Y Fedwen
Gwedd
gan Dafydd Llwyd
- Y fedwen fonwen fanwallt
- Eglur wyd – o gil yr allt,
- Llaw Duw a’th planodd lle’dd wyd:
- Llety gwâr adar ydwyd.
- Mynaches wyd mewn achudd:
- Eglur wyd dan dy gŵl rhudd.
- Preiffion sidan uwch priffyrdd
- O dair ban dy gapan gwyrdd.
- Merddin fardd, mawrddawn ei fodd, -
- wyd deg iawn – yt a ganodd:
- Dan dy do efô a fu,
- Pur wiw adail, yn prydu.
- A’i afallen beren bell
- Bu orchudd gynt i’w barchell.
- Cefaist draw – cofus y drin –
- Mawrddysg gyf’rwyddyd Merddin.
- Mynag, fedwen is mynydd
- Pumlumon, pa sôn y sydd,
- Gair aur rhudd, a gair yrhawg.
- ‘Byd mawr aflwydd a chwydd chwyrn,
- Orig adwyth ar gedyrn;
- A’r byd a ostwng ei ben,
- A rhieni ŵyr Rhonwen.
- Merddin ddewin a ddywod
- Cyn treio hyn y try’r rhod.
- Yn gynnar iawn gwn yr ân,
- Ffiaidd ddull, o’r fydd allan:
- Ni pharchan – ddiffoddan ffydd -
- Gwir anach na’r gerennydd,
- Na chyfathrach nac achwedd
- Na gosibiaeth, waethwaeth wedd.
- Ni folan Duw heb falais,
- Na thro heb ffalsedd a thrais.
- O falchder yr arferir,
- A’r gau yn amlach no’r gwir.
- Mwy fydd clod am bechode
- Yn ôl nog am ennill ne.
- Eu gwenwyn hwy eginawdd,
- A’u twyll eu hunain a’u tawdd.
- Mae’r saint – hardd eu braint i’w bro –
- A Duw agos yn digio:
- Dialled Duw a welir
- Arnun, a newyn yn wir.
- Rhyfel, heb gêl, a welan,
- A thwyll Ysgotiaid a thân.
- Ni does ran na llan na lle
- Na fan hyd Fynydd Mynne
- Na bo eu hamcan o’u bodd
- a’u tro ar ddywod drwodd.
- Tirio wnân cyn tri Ionor
- pum llynges ym mynwes môr.
- Sain i Ddofr y daw yn ddifreg
- o longau stâl lynges deg;
- a llynges a ollyngir,
- o Lydaw y daw i dir.
- Gwŷr Llychlyn a dynn i’r dŵr
- Drwy gennad y d’roganwr;
- a gwŷr ’r ynysoedd i gyd
- i ddwyn haf, a ddôn hefyd;
- a naw nasiwn – gwn gyfri –
- a leddir, meddir i mi.
- Rhin fywyd y rhan fwyaf
- A’u treia hwy cyn tri haf.
- Dewi, ddifri ei dwyffron,
- Wyrth nef, a ddywod wrth Non,
- “yr ynys o rieni
- O rad nef a roed i ni.”
- A hanffo, heb gyffro gwyllt,
- Hael oesael, o hil Esyllt,
- Gŵr a wna goron Owain
- Uwch y rhod a ddyrcha’r rhain;
- Gwiw Iesu hael, ac oes hir;
- Ac ynys Brutus heb ran
- Hi’n wellwell o hyn allan.’