mawr oedd ei barch iddo.

"Ych Taud wnaeth bregethwr ohona' u, wyddoch chu," meddai rhwng dwy lwyaid swnllyd o'r pys.

"O?"

"Gwrando arno fo'n pregethu rau blynyddoedd yn ôl yn Aber Hen acw blannodd y dyhead gyntaf yn fy nghalon u.

Y presenoldab brenhunol, yr huawdledd deufuol, y mô-ôr o lais . . . Esgwrn, rhau da ydu'r pys 'ma, yntê?"

"Ia, wir . . . Mi fydd 'nhaid yn falch iawn o glywad."

Llawciodd Jeremiah ei gyfran o bys am funud neu ddau cyn chwanegu, "Deudwch wrtho fo 'mod u'n cofio'r testun o hyd."

"Mi fydda' i'n siŵr o wneud."

"Y Proffwyd Amos, y chweched bennod, rhan o'r adnod gyntaf."

Swniai fel petai'n cyhoeddi'i destun cyn dechrau pregethu, ac edrychodd Owen o'i gwmpas yn bryderus, rhag ofn bod rhai of Lan Feurig yn yr ystafell. "Mi fydda' i'n siŵr o ddeud wrtho fo," meddai drachefn, gan obeithio y tawai'r llall. Ond crafai llwy Jeremiah waelod ei blât.

'Gwa-ae y rhai esmwyth arnynt yn Seuon". . . "

"Ia, testun da, testun da iawn," meddai Owen gan frysio i orffen ei blatiad yntau.

"Y ffordd yr oedd o'n deud y gair 'Gwa-ae'. . . "

"Ia, 'roedd gan fy nhaid lais. . . "

"Fel taran, fel y mô-ôr, mô-ôr o lais. 'Gwa-ae?' medda' fo. 'Yn Seu-ôn?" medda' fo. Dyna chi strôc yntê? 'Gwa-ae?" medda' fo. 'Yn Seu-ôn ?' medda' fo. . . "

"Ia. . . Ia." Teimlai Owen fod pob llygad arnynt, a phob clust yn gwrando. "Am hannar awr wedi un pnawn 'ma, yntê?" meddai, mewn ymgais i newid y stori.

"Yn Seu-ôn ?" medda' fo. Gwa-ae yn Seu-ôn?" medda' fo. 'Yr oeddwn u'n meddwl mau saun cân a moluant oedd yn Seu-ôn,' medda' fo, 'yr oeddwn u'n tybuo mau gweddu a mawl oedd u'w clywed yn Seu-ôn," medda' fo, 'yr oeddwn u'n credu mau dunas Dafydd, honno oedd Seu-ôn,' medda' fo, 'yr oeddwn u wedi darllen mau llawenydd yr holl ddaear oedd Seu-ôn,' medda' fo, 'mau mawr oedd yr Arglwydd yn Seu-ôn, ac mau yn Seu-ôn yr oedd 'u drugfa E-ef. Gwa-ae yn Seu-ôn ?" medda' fo."

"Ia. . . Wel." Gwthiodd Owen ei gadair yn ôl, gan feddwl codi.

"Yr oeddwn u wedu clywed,' medda' fo, 'yr oeddwn u wedu clywed llaus y Proffwyd Eseua'n cyhoeddu, Canys y gyfrauth a á allan o Seu-ôn, ac onud ar fynydd Seu-ôn y gwelodd Uoan yr Oen yn sefyll? Gwae-ae yn Seu-ôn ?' medda' fo."

Yn ffodus daeth y ferch a weinyddai arnynt heibio i'r bwrdd, ac amneidiodd Owen arni, i dalu'i ddyled.

"Platuad arall, 'ngharuad ddel u. Yr ydw' u bron â llwgu, calon."

"Golwg hynny arno fo, ond oes?" meddai hithau wrth Owen, wedi trem awgrymog ar ddwy neu dair gên Jeremiah. Yr oedd yn amlwg na hoffai ei galw'n "gariad" nac yn "galon" gan un mor dew.

"Gwyliwch rhag i chi fwstio," meddai hi pan ddychwelodd efo'r platiad. Neu mewn geiriau eraill, meddyliodd Owen, 'gwae y rhai esmwyth arnynt.'

"Esgwrn!" ebe Jeremiah wrth losgi ei dafod yn ei wanc. Llwyddodd Owen i'w gael i siarad am bethau eraill tros ei ail blatiad, am ei waith fel llwythwr llechi ar longau ym mhorthladd bychan Aber Hen, am drefnu llawer o'r llechi'n fath o gabanau ar gyfer teuluoedd a ymfudai ar y llongau hynny, am anturiaethau'r llongwyr mewn ystormydd, am gowcio a phygio a hwyliau a rhaffau, byd a bywyd na wyddai'r llanc o chwarelwr ddim amdanynt. Yna aeth y ddau am dro hyd ystrydoedd y dref ac i loetran ar y Cei cyn dychwelyd i'r festri ar gyfer yr ail bapur. Ni theimlai Owen fod hwnnw mor hawdd â'r llall,ond daeth ysbrydiaeth o dipyn i beth ac ysgrifennodd yn ddygn am y rhan fwyaf o'r amser.

"Mu awn nu am 'banad efo'n gulydd, yntê?" meddai Jeremiah pan ddaethant allan wedi'r ornest.

Ond yr oedd Owen i gyfarfod Mary ar y Maes am bump o'r gloch.

"Na, yr ydw' i... yr ydw' i wedi addo mynd adra'." Pam y dywedodd gelwydd, ni wyddai, onid ofnai i Jeremiah awgrymu triawd glwth yn un o'r tai-bwyta gerllaw. A rhywfodd, fel i bob meddwl ifanc arall yn Llan Feurig, rhywbeth lladradaidd oedd serch, llechwraidd yn ei hanfod.

"O, mu ddo' u efo chu at y brêc 'ta'."

"Na, ewch chi i gael tamaid yn rhywla. Mae... mae arna' i isio galw mewn siop ne' ddwy."

"Twt, mae gen' u ddugon o amsar. Pa suopa'?"

"Y... y farchnad, yn un lle."

I'r farchnad â hwy ac aeth Owen yn syth at stondin yr hen lysieuwr wrth y drws.

""Nhaid yn cwyno," meddai.

Tynnodd yr hen frawd ei drwyn o'r llyfr a darllenai.

"Tewch!" meddai, mewn syndod.

"Efo'i. . . efo'i stumog," eglurodd Owen. Ni hoffai sôn am y kidneys.

"Poen yn 'i fol?"

"Ia."

"Yr hen loddestwr. Gwynt?"

"Ia."

"Teimlo fel swigan?"

"Ia."

"A!" Estynnodd baced o lysiau i Owen. "Teirgwaith y dydd, ar ôl bwyd. Grot. . . Diolch." A chydiodd eto yn ei lyfr.

"Dyma i chi le da i gael te," meddai Owen wrth ei gydymaith fel yr aent heibio i dŷ-bwyta wrth y farchnad.

"Na, mu ddo' u u'ch danfon chu at y brêc."

"Ond yr ydw' i isio galw yn. . . mewn amryw o siopau."

"Popath yn dda, popath yn dda. Dum brys, dum brys."

Prynodd Owen binnau-gwallt i'w fam, crib i Fyrddin, a'r 'Genedl' i Ddafydd, ac arhosodd ei gyfaill ffyddlon Jeremiah fel plisman tu allan i bob siop. Nid oedd dim amdani ond cymryd arno redeg am y brêc.

"Rhaid imi roi ras 'rŵan," meddai pan ddaeth allan o'r siop bapur-newydd.

"Mu ro' u ras efo chu."

Ac i ffwrdd â'r ddau ar garlam i'r Maes, ddeng munud cyn amser y brêc.

Yn ffodus, nid oedd Mary ar y Maes, ac ysgydwodd Owen law a'i ffrind cyn dringo i'r cerbyd.

"Dum brys, dum brys," ebe hwnnw, gan lenwi pibell enfawr.

""Glywsoch chu bregath John Wulluams Brynsuencyn ar Balaam mab Beor?"

"Naddo, wur, wchu," ebe Owen, a'i lygaid yn gwylio pob ffordd a arweiniai i'r Maes. Prin y gwyddai fod doethineb mawr yn ei lais.

"Esgwrn, dyna u chu bregath! Gorffenedug! Gorffen- edug! Balaam, er mwyn plesuo Balac, brenun Moab, yn penderfynu melltuthuo Usrael. . . "

Yr argian fawr, ai llond y lle o rai fel hyn a fyddai yn y Bala? Yr oedd yn well ganddo gwmni George Hobley a Robin Ifans a Huw Jones ganwaith, heb sôn am Huw Rôb a Wil Cochyn. "Cofia dy fod di'n wyr i mi," oedd cyngor Owen Gruffydd iddo unwaith. "Un gwyllt, fel matsen, oedd dy daid, wsti, ac mae'n bosib' fod cryn dipyn o'r hen ddyn yn dy berfadd ditha"." Na, petasai hynny'n wir, fe fuasai'n wa-ae ar Jeremiah Roberts ers meitin.

"Yr oedd ganddo fo dru phen. Yn y lle cyntaf, Balaam yn petruso. Yn yr aul le, Balaam. . . "

"O, mi glywis i am y bregath honno," meddai Owen yn frysiog, gan wadu'r gwirionedd eilwaith. "Wel . . ." A gwnaeth osgo dringo i'r brêc.

"Ond 'chlywsoch chu mo'r bregath sy gan Prytherch y Gopa ar Ddydd y Farn," ebe Jeremiah yn fuddugoliaethus. "Naddo, wir."

"Naddo. Yn y Sowth y clywus u hu. Aros efo Job, 'mrawd."

"O, Job ydi enw'ch brawd ?"

"Ua. A 'Nhad hefyd."

"O."

Llanwai'r brêc, a chyfarchai Owen rai o'r bobl a âi iddo, Mrs. Ebenezer Morris yn eu plith.

"Wel. . . "

"Dugon o le, dugon o le. . . 'Gofyn dau gwestuwn u Ffydd a wnawn nu'r prynhawn 'ma,' medda' fo. 'Yn gyntaf, Pa fath ddydd fydd Dydd y Farn, Ffydd? Yn ail, Pa beth sydd gennyt tu unnu ar gyfer Dydd y Farn, Ffydd?'"

"Ia, go dda. Wel. . . "

"Dydd Duw fydd Dydd y Farn, medda Ffydd, yn atab u'r cwestuwn, cynta'. Dydd Duw fydd Dydd y Farn'..." Mae'n bryd imi..." "Ia. "Ac yn atab i'r aul gwestuwn mae o'n clywad Ffydd yn subrwd bod ganddu hu addewud ar gyfar y Farn. 'Roedd 'na Farn arall wedu bod yn hanas y byd, medda' fo. Barn y Dulyw, Duw'n boddu'r byd.

"Oedd. Rhaid imi fynd. Maen nhw'n barod i godi'r grisia'."

Ond safodd Jeremiah wrth ochr y cerbyd, gan godi'i ben a'i lais i ddiweddu'r gân.

""Mae'r glaw yn dusgyn,' medda' fo, 'a ffynhonna'r dyfnder yn rhwygo,' medda' fo, 'y dyfroedd yn codu a'r bloda' a'r planhuguon yn cael'u cudduo, y coed yn duflannu,' medda' fo, 'a'r bryniau a'r mynyddoedd o'r duwedd yn mynd o'r golwg,' medda' fo. 'A dyna dduwedd popath, bobol?' medda' fo.

'O, nage. . .'

Ond cychwynnodd y brêc cyn iddo roi Noa a'i deulu a'i filodfa yn yr arch. Cododd Owen ei law arno, yn ddigamsyniol o derfynol, ond sefyll ei dir a wnaeth Jeremiah, gan chwifio'i bibell mewn ffarwel hamddenol, hir. Nid oedd golwg o Fary, ond pan nesâi'r brêc at geg y stryd a arweiniai i ffordd Llan Feurig, gwelai Owen hi'n brysio tua'r Maes. Gwelodd hithau yntau, safodd, rhythodd heb ddeall yr arwyddion a wnâi, a gwyliodd ef a'i ystumiau yn diflannu heibio i'r tro. Yna aeth yn ei blaen yn araf, mewn dryswch llwm. Hogyn rhyfedd, meddai Mrs. Ebenezer Morris wrthi'i hun, gan ddyfalu pam yn y byd y rhoddai'i gŵr air mor dda iddo. Ond aeth yr hogyn yn un rhyfeddach fyth iddi ymhen ennyd. pan neidiodd ef allan o'r brêc a rhedeg am ei fywyd yn ôl tua'r Maes. Ond dyna fo, un tebyg oedd 'i daid o, Owen Gruffydd, yntê? Ac am y taid arall, y Dafydd Ellis hwnnw!. . .

Rhag iddo daro ar Jeremiah eto, aeth Owen â'i gariad i'r tŷ bwyta mwyaf ffasiynol yn y dref. Hwn oedd y tro cyntaf i'r ddau fod yng Nghaer Heli gyda'i gilydd, a theimlent yn yswil wrth ddringo'r grisiau i'r ystafell-de.

"Mi fydd hwn yn lle drud ofnadwy, Owen," meddai Mary'n nerfus.

"O, 'wn i ddim. 'Fydd y creadur 'na o Aber Hen ddim yma, beth bynnag."

Ond yno yr oedd, wrth fwrdd bychan yn ymyl y drws, a phlatiad enfawr o bysgodyn a chips o'i flaen. Brysiodd Owen heibio iddo a dewis bwrdd wrth y ffenestr, gan eistedd â'i gefn at ei gyd-ymgeisydd am y Weinidogaeth. Daeth gweinyddes atynt ar unwaith.

"Be' gymwch chi, Mary?"

"Rhwbath. Dewiswch chi."

"Na, chi sy i ddewis."

"Yr un fath â chi."

"Bara brith?"

"Ia, bara brith, Owen." Yr oedd y syniad yn un ysbrydoledig.

"Bara brith, os gwelwch chi'n dda, a ... a bara-'menyn a .. jam, Mary?" "Ia, jam, Owen."

"Jam, a chacan ne' ddwy... Diolch yn fawr."

"A the, mae'n debyg ?" gofynnodd y forwyn. "O, ia, te. Bron imi anghofio'r te." A chafodd y ddau y peth yn ddigrif i'w ryfeddu.

Ond wedi i Fary, yn nerfus iawn, dywallt y te, ciliodd yr yswildod a cheisiai'r ddau ymddwyn fel petaent yn hen gynefin â bwyta mewn lle o'r fath.

"'Dydach chi ddim wedi sôn am yr arholiad, Owen. 'Oedd y papura'n rhai anodd iawn?""

"Nac oeddan', wir. Un y pnawn 'ma oedd yr anodda', ond mi wnes i'n o lew, yr ydw' i'n meddwl. 'Roeddwn i'n disgwyl amryw o'r cwestiyna' yn y papur ges i'r bora. Yr union rai yr oedd Taid yn 'u herfyn."

"Mi fydd Huw ni wrth 'i fodd."

"Huw?"

"Mi ddaeth adra' o'r chwaral ganol dydd fel 'tai o, ac nid chi, oedd yn ista'r arholiad. 'Sut mae o'n bwrw drwyddi, tybad?" medda' fo dro ar ôl tro amsar cinio, ar biga'r drain. 'Roedd o a Wil am bicio i'r dre pnawn 'ma—'i'r hen hogia' gael te efo'i gilydd,' medda' fo, 'a mynd â Now i'r Syrcas, i goblyn, wedyn.' Ond pan ddalltodd o fy mod i'n dŵad i siopa tros Miss Roberts. . ." Gwridodd. ""Panad arall, Owen?"

