Y Lleian Lwyd/Pennod VIII

Oddi ar Wicidestun
Pennod VII Y Lleian Lwyd

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod IX

PENNOD VIII

FLYNYDDOEDD lawer yn ôl arferai merched wisgo cotiau hir hyd y llawr, a hwd yn hongian y tu ôl, o'r goler dros y cefn, i'w chodi'n orchudd, i'r pen pan ddeuai glaw. Un o'r cotiau hyn, un hen, lwyd yr olwg, oedd am Rita pan ddaeth allan o'r ogof. Codasai'r hwd dros ei phen fel nad oedd ond ychydig o'i hwyneb yn y golwg. Gyda hanner gwên daeth at Siwan a dywedyd,

"Dyma'r Lleian Lwyd."

Cyn i Siwan gael amser i ateb, canfu'r eneth y cwch unig ar y môr, a daeth golwg gymysg o gyffro a llawenydd i'w hwyneb.

"O!" ebe hi, "O! Dacw fe'n dod. Mae'n dod yma yr amser hwn o'r dydd! Mae wedi gweld rhywbeth! Mae wedi bod yn edrych trwy ei wydrau. Fe fydd yn anfodlon fy mod wedi dangos fy hun. Ond nid arnaf i oedd y bai. Yr oedd hyn i fod i ddigwydd. Yr wyf yn falch iddo ddigwydd. Yr oeddwn wedi blino—wedi blino aros—ac ar fynd yn wallgof. Fe gaiff e ddweud yr hanes wrthych chi 'nawr."

Ni chafodd Siwan gyfle i roddi gair i mewn. Siaradai Rita'n ddibaid, a rhedai'n gyffrous yn ôl a blaen, a chodi ei breichiau i fyny fel mewn ymbil. Felly y bu hyd oni ddaeth Fred â'i gwch yn ddiogel dros y tonnau brigwyn i'r traeth bychan cul a âi yn gulach bob munud.

Rhoes ei law at ei dalcen wrth daflu golwg sobr ar Siwan; yna, heb wên ar ei wyneb eto, dywedodd wrth Rita:

"Beth yw ystyr hyn?"

"Nid arnaf i oedd y bai, Fred," ebe Rita yn llawer tawelach nag o'r blaen. "Daeth Miss... y. Siwan i lawr yn sydyn drwy'r top, a rhedais innau allan mewn ofn, ac wrth ddrws yr ogof yr oedd y dyn. Meddyliais eu bod ar fy ôl, a rhedais i'r môr. Yr oeddwn am fy moddi fy hun. Ond i'n helpu ni y daethant yma, Fred, a rhaid iti ddweud y cwbwl wrthynt. Rhaid, Fred, rhaid iti ddweud y cwbwl."

"Ie, hynny a fyddai orau, 'mhlant i," meddai Mr. Owen, a ddaethai yno erbyn hyn yn ei ddillad hanner sych. Edrychodd yn syn iawn ar Fred, a dywedyd:

"Beth ddaeth â chwi yma? Ai digwydd dod dros y môr garw yma a wnaethoch chi, neu a wyddoch chi rywbeth am y ferch yma?"

"Gwn, syr. Fy chwaer yw hi," ebe Fred.

"Eich chwaer? Beth mae eich chwaer yn ei wneud mewn lle fel hwn?"

Aeth Rita a sefyll yn ymyl Fred, a chydio yn ei law, ac edrychodd dau bar o lygaid glas, trist, yn syn ar Mr. Owen. Nid oedd mwyach eisiau amau nad brawd a chwaer oeddynt. Yr oeddynt mor debyg i'w gilydd—dau blentyn hoff rhyw dad a mam o rywle.

"Dywed y cwbwl, Fred," ebe Rita'n ddistaw.

Edrychodd Fred yn fyfyrgar tua'r llawr am ychydig ac yna tynnodd o'i fynwes ddarn o bapur newydd—un o bapurau Cymru—a dangos paragraff ynddo i Mr. Owen a dywedyd:

"Hwn yw'r achos bod Rita'n mynnu aros yn yr ogof, syr."

