Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 56
Gwedd
← Tudalen 53 | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
Tudalen 57 → |
DIFOD.
ANGAU
(C.M. 24)
"Ni wn o'r byd hwn ble tynnaf i ffwrdd,
Na pha ffordd a gerddaf,
Na pha wlad rad a rodiaf,
Na phle gan yr Ange 'r af.
Beth wyd, Angau, ba fath dynged?
—och, ŵr,
Pam na cheir dy weled?
Ba fan neu gyfran o gred
Y'th henyw? Ble y'th aned? "
"Cleddau dur, Angau, dewr wyf, ni fynnaf
Onid dyn lle delwyf;
Cas y byd, a'u cosb ydwyf,
Cennad Duw dad atad wyf."
—HYWEL AP SYR MATHEU,
yn ol rhai copïau. Ym Most. 131 priodolir
yr englyn cyntaf uchod i Raff ap Robert
(Most. 144)
Er gwychter, gryfder a grym, a mawredd,
Rhaid yw marw yn gyflym;
Pan ddel angau, llwybrau llym,
Llai o chwedl na llwch ydym.
—JOHN DAVIES.