"Diolch, Mary. Wir, mae'r te 'ma'n dda, ond ydi?"

"Mi ddeudodd 'i fod o am fynd i ryw 'steddfod ne' rwbath yn Llan Eithin."

"Ddaru . . . 'ddaru'ch mam ama'?"

""Wn i ddim. 'Chymerodd hi ddim arni, beth bynnag . . .

Triwch y deisan gyraints 'na."

"Na, chi bia' hon'na."

"Na, chi."

"Hannar bob un 'ta"."

"Na... O, o'r gora'." A chafwyd hwyl fawr yn torri'r deisen yn deg.

"Yr argian, mae'r hogyn 'na o Aber Hen yn bwyta !" meddai hi ymhen ennyd.

"Pam ydach chi'n cochi, Mary? 'Ydi'r Jeremiah Roberts 'na'n eich llygadu chi ?"

"Roedd o funud yn ôl, ond mae o'n rhy brysur yn bwyta 'rŵan. Creadur powld ydi o, yntê?"#

"Mi ro' i 'bowld' iddo fo os na chymar o ofal."

"A chitha'n mynd yn brygethwr !" meddai hi gan wenu. Ond yr ennyd nesaf taflodd olwg hyll tua'r drws.

"Ydi o wrthi eto?"

"Nac ydi."

"Pam oeddach chi'n edrach mor gas?"

"Y llall, wrth y bwrdd nesa' ato fo... Na, peidiwch â throi'ch pen... Hogyn gwallt gola', swanc ofnadwy. Yn wincio arna' i, os gwelwch chi'n dda, a hogan arall efo fo!"

Mynnodd Owen gael un edrychiad cyflym tua phen arall yr ystafell, a phan aeth ymlaen â'i fwyd, gwelai Mary fod rhywbeth rhyfedd wedi digwydd iddo. Yr oedd ei wyneb yn welw a'i lygaid yn galed a chrynai'r llaw a ddaliai'r cwpan.

"Be' sy, Owen?"

"Mae arna' i isio gair efo'r bôi yna."

"Pwy ydi o?"

""Welsoch chi mo gariad Enid, naddo, Mary?"

"Naddo."

"Dim ond unwaith y gwelis inna' fo. Y noson honno yn ffair Bryn Llwyd."

"A dyna fo?"

"Ia."

"Mae o'n codi i fynd, Owen."

Cododd Owen yntau a brysiodd tuag ato.

"Esgusodwch fi."

"I beg your pardon."

"Mi siaradwn ni Gymraeg." A chymerodd afael yn ei fraich i'w arwain dipyn o'r neilltu.

"Look here, my good fellow..."

"Brawd Enid ydw' i. Ym mh'le mae hi?"

"Be' wni?"

"Mi aethoch i Lundain efo hi, ond do?"

"Wel?"

"I fyw'n fras ar yr arian oedd gynni, mae'n debyg. Lle mae hi?"

"Unwaith eto, be' wn i?"

Caeodd bysedd Owen yn dynn am ei fraich a gwelai ef yn gwingo.

"Yn Llundain?"

"S gin' i ddim syniad."

"'Ydi'i drecsiwn hi gynnoch chi?"

"'Rydach chi'n brifo 'mraich i, os ydi hynny o ryw ots."

"O ddim ots. 'Ydi'i drecsiwn hi gynnoch chi ?"

Gwyrai'r ferch ffasiynol a oedd gyda Herbert ymlaen gan glustfeinio, a cheisiai Jeremiah ddal y geiriau—yn ei geg, a barnu oddi wrth y ffordd yr agorai honno.

"'S gin i ddim syniad lle mae hi. 'Rydw' i wedi gorffan efo hi ers misoedd."

"Wedi gorffan efo hi? Oni bai amdanoch chi mi fasa' Enid yma yng Nghaer Heli o hyd."

Cilwenodd Herbert cyn ceisio troi ymaith. "Pan fyddwch chitha' wedi blino ar y ferch fach ddel 'na..."

Ond ni orffennodd y frawddeg. Saethodd dwrn Owen i ganol ei wyneb, hyrddiwyd ef yn ei ôl yn erbyn y mur, ymollyngodd ei goesau fel rhai dyn meddw dano, ac eisteddodd yn syfrdan ar y llawr a'r gwaed yn llifo o'i geg. Yn araf a simsan, heb wybod yn iawn ym mh'le'r oedd, gwnaeth ymdrech arwrol i godi, ond suddodd yn ôl i'r llawr drachefn a'i goesau ar led. Camodd Jeremiah rhyngddo a chosb fwy.

"Esgwrn, Ellus, 'ydach chu'n sylweddolu... ?"

Ni orffennodd yr ymgeisydd am y Weinidogaeth ei frawddeg chwaith. Landiodd yr un dwrn dan ei ên yntau ac aeth drwy berfformiad tebyg i un Herbert, ond bod y symudiadau olaf dipyn yn fwy "gorffenedug" efallai. Yna dychwelodd Owen at Mary, gan geisio anwybyddu'r cynnwrf wrth bob bwrdd yr âi heibio iddo. Ond sylwodd ar un dyn bach nerfus yn cydio'n frysiog yn ei het ac yn galw'n daer am ei fil.

"Mi ddyla' bod cwilydd arnach chi !" Yr oedd Mary'n gas yn ei dychryn.

"Dowch, mi awn ni o' 'ma."

"Mi faswn i'n meddwl, wir."

Ysgubodd dynes fawr addurnedig, perchen y lle, drwy'r ystafell atynt.

"Be ydi meaning peth fel hyn?" gofynnodd yn chwyrn.

"Mae'n . . . mae'n ddrwg gin' i."

"Ddrwg gynnoch chi ! Ddrwg gynnoch chi! Mi ddylwn. alw policeman i mewn. Y jail ydi lle rhai fel chi . . . Y bil iddo fo, Marjorie . . . And don't you show your face here again."

Aethant allan, Mary gan guddio'i hwyneb, Owen gan edrych mor ddidaro ag y medrai. Pan gyrhaeddodd y ddau y stryd, troes hi i'r dde tua'r Maes.

"I b'le'r ydach chi'n mynd, Mary?"

"At y brêc."

"Ond yr argian fawr . . . "

"Ych taid yn dwad allan ynoch chi, mae'n debyg."

"Gwrandwch, Mary . . . "

"Y ddau daid, o ran hynny." A brysiodd o'i flaen drwy'r bobl a lanwai'r palmant.

Ar y Maes, safodd y ddau'n fud ond anniddig i aros am y brêc, er na chychwynnai'r nesaf tan saith o'r gloch.

"Gwneud hen sioe ohonoch ych hun mewn lle fel'na."

Ni ddywedodd Owen ddim yr oedd yn well gadael i'r storm glirio'r awyr.

"Mi fydd sôn amdanach chi."

"Bydd," mewn edifeirwch mawr.

"Dydach chi ddim ffit i fod yn brygethwr."

"Nac ydw'," yn yr un dôn.

"Nac ydach."

"Nac ydw"."

Ai chwarae â hi yr oedd? Ond edrychai'n ddifrifol ddigon.

"Be' . . . be' ddeudodd o am ych chwaer?" gofynnodd ymhen ennyd.

"Dim o bwys . . . 'Dydach chi ddim am fynd yn ôl ar y brêc nesa', Mary?"

"Ydw' . . . 'Wyr o ym mh'le mae hi ?"

"Na wyr. A 'does dim ots gynno fo. . .Ylwch, Mary, mi fydd raid inni aros yma am dros awr."

"Be' wnaeth i chi 'i hitio fo fel'na?"

"Ac mi fyddwn gartra' hannar awr wedi wyth."

"Be' wnaeth i chi 'i hitio fo fel'na?"

""Wn i ddim. Gollwng stêm ar ôl yr arholiad, mae'n debyg... 'Fydd Huw ddim gartra' tan un ar ddeg, 'gewch chi weld."

"Na fydd efalla'." A chymerodd ddiddordeb mawr mewn rhyw henwr dwys a ddringai gadair gerllaw i geisio ACHUB y Maes.

""Faswn i ddim wedi'i daro fo oni bai iddo sôn amdanach chi.”

"Fi ?"

""Pan fyddwch chitha' wedi blino ar y ferch fach ddel 'na ...' medda' fo."

"O?... Wel?"

""Chafodd o ddim cyfla i ddeud gair arall."

"Mi faswn i'n meddwl, wir!... Ond pam oeddach chi'n taro'r llall mor hegar ?"

"Mi ges i lond... ddigon ar y bôi hwnnw drwy'r dydd.

Ac 'roedd ynta' wedi bod yn eich llygadu chi, ond oedd?"

Bu tawelwch rhyngddynt am dipyn, ac yna torrodd hi allan i chwerthin yn uchel. Rhythodd yr henwr dwys yn ffyrnig arni.

"Be' sy, Mary?"

"Yr olwg arnyn' nhw ! 'Roeddan' nhw fel dau ddyn. meddw yn ista' yn erbyn y wal."

"Oeddan'. A choesa' Herbert druan allan fel. . ." "Fel siswrn mawr Miss Roberts !"

"Cymhariaeth gwniadrag i'r dim, yntê? . . . Diawch,

mae hi'n braf i lawr wrth y môr heno, yr ydw' i'n siŵr."

"Ydi, mae'n debyg."

"Wel? . . ."

"Wel. . ."

Yr oedd gair yn ddigon i gall.

𝒫𝑒𝓃𝓃𝑜𝒹 8

Y DREFN, yr Iawn, Etholedigaeth, Prynedigaeth, Cadwedigaeth trwy Ras, trwy Ffydd, a geiriau cyffelyb—bron nad aethent yn angof bellach, meddyliodd yr hen weinidog. Llithrasent fel dail yr hydref ar afon y blynyddoedd, i'w cludo ymaith gyda'r llif. Yr hydref . . . yr hydref.

Ai yn hydref crefydd y magwyd ef? A bod yn onest, ychydig a olygai'r ymadroddion hynny iddo, llai fyth i'r mwyafrif a adwaenai yn y capel a'r chwarel. Crinddail oeddynt, ac oddi tanynt yr afon ddiymdrech, ddi—stŵr, yn treiglo'n hamddenol i'r gwyll.

Wedi'r hydref, y gaeaf a'i niwl a'i oerfel a'i foelni a'i ystormydd . . . Yr oedd Siloam yn awr heb weinidog, a dim ond dyrnaid a ddôi yno ar fore Sul a noson waith, ychydig mwy ar nos Sul, pobl mewn oed bron i gyd. Capel hardd . . . capel hardd. Diar, yr oedd o'n cofio amser . . . Ysgydwodd yr hen ŵr ei ben yn llwm.

Diolch na welodd yr hen Elias Thomas mo'r dadfeiliad hwnnw. Ac eto, hyd yn oed yn y dyddiau pell hynny, yr oedd yr ysgrifen ar y mur . . . Oedd, yn nifaterwch Wil Cochyn a llanciau tebyg, yn nhriciau Myrddin i osgoi mynd i'r capel, yn amheuaeth a gwawd ambell un fel Rhiannon Morris. Ia, yn Rhiannon efallai yn fwy na neb . . .

Ymhen tua deng niwrnod ar ôl arholiad yr Ymgeiswyr am y Weinidogaeth, derbyniodd Owen lythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cyfarfod Misol i'w hysbysu iddo fod yn llwyddiannus ac yn gofyn iddo pa gwrs pellach y bwriadai ei ddilyn. "Amgauaf gopi o restr Arfon, Llŷn ac Eifionydd fel y cyhoeddir hi yn y rhifyn nesaf o'r 'Goleuad'," meddai'r llythyr. "Gwelwch mai eich enw chwi yw'r ail arni, a phleser digymysg yw eich hysbysu i'r arholwyr roddi canmoliaeth uchel iawn i'ch gwaith yn y ddau bwngc." Sylwodd Owen nad oedd enw Jeremiah Roberts yn y rhestr o gwbl.

Wel, dyna'r arholiad yna drosodd unwaith ac am byth, meddyliodd. Yr oedd y ffordd yn glir o'i flaen yn awr. Galwai i weld Mr. Roberts yr athro, i ofyn am ei gymorth efo rhai o'r testunau, Mathemateg a Saesneg yn arbennig, a daliai i bydru ar y Roeg a'r Lladin bob cyfle a gâi. Rhaid iddo astudio'n galetach nag a wnaethai'n ddiweddar: rhywfodd, ac yntau heb fod yn cyrraedd adref o'r chwarel tan hanner awr wedi pump a'r nosweithiau braf yn ei wahodd wedyn i grwydro efo Mary hyd lethrau'r Fron neu wrth lan yr afon, ychydig iawn o sylw a roesai i'w lyfrau ers dyddiau lawer. Ailgydiai ynddynt heno nesaf.

"Brysia tros dy swper-chwaral iti gael newid a mynd i ddangos y llythyr i Mr. Morris y gweinidog," meddai'i fam. "Ond Taid, nid Mr. Morris, ddaru fy helpu i efo'r arholiad yna, 'Mam."

Pesychodd Owen Gruffydd braidd yn bwysig. "Ia," meddai, "ond mae'n well iti alw ym 'Mryn Myfyr' yr un fath, wel'di. Mi fydd o'n teimlo os bydd rhywun arall yn torri'r newydd iddo to. Mae amball un dipyn yn groen-dena", wsti."

"Ac wedyn mi gei fyd i dŷ Lias Tomos," ebe'i fam. "Mi fydd yr hen ŵr wrth 'i fodd."

Wedi iddo ymolchi a newid, brysiodd Owen i dŷ'r gweinidog. Rhainnon, y ferch, a atebodd y drws, ac arweiniodd ef i'r parlwr. "Mr. Jones, Sardis, newydd alw i weld Daddy," meddai.

"Ond 'fydd o ddim yn hir, mae'n debyg."

"Pryd daethoch chi adra', Rhiannon?"

"Neithiwr."

"Y Coleg wedi torri?"

"Ddim eto. Mi fethis i fynd ymlaen efo f'ecsams, ac mi baciodd y Doctor fi adra'. Niwsans, yntê?"

"Be' oedd yn bod? Wedi gorweithio?"

"Ia, medda'r Doctor. Y nerves." A chwarddodd, gan geisio ymddangos yn ddiofal. Ond sylwodd Owen fod ei hwyneb yn llwyd iawn a'i symudiadau'n anniddig.

"Rhaid i chi gymryd gofal. Mae'r iechyd mor bwysig å dim, wchi." Bu bron iddo ag ychwanegu, "Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag."

Chwarddodd hi eto. "Lle mae'ch locsyn chi?" gofynnodd.

"Locsyn?"

"Ia. "Rydach chi'n swnio yr un fath yn union â Daddy...

Dwad i wneud tipyn o Greek ydach chi heno?"

"Naci, dim ond i ddangos llythyr ges i oddi wrth Ysgrifennydd. y Cyfarfod Misol yn deud imi lwyddo yn arholiad yr Ymgeiswyr." Tynnodd ef o'i boced.

"O, da iawn, Owen. 'Ga' i 'i weld o?"

"Cewch, 'nen' Tad."

