Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 47
Gwedd
← Tudalen 46 | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
Tudalen 48 → |
OES GWR
(C.M. 23)
Er goludoedd, er glewdwr,
Nid oes i'w crael ond oes gŵr.
—DIENW.
OFEREDD
(Ll.Y.A.)
Treuliais a gefais o gyfoeth, anfuddiol,
Heb feddwl am drannoeth;
Cefais am wario cyfoeth
Ddeulin a phenelin noeth.
—DIENW.
(Pant. 40)
Oferedd, gwagedd i gyd yn gyfan
A gefais i'm bywyd;
Gwae o'r anferth gur ynfyd,
Medd y bardd, sy 'n maeddu byd!
—DIENW.
PAWB
Holed dyn ei hun heno, a gwylied
I'w galon ei dwyllo,
Mae natur, mi wn, eto
A dull ei chwant yn dwyll o'i cho.
—THOMAS EDWARDS O'R NANT.