Y Grawys
Gwedd
gan Bedo Aeddren
- Y dydd o wynfyd Eiddig
- er doe a ddaeth, yr ydwy’n ddig;
- dydd a’i bwys fal diwedd byd
- ar awenydd tw’r Ynd;
- dechreyand ffordd Paradwys,
- Duw yn dwyn pawb dan eu pwys.
- Deugain nieu maddeuains
- y sydd i weddiau saint;
- f’Arglwydd, yn gyd â blwyddyn
- y rhoed pob diwrnod o hyn.
- Hir oedd ym’, herwa ydd wyf,
- dridiau’n y byd yr ydwyf.
- Crefydd yr ancr o Rufain
- Ydyw’r mau fal awdur main;
- Cywir wyf yn eu crefydd,
- Vywir yw bun, caru bydd
- Gan roi fal Gwenerau yn’
- Grawysgwaith i’n goresgyn.
- Yn iach fy rhiein feinwasg,
- dilin pawb hyd Dduw Llun Pasg.
- Nis gwelaf, nid af o dŷ
- ati un nos hyd hynny.
- Nid archaf gusan, f’annwyl,
- mwy na dim i’m enaid ŵyl.
- Pan ddel y Pasg ar glasgoed,
- Bun a ddaw beunydd i oed;
- Nid amod wisgo damasg
- dalu’r pwyth hyd wyliau’r Pasg.
- Yno daw in’ y dydd
- a’i lonaid o lawenydd;
- a Mai a haflle mae hon
- a chogau fel merch Wgon;
- a phob bedwlwyn mewn manwallt
- a phais wyrdd a phwys o wallt
- ac ar ystryd a gurs drain
- aiopeu lawnd fal Sieb Lundain;
- llysiau mewn garddau a gwlith,
- grawn gwin a grynau gwenith,
- wybr eglur a môr briflas
- a llen glud yn y llwyn glas
- a lle ynial a llanerch
- a changen feinwen o ferch
- a gorffen cwbl o’n penyd
- a threio’r bâr a throi’r byd
- a rhoi ein melltith yrhawg
- ar y Gwanwyn oer bwynnawg.