Y Lleian Lwyd/Pennod I
← Y Lleian Lwyd | Y Lleian Lwyd gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
Pennod II → |
PENNOD I
TEITHIO'N gyflym mewn car modur ar hwyr o Fai yr oedd Siwan a Gwyn Sirrell pan gawsant eu golwg cyntaf ar Fin Iwerydd. Gwelsant glwstwr o bennau tai, megis mewn hafn a hanner guddid oddi wrthynt gan godiad tir; gwelsant glochdy eglwys o ganol coed, ac ar lethr y clogwyn pellaf restr o dai gwynion yn wynebu'r môr. Ar y tai hyn y sefydlasant eu golwg, oherwydd dywedodd eu mam wrthynt mai tu hwnt iddynt hwy, ar fin bae bach arall, yr oedd y tŷ a oedd i fod yn gartref iddynt.
Collasant olwg ar y rhes tai wrth ddyfod i mewn i'r pentref gyda glan y môr, ond dacw hwy eto, a'u ffenestri fel llygaid agored yn syllu mewn syndod parhaus ar ryfeddod môr a mynydd o'u blaen, ac arnynt hwythau wrth eu croesawu am y tro cyntaf.
Y tro cyntaf ydoedd i Siwan a Gwyn, ond dyfod yn ôl i'w hen gartref a wnâi eu mam. Efallai i Mrs. Sirrell ganfod mwy na syndod yn nhrem y llygaid a edrychasai ar gymaint o bethau erioed. Gorfu iddi sychu ei llygaid ei hun yn frysiog.
Cymraes oedd Mrs. Sirrell, a Gwyddel oedd ei gŵr. Deuai Gwyddyl yn fynych gynt mewn llongau masnach i Fin Iwerydd. Arhosodd rhai ohonynt yn y lle, ŵyr i un o'r rhai hynny oedd Mr. Sirrell. Er iddo ddysgu siarad Cymraeg yn weddol yr oedd yn hawdd gwybod nad Cymro ydoedd. Dyn goleubryd, tal, ydoedd, bywiog ei wedd a ffraeth ei dafod. Tebyg iddo oedd Siwan. Yr oedd Gwyn yn debycach i'w fam, yn dawel ei ffordd fel hi, a heb gymaint o awch, at fywyd a'i chwaer.
Dringodd Mr. Sirrell yn fuan i fod yn gapten. Enillai gyflog fawr, ond yn fynych iawn awyddai am ragor o arian, ac wrth geisio cael mwy collodd lawer o'r hyn a oedd ganddo. Pan fu farw ni adawodd ond ychydig gannoedd o bunnau ar ei ôl.
Yn ei gofid daeth ar Mrs. Sirrell awydd dychwelyd i'w hen ardal at ei phobl ei hun. Nid oedd ym Min Iwerydd berthynas agos iddi bellach, ond yr oedd yno lawer a'i hadwaenai gynt. Byddai'n rhatach i fyw yno nag ym Mryste, a gallai gadw ymwelwyr yn yr haf i ychwanegu at yr ychydig arian a oedd ganddi. Cefnogwyd ei bwriad yn eiddgar gan Siwan a Gwyn. Ni welsent Gymru erioed er clywed llawer o sôn amdani. Pan welsant eu cartref newydd yn llechu yng nghysgod y graig, a'r môr bron yn llyfu ei odre, daeth rhyw wefr i galonnau'r ddau, a gwyddent rywfodd eu dyfod i'r lle iawn i fyw.
Daethent bob cam o Fryste y diwrnod hwnnw. Yno yr aethai y morwr ieuanc a'i wraig ar eu priodas ddeunaw mlynedd yn ôl. Yno y ganed Siwan a Gwyn. Yr oedd Siwan yn un ar bymtheg oed a Gwyn yn dair ar ddeg. Ychydig o'r môr a welsent ym Mryste er ei fod yn ddigon agos atynt. Nid "byw ar lan y môr" a oedd byw yno: ond byw ynghanol berw tref fawr ac adeiladau uchel yn cuddio pob gogoniant oddi wrthynt. Ond yma, dyma hwy mewn gwirionedd ar fin Iwerydd, a'i ehangder gogoneddus yn agored o'u blaen. Yr oedd tua phum llath o dir gwastad o flaen y tŷ a thua phum llath arall o ochr serth y graig rhyngddynt a'r môr.
Cyn mynd i'w gwely safodd Siwan yn hir wrth y ffenestr yn syllu ar y môr aflonydd a'r clogwyni moel tu hwnt iddo, a'r tonnau'n torri'n wyn ar eu traed. Yn uwch i fyny disgleiriai goleuadau Aberystwyth. Gwelai'r agoriad lle llifai Afon Dyfi i'r môr; gwelai gornel Cader Idris, a gwyddai fod yr Wyddfa ei hun yn y golwg, ac Ynys Enlli, pe gallai droi ei ffenestr tuag atynt. Ond y moelydd unig o'i blaen a dynnai ei sylw. Edrychent fel pe'n rhoi her iddi i wybod eu cyfrinachau ar hyd y canrifoedd. Yr oeddynt mor uchel, mor unig, mor gadarn, a'r môr yn sibrwd pethau rhyfedd wrthynt wrth eu cusanu. Penderfynodd Siwan y mynnai fynd tuag atynt naill ai mewn cwch neu ynteu ar draed cyn pen llawer o ddyddiau.
Bore drannoeth deffrowyd hi yn fore, fore, gan yr haul. Disgynnai ei belydr yn syth ar ei gwely. Nid oedd ond pump o'r gloch. Cododd a mynd at y ffenestr. Yr oedd y môr fel llyn o dân, a neb, debygai Siwan, ond hi yn gweld y gogoniant.
Yn awyr glir y bore ymddangosai'r clogwyni draw yn nodedig o eglur. Daliodd Siwan ei hanadl, oherwydd yn yr unigedd pell ar yr awr fore honno gwelodd rywun yn symud yn araf gyda godre'r clogwyni, aros ennyd, a symud drachefn. Symud ymlaen ac yn ôl, ac aros yn hir fel pe'n edrych i'w chyfeiriad hi. Cofiodd lle Y dodasid ysbienddrych ei thad wrth hanner gwacau'r cistiau, agorodd y drws yn ddistaw rhag deffro ei mam, ac ymhen munud daliai'r ysbienddrych wrth ei llygaid ger y ffenestr.
A'r peth a welodd oedd rhywun mewn gwisg lwyd, hir, a rhywbeth llwyd, tal ar ei phen, heb adael dim o'i hwyneb yn y golwg—Lleian Lwyd (Grey Nun) yn symud ac aros, symud ac aros yn hir, ac yna diflannu'n sydyn.
Yr oedd yn rhy ddiweddar i alw ei mam a Gwyn, oherwydd yr oedd y ddrychiolaeth, neu beth bynnag oedd, wedi mynd o'r golwg. Ai ysbryd oedd? A welai un ysbryd wrth olau dydd? Os lleian yn wir ydoedd —a gwisg lleian yn sicr oedd amdani—o ba le y daethai? A beth a wnâi lleian unig ar draeth pell yn y bore bach? Ac i ba le yr aeth pan ddiflannodd? Yr oedd ar Siwan awydd rhedeg allan a holi pawb a thynnu eu sylw at y peth rhyfedd, ond diau bod pawb yn y pentref yn cysgu—a'r Lleian Lwyd a hithau yn edrych ar ei gilydd ar draws y môr. Aeth i'r gwely a'i meddwl yn dryblith, a bu'n hir yn effro. Ond pan ddaeth amser codi yr oedd yn cysgu'n drwm.