Y Nefoedd Uwch fy Mhen

Oddi ar Wicidestun
Jump to navigation Jump to search

gan Ehedydd Iâl

Y nefoedd uwch fy mhen
A dduodd fel y nos,
Heb haul na lleuad wen
Nac unrhyw seren dlos,
A llym gyfiawnder oddi fry
Yn saethu mellt o'r cwmwl du.

Cydwybod euog oedd
  Yn rhuo dan fy mron
Mi gofia'i chwerw floedd
  Tra ar y ddaear hon -
Ac yn fy ing ymdrechais ffoi,
Heb wybod am
    un lle i droi.

Mi drois at ddrws y Ddeddf
  Gan ddisgwyl cael rhyddhad;
Gofynnais iddi'n lleddf
  Roi imi esmwythâd:
'Ffo am dy einioes', ebe hi,
'At Fab y Dyn i Galfari!'

Gan ffoi, ymdrechais ffoi
  Yn sŵn taranau ffroch,
Tra'r mellt yn chwyrn gyffroi
  O'm hôl fel byddin goch;
Cyrhaeddais ben Calfaria fryn,
Ac yno gwelais Iesu gwyn.

Er nad yw 'nghnawd ond gwellt
A'm hesgyrn ddim ond clai,
Mi ganaf yn y mellt,
Maddeuodd Duw fy mai:
Mae craig yr oesoedd dan fy nhraed,
A'r mellt yn diffodd yn y gwaed.