Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 50
Gwedd
← Tudalen 49 | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
Tudalen 51 → |
Y SIAWNS
(Most. 131)
Tybiais gael er mael i mi gywely
A golud mawr iddi,
A dafad wedi dofi —
Gafr ar siawns a gerais i.
—DIENW.
SYCHED
(C.M. 23)
SYNNWYR
(Pen. 77, 301)
Synnwyr sarff sy 'n oreu som,
Synnwyr merch sy un air a'i mam;
Synnwyr mab sy'n oreu mwm,
Synnwyr Duw sy 'n oreu dim.
—DAFYDD AB EDMWND.
TAFOD DA
(C.M. 24)
Hapus, ddawnus, ddiana' a medrus
Ymadrodd mewn tyrfa,
Cydnabod rhan tafod da
Rhag ateb yn rhy gwta.
—HUW LLIFON.