Y Ferch o'r Sger

Oddi ar Wicidestun

Y Ferch o'r Sger

Mab wyf i sy'n byw dan benyd,
Am f'anwylyd fawr ei bri;
Gwaith fwy'n ei charu'n
fwy na digon,
Curio wnaeth fy nghalon i:
Gwell yw dangos beth yw'r achos,
Nag ymaros dan fy nghur;
Dere'r seren atai'n llawen,
Ti gei barch a chariad pur.

Gwresog ydyw'r haul gwyneblon,
Oer, ond anwyl, ydyw'r ser;
Gwres oer felly yn fy nghalon
Bâr adgofion
Merch o'r Sger.
Mae fy mam a'm chwaer yn dirion,
Yn rhoi popeth yn fy llaw;
Merch o'r Sger sy'n torri'm calon,
Merch o'r Sger sy 'n cadw draw.

'Pwylla'r bachgen gwyllt dy anian,
Rwyf yn ofni rhwymo'm llaw;
Wrth gael digon o rybuddion,
Gan gariadon yma a thraw:
Rwy'n rhy ifanc eto i ddianc,
Cymraf bwyll
cyn mynd rhy bell;
Pan fwy'n barod ryw ddiwrnod,
Clywed gei, os byddi gwell.'


O gasgliad Maria Jane Williams