Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 52
Gwedd
← Tudalen 51 | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
Tudalen 53 → |
TRUGAREDD
Fy Nuw, gwêl finnau, Owen; trugarha
At ryw grydd aflawen,
Fel y gwnawn pe bawn i'n ben
Nef, a thi o fath Owen!
—DIENW.
TRWSIAD
(C.M. 23)
Ni charaf forwyn ry chwerwaidd ei gwên,
Ag wyneb hen-ddynaidd,
A phen hwch mewn ffa neu haidd,
A phais Iwyd a phâs wladaidd.
—DIENW.
TWYLL
(N.L.W. Ajdd. 436)
Hawdd draw yw twyllaw mewn tywyllwg ddyn,
Ni ddaw ffals i'r amlwg;
Diafol, ond o ran golwg,
Dan ei druth ydyw'r dyn drwg.
—DIENW.
TYNGED
(C.M. 11)
Ni odrig[1] meddig am a êl at Dduw,
Ni ddiainc o fatel;
Nêr a rifer i ryfel,
Nos na dydd ni wys nad ôl.
—IORWERTH FYNGLWYD
Nodiadau
[golygu]- ↑ ni odrig, nid erys, nid oeda