Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 58
Gwedd
← Tudalen 57 | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
Tudalen 59 → |
Y DEWIS
(C.M. 24)
Dan bren yr ywen yr af i'm diwedd,
A'm dewis orffwysfa;
Ac yn fy medd gorweddaf,
Fy hyd o'r gweryd a gaf.
—HUW LLIFON.
DYCHWEL
(Most. 131)
O'r ddaear gynnar y'm ganed yn noeth
I wneuthur fy nhynged,
Ac i'r ddaear glaear gled
I'r un man yr wy 'n myned.
—RAFF AP ROBERT, y dydd cyn ei farw.
DYMUNIAD
(C.M. 23)
Arglwydd gwyn, hylwydd gynheiliad[1] nefoedd,
Yn ufudd yn wastad,
Gras a dawn gwir Iesu, dad,
Yn y man yw 'nymuniad.
—DIENW.
DYMUNIAD CLAF
(N.L.W. Add. 436, 109)
Edryched, mynned im' oes drwy iechyd,
Edryched ar f' oerloes,
Oni fynn estyn f ' einioes,
Byrhaed yn rhwydd, f 'Arglwydd, f 'oes.
—HYWEL AP SYR MATHEU, ar ei glaf wely.
Nodiadau
[golygu]- ↑ cynheiliad cynhaliwr.