Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron/Rhagair
← Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron | Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron gan John Tudor Jones (John Eilian) |
Cynnwys → |
LLYFRAU'R FORD GRON
Golygydd: J. T. JONES
GWNAED AC ARGRAFFWYD YN WRECSAM
RHAGAIR.
AM ddau can mlynedd wedi marw Dafydd ap Gwilym, tad y mesur cywydd, fe gododd cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o feirdd i ganu ar y mesur, ac i'w loywi a'i berffeithio.
Yn wir, fe gyrhaeddodd barddoniaeth gaeth Gymraeg ei man uchaf yn ystod y ddau can mlynedd hyn (sef, yn fras, rhwng 1400 a 1600). Y mae'n gyfnod gwir glasurol—y meddwl yn graff a grymus, y teimlad yn fynych yn dyner, a'r mynegi'n hynod o gain. Yr oedd gan y beirdd feistrolaeth wyrthiol ar eiriau, meistrolaeth na welwyd mo'i thebyg wedyn nes daeth T. Gwynn Jones.
Llywelyn Goch Amheirig Hen ydyw'r cyntaf a enwn. Yr oedd ef yn byw yn Nannau, ger Dolgellau, ac yn canu cyn 1400. Y mae ef yn nodedig am ei farwnad i Lleucu Llwyd—rhyw fath o serenade i ferch yn ei bedd. Fe ddaeth hon mor enwog nes i ganu marwnadau i ferched fynd yn ffasiwn. Mynych y gwelir yn rhai o'r marwnadau diweddarach y coegni a'r "teimlad gwneud" a'r gor-ddywedyd sy'n dangos mai o ran ffasiwn y'u canwyd.
Yr oedd Iolo Goch wedi marw cyn 1400 hefyd. "Gŵr hoff o dawelwch mynachlog a phlas, gŵr hoff o lyfrau a myfyrio arnynt," ydoedd ef. Yr oedd yn fardd i Owain Glyn Dŵr yn Sycharth, ac y mae ei gywydd sy'n darlunio llawnder Sycharth wedi ei alw yn un o'r cywyddau hapusaf yn Gymraeg." Y mae ei gywydd i'r Llafurwr hefyd yn enwog—yn dangos mai'r llafurwr mwyn ar y maes ydyw sylfaen y byd.
Mynach oedd Siôn Cent, yn byw yn Kent- church, Sir Henffordd, ac yn ei anterth tua 1400- 1430. Y mae ôl syniadau diwinyddol yn drwm ar ei ganu.
Yr oedd Dafydd Nanmor ar ei orau tua 1460. "Saif," meddai'r Athro W. J. Gruffydd, "rhwng Dafydd ap Gwilym a Dafydd ab Edmwnd, rhwng y cynhyrfiad cyntaf, na fynnai ei gaethiwo ei hunan â gormod rheolau, â'r adwaith clasurol a ddaw bob amser pan fo'r bywyd ieuanc yn tynnu at y blynyddoedd nad oes iddo gymaint diddanwch ynddynt. ... Rhed cywydd Dafydd Nanmor fel yr afon lefn rugl, heb gyffro na thrwst ac heb golli dim o’i gloywder grisialaidd."
Fe ddywedir bod Lewis Glyn Cothi, oedd ar ei orau tua 1450, yn swyddog milwrol, ac iddo, fe ddichon, ymladd yn Rhyfel y Rhosynnau. Y mae ganddo lawer cywydd yn dilyn ffawd y Tuduriaid. Fe welir oddi wrth ei gywyddau hefyd ei fod yn hen gyfarwydd â'r gororau, o amgylch Caer a Fflint. Yn y ddau gywydd yn y llyfryn hwn fe welir dwy ochr ei ddawn,—ei ddawn i wawdio a melltithio Saeson Ffint am chwennych gwrando William Bibydd yn hytrach na gwrando arno ef yn canu awdl gyda'r delyn; a'i dynerwch dwys yn ei farwnad i Siôn y Glyn, ei fab bach pum mlwydd oed. Sylwer ar gyfanwaith gorffenedig ei gywyddau.
Yr oedd Dafydd ab Edmwnt yn ffigiwr pwysîg
yn ei ddydd, a chymerodd ran amlwg yn Eisteddfod
Caerfyrddin yn 1451 i ddodi rheol ar y beirdd a'u
barddoniaeth. Un o Hanmer, Tregeingl, Sir
Fflint, ydoedd, a bu farw tua 1500. Y mae eî
gywydd i Sion Eos yn brotest yn erbyn lladd am
ladd.
Nai a disgybl i Ddafydd ab Edmwnt oedd Tudur Aled, y prif ddyn ymhlith beirdd ei oes, a'r awdurdod pennaf ar gelfyddyd cynghanedd. Yr oedd yn feistr ar ddywediadau byrion, disglair, cynhwysfawr. Gŵr bonheddig ydoedd, a'i ddiwylliant yn blodeuo yng nghanol hamdden. Trigai yn Llansannan, Sir Ddinbych.
Un o ardal Llansannan oedd Gruffydd Hiraethog hefyd, a chan Dudur Aled yr hyfforddwyd ef. Daeth yntau yn athro beirdd, ac yn eu plith yr oedd William Cynwal, Simwnt Fychan, Siôn Tudur a Wiliam Llŷn.
"Nid oes dim yn anwybodus i Willam Llyn," meddai Gruffydd Hiraethog. Tybir mai un o Lŷn ydoedd, ond fe aeth i Groesoswallt i fyw. Yr oedd yn ŵr o ddychymyg byw, ac yn ddigon digonfensiwn i fedru canu yn ei ddull ei hun yn lle yn ôl y patrwm. Y mae ei farwnad i Gruffydd Hiraethog, a'i farwnad i Syr Owain ap Gwilym yn dangos dwyster gwir gyfeillgarwch a chariad.