Y Ddwy Lili
Gwedd
← | Y Ddwy Lili gan R Silyn Roberts |
→ |
Blodeuyn aur y banadl
A garodd lili wen,
A hithau'r lili wylaidd
Yn serchog blygai'i phen.
Pan welais i Riannon,
Ei charu'n union wnes,
Rhois oreu 'nghalon iddi,
A mwynder ganddi ges.
Cusanodd angau'r lili,
A llwydodd gwawr ei gwedd
Ffarwelio wnaeth Rhiannon,
A phlygu i waelod bedd.
Tros rudd y blodyn euraidd
Disgynna'r dagrau'n lli;
Ond rhewodd angau ffynnon
Fy nagrau heilltion i.