Y Deryn Ysgafnaf yn Uchaf (Mynyddog)

Oddi ar Wicidestun
Mae ambell aderyn lled fychan,
Mae ambell aderyn lled fawr,
Mae rhai yn ehedeg yn uchel,
Ac ereill yn ymyl y llawr;
Ceir rhai ddigon ysgafn i hedeg
I ymyl y lleuad mor llon,
A’r lleill sydd yn llawer rhy drymion
I hedeg ’run dwylath o’r bron;
Ond dyma’r gwirionedd yn hanes y byd,
Mai’r deryn ysgafnaf yw’r uchaf o hyd.


Os gwelwch ysgogyn go wyntog
Yn chwyddo’n anferthol o fawr,
O’r braidd y mae gan ei ysgafnder
Yn cyffwrdd ei draed yn y llawr;
’Does ryfedd ei fod yn ymgodi
I fyny fel pluen i’r nen,
’Does ganddo ddim pwysau’n ei boced,
Na gronyn o bwysau’n ei ben.
Ond dyma’r gwirionedd, &c.


Ceir ambell i eneth benchwiban
Yn gwerthu gwyleidd-dra a moes,
Ysgafnder yw nodwedd ei meddwl,
Ysgafnder yw nodwedd ei hoes;
Nid rhaid iddi bluo ei bonnet,
Na llenwi ei gwallt gyda charth,
Mae digon o bluf yn ei henaid
I’w chario i amharch a gwarth.
Ond dyma’r gwirionedd, &c.


Edrychwch i’r ffair ac i’r farchnad,
Ysgafnder sydd yno’n mhob man,
Ynghanol brefiadau y lloiau
Mae’n codi yr uchaf i’r lan;
Mae Satan yn pluo adenydd
Rhai dynion i’w codi am awr;
Ond cofiwch mai eu codi mae Satan
Er mwyn cael eu taro i lawr.
Ond dyma’r gwirionedd, &c.


Medi 24, 1875.