Gwyliodd hi yn ei ddarllen. Nid oedd hi chwarter mor ddel a'r ferch y syrthiasai Wil Cochyn ac yntau a bechgyn eraill mewn cariad â hi ers talm. Aethai'n denau, yn llym yr olwg, gwisgai sbectol, a chlymai'i gwallt syth yn belen ddiramant tu ôl i'w phen. A siaradai'n bendant, gan dorri'r geiriau'n gwta, fel ysgolfeistres yng ngŵydd plant. Na, ni ddrylliai Rhiannon lawer o galonnau bellach.

"Ia, wir, da iawn, Owen. A be' fydd yr ecsam nesa'?"

"Yr arholiad i fynd i'r Coleg, ymhen dwy flynadd ne' dair." "At hwnnw yr ydach chi'n dysgu'r Greek a'r Latin?"

"Ia. A rhaid imi weithio ar Saesneg a Chymraeg a Maths a..."

"Maths? Dim Science?"

"Na, 'dydi Science ddim yn un o'r testuna', diolch am hynny."

"Diolch am hynny? Pam?"

"Wel, cyfla sâl sy mewn lle fel Llan Feurig . . . "

"O." Syllodd drwy'r ffenestr, a gwên braidd yn fingam ar ei hwyneb.

"Pam ydach chi'n gwenu, Rhiannon?"

"Dim ond bod gin' i bee in my bonnet ar y mater yna. Mi ddyla' pob pregethwr astudio Science." Swniai'n ddeddfol ar y pwnc.

"O? Pam, deudwch?"

"Ydach chi wedi darllan Darwin?"

"Darwin? Naddo, wir, wchi."

"'The Origin of Species'? Descent of Man'?"

"Naddo."

"Na Daddy chwaith, er imi ddŵad â'r ddau iddo fo o Lundain. Mae o'n gwrthod 'u darllan nhw. None so blind as he that will not see, yntê?" Chwarddodd wrth ychwanegu. "Y Beibil ydi'i lyfr o, ac mae o'n 'i goelio fo bob gair!"

Ai mwgwd oedd y pwl hir o chwerthin? Teimlai Owen fod ei llygaid yn ei wylio, fel petai hi'n chwarae ag ef. Clywsai ganwaith fod Rhiannon Morris yn "hogan ofnadwy o beniog," ond ni welsai ef ddim anghyffredin ynddi pan ddigwyddasai daro arni ar y ffordd neu wrth y capel a sôn am ei hiechyd neu'r tywydd neu gryd-cymalau'i mam. Ond yr oedd arno'i hofn. yn awr, a gwrandawai'n astud gan obeithio bod gweinidog y Bedyddwyr yn cychwyn ymaith o'r ystafell nesaf, y stydi. "Ydach chi'n cofio 'Rhodd Mam'?" gofynnodd hi, gan chwerthin eto.

"Ydw', debyg iawn."

""O ba beth y gwnaeth Duw y ddaear?" Gofynnodd y cwestiwn mewn llais dwfn, pregethwrol, ac yna gwnaeth lais plentyn yn adrodd ar goedd wrth ateb, "O ddim."" A'r un modd gyda "Mewn pa faint o amser y gwnaeth efe bob peth? 'Mewn chwe diwrnod.""

Ni ddywedodd Owen ddim, ond teimlai'r gwrid ar ei wyneb

a'r gwaed yn curo yn ei dalcen. Yr oedd y cellwair hwn yn ei ddychrynu, yn... yn rhywbeth aflan.

"A'r 'Hyfforddwr'?"

"Ydw', wrth gwrs."

"'O ba beth y gwnaeth Duw Efa?' 'O asen Adda tra yr oedd ef yn cysgu.'! Wel, wir! 'Tasach chi'n clywad Mr. Radcliff ar betha' fel yna!"

"Mr. Radcliff?"

"Dyn sy'n aros yn yr un tŷ â fi yn Llundain. Lecturer mewn Geology."

"O... 'Ydi... 'ydi'ch tad yn gwbod am y syniada' yna sy gynnoch chi?"

"O, mae Daddy'n hopeless. Hopeless! But he's a dear all the same. 'Rydw i'n siarad am bob dim ond crefydd efo Daddy.

Ac yn edrach mor solemn ag y medra' i yn y capal... Mi ro' i fenthyg llyfra' Darwin i chi, ac mae gin' i un o rai Huxley ac un . . ."

"Dim, diolch yn fawr, Rhiannon." Cododd Owen i gychwyn ymaith.

"'Oes arnach chi 'u hofn nhw, Owen ?"

Yr oedd y wên fingam ar ei hwyneb eto, yn watwar ac yn her. Chwarddodd yntau, gan ddiystyru'r cwestiwn a symud tua'r drws.

"Mi alwa' i cyn capal nos 'fory i weld eich tad."

"'Oes arnach chi 'u hofn nhw, Owen?"

Gwyddai ef mai'r ateb oedd "Oes." Yr oedd ef, fel ei thad, yn credu'r Beibl i gyd-bron i gyd, beth bynnag, ac 'roedd ganddo ddigon i boeni yn ei gylch heb ddechrau brwydro yn erbyn amheuon fel y rhai a oedd yn ei meddwl hi. Pam na rôi'r "bitsh bach" lonydd iddo?

"Ac mae'n debyg eich bod chi'n credu bod pob iaith wedi dŵad o Dŵr Babel? Ac mai effaith y Dilyw ydi'r fossils sy yn y creigia' 'ma? Ac mai..."

"Mi ddarllena' i'r llyfra' 'na pan fydd gin' i fwy o amsar, Rhiannon. A 'rŵan, rhaid imi fynd. Mae arna' i isio mynd cyn bellad â'r Tai Gwyn i weld Lias Tomos."

"Yr hen Lias druan!" A chwarddodd hi'n dosturiol wrth feddwl amdano.

Caledodd llygaid Owen. Petaet ti'n Herbert neu'n Jeremiah Roberts, 'ngeneth i, meddai wrtho'i hun, 'fuasai'r wên yna ddim ar dy wyneb di'n hir iawn.

"Y tro dwytha' yr on i gartra', 'roedd yr hen Lias un noson. yn y Seiat yn trio dangos mor hen oedd y byd. Chwe mil o flynyddoedd, medda' fo! Chwe mil o flynyddoedd! Ac wedyn mi ddechreuodd sôn am y Dilyw a Jona'n casglu'r ani— feiliaid i'r arch . . . "

"'Ron i'n meddwl mai Noa adeiladodd yr arch."

"O ia, dyn y morfil oedd Jona, yntê? . . . 'Ron i isio gofyn iddo fo sut y medrodd Noa gael lle i'r eliffant a'r giraffe a'r . . . "

"Ydach chi'n 'nabod Lias Tomos, Rhiannon ?" Yr oedd ei lais yn crynu er ei waethaf.

"I 'nabod o? Be' ydach chi'n feddwl?"

"Dim ond 'mod i wedi gweithio yn yr un wal â fo ers chwe blynadd."

"Wel?" Ceisiai wenu ond methai.

"Ac wedi'i gael o'n Gristion ac yn sant drwy'r amsar. Pan oedd y graig yn un dda a phan oedd gwnithfaen yn rhedag drwyddi. Ar dywydd braf a phan oedd o'n gorfod troi adra'n gynnar, yn wlyb at 'i groen ac yn crynu yn yr oerfal."

"O, fair play, 'doeddwn i ddim yn

"A chrefydd a'r Beibil sy wedi'i wneud o yr hyn ydi o . . .

'Ydi Mr.— be' oeddach chi'n 'i alw fo, hefyd? . . . "

"Mr. Radcliff?"

"Ia. 'Ydi Mr. Radcliff yn byw'n fain weithia' er mwyn medru cyfrannu'n o lew at achosion da?"

"Dydi Mr. Radcliff ddim yn mynd ar gyfyl capal." Swniai fel petai hynny'n rhoi urddas ar y gŵr.

"Mae 'na achosion da tu allan i'r capal, ond oes?"

"Oes, ond yn Llundain . . . "

"Yn enwedig mewn lle fel Llundain, 'faswn i'n meddwl . . .

'Ydi Mr. Radcliff yn aros ar 'i draed y nos weithia' efo rhywun sål, fel y bydd yr hen Lias Tomos yn amal? Ydi Mr. Radcliff . . . ?"

Ond agorodd y drws a daeth y gweinidog i mewn atynt. "O, dyma chi, Owen! Yr oeddwn i'n meddwl mai . . . ym . . . chi glywais i'n curo gynna'. Ddrwg gen' i i chi orfod aros cyhyd. Ond mae Rhiannon wedi'ch cadw chi'n ddiddig, yr ydw' i'n siŵr."

"Ydi, diolch, Mr. Morris. Sgwrs ddiddorol, ddiddorol iawn, wir."

"Da iawn . . . Hylô, o b'le daeth y rhain, Rhiannon?"

Edrychai ar hanner dwsin o afalau a oedd ar y bwrdd. "Ydi pobl wedi . . . ym . . . dechrau clywed yn barod eich bod chi'n sâl?"

"Ydyn', mae'n amlwg. 'Fala' cadw o ardd yr hen . . ."

Arhosodd hi ennyd gan wrido.

"Yr hen Lias Tomos, yr ydw' i'n siŵr," ebe Owen, gan wenu arni.

"Ia." Ond ni wenai'n ôl.

Er hynny, ei feddwl ef ac nid ei meddwl hi a oedd yn fawr ei gynnwrf.

"Campus, Owen, campus," meddai Ebenezer Morris wedi iddo ddarllen y llythyr yn y stydi. "Ia, wir ; ia, wir. Yr wyf yn falch dros ben, dros ben—er fy mod i'n . . . ym . . . gwybod ymlaen llaw."

"O?"

"Mi ddigwyddais daro ar . . . ym . . . un o'r arholwyr, y Parch. Esmor Jones, ar blatfform Caer Heli y Sadwrn dwytha'. Y safon yn uchel, yn uchel iawn, medda' fo . . . A 'rŵan . . . ym . . . y cwrs yr ydych am ei ddilyn. 'Roedd y Parch. Esmor Jones a minnau'n . . . ym . . . cytuno y dylech chi fynd i'r Ysgol Ragbaratoawl."

"Ond yr ydw' i wedi penderfynu . . . "

"Ydych, mi wn, ydych. Ond yr wyf yn gobeithio eich bod yn barod i . . . ym . . . ailystyried. Pan oeddach chi gartia'n segur yn ystod y tywydd oer y daethoch chi i'ch . . . ym. penderfyniad, onid e? Pan oedd y dydd ar ei hyd gennych i . . . ym . . . lafurio ynddo. Ia . . . ia . . . "

"Mi fedra' i weithio tan hannar nos yn iawn heb flino." Sylweddolodd ei fod yn swnio'n herfeiddiol, fel petai'n siarad â Rhiannon o hyd ac nid â'i thad.

"A chodi wedyn yn y bore bach? Na, 'wnaiff hynny mo'r tro o gwbl, ddim o gwbl. Mens sana in corpore sano, meddai'r hen Rufeiniaid, onid e? 'Meddwl iach mewn . . . . ym . . . corff iach.' Ia. . .ia."

"Mi ga' i help Mr. Roberts yr Ysgol efo'r Mathematics a'r Saesnag, yr ydw' i'n siŵr, ac os bydd rhaid, mi fedraf aros gartra' am ryw fis cyn yr arholiad, on' fedraf?"

Safai'r gweinidog yn anniddig wrth y ffenestr, a'i gefn at Owen. Troes yn awr a cherddodd i'w gadair gan fwmian, "Ia . . . Ia, wir." Yna ymwrolodd.

"Mae materion . . . ym . . . personol yn rhai anodd i'w trin. Ydyn' . . . ym . . . anodd iawn, ac yr wyf yn gobeithio y maddeuwch imi am . . . Pam ydych chi mor benderfynol ?"

"Wel, yr ydw' i'n meddwl y medra' i basio . . . "

"Medrwch, ar draul eich iechyd, ar draul eich iechyd."

"Ac mae . . . mae arna' i isio profi y gall hogyn o chwarelwr . . . " Tawodd, heb wybod yn iawn pa beth yr hoffai ei brofi. Ar y sgwrs a gawsai yn yr ystafell nesaf yr oedd ei feddwl.

"Amcan cymeradwy, cymeradwy iawn. Ond . . . ym . . . mi wyddoch fod y rhan fwyaf o'r myfyrwyr yn medru cynnal eu hunain—wel, bron iawn, beth bynnag—drwy bregethu?"

"Ydyn', ond ydyn'?" Mater dibwys oedd hwnnw, meddai tồn ei lais.

"Yr oedd y Parch. Esmor Jones a minnau'n . . . ym . . . cytuno y byddech chi, ond i chi gael dwy flynedd yn yr Ysgol Ragbaratoawl . . . "

"Tair, yntê, Mr. Morris?"

"Tair yw'r cwrs arferol. Yr oeddym ni'n cytuno—ac fe wrandawai'r Parch. Ellis Edwards ar ein . . . ym . . . argymhelliad —y byddai dwy flynedd yn ddigon i chi, ac y byddech chi'n weddol sicr wedyn o basio i'r Coleg. Ac os mai mater o . . . ym . . . fodd sy'n rhwystr, y mae ffyrdd i . . . ym . . . "

"O na, nid hynny, nid hynny o gwbwl, Mr. Morris. Yr ydw' i'n greadur go ystyfnig, mae arna' i ofn, yr un fath â 'nhaid. Unwaith yr ydw' i wedi penderfynu profi rhwbath i mi fy hun . . . " A chwarddodd fel y codai i gychwyn ymaith.

Aeth y gweinidog gydag ef i'r drws ffrynt, ac oedodd yno'n ei wylio'n cerdded yn dalog i lawr y stryd. Hm, anodd gwybod beth i'w wneud. Yr oedd Elias Thomas a Richard Owen mor bendant fod yr amgylchiadau'n . . . ym . . . gyfyng yn Nhyddyn Cerrig . . . Anodd iawn . . . anodd iawn.

"Y cnafon dichellgar!"

"Pwy, Taid?"

"Tacla'r Fall!"

"Pwy?"

"Yr hen lymgwn!"

Nos Fercher tua phythefnos yn ddiweddarach ydoedd, a rhythai Owen Gruffydd yn chwyrn i'r copi o'r "Faner" a gawsai Owen gan Mr. Roberts yr athro. "Mae isio boddi'r giwed," chwanegodd.

"Y Toris 'na, ia?"

"'Y Toris 'na, ia ?' Paid â swnio fel 'taet ti'n sôn am bobol Tai Gwyn neu ddynion Ponc Rowlar. Ia, y Toris 'na. A Chamberlain a'i Ryddfrydwyr Undebol hefyd."

"Be' maen' nhw wedi'i wneud, Taid?"

"Gwneud! Gwneud! Chdi a'th Fathematics a'th hen Saesnag! Wedi taflu'r Llywodraeth allan, dyna be'. Llywodraeth dda hefyd, er mai siawns sâl gafodd hi, a'r hen Dŷ'r Arglwyddi 'na'n gwrthwynebu pob mesur. 'Ron i'n licio'r Arglwydd Rosebery fel Prif Weinidog, mae'n rhaid imi ddeud, er 'i fod o mor wahanol i'r hen Gladstone ac yn rhedag ceffyla' yn y Darbi a phetha' felly. Cael 'i tha flu allan 'rŵan, 'rŵan o bob adag! A mesur Dadgysylltiad wedi cael ail ddarlleniad ! A Dirprwyaeth y Tir wrthi'n paratoi'i adroddiad! A Dewisiad Lleol a diwygiad Dirwestol yn yr arfaeth! A hogia' fel Tom Ellis a Lloyd George a Herbert Roberts yn barod i herio galluoedd yr hen Arglwyddi 'na a gyrru'u Tŷ nhw'n bendramwnwgl os bydda' raid! 'Rwan! 'Rŵan o bob adag!"

