Y Faner Goch

Oddi ar Wicidestun
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

cyfieithiad gan Niclas y Glais

Mae baner gwerin yn y nen
A'i phlygion tanllyd uwch ein pen;
O'r gwan a sathrwyd o dan draed
Y daeth i'w phlygion liw y gwaed.
Cytgan:
Mae'r Faner Goch yn fflam o dan
Yn chwifio yn yr awyr lan;
Er brad y stanc a nos y gell
Cyhoedda'r faner ddyddiau gwell.
O gelloedd y carcharau du
Fe gwyd y gan yn nodau cu;
O frwydrau trwm y werin wan
Fe gyfyd can o hyd i'r lan.
Dan fflangell y gorthrymder mawr
Fe gan y gwan am newydd wawr;
O laid heolydd, rhoddir iaith
I ingoedd byddin y di-waith.
Cyd-rodia'r gweithwyr tua'r gad
I ddu-orseddu gorthrwm gwlad;
O ddyfnder ing a thlodi'r byd
Fe ddaw y gan a'i hedd o hyd.
Sawl mil o weithwyr aeth i'w bedd
Wrth frwydro am yr hyfryd hedd;
Sawl merthyr blygodd tan y cam
A'i gan yn fyw ar waetha'r fflam?
Cyd-floeddied gweithwyr am y dydd
Y daw pob gwlad o'i thlodi'n rhydd;
Er bod y beichiau heddiw'n drwm
Mae'r dydd yn dod i'r bwthyn llwm.