Y Drindod
Gwedd
gan Dafydd ap Gwilym
- Da fu'r Drindod heb dlodi
- A wnaeth nef a byd i ni.
- Da fu'r Tad yn anad neb
- Roi Anna ddiwair wyneb.
- Da fu Anna dwf uniawn
- Ddwyn Mair Forwyn ddinam iawn.
- Da fu Fair ddiwair eiriawl
- Ddwyn Duw i ddiwyno diawl.
- Da fu Dduw Iôr, ddioer oroen,
- Â'i Groes ddwyn pumoes o'u poen.
- Da y gwnêl Mab Mair, air addef,
- Ein dwyn oll bob dyn i nef.
Tarddiadau
[golygu]- Gwefan Dafydd ap Gwilym, Prifysgol Abertawe; adalwyd 06/12/2012