Y Gwahoddiad

Oddi ar Wicidestun

gan Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans)

"Tyrd gyda mi dros y tonnau,"
Medd llais or ystorom bell,
"Feth boenaf di â rhosynnau
A golau y tiroedd maith pell —
A chwerthin ynysoedd sydd well.
"Os tyr dy long ar y cefnfor
Ba waeth, bid lawen dy fron;
Mae plasau emrallt fy ngoror
Yn nyfnder beryl y don —
Dan lif wylofus y don;
"Os cludir dy gorff tua'r glannau
Yn llaith dan ewynnau gwyn,
Caiff dysbryd drigo'r dyfnderau
Fel lloer yn nyfnderau'r llyn —
Fel paladr haul yn y llyn.
"Cyfod dy hwyliau, a dilyn;
Nac oeda mewn byd mor ffôl;
Cei forio am haf brigfelyn
Ath hirwallt ar chwyf oth ôl —
Fel baner ddu ar dy ôl.
"Gwê lewych y wenfro ddisglair
Tros lasdon Iwerydd erch,
Lle'r oeda rhos rhwng y glaswair
Fel mwynion ddeialau serch —
Fel dedwydd offeiriaid serch."