Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 39
Gwedd
← Tudalen 38 | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
Tudalen 40 → |
DA GAN EURYCH
(MOST, 131)
DADWRDD
(C.M. 24)
Pwy bynnag, gorwag, a garo dadwrdd
A doedyd a fynno,
Fo wrendy 'n fflwch, trwch yw 'I tro,
Poeth naws min, peth nis mynno.
—HUW LLIFON.
DIAL
Y dyn da, nid yw 'n dial,
Dywed ef mai Duw a dâl;
Od yw wir y mynn Duw dâl,
Onid yw gyfion dial?
—DIENW.
DWST
(Most. 131, 828)
O ddwst a lludw, yn ddyn, â llawnwyd,[3]
Y lluniwyd pob rhyw ddyn;
O'r dwst y doeth pob noethyn,
I'r dwst y bwrir pob dyn.
—DIENW.