"Be' sy wedi digwydd, Taid?"

Aethai Owen Gruffydd yn ŵr cignoeth ers tipyn bellach, yn arbennig er pan ddechreuasai Owen astudio Mathemateg a Saesneg yn ogystal â Groeg a Lladin. Ni wyddai ef ddim am y testunau hynny, a theimlai'n ddig wrth weld ei wyr yn llithro'n fwyfwy o'i afael ef. Ffrwydrai ar yr esgus lleiaf, a ffrwydrodd yn awr.

"'Waeth gin' i pa mor glyfar wyt ti mewn Mathematics a Saesnag a phetha' felly. Ddim hyn'na." A chleciodd ei fawd. "Os wyt ti'n meddwl bod rheini'n mynd i dyfu'n rhyw fath o gicaion Jona uwch dy ben di . . . "

"O, chwara' teg, Taid, 'chlywis i ddim sôn am y Lecsiwn tan bora ddoe yn y chwaral . . ."

"Y?"

"Chlywis i ddim . . . y . . . Fel y gwyddoch chi . . . "

"Bora ddoe ddeudist ti?

Bora ddoe? A soniaist ti ddim. gair wrtha' i neithiwr. Oni bai i Wil Llefrith ddigwydd crybwyll y peth bora 'ma... Hy, yr ydw' i fel pelican yr anialwch a dylluan y diffeithwch yn y lle 'ma."

"Wel... y... mi wyddoch ar gymaint o frys yr on i i fynd at Mr. Roberts am awr cyn y Seiat. A phan ddois i adra' o'r capal, yr oeddach chi'n hwylio i'ch gwely, ond oeddach?"

"Tyt!" Sorrodd, gan syllu i'r grât a dechrau ymgomio ag ef ei hun ac â chynulleidfa ddychmygol. "Beth sy'n mynd i achub Cymru, meddwch chi? O, Mathematics a Saesnag. Fe fu amsar pan oedd hi'n fraint cael brwydro tros Ryddfryd- iaeth a Dirwest a buddiannau'r werin ac yn erbyn yr hen Eglwys- wyr 'na. Do, wchi, ond 'rŵan, Mathematics a Saesnag. Trin figura' a gwybod yr iaith fain, hynny sy'n bwysig, bobol. 'Synnwn i ddim na fydd 'na argyfwng yn hanas Cymru 'rŵan ar ôl yr Etholiad 'ma. Ond na phoenwn; mae gynno' ni Fathe- matics a Saesnag, ond oes? Efalla' y bydd yr hen Doris 'na, yn Arglwyddi a meistri tir a phersoniaid a bragwyr, yn ennill buddugoliaeth fawr. Ond na hidiwn: mewn Mathematics a Saesnag mae'n diddordab a'n hiachawdwriaeth ni. Efalla'..."

"Amdanach chi yr oeddan' nhw'n sôn yn y caban awr ginio hiddiw, Taid." Honno, meddyliodd Owen, oedd y ffordd orau i atal y llif.

"O?"

""Piti na fasa' Owen Gruffydd yn 'i nerth,' meddan' nhw. 'Mi rôi o Doris iddyn' nhw!' Benja Williams yn eich cofio chi'n gafael yn yr hecliwr hwnnw wrth 'i golar a phen ôl i drowsus..."

"He ! He, he !" Chwarddodd uwch yr atgof; yna ffromodd drachefn fel y rhythai eto ar y papur. "Dadla' ynghylch yr arian i'r Fyddin yr oeddan' nhw, a chan nad oedd y peth yn bwysig, ychydig oedd yn y Tŷ. Ond dyna bob cadno o Dori ac Undebwr yn sleifio i mewn, amryw drwy'r drws cefn, pan ganodd y gloch. Y tacla' digydwybod! Cenhedlaeth gwiberod!"

Ond gwr llesg oedd yr hen wrthryfelwr mwyach, a suddodd yn ôl i'w gadair yn flinedig. Ac yno y bu raid iddo aros, yn gwrando o hirbell bob hwyr ar leisiau croch yn cyhoeddi mai William Jones oedd y gora', y gora', y gora', y G-O-O-RA. Sylwai pawb mor anniddig ydoedd, fel ci methedig yn ffroeni'r helfa ac yn gynnwrf i gyd, ond yn rhy wan bellach i ymuno â'r cyrch. Er bod y tywydd yn braf, ni chaniatâi'r meddyg iddo fynd i'r cyfarfodydd a gynhelid yn yr ysgol, neu ar y codiad tir wrth yr eglwys. Byddai'n siŵr o flino ac oeri yno, meddai, ac yr oedd hynny'n berygl bywyd iddo; ond y gwir reswm oedd y gwyddai'r Doctor Williams mai ar y llwyfan yn ymfflamychu y ceid ef ped âi cyn belled. Felly, gorfu i Owen Gruffydd fodloni ar lunio areithiau ysgubol yn y tŷ a'i ddychmygu ei hun yn eu traddodi â holl angerdd a hwyl ei ddyddiau gorau.

Tan y noson honno pan alwodd William Jones, yr Ymgeisydd Rhyddfrydol, yn Nhyddyn Cerrig.

Nos Wener ydoedd, a phan gyrhaeddodd Dafydd ac Owen y pentref o'r chwarel yr hwyr hwnnw, rhuthrodd Myrddin atynt yn gyffrous allan o Manchester House.

"Mae o yn tŷ ni," meddai.

"Pwy?"

"William Jones. I weld Taid."

Ac yno yr oedd, yn y gegin, yn taflu'i ben hardd i fyny wrth chwerthin yn galonnog am ben rhywbeth a ddywedasai Owen Gruffydd wrtho. Dyn gweddol dal, tenau, sydyn, ydoedd, a'i wallt du wedi'i gribo'n ôl yn llyfn a'i farf gringoch wedi'i thorri'n ofalus. Yr oedd, meddyliodd Owen, yn tynnu at ei ddeugain oed, ond gwnâi'r llygaid gleision llawn chwerthin iddo ymddangos lawer yn ieuangach y munud hwnnw. Pan giliodd y chwerthin ohonynt ac y cododd ef i ysgwyd llaw â'r ddau chwarelwr, sylwodd Owen mor dreiddgar oedd y llygaid hynny. "Yr ydw' i wedi clywad llawar amdanoch chi, hogia'," meddai. "Yn nhŷ'r Parch. Ebenezer Morris. Yno yr ydw' i'n aros heno . . . Ond ewch chi at y bwrdd. 'Rydach chi isio bwyd, mi wn, ac mae 'ogla' bendigedig ar y lobscows 'na."

"Mae croeso i chi gael platiad efo nhw, Mr. Jones," meddai Emily Ellis.

"Dim, diolch yn fawr, Mrs. Ellis. 'Does dim llawar er pan ges i de efo Mr. a Mrs. Morris a'r ferch." Clywsai Owen lawer amdano yntau o dro i dro ymhlith ei gydweithwyr, yn arbennig y flwyddyn gynt pan bleidleisiwyd ar ei enw fel Ymgeisydd Rhyddfrydol. Clywsai am ei huodledd a'i ynni a'i ddysg, ond cofiai hefyd i'w wrthwynebwyr ei alw'n "anffyddiwr" ac yn "bagan" a phethau tebyg, gan atgofio byd a betws iddo gael ei ddiaelodi o gapel Cymraeg yn Llundain am ei fod, meddent hwy, yn anuniongred fel athro Ysgol Sul, yn beirniadu'r Beibl, yn gwenwyno meddwl yr ifainc. A oedd gwir yn y cyhuddiad, tybed? A oedd ef, fel Rhiannon Morris, yn cael hwyl am ben yr Ysgrythur ac am ben hen grefyddwyr fel Elias Thomas? Na, ni allai dyn â llygaid mor ddidwyll, mor onest, mor eiddgar, fod yn euog o bethau felly. Os ydoedd yn anuniongred . . . ond ni hoffai Owen feddwl am hynny.

"O, ac un o Fôn ydach chi felly ?" ebe Owen Gruffydd, yn ailgydio yn y sgwrs.

"Ia, o Langefni. 'Wyddoch chi am yr ardal?"

"Gwn yn iawn. Mi fùm i'n pregethu yno droeon."

""Fuoch chi'n cerddad hyd ffordd Pen Mynydd o Langefni?"

"Do, 'nen' Tad, lawar gwaith." "'Roeddach chi'n mynd heibio i'r Ceint Bach, lle ganwyd fi. Ond bu 'nhad farw pan oeddwn i'n ddim ond teirblwydd oed, ac fe symudodd fy mam wedyn i fyw yn Llangefni."

"O . . . Ac ymhlith y doethion tua Rhydychan 'na yr ydach chi 'rwan ?"

"Ia, ers rhai blynyddoedd, ac yn Llundain cyn hynny."

"Tewch! 'Fydd dim hiraeth am yr hen wlad arnoch chi weithia', deudwch?"


"Bydd, wir, yn o amal. Yn enwedig am y bobol syml, garedig, grefyddol, y magwyd fi yn 'u plith. Mae gwerin Cymru'n un ragorach lawar na gwerin Lloegar, wyddoch chi."

"Wel, mi gewch gyfla i wasanaethu'r werin honno 'rŵan."

"Os llwydda' i i fynd i mewn, yntê?"

"Llwyddo? A'r chwarelwyr yn un corff o'ch plaid chi? Gwnewch debyg iawn. Mae petha' wedi newid erbyn hyn, a'r hen ofn wedi cilio."

"Ofn y meistri? 'Wn i ddim."

"Mae 'na gynffonwyr yn aros, ond ychydig ydyn nhw bellach, o gofio fel yr oedd petha' yn y chwareli 'ma ugain a hyd yn oed ddeng mlynadd yn ôl. Diar, cyn y Balot Act 'doedd. Etholiad yn ddim ond gwatwareg noeth. Mi fydda' Jones-Parry, ac weithia' yr hen Feyricke 'i hun, wrth y bwrdd yn gwylio ac yn gwrando, a thruan o'r gweithiwr a beidiai â dŵad i fotio neu a rôi bleidlais i'r Rhyddfrydwr."

"Fel y gwyddoch chi o brofiad, Mr. Gruffydd."

"Ia, ond 'fu petha' ddim yn wir ddrwg arna' i, fel ar ugeinia' o rai eraill. Pam, 'wn i ddim, os nad oeddan' nhw'n gobeithio rhoi cwlwm ar fy nhafod i. 'Ches i mo'm troi i ffwrdd o'm. gwaith, a 'doeddwn i ddim yn talu rhent i Meyricke, diolch am hynny. Ne' yn y 'Mericia ne' Awstralia ne' rywla y baswn i ers blynyddoedd lawar."

Cododd William Jones i gychwyn ymaith. "Roedd yn wir ddrwg gin' i glywad am eich afiechyd chi," meddai, "ac na fyddech chi yn y cyfarfod heno."

"'Tawn i'n cael fy ffordd, mi faswn ym mhob cyfarfod," ebe'r hen ŵr yn chwyrn. "Ond mae'r Doctor yn gwahardd imi fynd allan gyda'r nos. Yr hen Dori bach!"

"Pam ydach chi'n deud hynny, Taid?" gofynnodd Dafydd.

"Be' ydi o 'ta'?"

"Wn i ddim, wir. 'Dydw' i ddim yn meddwl bod gan y Doctor Williams ddiddordab mewn gwleidyddiaeth."

"Paid di â bod mor siŵr, 'machgan i. Mae'r Torïaid 'na'n rhai cyfrwys, wsti. 'Rydw' i'n cofio'r hen Ddoctor Jones, oedd yma o'i flaen o, yn rhoi coes Ifan Morgan, Llwyn Bedw, mewn splints am wythnos amsar Etholiad. Ac 'roedd Ifan, y Rhyddfrydwr mwya' penboeth yn y lle 'ma, yn sicr mai dim ond tipyn o gryd-cymala' oedd ar 'i goes o. 'Synnwn i ddim nad ydi'r Doctor Bach 'na yn fy nghadw inna' . . . "

"Lol botas," meddai Dafydd.

Chwarddodd William Jones, ac yna ysgydwodd law a'r hen ŵr. "Rhaid imi fynd," meddai. "Mae arna' i isio galw mewn un neu ddau o lefydd eraill cyn y cyfarfod."

"Gwyn yw'ch byd chi," ebe Owen Gruffydd, gan ddal ei afael yn ei law. "Ymladdwch, ymladdwch dros Gymru yn y Senedd 'na. Beth bynnag fydd y Llywodraeth, Rhyddfrydig neu Dori, fe ddaw mesur ymreolaeth i Iwerddon ymlaen ynddi. Brwydrwch trosto fo â'ch holl egni, ac wedyn gweithiwch dros fesur tebyg i Gymru. A dynion ifainc fel Tom Ellis a Lloyd George a chitha' yn y Tŷ, yr ydw' i'n gweld cyfnod newydd yn agor yn hanes yr hen wlad. Bendith arnoch chi, 'machgan i, bendith arnoch chi."

"Diolch yn fawr." Ysgydwodd law â'r fam ac â Dafydd, ac yna gwasgodd law Owen yn hir. "I fyny bo'r nod, Owen," meddai. "Pethau i'w goresgyn ydi anfanteision, yntê? 'Work and go onward,' chwedl yr hen Garlyle."

Cychwynnodd Owen gydag ef tua'r drws, gan feddwl ei ddanfon at y ffordd, ond camodd Dafydd rhyngddynt. "Dos di i newid, Now bach," meddai. Mi â i cyn bellad â'r giât efo Mr. Jones."

"Na, mi . . ." "Dos, 'rŵan, 'r hen ddyn. Mae arna' i isio gair efo Mr. Jones. Am yr Undab."

"O, o'r gora', Dafydd."

Yn fuan wedi iddynt fynd allan rhuthrodd Myrddin i mewn o'r siop.

"Dew, mi fydd 'na le ar y Boncan heno," meddai.

"Pam?" gofynnodd ei daid.

"Pam! Maen' nhw'n cael cwrw'n rhad ac am ddim yn y Crown."

"Pwy?"

"Rhywun sy 'i isio fo. Ac wedyn maen' nhw'n mynd i'r cwarfod i godi twrw. Y Toris wedi gyrru dau faril i'r Crown pnawn 'ma, dyna glywis i."

Cododd Owen Gruffydd o'i gadair ac aeth at y ffenestr i rythu'n chwyrn tua'r pentref.

"Yn union fel nhw," meddai. "Tawn i ugain mlynadd yn 'fengach, mi faswn yn mynd i'r hen dafarn 'na ac yn 'u chwipio nhw allan fel y gyrrodd y Gwaredwr y cyfnewidwyr o'r Deml."

"Peidiwch chi â chynhyrfu, 'rŵan, 'Nhad," ebe'i ferch wrtho. "Dowch i'ch cadair. A chyda llaw, mae'n amsar i chi gael eich ffisig."