Dyma'r paragraff a ddarllenodd Mr. Owen, o dan y teitl "Missing":

"On Thursday, May 12, Rita Smith left her home in 6 Lower Road, Gloucester, and has not since returned. Height, about 5ft. 4in. Dark hair. Blue eyes. Pleasant expression. Scar on right temple. May be wearing fawn mackintosh over plain black dress. Believed to be in South Wales. Information concerning her whereabouts would be gratefully received by Mr. and Mrs. Skinner, above address."

Cyn i Mr. Owen gael amser i ddweud gair dywedodd Rita dan grio:

"Maent wedi gadael un peth allan. Fe ddygais i dair punt o arian fy meistres cyn dod."

"Ai ofn eich dal am hynny sydd arnoch?"

"O, nage," llefai Rita. "Ofn fy nal, mae'n wir, ond nid am hynny."

"Beth arall a wnaethoch?" ebe Mr. Owen yn chwyrn.

"O, dim," ebe Rita. "Dwyn yr arian er mwyn dianc a wnes i

"Ai mewn gwasanaeth oeddech gyda Mr. a Mrs. Skinner?"

"Ie, morwyn iddynt oeddwn i."

"Ac yr oeddech am ddod yma at eich brawd. A oes tad a mam gennych?"

Yr oedd Rita yn wylo gormod i ateb. Atebodd ei brawd drosti:

"Y mae'r ddau wedi marw. Plant o'r Homes yw Rita a mi."

"O, 'mhlant bach i," ebe Mr. Owen yn dyner. "Ond pa le'r ydych wedi bod oddi ar y deuddegfed o Fai?"

"Yma yn yr ogof," llefai Rita.

"Ddydd a nos yn yr ogof! Nid eich hunan? A ydych eich dau yn byw yma ac yn cysgu yma?"

"Yr wyf i yma bob amser wrthyf fy hun, ond nid wyf yn cysgu llawer," ebe Rita, druan.

Edrychodd Mr. Owen arni'n syn, ac heb ddweud gair aeth ei hun i mewn i'r ogof. Fe welodd yno ryw fath o wely—sypyn o wellt ar y llawr a rhyw hen ddillad arno, hen focs pren yn lle bord, ac un arall llai yn gadair, ychydig lestri, a stof fechan, a dyna'r cwbl. Daeth yn ôl at y lleill.

"Ni chlywais i erioed y fath beth o'r blaen," ebe ef yn syn. "Cysgu eich hunan mewn lle fel hyn am wythnosau hir, yn y tywyllwch ar fin y môr! Mae'n beth rhyfedd na buasech wedi mynd yn wallgof!"

"O! syr, 'rwy' bron â mynd yn wallgof," llefai Rita'n wyllt. "Fe fu chwant arnaf lawer gwaith orwedd tu allan i'r ogof yn lle y tu mewn iddi, a gadael i'r môr ddyfod a mynd â mi i'w fynwes. Oni bai y gwyddwn y buasai hynny'n peri gofid i nhad a mam, dyna a wnaethwn ymhell cyn hyn."

"Eich tad a'ch mam? Oni ddywedodd eich brawd yn awr eu bod hwy wedi marw?"

"Ydynt, wedi marw," ebe Rita. "Fe aeth nhad allan i bysgota un noson ac ni ddaeth yn ôl. Dim ond ei gwch gwag a welwyd. Ymhen mis ar ôl hynny bu farw mam. A byddai'n well ganddynt hwy weld Fred a finnau'n dioddef na'n gweld yn gwneud drwg."

Bu pawb yn ddistaw am funud. Sychodd Siwan ei llygaid. Daeth nifer o wylain o rywle a disgyn yn ymyl y cwmni bach a throi eu pennau i wrando. Daeth pen Cader Idris i'r golwg fan draw. Eisoes ymlonyddai'r môr. Aeth ei donnau gwynion yn wên garuaidd yn lle'n gyffro dig. Draw daeth golau'r machlud yn ogoniant dros y dŵr.

"Beth wnaeth ichi feddwl am ddod i'r ogof yma?" gofynnai Mr. Owen.

