Y Gelfyddyd Gwta/Nodiadau
Gwedd
← Tudalen 60 | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
→ |
- 12 .tegach. Ni chaledai 'r g yn y radd gymharol.
- Seiriol enw sant. Ar ei ôl ef yr enwir Ynys Seiriol, ar ymyl
- Môn.
- 12 .Ychydig brydyddiaeth o waith merched a geir yn y Llawysgrifau Cymraeg. Un o Ddyffryn Clwyd oedd Alis ferch Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan. Efallai mai hi oedd y brydyddes ddienw.
- 13 .hudol y swynwr. Enw yw, nid ansoddair.
- 13 .cus, cusan.
- 14 .tyrs, ffaglau. O'r Saes. torch.
- 15 .topyn, cudyn gwallt. Gwelir mai chwarae ar enw 'r ferch y mae'r prydydd.
- 16 .Lle 'dd wyf lle ydd wyf, lle yr wyf.
- 16 .gwers, pennill.
- 17 .nid ymguddia', ni phlygaf ben.
- 18 .N' ato na adawed.
- 18. Ymadrodd ardderchog yw llusgiad llygad llon.
- 18. gwyn fanod ôd neu eira mân.
- 18 .o dw, o dwf.
- 19 .dur plâd, plât, o'r Saes. plate.
- 20 .herwr, un wedi colli nawdd cyfraith, peth cyffredin pan oeddid yn lladrata tiroedd y Cymry annibynnol.
- Siri, siryf, o'r Saes. Sheriff. Dealler main gyda herwr
- 20 .i'w golli, i'w ddihenyddio.
- 21 brodiau, ffurf luosog brawd, barn.
- 21. a m'fi, a myfi.
- 22. atebud, gwahoddud. Hen derfyniad yr ail pers. yn yr amser amherffaith oedd –ut, -ud. Aeth yn –it, fel yr ysgrifennir bellach, drwy ddylanwad i ar ei ôl —atebut ti atebit ti.
- 23. Edward Lhuyd, pennaeth Cywreinfa Ashmole, Rhydychen, un o ysgolheigion pennaf ei oes.
- 23. a folon, a folom. Tyfodd y ffurf (a glywir fyth ar lafar) drwy i'r n o'r rhagenw ni lyncu'r m. i'n tasg, fel dyletswydd.
- 24. lle bu amau, lle bu amheus.
- 24. musig. Seinier yr u Gymraeg, fel y gwneir eto yn y gair ar derfynau Sir Gaorfyrddin a Morgannwg.
- 24. colwyn, ci bach. Tebig mai Gronyn oedd ei enw.
- 25. Tlws gardd, dealler tlws fel enw, nid ansoddair. Sylwer ar fanylder "Rhydliw wisg arian-grwybr," gwisg o liw rhwd a chrwybr arian ar hyd-ddi.
- 25. mwthlan, gorfeddal, mwythus, mursonnaidd, medd Dr. Davis. Clywir eto yn Sir Ddinbych, fel enw, am ryw fenyw gnodiog, feddal. Methlu, maglu, rhwystro.
- 25. can nwsing, can' dwsin.
- 26. bragod math ar ddiod. Soniai 'r telynorion hefyd am y bragod gywair.
- 26. 2il Englyn. Yr oedd prydyddion y cyfnod hwn yn hoff iawn o eiriau cyfansawdd.
- 27. cynyddion, meistriaid y cŵn hela, unigol cynydd.
- 28. melyn cawn, o liw cawn melynion.
- 28. gwynnog, gwyntog, a'r t yn troi 'n n yn rheolaidd.
- 32. a fo gwirion a geirwir. Esgeulusid f yn y gynghanedd yn aml gynt.
- 32. 3ydd Englyn. Gwelir nad odla 'r llinell gyntaf a'r lleill.
- 32. treio, mynd ar drai, yn llai.
- 33. euro lla
- w, prynu ffafr, breibio.
- 34. catelion, o'r Saes. chattels.
- 35. Englyn 1af. Ergyd y pennill yw nad oedd gan y naill nemor le i achwyn ar y llall.
- 35. doeder, ffurf lafar gyffredin gynt am dyweder.
- 36. a wnel camwedd. Ni feddelid cytsain yn gyffredin gynt ar ol ffurfiau trydydd pers. unig y modd dibynnol.
- 38. prudd, hen ystyr y gair oedd doeth, o'r Llad. prudens. Am fod dynion call yn fynych yn drist y cymerth y gair yr ystyr honno, ond odid.
- 38. erddyrn, ffurf luosog arddwrn.
- 39. cantir, can' tir. eurych, gof aur i ddechreu, yna tincer.
- 39. a garo dadwrdd, gweler y nodiad ar 36.
- 39. â llawnwyd, yn llawn gwŷd.
- 40. "Dyn ac Anifail ": Ceir yr englyn cyntaf tan enw Huw Llifon, clochydd Llannefydd, Sir Ddinbych, yn C.M. 24, ond bod y drydedd llinell yn amgen —" Dyna waith diffaith i don."
- 40. ffut, o'r Saes. feat, efallai.
- 40. mae 'n ei gaul, yn ei grombil.
- 40. o gyweth, ffurf lafar ar y gair cyfoeth.
- 43. neu bryd, harddwch.
- 43. 4ydd Englyn. Gwelir nad odla diben y llinellau, ac na chedwir rheol dibeniad anghytbwys yr esgyll.
- 44. 4ydd Pennill. Toddaid Hir yw 'r pennill, ond am fod y Gair Cyrch yn odli â'r gwant, fe wnâ bennill Rhupunt Hir hefyd —
"Gwrol, tragwrol,
Trugarog wrol,
Ni bu tragwrol
Na bai trugarog."
- 45. Gwelir fod Ellis Wynne yn arfer ffurfiau llafar.
- 48. Englyn 1af. Dengys yr englynion hyn y byddai'r beirdd ar dro yn blino ar wenhieithio i'r gwŷr mawr
- 48. ymogor, cysgodfa, annedd.
- 48. breferod y ffurf gyffredin yw breferad, brefu, rhuo.
- 50. yfed ar dasg, yfed a'i holl egni.
- 50. yn siêd yn rhydd, faint a fynnai. O'r Saes. escheat.
- 51. ysmoneth hwsmonaeth.
- 51. nawaith naw gwaith.
- 52. ni odrig, nid erys, nid oeda.
- 57. cyngyd ymaros, oedi. Dengys y gynghanedd yma, megis gan feirdd eraill, mai cyn-gyd nid cyngyd, a ddywedid.
- 58. cynheiliad cynhaliwr.
- 59. ni wŷl ni wêl.
- 60. madws, yn llawn bryd, yn hwyr glas.
—————————————
Gwnaethpwyd ac Argraffwyd yng Nghymru gan
J. D. Lewis Argraffwyr Gwasg Gomer Llandysul.