"Ffisig! 'Dydw' i ddim isio ffisig y Tori bach. A chan feddwl, lliw y Toris sy arno fo. Teflwch o i'r cŵn."

"Rwan, Taid," ebe Owen. "Mae o'n gwneud lles i chi, mae'n rhaid i chi gyfadda'."

Dychwelodd yr hen ŵr gan rwgnach i'w gongl, yfodd y ffisig, ac yna suddodd yn ôl i'w gadair i gysgu tipyn. Cyn hir, aeth ei dri ŵyr ymaith yn dawel tua'r cyfarfod, a chludodd ei ferch y llestri i'r gegin fach i'w golchi. Agorodd y 'cysgwr' ei lygaid, cododd, cydiodd yn ei het a'i ffon, a sleifiodd ar flaenau'i draed o'r tŷ.

Gwnâi'r Boncen, codiad tir ychydig islaw'r eglwys, le gwych i gynnal cyfarfodydd yn yr awyr agored. Ar ei gwaelod yr oedd llwyfan wastad o graig, o flaen honno ris llydan lle gosodid cadeiriau i'r hen a'r methedig, ac yna dringai'r llechwedd las yn raddol tuag ysgwydd y bryncyn. Cariai llais yn rhyfeddol o rwydd a chlir i fyny'r llethr.

Pan gyrhaeddodd y tri brawd y cyfarfod, yr oedd y Cadeirydd, Ifan Morgan, Llwyn Bedw, wrthi'n dadlau'n chwyrn dros Fesur Tir a roddai i amaethwyr sicrwydd daliadaeth, rhent teg, ac iawn am y gwelliannau a wnaent ar eu ffermydd. Hen ŵr bychan ysgwâr, rhyfelgar, ydoedd, a wisgai glôs pen-glin ac uwchlaw iddo fwnci-siaced drwchus. Yr oedd ei wyneb yn goch a'i lais yn ofnadwy o gras. Gwyddai Owen yn dda pan oedd yn ieuangach am ddychryn y llais hwnnw. "Dowch yma, y diawliaid bach, imi gael eich blingo chi'n fyw," oedd y cyfarchiad a glywai Huw Rôb a Wil Cochyn ac yntau ers talm pan fentrent dros neu drwy glawdd un o gaeau Llwyn Bedw. Ni chofiai i un ohonynt erioed dderbyn y gwahoddiad, er taered ydoedd, a dysgodd cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o blant ei gwrthod mor ddisylw ag yr oedd modd. Bellach, ei fab John a ddaliai Lwyn Bedw, ac fe'i mwynhâi'r hen Ifan ei hun yn bygwth blingo rhai o'i gyd-Gynghorwyr ar bwyllgorau'r Cyngor Sir. Chwifiai'i ddyrnau a bloeddiai yn awr wrth sôn am y Mesur Tir, ac yn reddfol, drwy rym arferiad, troes Owen ei ben ymaith, gan hanner-fwriadu ei gwadnu hi am ei fywyd. Ond yn lle dianc, cydiodd yn gyffrous ym mraich Dafydd. "Yr argian, yli, Dafydd, yli!"

Yn araf, ar bwys ei ffon, dringai Owen Gruffydd y ffordd tua'r Boncen.

"Dos i nôl un o'r cadeiria' 'na sy o flaen y llwyfan, Now bach. 'Waeth inni heb â thrio'i droi o'n ôl, wsti." A brysiodd Dafydd i lawr i'r ffordd.

Gan na ddringasai cyn belled ers tro byd, yr oedd yr hen ŵr yn falch o gael eistedd ar y gadair. Sychodd y chwys oddi ar ei dalcen gan anadlu'n gyflym, nodiodd braidd yn ffwndrus ar rai o'r bobl o'i gwmpas, a gwenodd tua'r llwyfan, lle codasai William Jones ei law mewn cyfarchiad. Tynnai Ifan Morgan at ddiwedd ei araith, ond yn y cynnwrf, yn lle ei gorffen yn daclus, galwodd ar "ein Hymgeisydd newydd, William Jones, Oxford," i annerch y dorf.

Mor rhwydd a diymdrech ei eiriau ! meddyliodd Owen: llithrent tros ei wefusau fel dŵr afonig drwy'r gro. Cytunai'r siaradwr â'r Cadeirydd ynglŷn â'r angen am y Mesur Tir: wedi'i fagu mewn ardal fel Llangefni, gwyddai'n dda am yr ansicrwydd a'r blinder a oedd ym meddwl llawer tyddynnwr a wariai'i elw ar wella'i dir. Heddiw, trwy lafur ac aberth, graen ar ffermdy ac anifail a chae a chlawdd: yfory, trwy drachwant neu fympwy'r perchennog, codiad yn y rhent neu orchymyn i ymadael. Yr oedd rhyw fath o sicrwydd yn hanfodol i fywyd, mor hanfodol â sylfaen i adeilad. Sicrwydd daliadaeth mewn tyddyn, sicrwydd cyflog mewn chwarel. Croesawai â'i holl galon y Ddirprwyaeth Dir a apwyntiwyd ddwy flynedd. ynghynt, a phan gyhoeddai'i hadroddiad, fe frwydrai ef, os câi'r cyfle, dros bob gwelliant a ysgafnhâi faich y tyddynnwr ac a ddileai ofn a phryder o'i fywyd. Ymladdai hefyd tros sicrwydd cyflog i'r chwarelwr.

"Y mae'n rhaid i feistr a Llywodraeth a phawb,' 'meddai, "gydnabod gwerth ac urddas y gweithiwr. 'Ddaw hynny ddim ar ddamwain, ohono'i hun, drwy ddisgwyl amdano fel am law neu dywydd braf. Rhaid i'r crefftwr syml a'r llafurwr cyffredin fagu nerth i fedru sefyll yn gadarn dros eu hawliau a'u rhyddid, heb ofni codi'u llais dros yr hyn sy deg a chyfiawn. Nerth? Mewn undeb y mae nerth, meddai'r hen air, onid e? Aeth ugain mlynedd heibio bellach er pan sefydlwyd Undeb y Chwarelwyr, ond er gwaethaf ei hanes clodfawr a'i ymdrechion dros y gwan a'r gorthrymedig, y mae'r rhagfarn yn ei erbyn mor fyw ag erioed.

"'Wn i ddim a glywsoch chi'r stori honno am hen wraig yn ymyl Llangefni 'cw. 'Dda gin' i mo'r Wesleaid 'na," meddai hi wrth hen flaenor pan oeddan' nhw ar 'u ffordd o'r capel un nos Sul. 'Maen' nhw'n credu mewn cwymp oddi wrth ras.' 'Nac ydyn', Margiad Jones,' meddai yntau. 'Deud y maen' nhw nad oes 'na ddim cwymp oddi wrth ras.' "Dydi o ddim ots gin' i,' meddai hitha'. "Dda gin' i monyn' nhw.' . . . "

Chwarddodd pawb, ond troai amryw eu pennau i gyfeiriad y ffordd a arweiniai o'r pentref. Nesâi sŵn lleisiau croch a meddw, yn rhuo clodydd yr Ymgeisydd Torïaidd: "Si la si ba, Si la si basa, Côr-a-bela, côr-a-bela, Sing, ting, a-ringa, Proff. Hughes ydi'r gora', Proff. Hughes ydi'r gora', Y gora', y gora', y GO-O-RA'."

Cyn hir daeth y fintai o wŷr herfeiddiol, a George Hobley a Robin Ifans a Wil Cochyn yn eu plith, i'r golwg heibio i dro yn y ffordd. Aeth William Jones ymlaen â'i araith, gan godi'i lais, ond anodd oedd hoelio sylw'i gynulleidfa bellach, ac ymhen ennyd tawodd i roi cyfle i'r bagad o feddwon ddewis eu lle ar y llethr o'i flaen.

"Mae myrdd o welliannau y rhaid eu dwyn i fywyd y gweithwyr," meddai, "ac fe frwydra'r Blaid Ryddfrydol i'w sicrhau nhw. Byrhau'r diwrnod gwaith, gwell tai, addysg ragorach i'r plant, iawn am niweidiau, blwydd-dâl i'r hen a'r methedig . . . "

"Cweshtiwn!" gwaeddodd Robin Ifans. "Gin' i gweshtiwn." Cododd y Cadeirydd i'w dawelu. "Mi gei gyfla i hynny ar y diwadd," meddai.

"O, chwara' teg, Mishtar Morgan. Dim ond un cweshtiwn, dim ond un bach." Swniai Robin fel petai ar fin torri i wylo.

"Ar ddiwadd y cwarfod a dim munud cynt," ebe Ifan Morgan yn gadarn.

Dechreuodd Robin feichio crio, ac yna o'r tu ôl iddo, o enau Wil Cochyn, daeth cri plentyn yn torri'i galon yn lân. Ceisiodd eraill yn y fintai greu nadau tebyg, ac ni châi bygythiadau cras Ifan Morgan un dylanwad arnynt, er iddo cyn y diwedd anghofio mai ar lwyfan yr oedd ac addo blingo'r diawliaid yn fyw.

"Gadewch iddo ofyn 'i gwestiwn," sibrydodd William Jones wrtho.

"O'r gora'," bloeddiodd y Cadeirydd. "Un cwestiwn. A dim ond un."

Tawelodd y cynnwrf, a phesychodd Robin yn bwysig.

"Mae arna' i ishio gwbod," meddai, "pa un ydi'r enwad pwyshica'—y Weshleaid, yr Annibynwyr, y Batush, y Methodishtiaid, ne'r Milishia."

Chwarddodd ei gymdeithion yn groch gan bwnio'i gilydd yn eu hafiaith, a daliasant i ruo chwerthin tra galwai'r Cadeirydd yn ofer am osteg. Yr oedd yn amlwg nad oedd y cwestiwn a'r chwerthin ond ystrywiau i wastraffu amser.

Tynnodd Owen Gruffydd ei het a rhoes hi i Fyrddin i'w dal, cododd o'i gadair a cherddodd yn araf i'r llwyfan. Sibrydodd rywbeth wrth Ifan Morgan, nodiodd hwnnw, ac yna troes i wynebu'r dorf. Yn urddasol o lonydd a syth, a'i law i fyny a'i doreth o wallt arian yn chwarae yn yr awel, edrychai fel un o broffwydi Israel gynt. Ond yn lle dicter yr oedd gwên yn ei lygaid.

"Pwy ddaru ofyn y cwestiwn yna?" gofynnodd yn y distawrwydd anniddig.

"Fi," atebodd Robin Ifans yn sur.

"Aros di, nid mab Ishmael Ifans wyt ti, dywad?"

"Ia."

"O... Wel, yr hyn sy'n fy nharo i ydi bod y gofyniad yn un anghyflawn. Mae o'n sôn am y Wesleaid a'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr a'r Hen Gorff, ond yn gadael un enwad allan.

'Rhoswch chi, pa enwad oedd Ishmael Ifans yn perthyn iddo— heblaw'r 'Crown'?"

"Y Batus," gwaeddodd rhywun.

"Naci, yr Eglwys," llefodd un arall.

"Mae 'na ryw gamsyniad yn rhywla, ond oes? 'Dydw' i ddim yn meddwl y medrai hyd yn oed Ishmael berthyn i'r ddau enwad, wchi." Ymddangosai Owen Gruffydd fel petai mewn penbleth fawr, ac apeliodd ei lygaid at hen wr bychan o'r enw Gruffydd Ifans—"Guto Môn" a'r "Batus Mawr" ar dafod yr ardal a eisteddai ar y gris o flaen y llwyfan. Yr oedd ef yn frawd i'r diweddar Ishmael Ifans ac yn ewythr i Robin.

"Mae gynno fo ryw sgîm, Dafydd," sibrydodd Owen.

"Oes, yr hen lwynog. Gyrru Gruffydd Ifans i ben Robin. efalla'. Mae'r 'Batus Mawr' yn un pigog ofnatsan, wsti. Fel draenog."

Gan ei fod yn drwm iawn ei glyw bellach, ni wyddai Guto Môn beth a âi ymlaen, a bu raid i rywun weiddi yn ei glust:

"Ishmael, eich brawd—i ba enwad yr oedd o'n perthyn?"

"Perthyn? Brawd. Fi'n frawd iddo fo a 'fynta'n frawd i minna'." A nodiodd a gwenodd Gruffydd Ifans yn fuddugoliaethus ar bawb o'i gwmpas ac o'i flaen.

"Naci, pa enwad, pa gapal?"

"Ishmael? Mi ddaru droi at yr hen Eglwys 'na, 'ffeio fo.

Nodiodd ei ben eto, ond yn ffyrnig y tro hwn, fel petai'n herio Owen Gruffydd i feiddio pechu yn yr un modd.

"O," ebe'r Holwr, "dyna eglurhad ar y dryswch. Ishmael wedi canfod y goleuni, bobol, ac wedi gwrando ar lais 'i gydwybod... 'Rhoswch chi," aeth ymlaen ymhen ennyd, wedi i'r chwerthin dawelu, "'ddaru o ddim newid 'i waith yn y chwaral tua'r un pryd? Mae gin' i ryw go' mai rhybela yn y Bonc Ucha' yr oedd o cyn hynny."

Daeth o hyd i'w daran o lais ar y frawddeg olaf, a chlywodd Guto Môn.

"Rhybela? Ia, 'nen' Tad, fo a finna'. Tair ceiniog y dunnall am y baw, Wan Gruffydd. Ia, 'nen' Tad. Ond pan aeth Ishmael i'r hen Eglwys 'na, mi gafodd fargan reit dda. Do, 'ffeio fo, a'i wneud yn farciwr cerrig yn fuan wedyn . . . Pwy sy isio gwbod am Ishmael?"

"Eglurwch iddo fo," meddai Owen Gruffydd wrth ddyn a safai tu ôl i gadair yr hen ŵr. "Robert Ifans, 'i nai, deudwch, yn gofyn pa un ai'r Batus ai'r Milisia ydi'r gora'."

"Robat Ifans? Robat Ifans, Bryn Mai? Yn y Milisia ?

He!" A chwarddodd Gruffydd Ifans yn ddireol pan glywodd y newydd. "Mae o bron cyn hynad à finna'!"

"Robert Ifans, eich nai. Mab Ishmael," gwaeddodd y dyn. "Y?" Edrychai'r hen frawd yn ddryslyd. "Robat.. Robat . . . 'Doedd gan Ishmael ddim . . . " Yna daeth goleuni sydyn. "Robin?"

"Ia."

"Be' amdano fo?"

"Isio gwbod pa un ai'r Batus ai'r Milisia ydi'r gora'."

Neidiodd Guto Môn ar ei draed, ac er ei fod dros ei bedwar ugain, llamodd fel gafr i fyny'r llethr, gan chwifio'i ffon a gweiddi: "Dwad yma i godi twrw, y cena' bach. Fo a Wil 'i frawd a hogyn John Hobley. Mi ro' i Filisia iddyn' nhw!

Adra' y munud 'ma, y tacla'!"

A'r peth nesaf a welai'r dorf oedd hanner dwsin o'r meddwon. yn brasgamu i lawr tua'r ffordd o flaen Gruffydd Ifans a'i ffon.

"Rhyw gwestiwn eto?" gofynnodd Owen Gruffydd pan sobrodd y gynulleidfa ddigon i roi sylw i'r llwyfan.

Ond nid oedd un, a chuddiai amryw o'r diotwyr tu ôl i bobl eraill rhag ofn i'r ysmaldod didrugaredd hwn eu cyrraedd hwythau.

