Y Deildy

Oddi ar Wicidestun

gan Dafydd ap Gwilym

Heirdd feirdd, f’eurddyn diledryw,
Hawddamor, hoen goror gwiw,
I fun lwys a’m cynhwysai
Mewn bedw a chyll, mentyll Mai,
Llathr daerfalch wuch llethr derfyn
Lle da i hoffi lliw dyn,
Gwir ddodrefn o’r gaer ddidryf,
Gwell yw ystafell os tyf.


O daw meinwar fy nghariad
I dŷ dail a wnaeth Duw Dad,
Dyhuddiant fydd y gwŷdd gwiw,
Dihuddygl o dŷ heddiw.
Nid gwaith gormodd dan gronglwyd,
Nid gwaeth deiliadaeth Duw lwyd.
Unair wyf i â’m cyfoed,
Yno y cawn yn y coed
Clywed siarad gan adar,
Clerwyr coed, claerwawr a’u câr,
Cywyddau, gweau gwiail,
Cywion priodolion dail,
Cenedl â dychwedl dichwerw,
Cywion cerddorion caer dderw.
Dewi yn hy a’i dawnha,
Dwylo Mai a’i hadeila,
A’i linyn yw’r gog lonydd,
A’i yagwir y woes gwŷdd,
A’i dywydd yw hirddydd haf,
A’i ais yw goglais gwiwglaf,
Ac allor serch yw’r gelli
Yn gall, a’i fwyall wyf fi.


Ni chaf yn nechrau blwyddyn
Yn hwy y tŷ no hyd hyn.
Pell i’m bryd roddi gobrau
I wrach o hen gilfach gau,
Ni cheisiaf, adroddaf drais,
Wrth adail a wrthodais.