Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 28
Gwedd
← Tudalen 27 | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
Tudalen 29 → |
MILGI
(Most. 131)
Cyrch gwiber, hyder hedydd, melyn cawn,[1]
Ym mlaen cŵn y gwledydd;
Corff hir fain craff ar fynydd,
Ci perl, a ŵyr cipio hydd.
Cryfdwr llew hylew, lliw heulwen wybr frig,
Llithiedig, lle 'th adwen,
Cyflym wyllt, ci fal mellten,
Cei draw gylch aur, cadw 'r gloch wen.
—RHYS CAIN, Englynion a wnaed y 10fed dydd o vis Medi i filgi Dafydd Holand
a enillodd y gloch arian oddiar wyr Kilgwri. Anno dni. 1590.
OERFEL
(Most. 131)
Tro draw, dyro law, daear las a guddiwyd,
Duw, gwyddom fyd atgas;
Tro 'r ia a'r eira oerias,
O Dduw, i'r glyn yn ddŵr glas.
—DIENW.
Y TYMHORAU
(C.M. 23)
Mwyn oedd gael Gwanwyn gwynnog,[2] a hefyd
Mwyn hafaidd hin wresog,
Cynhaeaf araf, eurog,
Gaeaf, i'm tyb, gwlyb ei glôg.
—DIENW.