"Dowch, hogia', rhag inni wastraffu amsar."

Safodd yn ddisgwylgar am funud, yna eisteddodd yn arafa siomedig, gan nodio at William Jones. Cododd yntau i fynd ymlaen â'i araith.

Pan oedd y rhai olaf o'r dorf yn gwasgaru wedi'r cyfarfod, amneidiodd William Jones ar Owen.

"I b'le mae'r ffordd 'na'n mynd?" gofynnodd.

"Heibio i'r Eglwys, wedyn i fyny at yr Hafod ac i'r mynydd."

"O. 'Rydw' i am fynd am dro bach cyn swpar. 'Ddowch chi efo mi?"

"A phlesar, Mr. Jones. Hynny ydi, os ydi Dafydd fy mrawd . . . "

"Yn gofalu am eich Taid? Ydi."

Wedi i'r Ymgeisydd ysgwyd llaw ag amryw a diolch eilwaith i Owen Gruffydd am ei ymyriad, cychwynnodd y ddau. Am y cyfarfod yr oedd y sgwrs, a chwarddent yn aml wrth feddwl am yr hynafgwr bychan yn erlid y cewri tua'r pentref. Yna aethant i sôn am Owen M. Edwards a'i lyfrau, ac adroddai William Jones hanesion am Gymdeithas Dafydd ap Gwilym yn Rhydychen ac am rai o'r darlithoedd ysbrydoledig a draddodasai'r gŵr ifanc o Lanuwchllyn ynddi—ar Ddafydd ap Gwilym, ar Geiriog, ac ar ei hoff arwr Owain Glyndŵr. Gwrandawai Owen fel un dan gyfaredd: ni chlywsai ef erioed o'r blaen siarad mor fyw a diddorol. Teimlai fel petai'i gydymaith eiddgar, huawdl, yn agor ffenestri tywyll ei feddwl ac yntau'n syllu ar gyfandiroedd newydd disglair, llawn rhamant. Ond . . . ond tybed a oedd gwir yn y stori ei fod yn . . . yn anffyddiwr?

"'Rydach chi'n darllan llawar, Mr. Jones?"

"Ydw', bob cyfla ga' i. A 'rŵan, yn Rhydychen, yn cael manteision i hynny, wrth gwrs. Pob math o betha"."

"Barddoniaeth?" Enwodd Owen y pwnc hwnnw rhag bod yn rhy anturus.

"Bydda', yn enwedig cerddi Milton a Browning. A Dante." Chwarddodd wrth chwanegu "Ap Dante' ydi fy ffug—enw i yn y Gymdeithas 'na yr on i'n sôn amdani gynna'."

"'Does gynnoch chi ddim amsar i lyfra' crefyddol, mae'n debyg?"

"Na, ychydig iawn. Ond mae rhai o'm cyfeillion gora' i yn ddiwinyddion go dda, ac mi fydda' i'n gwrando'n astud arnyn' nhw'n siarad."

2'Ydach chi . . . 'ydach chi wedi darllan rhwbath o waith Darwin?"

"Do. 'I ddau lyfr pwysica' fo."

"O."

Cerddodd y ddau'n dawel am funud neu ddau, a William Jones yn edmygu'r olygfa—caeau gleision yr Hafod, a'r gwair newydd ei grafu a'i gario oddi arnynt, yr heulwen yn troi nentydd y rhosydd uwchben yn ffrydiau o arian a gemau, a thraw yn y pellter gadernid llwydlas, breuddwydiol, yr hen fynyddoedd. "Mae Cymru'n wlad hardd, wyddoch chi," meddai.

"Ydi."

Safodd William Jones ar y llwybr ymhen ennyd, gan syllu'n hir ar yr olygfa, ac yna cydiodd ym mraich Owen.

"Mi gychwynnwn ni'n ôl 'rŵan," meddai, "rhag ofn bod teulu 'Bryn Myfyr' yn gohirio'u swpar er fy mwyn i."

"O'r gora', Mr. Jones."

"Ac mi siaradwn am—Darwin, yntê?"

Ni ddywedodd Owen ddim.

"Mae'r peth yn gysgod ar eich meddwl chi, ond ydi?"

"Ydi... ers tipyn."

"Felly yr on i'n... amau." Pam yr arhosodd yn sydyn. o flaen y gair "amau"? Ai "Felly yr on i'n deall" a ddechreuasai ei ddweud? A fu rhywun yn siarad ag ef am y peth?

Dafydd pan aeth i'w ddanfon o Dyddyn Cerrig i'r ffordd?

"Pa un o lyfra' Darwin ydach chi wedi'i ddarllan, Owen?"

"Dim un."

"O, mi wela"." Gwenodd, ond yn hynod garedig. "Pan oeddwn i'n hogyn bach, yr oedd arna' i ofn y tywyllwch yn ofnadwy. Mi fyddwn yn deffro yn y nos weithia' ac yn sgrechian mewn dychryn, gan feddwl bod y tywyllwch yn llawn bwganod ac ysbrydion a phryfaid mawr, hyll, a bod y walia'n symud yn araf tuag at fy ngwely i. Mi fydda' 'Mam yn brysio i'r llofft â channwyll yn 'i llaw ac yn siarad efo mi. Ond dal i gau fy llygaid yn dynn yr oeddwn i, gan synnu bod 'Mam mor ddewr, yn mentro i ganol y bwganod a'r ysbrydion a'r pryfaid mawr, hyll, ac yn aros mewn ystafell lle'r oedd y walia'n araf araf gau amdani. Mi agorwn fy llygaid o'r diwedd a gweld 'Mam yn sefyll wrth fy ngwely i, a'r ganhwyllbren ddofn, felen, yn 'i llaw a phatryma'r dail a'r bloda' ar bapur y wal tu ôl iddi mor llonydd ag erioed... Bûm dipyn cyn deall mai ofn oedd yn creu'r bwganod."

"Codi bwganod y mae fy meddwl inna' felly, Mr. Jones?"

"Ia. Mi yrra' i ddau lyfr Darwin i chi pan a' i'n ôl i Rydychen."

"Na, mi fedra' i gael 'u benthyg nhw gan rywun yma.

Os ydach chi'n... os ydach chi'n meddwl bod yn ddoeth imi 'u darllan nhw."

"Ydw', petai ddim ond i yrru'r bwganod i ffwrdd. Ond ar wahân i hynny, maen' nhw'n llyfra' pwysig. Pwysig iawn."

"'Ydach chi... 'ydach chi...?"

"Peidiwch ag ofni, Owen. Allan â fo!"

"Wel, ar ôl i chi ddarllan y llyfra' 'na, 'ydach chi'n... dal i gredu yn y Beibl?"

"Yn fwy nag erioed. 'Welodd a 'wêl y byd ddim llyfr tebyg iddo fo."

"Ond... hanas y Creu... a'r Dilyw... a Jona . . . a Thŵr Babel..."

"'Dydw' i ddim yn credu'r rheini'n llythrennol, mae'n wir. A hyd y galla' i weld, ychydig o fudd mae'r bobol sy'n 'u coelio. nhw felly yn 'i gael ohonyn' nhw. 'Dydyn' nhw ddim llawar gwell o feddwl yn llythrennol am yr hen Noa a'i arch a'i anifeiliaid neu am Jona druan ym mol y morfil, 'ydyn nhw? I mi, mae'r hanesion yn gryfach, yn fwy godidog, fel damhegion, fel darnau byw o'r dychymyg cyntefig. 'Wn i ddim pwy eodd awduron llyfra' cynnar y Beibil, ond yr oedd amryw ohon yn' nhw'n feirdd gwir fawr . . ."

"Ond . . ."

"Ia?"

"Mae'r Beibl yn ysbrydoledig."

"Ydi. A phopath mawr arall, Owen."

"Ond mae'r Beibil yn wahanol, yn Air Duw."

"Ydi. Yr ydw' inna'n credu hynny, yn enwedig pan fydda' i'n darllan yr Efengyla'. Ond mae rhanna' o'r Beibl sy'n fwy ysbrydoledig na'i gilydd, ond oes?"

"Oes, efalla', ond . . ."

"Ia?" Ni wyddai Owen pa ddadl a oedd i ganlyn yr "ond." Hoffai fedru dweud yn eofn ac yn bendant, fel y gwnâi Ebenezer Morris ac Ifan Ifans a Thaid ac. . . ac Elias Thomas—ond nid oedd yn llawn mor wir amdano ef—fod y Beibl yn wir o glawr i glawr ac mai rhyfyg ofnadwy oedd i neb wadu gair ohono. Ond rhagrith fyddai hynny. Ers tipyn bellach, ac yn arbennig er pan fu'n siarad â Rhiannon Morris, mynnai rhai amheuon grwydro'n llechwraidd i ganol ei feddyliau, ac ambell noson ni adawent iddo gysgu am oriau. Dim ond wrth Dafydd y son— iodd amdanynt, a cheisiodd yntau eu chwerthin ymaith, gan haeru bod pawb yn mynd drwy'r un wasgfa yn yr oed yr oedd. Owen ynddo. Ond pan welodd na thyciai'r ysgafnder ddim, awgrymodd i'w frawd fynd i Gaer Heli am dro un hwyr neu brynhawn Sadwrn a chael sgwrs â'r Parch. Ifan Hughes. Er i'r gweinidog hwnnw gychwyn fel chwarelwr cyffredin, yr oedd iddo enw fel gŵr hynod ddiwylliedig, a bu adeg pan edrychid arno gyda pheth amheuaeth gan un neu ddau o'i flaenoriaid mwyaf uniongred. "Mae Ifan Hughes yn un o'r dynion. mwya' cywir yn y sir 'ma, Now bach," meddai Dafydd, "ac yn Gristion bob modfadd ohono, heblaw 'i fod o'n feddyliwr cry'." Ond oedi'n betrus a wnaethai Owen, gan lenwi'i nosweithiau a'i Sadyrnau ag astudio anniddig, a chadw'i gyfrinach oddi wrth bawb ond Dafydd. Hwn oedd y tro cyntaf iddo siarad â neb arall am y peth, a chlywai'i galon yn curo'n gyflym o'i fewn. Petai awgrym o'r clyfar neu'r gwawdus yn nhôn ei gydymaith, fe chwiliai Owen yn wyllt am ddadleuon i'w orth- rechu, Ymgeisydd Seneddol neu beidio. Ond nid oedd: llefarai'n bwyllog a dwys a didwyll.

"Gwyddonydd oedd Darwin," aeth ymlaen, "yn chwilio'n ddyfal am wirionedd, ac fel amryw o wyddonwyr o'i flaen, yn gweld nad yn sydyn, chwe mil o flynyddoedd yn ôl, y crewyd y byd a'r bydoedd, ond bod yr oll wedi tyfu'n raddol raddol, drwy filiyna' ar filiyna' o flynyddoedd-oesoedd rif y tywod mân,' chwedl yr emyn-yn ôl deddfau natur. A dyn ac anifail, gwybedyn a llysieuyn, yr un fath, yn ôl 'i nerth a'i fedr i oresgyn rhwystra"."

"Felly 'dydi'r Beibil ddim yn wir o bell ffordd, Mr. Jones?"

"Yn wir? Ydi, yn rhyfeddol o wir. 'Datblygiad' ydi gair mawr y gwyddonydd, ac fel datblygiad y mae o'n gweld hanas y cread a hanas dyn, popeth yn ymgyrraedd at fywyd cryfach a llawnach. Ym myd ysbryd dyn y mae'r ymgyrraedd hwnnw ar 'i ora', ar 'i fan ucha', ac 'wn i ddim am well cronicl, am ragorach datguddiad, ohono fo na'r Beibil. 'Wyddoch chi?

"Na wn... Na wn."

"Na wyddoch. Na neb arall chwaith. 'Does yr un, a 'fydd yr un byth."

Culhâï'r llwybr, gan redeg drwy lwyn o goed cnau ac yna dros bont fechan haearn. Aeth William Jones yn gyntaf, a dilynodd Owen ef gan deimlo'n hapusach nag a wnaethai ers wythnosau. Sylwodd mor bêr oedd sŵn yr afonig o dan y bont, ac fel y diferai'r heulwen oddi ar lwyn o ddrain gerllaw.

"Wel, Owen?"

"Mae'r bwganod yn dechra' mynd, Mr. Jones. Mi a' i i nôl benthyg y llyfra' 'na 'fory nesaf."

"Llythyr iti, Owen. O'r Bala, yr ydw' i'n meddwl." Noson yn niwedd Gorffennaf ydoedd, a'r ddau chwarelwr newydd gyrraedd adref o'u gwaith.

"Ia, o'r Bala, 'Mam," ebe Owen wedi iddo agor y llythyr. Yna ar ôl iddo'i ddarllen ddwywaith, "O?" difater oedd ei unig sylw.

"Paid â swnio mor gyffrous, Now bach," meddai Dafydd.

"'Ydyn' nhw am dy wneud di'n Broffesor yno ne' rwbath?"

Trosglwyddodd Owen y llythyr i'w frawd.

"Yr argian fawr, go dda, 'r hen ddyn!"

"Be' mae o'n ddeud, Dafydd ?" gofynnodd Owen Gruffydd yn ddiamynedd.

"Ia, darllan o inni," ebe'r fam.

"Diawch, mi fedri fynd yno fis Medi wedi'r cwbwl, fachgan!

Mi fydd Lias Tomos wrth 'i fodd. Mae'r hen frawd wedi bod yn poeni dipyn..."

"Darllan y llythyr 'na, da chdi, Dafydd, yn lle stwnsian yn fan'na," oedd gorchymyn chwyrn Owen Gruffydd.

"O'r gora' Taid. Dyma fo:

'Ysgol Ragbaratoawl,

Bala.

25 Gorff. '95.

Anwyl Frawd,

Derbyniasom ers tipyn bellach adroddiad y ddau Arholwr ar eich gwaith yn Arholiad yr Ymgeiswyr am y Weinidogaeth, a balch iawn oeddym o ddarllen eu canmoliaeth uchel i'ch attebion. yn y ddau bwngc. Hyderem y gwelech eich ffordd yn glir i ddechreu ar gwrs yn yr Ysgol Ragbaratoawl y flwyddyn hon, ond ofnem, gan nad oeddym wedi derbyn cais oddi wrthych fod rhwystrau ar eich llwybr. Heddyw, daeth llythyr oddi wrth gyfaill, sy'n dymuno aros yn ddi-enw, yn cynnyg Ysgoloriaeth o £50 y flwyddyn i chwi am ddwy flynedd yn yr Ysgol hon i baratoi ar gyfer yr arholiad i'r Coleg. Cynhigir yr Ysgoloriaeth i chwi ar sail eich gwaith yn Arholiad yr Ymgeiswyr a'ch addewid fel myfyriwr a phregethwr, a hyderwn yn fawr y derbyniwch hi yn llawen.

Gan edrych ymlaen at eich dyfodiad i'r Bala...'"

"He ! Ac er na ddylwn i ddim sôn am hynny," ebe Owen Gruffydd, "fi ddaru 'i helpu o efo'r arholiad hwnnw."

"'Fedra' i ddim deud mor falch ydw' i," meddai'r fam yn dawel. "Studio tan hannar nos a chodi wedyn ymhell cyn chwech! 'Ddeil neb felly, ac mae'r Doctor wedi sylwi ar yr hen beswch 'na sy gynno fo."

"Pryd?"

"Echnos pan alwodd o i'ch gweld chi, 'Nhad."

