Y Llamhidydd

Oddi ar Wicidestun

gan Tomos Prys

Y llamhidydd llym hoywdeg
yn llamu’n frau tonnau teg,
llo gweilgi, lliwiog ael gerth,
llyfna gwrs fab llefain gerth.
Llawen ydwyt lle’I nodir,
llon ym mrig ton ym mro tir;
ffrom olwg, ffriw ymyloer,
a phryd arth yn y ffrwd oer.
Cychneidia, cryna fel cryd,
cyhwfan acw hefyd.
Ymdrech â dwfr, madarch du,
edrych arno a chwyrnu.
Yr ydwyt yn aredig
y tonnau brau yn eu brig,
y môr hallt yma a hollti,
eigion y don a fyn di.
Ysgod glew yw’r esgud glân,
ysgwl môr, ysgil marian;
gwiber dwfr ymgeibia’r don,
golwg a ofna galon.
Torwyn wyd, tirion odiaeth,
tramwywr y cefnddwr caeth;
twrch heli, taer uchelwaith,
treigla’r môr, tro eglur maith.
Drwy yr haf pan dry yr hin
doi i rocio ymlaen drycin.
Baedd ffryrnig, buddai uffernwyllt,
blin a llawn gwanc blaen llanw gwyllt;
paladr a’i frestplat aur frig,
pysgodyn pais gauedig;
llwyth dyfroedd, llyweth dwyfron,
llithra a dal’rhyd llethr y don.
Cryfrwy dŵr, cyfeiria di,
cyrch helynt i’r croch heli,
dewis wryd, dos erof
yn gennad ŵr gwastad gof.
Dwg siwrnai o Fenai fwnc
dua Lysbwrn dilysbwnc,
a nofia yna ennyd
i fin Ysbaen, fynwes byd.
Nofiedydd o nef ydwyt;
nofia siâs, gŵr nwyfys wyt.
Ymofyn ar derfyn dŵ,
mawr foliant, am ryfelwr,
Pris Gruffudd, ond prudd pob bron,
perl iawngoel, pur lân galon,
parch y Penrhyn, impyn iach,
pôr addwyn, pwy ireiddiach?
Chwe blynedd, och o’i blined,
ar llong er pan aeth ar lled
i foredd uwch y foryd,
dros y bar ar draws y byd.
Ond madws ydyw ymadael
â’r dŵr hallt yma i’r dewr hael,
i’w lys ei hun o le sâl;
ac aros man a garwn
a llawenhau’r holl llu hwn.
Ban welych ef, boen wiwlawn,
ar ei long yn wrol iawn,
galw arno, gloyw ei harnais,
galwad drwy gennad ar gais;
ac annerch ef, gynnyrch waith,
gwawd aml oddi wrth gydymaith
yn fwyn, gŵr a fu gynt
yn hwylio yr un helynt
nes iddo, hynaws addef,
brynu’I ddysg pan brinnodd ef.
A gwedi’n wir gwadu wnaeth
y môr a’i holl gymeriaeth.
Dod erthwch, dywed wrthaw,
dymuna droi’r damwain draw
a gado’r môr yn y man
i rai eraill yr owran.
Anodd cael mael yn ael nos
ar y môr oer ymaros;
a drwg a gair anair yw
yn hawdd o’i ddilyn heddiw.
Da i ŵr ffraeth oddi ar draethell
dramwy’r byd a’r môr i bell
o ran cael, er oerni caeth,
yn y byd iawn wybodaeth;
a nid da gwn, na duwiol,
hir ddilyn hyn yn ei ôl.
Dangos, ffrom achos mewn ffrwyth,
diles galonau ei dylwth.
O chwytha’r gwynt, chwith ym’r gwedd,
awel uchel ar lechwedd,
gwelir byd ynfyd anferth,
gweddio ac udo’n gerth
rhag ofn i’r gwynt, helynt dwys,
beryglu ei gorff briglwyd.
Llawer dyn llwyr adweinir
yn cwyno amdano i dir
heb gael huno, friwdri fron,
gwn fawr ddadl, gan freuddwydion.
Oferwyr dnt i foriaw
a gwŷr ni fedd droed fydd draw.
A doed ef, wedi dofi,
eto o’u mysg atom ni.
Doed adre, diwyd dofi,
i ledio’i wŷr i’w wlad wych.
Capten o Ras fel asur
capten a’i bawen yn bur;
Duw o’i ras a ro’n drysor
Ras iddo ymado â’r môr.