Y Medley Cymraeg (Mynyddog)
Gwedd
- Fel 'roeddwn yn rhodio ar doriad y wawrddydd,
- Pan ganai yr adar yn felus a llon,
- Pan dyfai’r blodionos ar gloddiau y dolydd,
- A'r gwlith ar eu gruddiau o amgylch Llwyn Onn,
- 'Roedd geneth yn godro yn ddifyr tan ganu,
- A nesais i weled pwy ydoedd y ferch,
- A gwelwn Ferch Megan ei hun
- Mor iached a’r rhosyn,
- A’i llygaid yn dân o fywyd a serch;
- ’Roedd adar y llwyn
- Yn tewi i wrando
- Er clywed y gân a ganai fel
- Hen ferch yn gwau ei hosan,
- Ar hyd y nos,
- A’i gweill bach glic glic yn clecian
- Ar hyd y nos,
- Canai’r gath ar ben y pentan,
- Canai hithau ganig ddiddan,
- Tra y canai’r gwynt tu allan
- Ar hyd y nos;
- Rhedai’i meddwl tra yn canu
- At wroldeb yr hen Gymry
- Pan oedd gwaedlyd y gyflafan,
- Gan wŷr Harlech ruthrent allan
- Nes adseiniai bryniau anian
- Floedd y rhain i’r gâd;
- Benyr grogent ar hen greigiau,
- A neuaddoedd y mynyddau
- Ail ddywedent y bloeddiadau
- Dros ein hanwyl wlad;
- Rhuthrent tua’r dyffryn,
- Gledd yng nghledd â’r gelyn,
- Gwŷr mewn gwaedd oedd gylch eu traed
- Ynghanol braw a dychryn,
- Nes y Gelyn giliai ar Nos Galan,
- Fa la la, &c.,
- Ac aeth pawb i’w fwth ei hunan,
- Fa la la, &c.,
- Tynnu diliau tannau’r delyn,
- Fa la la, &c.,
- Wnaent i’w gilydd heb un gelyn,
- Fa la la, &c.
Chwef. 18, 1872.