"Hy, dychryn pobol ydi gwaith hwnnw. 'Oes gin' ti laeth enwyn yn y tŷ?"

"Oes."

"A mwstard?"

"Oes."

"A siwgwr candi?"

"Oes, yr ydw' i'n meddwl."

"Estyn nhw i'r bwrdd 'ma. Mi setla' i'r peswch 'na iddo fo."

Ond ar Owen yr oedd llygaid y fam.

"'Rwyt ti'n dawal iawn, Owen," meddai.

"'Dydw' i ddim am gymryd cardod gan neb," ebe yntau.

"Y? Cardod?" Cododd Owen Gruffydd yn ei ddicter.

"Nid cardod ydi ysgoloriaeth, Now bach," meddai Dafydd.

"Nid fel rheol. Ond dyna ydi hon. Ac mi geiff y 'cyfaill di-enw' gadw'i bres."

"'Welsoch chi benci yr un fath â fo 'rioed ?" rhuodd Owen Gruffydd.

"Naddo, wir," atebodd Dafydd. "Dim ond un," chwanegodd dan ei anadl.

"Hannar cant o bunna'! A chael pregethu ar y Sulia'!

A thalu dim ond rhyw ddeuddag swllt yr wythnos am 'i lety!

A'r ysgol yn costio dim ond pumpunt y flwyddyn gyntaf a llai yr ail flwyddyn ! Be' haru'r hogyn? Tria bwnio synnwyr i'w ben o, da chdi, Emily."

"Waeth i chi heb â gweiddi, 'Nhad. 'Wnewch chi ddim ond 'styrbio'ch hun."

"O'r gora', mi gaea' i fy ngheg. 'Ddeuda' i ddim gair pellach. Gadewch iddo fo i'w grogi. Gadewch iddo fo wlychu at 'i groen yn yr hen chwaral 'na. Gadewch iddo fo rynnu yn y wal drwy'r gaea'. Gadewch iddo fo 'studio tan hannar nos a magu'r diciâu yr un fath â hogyn Harri Hughes. Gadewch iddo fo

"'Rwan, 'Nhad."

Tawelodd yr hen ŵr a dychwelodd yn rwgnachlyd i'w gadair.

"Os na sgwennith o i'r Bala heno nesaf," meddai, "mi fydda' i'n gyrru gair yn 'i le fo."

"Os na chymeri di'r ysgoloriaeth 'ma, Now bach, y nesa' ar y rhestr fydd yn 'i chael hi," oedd dadl Dafydd. "Ac efalla' fod. gan hwnnw ddigon o fodd i wneud yn iawn hebddi."

"Mi basia' i i'r Coleg heb gymorth un cyfaill di-enw, Dafydd.

Ne' mi fodlona' ar aros yn y chwaral."

"Estyn y llythyr 'na imi, Emily," meddai Owen Gruffydd.

Ac wedi iddo'i ddarllen, "Ddwy waith mae o'n defnyddio'r gair 'Ysgoloriaeth'." Rhythodd ar Owen. "Nid unwaith, ond dwywaith."

"Felly'r oeddach chi'n deud, Taid."

""Yn cynnyg Ysgoloriaeth'... 'Cynhigir yr Ysgoloriaeth." Be' fedra' fod yn blaenach?"

Aeth y siarad ymlaen ac ymlaen, ac Owen Gruffydd yn dod o hyd i destun pregeth bron ym mhob brawddeg o'r llythyr. Gadawodd Owen i'r huodledd lifo heibio iddo, gan frysio tros ei swper-chwarel a phenderfynu dianc i'r "siambar" at ei lyfrau. Sylwodd mai ychydig iawn a ddywedai'i fam.

"Isio edrach dros fy ngwaith cyn mynd at Mr. Roberts," meddai, gan godi a mynd o'r gegin.

Yn y "siambar," safodd yn anniddig wrth y ffenestr, gan ei gyfiawnhau ei hun yn ffyrnig. Cardod? Dim, diolch. A dyn a ŵyr pwy a gynigiai'r arian iddo. Ifan Ifans, ar ddim a wyddai ef...

Clywodd glic drws yr ystafell yn cau.

"O hylô, 'Mam."

"Mae arna' i isio siarad efo chdi, Owen."

"Os ydach chi am drio fy mherswadio i . . ." Arhosodd wrth weld y penderfyniad tawel yn ei hwyneb.

"O'r diwadd mae 'na newydd da wedi dwad i Dyddyn Cerrig." Yr oedd rhywbeth pell a dieithr yn ei llais.

"Be' ydach chi'n feddwl, 'Mam?"

"'Ron i wedi mynd i gredu bod rhyw Ffawd angharedig yn gwylio'r tŷ yma. Helbul ar helbul, siom ar siom gafodd y teulu oedd yma o'n blaen ni. Ninna' yr un fath. Dy dad druan, Enid, y tlodi..."

"'Chlywis i 'rioed monoch chi'n siarad fel hyn o'r blaen. 'Rydach chi bob amsar mor. . . Mor beth? "Llon"? Na, ni chofiai'i fam yn llon, ddim er pan fu farw'i dad. Yr oedd hyd yn oed ei chwerthin braidd yn lleddf ac ofnus, fel petai hiraeth yn rhedeg drwyddo. "Hapus?" "Siriol?" Nage, "dewr": ia, "dewr" oedd y gair. Dewr a diwyd a thyner, a'i holl fryd ar gysur ei phlant.

"Naddo, Owen, a 'wna' i ddim eto, gobeithio. 'Rwyt ti'n ifanc, ac yn brysur iawn—yn y chwaral drwy'r dydd, efo dy lyfra' gyda'r nos, i ffwrdd dros amball Sul. 'Chydig o amsar wyt ti'n gael i hel meddylia'. Lawar noson yn hwyr, pan fydda' i'n gwrando am dy sŵn di'n..."

"Ond yr ydw' i'n trio bod fel llygodan bob nos."

"Wyt, mi wn, chwara' teg iti. Ond anamal iawn y medra' i gysgu cyn gwbod dy fod di yn dy wely. Mi fydda' i'n gorwadd yn y llofft 'na yn gwrando am yr hen beswch 'na, a phan syrthiaf i gysgu . . . "

"Ia, 'Mam ?"

"Yn cael yr un breuddwyd o hyd o hyd."

"Amdana' i?"

"Ia. Dy weld di'n sâl yn dy wely a'th wynab a'th ddwylo di mor wyn â'r gobennydd a'th lygaid di'n ddisglair ddisglair. Ac wrth erchwyn y gwely ysbryd Jeffra Jones, hen ŵr cas oedd yn byw yn Nhyddyn Cerrig pan on i'n hogan, yn gwenu'n filain . . . "

Chwarddodd Owen. "Mam bach, 'ydach chi ddim yn rhoi coel ar betha' fel'na, 'does bosib'?"

"Nac ydw', ond 'fedar neb ddal i 'studio fel yr wyt ti: mae rhyw afiechyd yn siŵr o afael ynot ti. Cymar yr ysgoloriaeth 'na, wir, Owen bach."

"Ond . . ."

"Nid cardod ydi hi ond gwobr iti am dy lafur, cyfla am hapusrwydd i ti a'r newydd gora' ddaeth i Dyddyn Cerrig ers . . . 'wn i ddim ers pryd. Paid â thaflu'r hapusrwydd i ffwrdd, Owen, 'ngwas i. 'Rwyt ti'n haeddu'r cynnig, a hynny sy'n bwysig. Hynny sy'n bwysig, Owen. Er dy fwyn dy hun, er mwyn Dafydd, er fy mwyn i . . . "

"O'r . . . o'r gora', 'Mam. Dowch, mi awn ni i ddweud wrth Dafydd a Thaid."

Llithrodd Awst heibio'n gyflym iawn, ac yn ystod y mis trefnodd Owen i roi'r gorau i'w waith ar y Gwener cyntaf ym Medi, a ddigwyddai fod yn ben mis yn y chwarel. Gan ei fod i eistedd arholiad bychan mewn Cymraeg a Saesneg ac Arithmetic cyn cael ei dderbyn i'r Ysgol, daliai i astudio'n ddyfal, ond wedi iddo gael cip ar bapurau'r flwyddyn gynt, ni phoenai fawr am hwnnw, a threuliai lawer gyda'r nos yn dringo'r Fron neu'n crwydro hyd lannau'r afon efo Mary.

Yr oedd lle cyffrous yng nghaban Ponc Britannia ar awr—ginio'i ddiwrnod olaf yn y chwarel. Penderfynasai Elias Thomas hefyd ymddeol, ac felly, yn lle cynnal dau Gyfarfod Ymadawol, trefnwyd i ffarwelio â'r hen flaenor ac â'r llanc o bregethwr yr un pryd. Bwytaodd pawb yn frysiog ac yna tynnwyd y byrddau i lawr a'u rhoi o'r neilltu yn erbyn y muriau. Cyn hir dechreuodd dynion o bonciau eraill gyrraedd, yn eu plith Huw Rôb a'i dad a Wil Cochyn o Bonc Rowler, ac erbyn ugain munud wedi deuddeg, amser agor y cyfarfod, yr oedd y caban, er ei fod yn un gweddol fawr, yn orlawn, a thyrrau o wŷr yn sefyll tu allan wrth y drws ac wrth y ffenestri agored.

Fel rheol, Llywydd y caban a gadeiriai mewn cyfarfod o'r fath, ond gan mai Elias Thomas ei hun oedd hwnnw, gwnaed y gwaith gan wr o'r enw Benjamin Williams. Wedi emyn agoriadol, yna'r adroddiad "Arwerthiant y Caethwas" gan Thomas Hugh John Edwards—"Twm Bach" i bawb ond y Cadeirydd, ac edrychai Twm fel petai'n adnabod enw'r adroddiad yn well na'i enw'i hun—a'r unawd "Rocked in the Cradle of the Deep" gan Wil Baswr, a fedrai suddo'n ddyfnach na nodyn dyfnaf y gân, eglurodd y Llywydd fwriad y cyfarfod. Mewn gwirionedd, "eitem" arall oedd yr araith hon, cyfle i ddoniau eraill ymbaratoi, a galwyd wedyn ar Wil Baswr ac Eben ei frawd i ruo'r ddeuawd "Mae Cymru'n Barod." Yna daeth tro Meurigfab, a weithiai bonc yn is na Britannia, a gwelid ar unwaith pan droes ef ei gefn ar y gynulleidfa i dynnu'i wallt i lawr tros ei lygaid ac amharchu'i goler a'i dei mai "Ymson y Llofrudd" fyddai'r darn. Gan nad aent hwy ar gyfyl eisteddfodau'r cylch, hwn oedd y tro cyntaf i George Hobley a Robin Ifans glywed am lofruddiaeth Ol ac am ddylanwad yr "uffernawl gwpan" ar ei gŵr. Gwyrodd George ei ben, i bob golwg mewn euogrwydd a chywilydd mawr, gan chwilio'n wyllt am ei gadach poced i chwythu'i drwyn a sychu'i lygaid. Ond edrychai Robin. cyn sobred â sant yn gwrando'n ddwys ar ei hoff bregethwr, ac efallai mai "Amen" a "Diolch iddo" a phethau tebyg a ddywedai dan ei anadl. Wedi i Feurigfab honcian ymaith i'r grocbren yn sŵn cymeradwyaeth fyddarol y caban, hysbysodd y Cadeirydd iddynt gyrraedd prif waith y cyfarfod.

"Nid er mwyn hwylustod yn unig," meddai, "yr ydan ni'n cynnal dim ond un cwarfod ac yn penderfynu ffarwelio ag Owen Ellis a Lias Tomos yr un pryd. Rheswm pwysicach ydi 'u bod nhw'n gyfeillion mor fawr, fel mab a thad i'w gilydd bron, ac yr ydw' i'n siŵr fod y ddau yn falch o'r trefniant yma. 'Dydw' i ddim am areithio—mi fydd 'na rai erill yn gwneud hynny. Ond mi liciwn ddeud hyn: dim ond i Now 'ma drio bod yn deilwng o Lias Tomos, mi fydd yn ddyn ac yn brygethwr ac yn wnidog y bydd y chwaral 'ma a'r ardal a Chymru gyfan yn falch ohono."

Cymeradwyaeth swnllyd, a'r dynion yn gwenu'n slei ar ei gilydd, a gawsai Meurigfab, ond yr oedd honno a dorrodd allan yn awr yn sobr a chywir, a phawb yn nodio'n ddwys. Er ei waethaf daeth dagrau i lygaid Elias Thomas, a brathai'i fin yn ei gynnwrf.

"Yr arferiad ydi i aelod hyna'r caban gyflwyno'r anrheg, yntê? Lias Tomos ydi'r hyna', ac er bod hwn yn Gwarfod Ymadawol iddo ynta', mae o wedi cydsynio i gyflwyno'r llyfra' 'ma i Owen Ellis. Cofianna' dau ddyn mawr ydyn' nhw—Thomas Jones o Ddinbych, ac Edward Matthews o Ewenni, a gobeithio y bydd 'u darllan nhw yn ysbrydiaeth i'r prygethwr ifanc, yntê? . Lias Tomos?"

Cododd Elias Thomas oddi ar y fainc wrth y mur a chymerodd y llyfrau o ddwylo'r Cadeirydd. Cododd Owen yntau i'w derbyn.

"Owen, 'machgan i," ebe'r hen flaenor, a'i lais yn floesg, "yr ydw' i'n dy gofio di'n dwad i'r chwaral 'ma am dro efo'th dad dros wyth mlynadd yn ôl. Hyd yn oed yr amsar hwnnw, 'roedd 'na rai ohono' ni—Dafydd dy frawd, Owen Gruffydd dy daid, a finna', dy athraw di yn yr Ysgol Sul, ac eraill yn gweld addewid ynot ti ac yn breuddwydio breuddwydion am dy ddyfodol di. Ond yn lle cael chwanag o ysgol, i'r chwaral y bu raid iti ddŵad, i drio ennill tipyn. 'Roeddan ni'n siomedig, ac yn yn dechra' ama' doethineb Rhagluniaeth yn dy hanas di. Erbyn heddiw fe giliodd yr amheuaeth honno o'm meddwl i. Mae Ysgol profiad yn bwysig, yn bwysig iawn, yn enwedig i bregethwr, ac nid damwain oedd i'r Gwaredwr aros yng ngweithdy'r saer nes bod yn ddeg ar hugain cyn cychwyn ar 'i Weinidogaeth gyhoeddus. Mi gest ymdrechu, mi gest ddisgyblaeth, mi gest gyfla i adnabod dynion, mi gest garedigrwydd o leoedd. annisgwyl weithia', mi gest dyfu'n ddyn yng nghanol gerwinder bywyd. Bu galed y bygylu lawar tro, mi wn, ond efalla' ymhen blynyddoedd y byddi di'n edrach yn ôl ar yr hen chwaral 'ma fel y Coleg gora' gefaist ti erioed.

Cymer y llyfra' 'ma. 'Dydyn' nhw ond arwydd bychan of ddymuniada' gora' dy gyd—weithwyr. Duw a'th fendithio, 'machgan i, Duw a'th fendithio."

Wedi i'r gymeradwyaeth ddistewi ac i Owen ddweud gair of ddiolch, galwodd y Cadeirydd ar Huw Jones i gyflwyno Beibl Hardd i Elias Thomas.

