Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron/Siôn y Glyn

Oddi ar Wicidestun
Marwnad Merch Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron
Y Cywyddau
gan Lewys Glyn Cothi

Y Cywyddau
Saeson Fflint

Siôn y Glyn

LEWIS GLYN COTHI

UN mab oedd degan i mi,
Dwynwen! gwae 'i dad o'i eni!
Gwae a edid o gudab
I boeni mwy heb un mab;
Fy nwy ais, farw fy nisyn,
Y sy'n glaf am Siôn y Glyn;
Udo fyth yr ydwyf i
Am benâig Mabinogi.

Afal pêr ac ederyn
A garai 'r gwas, a gro gwyn;
Bwa o flaen y ddraenen,
Cleddau digon brau o bren;
Ofni'r bib, ofni'r bwbach,
Ymbil â'i fam am bêl fach;
Canu i bawb acen o'i ben,
Canu io-o er cneuen;
Gwneuthur moethau gwenieitho,
Sorri wrthyf i wnai fo,
A chymod er ysglodyn
Ac er dis a garai'r dyn.

Och! nad Siôn, fab gwirion gwâr,
Sy'n ail oesi, Sain Lasar!

Beuno a droes iddo saith
Nefolion yn fyw eilwaith;
Gwae eilwaith fy ngwir galon
Nad oes wyth, rhwng enaid Siôn.

O, Fair, gwae fi o'i orwedd,
A gwae fy ais gau ei fedd;
Yngo y saif angau Siôn
Yn ddeufrath yn y ddwyfron;
Fy mab, fy muarth baban,
Fy mron, fy nghalon, fy nghân;
Fy mryd cyn fy marw ydoedd,
Fy mardd doeth, fy moeth im' oedd;
Fy nhegan oedd, fy nghannwyll,
Fy enaid teg, fy un twyll;
Fy nghyw, yn dysgu fy nghân,
Fy nghae Esyllt, fy nghusan;
Fy nyth, gwae fi yn ei ôl,
Fy ehedydd, fy hudol;
Fy Siôn, fy mwa, fy saeth,
F’ymbiliwr, fy mabolaeth.

Siôn y sy'n danfon i'w dad
Awch o hiraeth a chariad;
Yn iach wên ar fy ngenau,
Yn iach chwerthin o'r min mau;
Yn iach mwy ddiddanwch mwyn,
Ac yn iach i gnau echwyn;
Ac yn iach bellach i'r bêl,
Ac yn iach ganu uchel;
Ac yn iach, fy nghâr arab,
Iso'n fy myw, Siôn fy mab!