Y Pennaf Peth/Doethineb Raja Janik
← Stori Aisha | Y Pennaf Peth gan John Hughes Morris |
Ffyddlon i'w Air → |
Doethineb Raja Janik
UN o saint yr India ydyw Raja Janik. Ef, meddir, oedd tad Sita. Delfryd uchaf yr Hindw ydyw undeb â'r dwyfol, ac ni ellir ei gyrraedd ond trwy godi uwchlaw'r byd, a bod yn hollol annibynnol ar y byd. Cais rhai sicrhau hynny trwy fyw mewn ogofeydd, neu yng nghanol unigrwydd y mynyddoedd, -peidio â bod "yn rhy uchel na rhy isel," fel y dywed un o'u llyfrau cysegredig; cadw'r cydbwysedd rhwng deufyd yn gyfartal; yr un, mewn rhyw ystyr, â delfryd Cristionogaeth, ac eto'n dra gwahanol: "arfer y byd, heb ei gam-arfer." Clodforir Raja Janik fel un a sylweddolodd y delfryd uchel yma; iddo ef yr oedd cyfaill a gelyn fel ei gilydd, tlodi a chyfoeth yr un peth, oerni a gwres, iechyd a phoen,-ni wyddai wahaniaeth rhyngddynt. Cyflwynasai ei hun yn drylwyr i'r dwyfol, ac eto llywodraethai ei deyrnas yn ofalus a chydag uniondeb diwyro; oherwydd hynny enillodd serch ac ymddiried ei holl ddeiliaid.
Un diwrnod daeth dyn ato gan ofyn pa fodd y llwyddai i fyw mor llwyr i'r dwyfol ac ar yr un pryd i gyflawni ei orchwylion daearol mor berffaith. "Pob dyn arall y gwn amdano," meddai'r ymofynydd, "y mae naill ai wedi ffoi a gadael y byd, neu y mae'n byw i'r byd hwn yn llwyr; ond yr wyt ti yn gwneud dy ddyletswydd i'r ddau fyd." "Mi a ddangosaf iti," ebe'r brenin, "oherwydd y mae dangos yn well nag adrodd."
Galwodd un o'i weision ato, a gorchmynnodd iddo lenwi llestr pridd â dŵr, yn llawn hyd yr ymylon, a'i osod ar ben y dyn. Yna galwodd ar ddau o'i filwyr, a gorchmynnodd iddynt hwythau gerdded un o bob ochr i'r dyn trwy ganol y ddinas ac yn ôl i'r palas. "Os bydd i ti," meddai'r brenin wrtho, "golli cymaint ag un diferyn o'r dŵr, rhoddaf orchymyn i'r milwyr i dorri dy ben ar unwaith."
Anfonodd y brenin orchymyn hefyd yn ddirgel ar fod dawnswyr, a cherddorion, a jugglers o bob math i fyned drwy eu campau ym mhob heol y cerddai y dyn a'r milwyr ar hyd-ddynt. Cychwynasant i'w taith, a'r dyn druan bron a llewygu gan ofn. O'r diwedd cyraeddasant yn ôl i'r palas. "Diolch byth!" llefai'r dyn, "y mae fy mhen yn ddiogel; ni syrthiodd yr un diferyn o'r dŵr i lawr." "A beth a welaist ti ar dy daith?" gofynnodd y brenin iddo. "Ni welais i ddim," atebodd yntau; "pa fodd y gallwn sylwi ar ddim tra'r oedd fy holl feddwl ar achub fy mywyd?" "Da iawn," ebe'r Raja, ac adroddodd iddo fel y trefnasai i anfon chwaraewyr o bob math i dynnu ei sylw ar y ffordd, "ac yr wyt yn awr wedi cael ateb i dy gwestiwn; fel yna yr wyf innau yn ceisio myned drwy y byd."