Y Llafurwr
Gwedd
gan Iolo Goch
- Pan ddangoso, rhyw dro rhydd,
- pobl y byd, peibl lu bedydd,
- garbron Duw, cun eiddun oedd,
- gwiw iaith ddrud, eu gweithredoedd
- ar ben Mynydd, lle’i bydd barn
- i gyd, Olifer gadarn,
- llawen fydd chwedl diledaes
- llafurwr, tramwywr maes.
- O rhoddes, hael yw’r hoywddaw,
- offrwm a’i ddegwm I Dduw,
- enaid da yna uniawn
- a dâl i Dduw, dyly ddawn.
- Hawdd i lafurwwr hoywddol
- hyder ar Dduw Nêr yn ol.
- O gardod, drwy gywirdeb,
- o lety, ni necy neb.
- Ni rydd farn eithr ar arnawdd,
- ni châr yn ei gyfar gawdd.
- Ni ddeily rhyfel, ni ddilyn,
- ni threisia am ei dda ddyn.
- Ni bydd ry gadarn arnam,
- ni yrr hawl gymedrawl gam,
- nil addas ond ei odeff;
- nid bywyd, nid byd heb ef.
- Gwn mai digrifach ganwaith
- gantho, modd digyffro maith,
- gaffel, ni’m dawr heb fawr fai,
- yr aradr crwm a’r irai,
- no phed fai, pan dorrai dwr,
- yn rhith Arthur anreithiwr.
- ni cheffir eithr o’i weithred
- aberth Crist I borthi cred.
- Bywyd ni chaiff, ni beiwn,
- pab nac ymherawdr heb hwn,
- na brenin naelwin hoywlyw,
- dien ei bwyll, na dyn byw.
- Lusudarus hwylus hen
- a ddywod fal yn ddien,
- ‘Gwyn ei fyd, trwy febyd draw,
- a ddeily aradr â’i ddwylaw.’
- Crud rhwyg fanadl gwastadlaes,
- Cryw mwyn a ŵyr creiaw maes.
- Cerir ei glod, y crair glwys,
- crehyr a’i hegyr hoywgwys;
- cawell tir gŵydd rhwydd yrhawg,
- calltrefn urddegig cylltrawg;
- ceiliagwydd erwi gwyddiawn,
- cywir o’i grefft y ceir grawn.
- Cnwd a gyrch mewn cnodig âr,
- cnyw diwael yn cnoi daear.
- E fynn ei gyllell a’i fwyd
- a’i fwrdd dan fôn ei forddwd.
- Gŵr a’i anfodd ar grynfaen,
- gwas a fling a’i goes o’i flaen.
- Ystig fydd beunydd ei ben,
- ystryd iach is traed ychen.
- Aml y canai ei emyn,
- ymlid y fondid a fyn.
- Un dryllwraidd dyffrynnaidd ffrrwyth,
- yn estyn gwddw anesmwyth;
- gwas pwrffil aneiddil nen,
- gwasgarbridd gwiw esgeirbren.
- Hu Gadarn, feistr hoyw giwdawd,
- brenin a roes gwin er gwawd,
- amherawdr tir a moroedd,
- cwnstabl ef wedi diliw
- aradr gwaisg arnoddgadr gwiw;
- ni cheisiodd, naf iachusoed,
- fwriwr aer, fara erioed
- eithr, da oedd ei athro,
- o’i lafur braisg, awdur bro,
- er dangos, eryr dawngoeth,
- i ddyn balch a difalch doeth,
- bod yn orau, nid gau gair,
- ungrefft gan y Tad iawngrair,
- aewydd mai hyn a oryw,
- aredig, dysgedig yw.
- Ffordd y mae cred a bedydd
- a phawb yn cynnal y ffydd,
- llaw Dduw cun, gorau un gŵr,
- llaw Fair dros bob llafurwr.