Y Rhugl Groen

Oddi ar Wicidestun

gan Dafydd ap Gwilym

Fal yr oeddwn, fawl rwyddaf,
y rhyw ddiwrnod o’r haf
dan wŷdd rhwng mynydd a maes
yn gorllwyn fy nyn geirllaes,
dyfod a wnaeth, nid gwaeth gwad,
lle’r eddewis, lloer ddiwad.
Cydeistedd, cywiw destun,
amau o beth, mi a bun;
cyd-draethu, cyn henu hawl,
geiriau â bun ragorawl.
A ni felly, anhy oedd,
yn deall serch ein deuoedd,
yn celu murn, yn cael medd,
dyfod a wnaeth, noethfaeth nych,
dan gri, rhyw feistri fystrych,
salw ferw fach sain gwtsach sail
o begor yn rhith bugail;
a chanto’r oedd, cyhoedd cas,
rugl groen flin gerngrin gorngras.
Canodd, felengest westfach,
Y rhugl; och I’r hegl grach!
Ac yno cyn digoni
gwiw fun a wylltiodd; gwae fi!
Pan glybu hon, fron fraenglwy,
Nithio’r main, ni thariai mwy.
Dan Grist ni bu dôn o Gred
can oer ben ffon yn sonio,
cloch sain o grynfain a gro.
Crwth cerrig Seisnig yn sôn
crynedig mewn croen eidion.
Cawell teirmil o chwilod,
callor dygfor, du god.
Ceidwades gwam, cydoes gwellt,
Groenddu, feichiog o grynddellt.
Cas ei hacen gan heniwrch,
cloch ddiawl, a phawl yn ei ffwrch;
greithgrest garegddwyn grothgro,
yn gareiau byclau y bo.
Oerfel I’r carl gwasgarlun,
Amen, a wylltiodd fy mun.