"Fel hyn y bu hi, syr," ebe Fred. "Pan oeddwn i'n dod o'r Faenol i fynd â'm cwch allan i bysgota.

"O'r Faenol?".

"Ie, syr. Fe fûm i'n was yn y Faenol am dair blynedd. Yno yr wy'n cysgu o hyd. Eleni y prynais i'r cwch."

"O, ie. Wel?"

"Tua thri o'r gloch y bore hwnnw—y pedwerydd dydd ar ddeg o Fai—pwy a welwn i ar ben y lôn ond Rita! Yr oedd wedi teithio yn y trên o Gloucester i Gaer Afon, a cherdded pob cam o'r deunaw milltir hyd yma, wedi colli'r ffordd lawer gwaith, a blino, a gorffwys mewn caeau.'

"A wyddoch chi ddim fod bws yn dod o Gaer Afon?" gofynnai Siwan.

"Yr oedd y bws olaf wedi mynd pan gyrhaeddais i Gaer Afon," atebai Rita. "Yr oedd arnaf ofn gofyn am lety yn y dref—ofn fy holi gan bobl ac ofn i Mr. a Mrs. Skinner ddod i wybod amdanaf. Felly dechreuais gerdded, a dilyn y cerrig milltir. Fe aeth yn dywyll yn fuan, ac yr oeddwn wedi blino. Fe euthum i mewn i gae i orffwys tipyn. Cysgais. Pan ddeffroais yr oedd yn olau. Ymlaen â fi eto. Yr oedd eisiau bwyd arnaf. Pan gefais siop yn agored fe brynais fiscedi, ac o dipyn i beth, trwy ddilyn y cerrig milltir, fe ddeuais yn agos at Fin Iwerydd. Fe welais y môr. Yr oedd yn dechrau tywyllu eto. Rhaid ei bod yn tynnu at ddeg o'r gloch pan ddeuthum at lôn y Faenol. Fe welais yr enw 'Y Faenol' ar yr iet. Arhosais dipyn tu mewn i'r iet i weld a welwn Fred. Yr oedd arnaf ofn mynd at y tŷ—ofn cŵn ac ofn popeth. Fe gysgais yno eto, a sŵn traed Fred a'm dihunodd. O! dyna falch oeddwn i'w weld."

Yna aeth Fred ymlaen â'r stori:

"Ni wyddwn i pa beth i'w wneud. Euthum â hi gyda mi yn y cwch. Nid oedd neb arall ar y traeth. Fe wyddwn am bob man ar y glannau yma. Fe aethom i'r ogof yma er mwyn cael amser i feddwl a siarad. Yr oedd gennyf barsel bychan o fwyd. Wedi i Rita fwyta ychydig ohono, a chyn inni gael amser i drefnu dim fe syrthiodd i gysgu. Yr oedd wedi blino'n lân. Fe'i dodais mor esmwyth ag y gallwn, a chyn hir fe gysgais innau. Yr oedd yn chwech o'r gloch pan ddihunais i. Nid oedd Rita am fentro i'r pentref gyda mi. Yr oedd wedi mynd i ofni pawb a phopeth. Yr oedd yn well ganddi aros ei hunan yn yr ogof er bod arni ofn yma hefyd, yn enwedig yn y nos.'

Crynodd Rita wrth atgofio'r nosau hynny.

"Yna, un dydd tuag wythnos wedi iddi ddod yma, fe ddigwyddais i weld y paragraff yna mewn papur a adawodd rhywun ar ei ôl yn y cwch. Wedi iddi weld hwnnw ni chymerai lawer am adael yr ogof."

"Ble 'r oedd eich cartref chwi?" gofynnai Mr. Owen. "Mewn pentref bach ar lan Môr Hafren—pentref bach tebyg i Fin Iwerydd. Pysgotwr oedd nhad."

"A garech chi eich dau fynd yn ôl i'r pentref hwnnw i fyw?"

"Na," ebe Fred, a siglo'i ben yn brudd. "Yn agos i'r pentref hwnnw y mae'r Homes."

"Nid ydych wedi dweud eto, Rita, pam y gadawsoch y teulu hwnnw yn Gloucester," ebe Siwan.

Nodiadau[golygu]