"Gadewch inni 'i weld o, Benja Williams," gwaeddodd Robin Ifans pan ddaeth y dyn bach ymlaen.

Digwyddai bocs mawr pren fod yn ymyl yr ystôf. Gwagiwyd hwnnw o'r coed tân a oedd ynddo, rhoddwyd ef a'i wyneb i waered ar ganol y llawr, a safodd Huw Jones arno. "Mistar Cadeirydd ac annwyl gyd—weithwyr," meddai wedi iddo glirio'i wddf droeon. Yr oedd ei wyneb yn wyn a'r ddalen o bapur yn ei law yn gryndod i gyd. "Roeddan ni'n dri o hogia' gartra' ers talwm, fi a John a Dic, a 'fydda' 'Mam byth yn rhoi presant bach i un ohono' ni heb gofio mewn rhyw ffordd am y ddau arall hefyd. Wel, yr ydan ni'n dri yn y wal 'cw—Lias Tomos, Owen, a finna'. . ."

"Os wyt ti'n meddwl dy fod di'n mynd i gael presant, Huw . . . " gwaeddodd Robin Ifans.

"'Rydw' i wedi cael un, Robin," meddai'r dyn bach ar unwaith. "Y fraint fawr o gyflwyno'r Beibil 'ma i Lias Tomos."

Uchel a hir oedd y gymeradwyaeth, a chwarae teg i Robin, ymunodd yntau ynddi mor eiddgar â neb. Edrychai Huw Jones fel petai newydd gael ei benodi'n Brif Oruchwyliwr y chwarel.

"'Rydan ni'n bartnars ers tros ugian mlynadd," aeth ymlaen. "Heb air croes, am wn i; heb gwffio, beth bynnag. 'Ron i'n gwrando ar bregath rai misoedd yn ôl, a'r prygethwr—Batus wrth—gwrs yn egluro be' oedd dyn da. 'Nid y dyn cyfiawn ydi'r dyn da,' medda' fo, 'ond hwnnw y mae'n anodd i chi bechu yn 'i ŵydd o.' 'Roedd o'n mynd i galon y gwir, wchi: ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag. Ac mi fydda' i'n meddwl weithia' na fedrwn i ddim pechu yng ngŵydd Lias Tomos. Bydda', wir, wchi: 'fedrwn i ddim 'tawn i isio."

Crynai llais y dyn bach, fel petai ar fin crio, ac yr oedd yn falch o'r egwyl a ddug cymeradwyaeth.

"'Rydw' i wedi trio gwneud pennill ne' ddau," meddai ymhen ennyd. "Y tro cynta' 'rioed. Dyma nhw:

'Lias Tomos o Lan Feurig . . . '"

"O'r Tai Gwyn, Huw Jones," gwaeddodd Harri Hughes: drwy'r ffenestr. Gweithiai ef yng ngwaelod y chwarel, ac ni fedrodd gyrraedd y bonc mewn pryd i ymwthio i mewn i'r caban.

"Ia, ond mae'n rhaid imi gael 'Llan Feurig' . . . "

"O, mi'i cei o â chroeso, 'r hen ddyn!"

""Lias Tomos o Lan Feurig
Sy am fod yn ŵr bonheddig . . . '"

"Mae o'n un yn barod, Huw," ebe Robin Ifans.

"Ydi, ond 'gŵr bonheddig' mewn ystyr arall..."

"Ewch ymlaen Huw Jones," cynghorodd y Cadeirydd.

"Ordor, hogia', ordor !".

"Lias Tomos o Lan Feurig
Sy am fod yn ŵr bonheddig,
Mynd o gyrraedd llwch a rhwbal
A helyntion blin y chwaral.

Cyn bo hir mi ddaw y gaea',
Tywydd mawr a rhew ac eira,
Pawb yn rhynnu yn y walia',
'Fynta' wrth 'i danllwyth gartra'.

Efo'i Feibil a'i Esboniad,
Poeni dim am blyg na slediad
Na hollt gron na ffawt na chefna',
Ond ymgolli yn 'i lyfra'.

Iechyd iddo, gorffwys tawal,
Yw dymuniad yr holl chwaral.
Bydded iddo fo a'i Sarah
Fyw yn hŷn na'r hen Fethwsla."

Yn ystod y gymeradwyaeth a'r curo-traed a ddilynodd y darn, camodd Huw Jones i lawr oddi ar ei focs a chychwyn yn ôl i'w le, ond cydiodd y Cadeirydd yn ei fraich a rhoi'r Beibl yn ei ddwylo.

"Hwdiwch, Lias Tomos," meddai'r dyn bach pan ddistawodd y cynnwrf, gan anghofio gweddill ei araith. "Diar, mi fydd 'na le rhyfadd yma hebddoch chi! 'Rargian, bydd!"

Siaradodd amryw eraill, a Dafydd yn eu plith, rhai yn ddwys, rhai yn ddigrif, ac yna cododd Elias Thomas eilwaith i draddodi araith fechan o ddiolch. Ond pan safodd o'u blaen, llanwodd ei lygaid â dagrau a bodlonodd ar ddweud "Diolch yn fawr, diolch o galon, hogia'." yn floesg a thoredig. Gwelodd Benjamin Williams y cyffro yr oedd yr hen ŵr ynddo ac ar unwaith galwodd am "Hwrê fawr" iddo. Atseiniodd y caban a'r bonc deirgwaith i sŵn y bloeddio, ac wedi i'r gymeradwyaeth hir a'i dilynodd dawelu, lediodd Wil Baswr yr emyn "Dan dy fendith wrth ymadael." Torrodd corn haerllug y chwarel ar ei draws, ond ni chymerodd neb sylw ohono. Nid oedd Elias Thomas yn medru canu o gwbl, ond clywai Owen, a safai wrth ei ochr, yr hen flaenor yn dweud y geiriau'n daer a dwys, fel petai'n gweddio:

"Dan dy fendith wrth ymadael
Y dymunem, Arglwydd, fod;
Llanw'n calon â dy gariad
A'n geneuau â dy glod.
Dy dangnefedd
Dyro inni yn barhaus."

A gweddïodd Owen yntau.

"Mae'n rhaid i chi'ch dau gymryd tamad efo fo."

"Na, wir, Sarah Tomos, mi fydd 'Mam yn ein disgwyl ni adra'," meddai Owen. "Dim ond dŵad i gario'r arfa' 'ma yr oeddan ni."

"A finna' wedi gwneud swpar-chwaral spesial heno. Mae'n rhaid i chi aros. Rhowch yr hen arfa' 'na yn y cwt a golchwch eich dwylo wrth y feis." Edrychodd yn daer arnynt a gwyddai Owen a Dafydd ei bod hi'n ofni y byddai'i gŵr yn ddigalon ar ei noson gyntaf fel "gwr bonheddig."

"O'r gora', Sarah Tomos," ebe Dafydd. "Ond mi gawn ni goblyn o dafod pan awn ni adra', cofiwch."

Wedi iddynt ddangos y ddau Gofiant a'r Beibl iddi, eisteddodd y tri chwarelwr wrth y bwrdd, a cheisient gofio popeth a ddy- wedwyd yn y cyfarfod, yn arbennig benillion Huw Jones, i'w hadrodd wrthi. Gwelsai Sarah Thomas fam Huw Jones y diwrnod hwnnw, a mawr oedd gofid yr hen wraig honno. Huw a Dic, meddai, y ddau benbwl, wedi bod ar eu traed tan oriau mân y bore efo rhyw "rwdl o farddoniath ne' rwbath."

Ar ôl iddynt fwyta a thynnu'u cadeiriau at y tân, agorodd. Elias Thomas ei Feibl newydd a throes ei ddalennau'n araf a thyner, fel petai'n cyffwrdd rhywbeth sanctaidd iawn. Yng nghegin fach y drws nesaf bloeddiai dau lais, un merch ifanc ac un dyn mewn oed, eiriau rhyw gân Saesneg.

"Never mind to-morrow,
Laugh and be merry to-day:
Never mind to-morrow,
Sing all your troubles away.
Never mind to-morrow,
To-morrow the world may go hang,
Never . . ."

Tawodd y gân yn sydyn, a dechreuodd y ddau lais ffraeo'n chwyrn am rywbeth.

"Mae'n dda eich bod chi wedi arfar efo sŵn drws nesa', Sarah Tomos," ebe Dafydd, gan wenu.

"Eich taid yn prygethu? O, yr on i wrth fy modd yn gwrando arno fo. Own, 'nen' Tad, a'i lais o fel cloch arian pan fydda' fo'n mynd i hwyl. Ac mi fydda'n werth 'i glywad o'n canu amball emyn wrth 'folchi dan y feis neu olchi llestri yn y gegin fach. Ond mae rhyw hen gomic songs fel hyn byth a hefyd yn ddigon â mwydro rhywun yn lân. Hen sothach o Loegar fel tiwn gron bob tro mae gynnyn' nhw funud efo'i gilydd. Fel taen' nhw ofn 'u hunain a'i gilydd, am wn i. . . Clywch, dyna nhw eto." A thaflodd Sarah Thomas ei phen i fyny wrth gludo rhai o'r llestri o'r bwrdd.

"'Oes gynnoch chi air o gyngor iddo fo, Lias Tomos?" gofynnodd Dafydd, gan nodio tuag at Owen.

"Cyngor, Dafydd? Nac oes, am wn i, wir, fachgan."

Yna craffodd yn serchog ar y Beibl yn ei ddwylo, a throes y dalennau'n gyflym. "Ond mi ddarllena' i ddarn o'r Hen Lyfr, cyngor yr Apostol i ddyn ifanc tebyg i Owen 'ma . . . O, dyma fo:

'Pregetha y gair; bydd daer mewn amser, allan o amser; argyhoedda, cerydda, gyd â pob hir-ymaros ac athrawiaeth . . .'

"Never mind to-morrow," rhuodd y lleisiau o'r drws nesaf, ac arhosodd yr hen flaenor ennyd nes i'r nodau mwyaf croch beidio.

"Yr hen lais 'ma dipyn yn wan," meddai. "Fedra' i ddim cystadlu efo'r rheina am funud ne' ddau.

'Canys daw yr amser pryd na ddioddefont athrawiaeth iachus; eithr yn ôl eu chwantau eu hunain y pentyrrant iddynt eu hunain athrawon, gan fod eu clustiau yn merwino; Ac oddi wrth y gwirionedd y troant ymaith eu clustiau, ac at chwedlau y troant. . .'

Arhosodd eilwaith nes i'r floedd o linell, "To-morrow the world may go hang," fynd heibio.

""Eithr gwylia di ym mhob peth, dioddef adfyd, gwna waith efengylwr, cyflawna dy weinidogaeth.'"

𝓔𝓹𝓲𝓵𝓸𝓰

PWY oedd y cyfaill di-enw,' tybed? gofynnodd yr hen weinidog iddo'i hun am y milfed tro. Ebenezer Morris? William Jones neu rywun y gallodd e fddylanwadu arno? Richard Owen, Manchester House? Elias Thomas o'i enillion. prin? Nid oedd ddim gwell o ddyfalu.

Yr oedd hynny mor bell yn ôl, mor bell yn ôl, dros hanner canrif yn ôl. Pwy a fuasai'n meddwl y newidiai'r ardal gymaint yn ystod oes un dyn? Bellach, yn y bore bach, rhuai beiciau, modur a bysiau drwy'r pentref tua gwaelod Lôn Serth, rhuent yn eu holau gyda'r nos, ac yna rhuthrai ugeiniau o bobl i sinemâu Caer Heli, llawer o'r rhai ieuangaf yn prebliach Saesneg—os Saesneg y gellid galw'r peth. Ac yr oedd capeli Llan Feurig bron yn wag bob hwyr, fel temlau urddasol gwareiddiad a chrefydd a oedd ar fin trengi. Sardis y Bedyddwyr, Bethel y Wesleaid, Soar yr Annibynwyr, Siloam y Methodistiaid yr oeddynt i gyd yr un fath . . . Y gaeaf, y gaeaf . . . Yr oedd yn aeaf hefyd yng nghyfnod Whitefield a Howell Harris a John Wesley, a rhyfyg ar ran neb yn yr oes debyg honno fyddai proffwydo gwanwyn a chlywed trwst cerddediad ym mrig y morwydd . . . Ia, mawr a rhyfedd oedd ei weithredoedd Ef . . .

Heb ei ddisgwyl, heb ei adnabod efallai, y dôi'r deffroad. A aeth heibio oes y capelau mawr, y pregethau mawreddog, y cyrddau aml a ffurfiol, y parchusrwydd esmwyth? A fyddai angen gweinidog yn Siloam ym mhen hanner canrif arall? Neu a fyddai neges y Galilead fel cynt yn dân yng nghalon cwmnïau bychain o wŷr a golau datguddiad dwyfol yn eu trem? Ia, i gwmni bychan o rai eithaf disylw y rhoes Ef ei gomisiwn mawr, "Ewch i'r holl fyd a phregethwch yr efengyl i bob creadur." Ac efallai nad yn Siloam neu Sardis neu Soar neu Bethel y cyfarfyddai'r gwŷr ifainc hynny, ond mewn ystafell seml a phlaen-ba waeth petai'n ddim ond ysgubor heb na Sêt Fawr na phulpud? Mewn ystafell felly y clywodd y cwmni bychan hwnnw gynt am ysbryd a'i nerthai i dystio "yn Jerwsalem a Samaria, a hyd eithaf y ddaear." Beth bynnag a ddygai'r dyfodol, meddyliodd yr hen weinidog, yr oedd un peth yn sicr : y llyfr a fu ar agor ym mhob oedfa yn Siloam a Sardis a Soar a Bethel fyddai sail y gweithgarwch newydd hwn . . . Ia . . . "Canys sylfaen arall nis gall neb ei osod . . ."

Torrodd sain pib ar draws ei feddyliau, ac ymhen ennyd daeth ei wraig a'i wyr i mewn i'r stydi.

"Hylô, lle cest ti'r bib 'na, Meurig?"

"Ffowc y Saer roth hi imi, Taid."

"Un dda ydi hi hefyd, yntê, fachgan?" meddai'r hen ŵr gan ei chymryd yn ei ddwylo a syllu'n edmygol arni. "Mae o'n un clyfar efo'i law, mae'n rhaid. 'Roedd 'i daid o yr un fath." "Mae o am fy nysgu i i'w chanu hi'n iawn, medda fo." "Ac mi wneiff Ffowc hefyd, wsti, os ydi o wedi gaddo . . . Wel, Mary, sut oeddach chi'n gweld Myrddin?"

"Go gwla ydi o, Owen. Ac mi aeth yn reit gas efo Meurig bach gynna'."

"Efo Meurig? Pam?"

"Pan ddaru o ddechra' canu'r bib 'na yn y llofft . . . Wel, be' ydach chi wedi bod yn wneud?"

"Synfyfyrio wrth y tân 'ma, mae arna' i ofn."

"A finna'n meddwl eich bod chi am sgwennu tipyn o'ch atgofion."

'Ron i wedi bwriadu mynd ati, hogan. Own, wir, ond . . .

"Ond be', Owen?"

"Prin y basa' gan neb ddiddordab yn fy nhipyn profiada' i." Syllodd yn dyner arni, yna ar Feurig, ac wedyn crwydrodd ei lygaid tua llun Arthur, tad y bachgen, ar y mur. "Ac eto . . . 'Wn i ddim, Mary . . . 'wn i ddim . . . "

Nodiadau[golygu]


Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.