Y Gusan
Gwedd
← Rhys Meirion | Y Gusan gan Robin Llwyd ab Owain |
Cywilydd! → |
Cyhoeddwyd gyntaf yn Y Bedol, Hydref 1996. Ffynhonnell: [1] gwefan Rebel ar y We / Rhedeg ar Wydr.
Trosglwyddodd y bardd ei gerddi ar drwydded agored yn Ebrill 2020. |
Pan grewyd ein breuddwydion
Un oedd ein hanadl ni;
Roedd llaw y bore'n lliwio
Enfysau dy wefusau di.
Yn hunllef yr hunllefau
Di-liw pob fory, di-loer;
Heno cusanaf innau
Barlus dy wefusau oer.