Y Gŵr wrth Ffynnon Jacob

Oddi ar Wicidestun
Iesu a'r wraig o Samaria wrth Ffynnon Jacob

Mae Y Gŵr wrth Ffynnon Jacob yn emyn gan Thomas William (1761-1844)

Y Gŵr wrth Ffynnon Jacob
eisteddodd gynt i lawr,
tramwyodd drwy Samaria,
tramwyed yma nawr;
‘roedd syched arno yno
am gael eu hachub hwy,
mae syched arno eto
am achub llawer mwy.


Mwy, mwy,
am achub llawer mwy,
mae syched arno eto
am achub llawer mwy.


Goleua’n meddwl ninnau
I weld dy ddawn, O! Dduw,
A phwy sy’n galw arnom
I yfed dyfroedd byw;
A gadael ein pydewau
A’n dwfr-lestri’n hun
I yfed dyfroedd gloywon
O ffynnon Mab y Dyn.


Mwy, mwy,
am achub llawer mwy,
mae syched arno eto
am achub llawer mwy.

Ffynhonnell[golygu]

Gobaith Cymru