Y Niwl

Oddi ar Wicidestun

gan Dafydd ap Gwilym

Doe Ddifiau, dydd i yfed,
Da fu ym gael, dyfu ym ged,
Coel fawrddysg, cul wyf erddi,
Cyfa serch, y cefais i
Gwrs glwysgainc goris glasgoed
Gyda merch, gedy ym oed.
Nid oedd, o dan hoywdduw Dad,
Dawn iddi, dyn a wydddiad,
Or bydd Difau, dechrau dydd,
Lawned fûm o lawnenydd,
Yn myned, gweled gwiwlum.
I’r tir ydd owdd feinie fun,
Pan ddoeth yn wir ar hirros
Niwl yn gynhebyb i nos,
Rhol fawr a fu’n glawr i’r glaw,
Rhestri gleision i’m whwystraw,
Rhidyll ystaen yn rhydu,
Rhwyd adar y ddaer ddu,
Cae anghlaer mewn cyfnglwybr,
Carthen anniben yn wybr.
Cwfl llwyd yn cyfliwio llawr,
Cwferr ar bob cwn crufawr.
Clwydau uchel a welie,
Clais mawr uwch garth, tarth y tir.
Cnu twelwyd gwynllwyd gwanllaes
Cyfliw â mwg cwfl y maes.
Coetgae glaw er lluddiaw lles,
Codarmur cawad ormes.
Twyllai wŷr rywyll o wedd,
Toron gwrddonig tired.
Tyrau uchel eu helynt.
Tylwyth Gwyn, talaith y gwynt.
Tir a gudd ei ddeurudd ddygn,
Torsedd yn cyrchu’r teirsygn.
Tywyllwg, un tew allard,
Delli byd i dwyllo bardd.
Llydanwe gombr gostombraff,
Ar lled y’i rhodded fal rhaff.
Gwe adrgop, ffrengigsiop ffrwuth,
Gwaun dalar Gwyn a’i dylwyth.
Mwg brych yn fynych a fydd,
Mygedorth cylch Mai goedydd.
Anardd darth lle y cyfarth cŵn
Ennaint gwrachlod Annwn.
Gochwith megis gwlith y gwlych,
Habraiwn tir anehwybrsych.
Haws cerdded nos ar rosydd
I daith no gar niwl y dydd,
Y sêr a daw o’r awyr
Fal fflamau canhwyllau cwyr,
Ac ni ddaw poen addaw pŵl
Llowr an sêr Nêr ar niwl.
Gwladaidd y’m gwnaeth yn gaeth-ddu
Y niwl fyth anolau fu,
Lluddiodd ym lwybr dan wybren,
Llatai a ludd llwytu len
A lluddias ym, gyflym gael.
Fyned at fy nyn feinael.